O’r Rheng Flaen: Lansio Cynnau | Ignite
17 Ionawr 2025Maleeha Rizwan, Swyddog Datblygu’r Sefydliad a Staff yn Cynnau, sy’n blogio am yr hyn y mae hi wedi’i ddysgu yn sgîl lansio ein rhaglen arweinyddiaeth newydd ar ddiwylliant ymchwil.
Mae’n dipyn o agoriad llygad pan fydd saith mis o weithio ar rywbeth yn dod yn realiti’n sydyn. Wedyn, mae’n teimlo fel petaech chi yn y ffilm 1994 yna gyda Sandra Bullock a Keanu Reeves, Speed! I roi mwy o gyd-destun, ym mis Medi 2024, gwnaeth ein tîm ymroddedig yn Cynnau | Ignite lansio rhaglen ddatblygu arweinyddiaeth wedi’i hariannu gan Wellcome ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar roi’r grym yn nwylo pobl i gyfrannu at ddiwylliant ymchwil cadarnhaol. Mae’r blog hwn yn cyflwyno fy sylwadau personol ar ddatblygu’r modiwl cyntaf ar Ddiwylliant Ymchwil wedi’i ysgogi gan Werthoedd, a’i gyflwyno i’n carfannau academaidd .
I roi ychydig o wybodaeth am y modiwl ei hun, mae’r modiwl ‘Diwylliant Ymchwil wedi’i ysgogi gan Werthoedd’ wedi’i gynllunio nid yn unig i fod yn rhagarweiniad i’r rhaglen, ond hefyd yn brofiad ysgogol ar yr un pryd. Mae’r modiwl yn croesawu cyfranogwyr sydd â disgwyliadau, ynghyd â chynnig cyflwyniad i athroniaeth Cynnau. Rydyn ni’n egluro canolbwynt y rhaglen, sef amlygu ein ‘locws rheoli’, neu mewn iaith syml, “Beth alla’ i/beth allwn ni ei wneud am hyn?”. Rydyn ni’n ymdrin â’r agwedd arweinyddiaeth, sydd wedi’i seilio ar seicoleg gadarnhaol a theori hunan-arweinyddiaeth, sy’n canolbwyntio ar gryfderau yn rhinweddau. Mae’r modiwl hefyd yn asesu sut rydyn ni’n bywiogi ein gwerthoedd, ac yn ystyried sut gallai diwylliant ymchwil yn y dyfodol edrych drwy brofiad meddwl cyfranogol (llawn hwyl).
Mae lansio rhaglen newydd bob amser yn brofiad sy’n gallu peri pryder, ac roedd hynny’n ddengwaith yn fwy yn fy achos i, gan fy mod i’n rhywun sydd â phrofiad blaenorol yn y diwydiant mewn rhan wahanol o’r byd, ac yn sefyll gerbron grŵp o academyddion heb wir ystyried fy hun yn un ohonyn nhw. Er hyn oll, gwnaeth fy nerfusrwydd beri imi arsylwi’n fwy gofalus, ac roedd clywed y cipolygon gan unigolion penigamp a fu’n rhan o’r profiad hwn sy’n rhoi o hyd.
Dyma rai o’m sylwadau ar y gweithdai cyntaf:
- Un o’r momentau mwyaf cysurus ym mhob diwrnod lansio oedd pan dawelodd fy llais “Dydw i ddim yn academydd” mewnol, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y profiad yn agored ac yn werthfawrogol. Mae hynny’n gamp ynddo’i hun!
- Mae’r bobl hynny sy’n rhan o Cynnau wedi dangos inni fod angen amser a lle arnyn nhw i siarad ac ystyried eu gwerthoedd, eu profiadau, yn ogystal â nhw eu hunain yn gyffredinol. Roedd modd inni gael cymaint o gipolygon gan unigolion yn rhannu eu syniadau cychwynnol a sut mae’r rheiny’n datblygu pan fyddan nhw siarad â’r person wrth eu hymyl.
- Gan ymhelaethu ar y pwynt uchod, roedd yn bleser gweld cyfranogwyr yn rhyngweithio â’i gilydd ac yn meithrin perthnasoedd o’r cychwyn cyntaf, ac mae hynny’n dal i fod yn bleser. Boed hynny’n debygrwydd rhwng yr hyn y maen nhw’n gweithio arno neu’r gallu i gysylltu ymhellach ar gyfer prosiectau. Ceir cyfoeth aruthrol yn yr amrywiaeth y mae pobl a’u profiadau yn ei chynnig.
- Roedd ymdeimlad o ddilysrwydd yn yr ystafell, lle roedd cyfranogwyr yn siarad am eu gwerthoedd personol a sut maen nhw’n cyd-fynd â’r gwerthoedd y maen nhw’n eu cyfrannu at eu rolau ymchwil. Cafwyd trafodaeth iach am ddilysrwydd bod yn ‘driw i chi’ch hunain’, sef agwedd y gallwch chi ei chyfrannu at eich gwaith, ac yn rhywbeth rwy wedi ‘cael trafferth’ yn gwneud ar adegau. Mae bob amser yn wych teimlo nad ydych chi ar eich pen eich hun.
- Un o fy hoff adegau oedd pan wnaeth cyfranogwr amlygu mai ‘llawenydd’ oedd y gwerth mwyaf sy’n llywio eu gwaith. Mae hyn wedi bod yn agwedd gadarnhaol ar draws y grŵp ac wedi peri imi ystyried sut rwy’n canfod llawenydd yn fy ngwaith creadigol fy hun, sy’n ddull eithaf dyneiddiol i’w gael.
- Ar yr adeg honno pan wnaethon ni drafod arweinyddiaeth, roedd yn ddiddorol gweld faint o gyfranogwyr sy’n dal i ystyried ‘arweinyddiaeth’ fel arwain pobl a gwaith. Cymerodd dipyn o berswadio i gael y cyfranogwyr i ailedrych ar y cysyniad o hunan-arweinyddiaeth, ond yn y diwedd roedd yn werthfawr, hyd yn oed os oedd yn anghyfforddus i lawer, pan nad oedden nhw’n gallu gosod eu cryfderau fel rhinweddau ar fap.
- Mae cryfder mawr o gael y bwriad i roi newid ar waith ar adegau o ansicrwydd ac mewn rhaglen sy’n canolbwyntio ar newid diwylliant, mae’r bwriad i wneud hynny’n gallu sbarduno dyheadau i fod yn realiti.
Gallwn i ysgrifennu mwy am hyn; fodd bynnag, rhywbeth a fydd yn aros yn wir, waeth beth yw fy mlynyddoedd o brofiad, yw er bod sefyll o flaen ystafell llawn pobl bob amser yn brofiad brawychus, yr un cyfranogwyr hynny sy’n lleddfu fy nerfau drwy gymryd rhan ar y diwrnod.
Mae Cynnau yn brofiad mor werth chweil o safbwynt dylunio a chyflwyno, oherwydd mae eraill yn ymddiried ynof i lunio profiadau dysgwyr, wrth ddatblygu fy hun yn weithiwr proffesiynol ym myd Addysg Uwch. I’r gad!
Cysylltwch â ni: Ignite@caerdydd.ac.uk