Skip to main content

Diwylliant Ymchwil

Y prif bethau fe wnes i eu dysgu o Ŵyl Diwylliant Ymchwil Prifysgol Bryste

30 Awst 2024
Taken during Autumn in Bristol at the iconic M-Shed
Taken during Autumn in Bristol at the iconic M-Shed

Mair Rigby, Swyddog Ymgysylltu Cynnau | Ignite, sy’n blogio am fynd i ddigwyddiad Diwylliant Ymchwil ym Mryste

Roedd tîm Cynnau | Ignite yn falch iawn o gael eu gwahodd i ddigwyddiad diweddar Gŵyl Diwylliant Ymchwil a gafodd ei chynnal gan Brifysgol Bryste. Es i, ynghyd â fy nghydweithwyr, Maleeha Rizwan, Swyddog Datblygu Sefydliadol a Staff Cynnau | Ignite, a Dr Karen Desborough, Swyddog Diwylliant Ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd ym maes diwylliant ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd eleni.  Mae ein  newydd gael ei lansio; cafodd cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Diwylliant Ymchwil Caerdydd eu cynnal ym mis Mehefin, ac mae cronfa Diwylliant Ymchwil CCAUC wedi galluogi ysgolion i gynnal eu digwyddiadau eu hunain.

Yn y cyfamser, mae ein tîm yn brysur yn paratoi ar gyfer lansio rhaglen arweinyddiaeth diwylliant ymchwil Cynnau | Ignite ym mis Medi. Felly, roedd yn wych cael y cyfle i ymweld â phrifysgol arall a dysgu o’u profiad o hyrwyddo diwylliant ymchwil cadarnhaol.

Roedd cyrraedd y digwyddiad ychydig yn fwy llafurus na’r disgwyl, oherwydd problemau gyda’r trenau. Un daith bws hwyr a phoeth iawn yn ddiweddarach, fe gyrhaeddon ni Mshed mewn pryd ar gyfer y sesiwn agoriadol!

Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu’n dda, gyda sgyrsiau a gweithdai ar amrywiaeth o faterion amserol. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau ar ethos arweinyddiaeth, rôl creadigrwydd a’r dychymyg, ymchwil gyfranogol, cynhwysiant, gwaith tîm, ymchwil agored, cefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, a moeseg ac uniondeb. Fe wnaethon ni glywed hefyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Diwylliant Ymchwil ym Mhrifysgol Warwick am y Rhwydwaith Galluogwyr Diwylliant Ymchwil maen nhw’n ei ddatblygu ledled y DU.

Dyma’r prif bethau fe wnes i eu dysgu o’r digwyddiad:

  • Mae yna heriau, ond hefyd mae yna gyfleoedd enfawr. Mae’n teimlo bod cymaint o egni a chymhelliant ym maes diwylliant ymchwil ar hyn o bryd, gyda sgyrsiau craff yn digwydd yn y sector
  • Mae sefydliadau ledled y DU yn ceisio mynd i’r afael â llawer o faterion tebyg wrth ddatblygu diwylliant ymchwil cadarnhaol, ond mae gwahaniaethau pwysig yn seiliedig ar y cyd-destunau sefydliadol a lleol penodol
  • Mae gan bawb sy’n gweithio ym maes ymchwil, boed yn academydd, neu’n weithiwr proffesiynol, technegydd neu arbenigwr, rôl i’w chwarae a gallan nhw gael effaith. Efallai y gallen ni ddweud bod diwylliant ymchwil cadarnhaol yn fusnes i bawb!
  • Gall chwalu rhwystrau trwy ddod â phobl at ei gilydd mewn mannau sydd ddim â hierarchiaeth, ar draws ysgolion academaidd ac adrannau proffesiynol fod yn hynod gynhyrchiol a chreu egni newydd
  • Gall pecynnau cymorth, fframweithiau a chanllawiau ein helpu i fyfyrio a gwella arfer, tra bod cael y polisïau a’r gweithdrefnau cywir hefyd yn bwysig
  • Fodd bynnag, mae angen i ni annog rhagor o bobl, nid dim ond yr arbenigwyr, i siarad am y materion hyn a deall pam mae diwylliant ymchwil yn bwysig
  • Mae angen i ni i gyd feddwl am y dyfodol a’r math o ddiwylliant ymchwil rydyn ni eisiau ei greu yn ein sefydliadau

Beth oedd fy hoff sesiwn? ‘Gweithdy Adran y Dychymyg’, mae’n siŵr. Roedd y sesiwn hyfryd hon yn fy atgoffa bod pawb yn greadigol ac mae mynegi creadigrwydd yn rhan hanfodol o fod yn ddynol. Beth am feddwl am sut y gallwch chi ddod â rhywfaint o greadigrwydd i’ch diwrnod, neu gyda’ch tîm?

Rydyn ni’n edrych ymlaen at drafod yr holl faterion hyn, a mwy, yn rhan o’n rhaglen arweinyddiaeth Cynnau | Ignite. Mae gennyn ni ychydig o leoedd ar gael o hyd ar gyfer cydweithwyr Addysgu ac Ymchwil, felly cysylltwch â’r tîm cyn gynted â phosibl os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno.  Mae’r garfan Ymchwil yn unig yn llawn, ond gallwch chi wneud cais i ymuno â’r rhestr wrth gefn.

Bydd y broses recriwtio ar gyfer cydweithwyr Gwasanaethau Proffesiynol, Technegol ac Arbenigol yn agor ym mis Medi.

Cysylltwch â ni: Ignite@caerdydd.ac.uk