CURSA a fi
21 Chwefror 2024Mae Cymdeithas Staff Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CURSA) yn cynrychioli staff ymchwil yn unig. Mae’r Cadeirydd Dr Katy Huxley yn siarad am ei hamser gyda CURSA a rôl y Gymdeithas yn natbylgiad materion diwylliant ymchwil.
Yn 2004, fe wnes i ymuno â’r brifysgol yn gynorthwyydd ymchwil i weithio ar y cyd â dau uwch academydd ar brosiect. Doeddwn i ddim yn rhan o dîm mawr, nac mewn ysgol lle’r oedd carfan fawr o staff ymchwil yn unig yno. Er o’n i’n cael fy nghefnogi, ro’n i’n teimlo’n ynysig. Roedd hwn yn deimlad cyffredin y des i’n gyfarwydd ag ef. Pan dderbyniais i ebost, sawl blwyddyn wedi hynny, yn gofyn am wirfoddolwyr i fod yn gynrychiolwyr ysgol ar gyfer CURSA, sef y gymdeithas staff ymchwil, fe es i ati yn y gobaith o gael cwrdd ag ambell wyneb cyfeillgar a chael dwysau fy nealltwriaeth o waith y brifysgol. Ac yn wir, dyna’n union beth ddigwyddodd.
Ym mis Ionawr 2016 fe wnes i gymryd yr awenau oddi wrth Lydia Hayes, y Cadeirydd bryd hynny, pan wnaeth hi gamu i lawr o’r rôl honno er mwyn bod yn ddarlithydd. Wrth drefnu cyfarfodydd ar gyfer cynrychiolwyr a’n digwyddiad symposiwm blynyddol, gwnaethom barhau i wneud cynnydd o ran systemau’r brifysgol, gan roi llais i bryderon gan staff ymchwil yn unig. Pan ddaeth yr Athro Kim Graham yn Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter, cawson ni ein gwahodd i weithgorau a phwyllgorau i roi ein barn a chasglu barn bobl eraill.
Pan gyflwynwyd rôl y Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil yn 2019 (yr Athro Karin Wahl-Jorgensen bellach), daeth CURSA yn fecanwaith canolog er mwyn cyfathrebu materion o bwys i staff ymchwil gan dîm rheoli’r brifysgol, ac i’r gwrthwyneb.
Ar hyn o bryd, mae gennym gynrychiolwyr sy’n eistedd ar bwyllgorau ar lefel prifysgol gyfan o ran diwylliant ymchwil, a llwybrau ymchwil. Mae ein cyfarfodydd staff CURSA bellach yn agored i bob aelod o staff ymchwil yn unig, yn hytrach na chynrychiolwyr yn unig. Mae gennym ni dudalen Viva Engage/Yammer lle’r ydym ni’n cyfathrebu ac yn rhannu newyddion yn rheolaidd. Mae mewnflwch CURSA yn parhau i dderbyn ymholiadau gan bobl nad ydyn nhw’n hollol siŵr ble i droi am gymorth, o faterion cyflogaeth i syniadau am ymgysylltu. Gwnaethom hefyd gynnal ein harolwg a’n grwpiau ffocws cyntaf yn 2020.
Rydym yn parhau i geisio dylanwadu ar y newidiadau hynny sy’n cefnogi amgylchedd gwaith llesol a chreadigol. Dros y blynyddoedd, mae’n hadborth wedi’i gynnwys yn newidiadau i’r ADP, mynediad i’r system hyrwyddo, cymryd rhan mewn adolygiadau, sesiynau ymsefydlu, a mentergarwch newydd. Un o brif ysgogwyr y gwaith hwnnw yw cynllun gweithredu’r brifysgol sy’n gysylltiedig â’r Concordat ar gyfer Datblygu Gyrfaoedd Ymchwil – mae CURSA yn rhoi ei mewnbwn i hynny a chaiff ei fonitro ar y cyd â’n cydweithwyr.
Rwyf wrth gwrs wedi cael cymorth gan nifer fawr o bobl, gan gyn-gadeiryddion, cyd-gadeiryddion, y tîm datblygu staff ymchwil, Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi, a’r nifer o gynrychiolwyr ysgol sydd wedi gwirfoddoli dros y blynyddoedd. Diolch i bob un ohonoch chi.
Dydw i ddim yn mynd yn ifancach, rwyf wedi bod yn aelod o’r brifysgol hon ers bron i 20 mlynedd (sut digwyddodd hynny?!), ac er yr holl gynnydd gwych rydym wedi’i wneud, bydd CURSA yn bwrw ati i herio ac arloesi ar ran staff ymchwil yn unig wrth i’r rhaglen diwylliant ymchwil ym mhob rhan o’r brifysgol fynd rhagddo ar fyrder. Mae CURSA wedi bod yn fecanwaith pwysig o ran helpu i ddatblygu materion diwylliant ymchwil ac rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i ymgysylltu’n gadarnhaol a chynrychioli staff ymchwil yn garfan gyfan.
Mae ein mewnflwch bob amser ar agor (CURSA@caerdydd.ac.uk) p’un a oes gennych syniad neu bryder yr hoffech ei rannu neu os ydych chi’n dymuno chwarae rhan fwy yn y Gymdeithas.