{"id":29,"date":"2024-02-21T15:41:57","date_gmt":"2024-02-21T15:41:57","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/?p=29"},"modified":"2024-02-21T15:45:21","modified_gmt":"2024-02-21T15:45:21","slug":"cursa-a-fi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/cy\/cursa-a-fi\/","title":{"rendered":"CURSA a fi"},"content":{"rendered":"<p>Mae Cymdeithas Staff Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CURSA) yn cynrychioli staff ymchwil yn unig. Mae\u2019r Cadeirydd Dr Katy Huxley yn siarad am ei hamser gyda CURSA a r\u00f4l y Gymdeithas yn natbylgiad materion diwylliant ymchwil.<\/p>\n<p>Yn 2004, fe wnes i ymuno \u00e2&#8217;r brifysgol yn gynorthwyydd ymchwil i weithio ar y cyd \u00e2 dau uwch academydd ar brosiect. Doeddwn i ddim yn rhan o d\u00eem mawr, nac mewn ysgol lle\u2019r oedd carfan fawr o staff ymchwil yn unig yno. Er o\u2019n i\u2019n cael fy nghefnogi, ro\u2019n i\u2019n teimlo\u2019n ynysig. Roedd hwn yn deimlad cyffredin y des i\u2019n gyfarwydd ag ef. Pan dderbyniais i ebost, sawl blwyddyn wedi hynny, yn gofyn am wirfoddolwyr i fod yn gynrychiolwyr ysgol ar gyfer CURSA, sef y gymdeithas staff ymchwil, fe es i ati yn y gobaith o gael cwrdd ag ambell wyneb cyfeillgar a chael dwysau fy nealltwriaeth o waith y brifysgol. Ac yn wir, dyna\u2019n union beth ddigwyddodd.<\/p>\n<p>Ym mis Ionawr 2016 fe wnes i gymryd yr awenau oddi wrth Lydia Hayes, y Cadeirydd bryd hynny, pan wnaeth hi gamu i lawr o\u2019r r\u00f4l honno er mwyn bod yn ddarlithydd. Wrth drefnu cyfarfodydd ar gyfer cynrychiolwyr a&#8217;n digwyddiad symposiwm blynyddol, gwnaethom barhau i wneud cynnydd o ran systemau&#8217;r brifysgol, gan roi llais i bryderon gan staff ymchwil yn unig. Pan ddaeth yr Athro Kim Graham yn Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter, cawson ni ein gwahodd i weithgorau a phwyllgorau i roi ein barn a chasglu barn bobl eraill.<\/p>\n<p>Pan gyflwynwyd r\u00f4l y Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil yn 2019 (yr Athro Karin Wahl-Jorgensen bellach), daeth CURSA yn fecanwaith canolog er mwyn cyfathrebu materion o bwys i staff ymchwil gan d\u00eem rheoli\u2019r brifysgol, ac i&#8217;r gwrthwyneb.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae gennym gynrychiolwyr sy\u2019n eistedd ar bwyllgorau ar lefel prifysgol gyfan o ran diwylliant ymchwil, a llwybrau ymchwil. Mae ein cyfarfodydd staff CURSA bellach yn agored i bob aelod o staff ymchwil yn unig, yn hytrach na chynrychiolwyr yn unig. Mae gennym ni dudalen Viva Engage\/Yammer lle\u2019r ydym ni\u2019n cyfathrebu ac yn rhannu newyddion yn rheolaidd. Mae mewnflwch CURSA yn parhau i dderbyn ymholiadau gan bobl nad ydyn nhw\u2019n hollol si\u0175r ble i droi am gymorth, o faterion cyflogaeth i syniadau am ymgysylltu. Gwnaethom hefyd gynnal ein harolwg a\u2019n grwpiau ffocws cyntaf yn 2020.<\/p>\n<p>Rydym yn parhau i geisio dylanwadu ar y newidiadau hynny sy&#8217;n cefnogi amgylchedd gwaith llesol a chreadigol. Dros y blynyddoedd, mae\u2019n hadborth wedi\u2019i gynnwys yn newidiadau i\u2019r ADP, mynediad i&#8217;r system hyrwyddo, cymryd rhan mewn adolygiadau, sesiynau ymsefydlu, a mentergarwch newydd. Un o brif ysgogwyr y gwaith hwnnw yw cynllun gweithredu\u2019r brifysgol sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r Concordat ar gyfer Datblygu Gyrfaoedd Ymchwil &#8211; mae CURSA yn rhoi ei mewnbwn i hynny a chaiff ei fonitro ar y cyd \u00e2\u2019n cydweithwyr.<\/p>\n<p>Rwyf wrth gwrs wedi cael cymorth gan nifer fawr o bobl, gan gyn-gadeiryddion, cyd-gadeiryddion, y t\u00eem datblygu staff ymchwil, Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi, a&#8217;r nifer o gynrychiolwyr ysgol sydd wedi gwirfoddoli dros y blynyddoedd. Diolch i bob un ohonoch chi.<\/p>\n<p>Dydw i ddim yn mynd yn ifancach, rwyf wedi bod yn aelod o\u2019r brifysgol hon ers bron i 20 mlynedd (sut digwyddodd hynny?!), ac er yr holl gynnydd gwych rydym wedi\u2019i wneud, bydd CURSA yn bwrw ati i herio ac arloesi ar ran staff ymchwil yn unig wrth i&#8217;r rhaglen diwylliant ymchwil ym mhob rhan o\u2019r brifysgol fynd rhagddo ar fyrder.\u00a0 Mae CURSA wedi bod yn fecanwaith pwysig o ran helpu i ddatblygu materion diwylliant ymchwil ac rwy\u2019n gobeithio y bydd yn parhau i ymgysylltu&#8217;n gadarnhaol a chynrychioli staff ymchwil yn garfan gyfan.<\/p>\n<p>Mae ein mewnflwch bob amser ar agor (<a href=\"mailto:CURSA@cardiff.ac.uk\">CURSA@caerdydd.ac.uk<\/a>) p\u2019un a oes gennych syniad neu bryder yr hoffech ei rannu neu os ydych chi\u2019n dymuno chwarae rhan fwy yn y Gymdeithas.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Cymdeithas Staff Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CURSA) yn cynrychioli staff ymchwil yn unig. Mae\u2019r Cadeirydd Dr Katy Huxley yn siarad am ei hamser gyda CURSA a r\u00f4l y Gymdeithas yn [&hellip;]","protected":false},"author":7008,"featured_media":33,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-29","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7008"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=29"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":30,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29\/revisions\/30"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media\/33"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=29"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=29"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/research-culture\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=29"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}