CRediT where credit’s due: cyflwyno cynllun cyfranwyr CRediT yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd.
1 Mawrth 2024Mae Tacsonomeg Rolau Cyfranwyr (CRediT) yn ceisio sicrhau bod pawb sy’n cyfrannu at allbynnau ysgolheigaidd (er enghraifft papurau) yn cael eu cydnabod yn briodol. Mae’r 14 o Rolau Cyfranwyr yn diffinio’r cyfraniadau amrywiol y gellid eu hystyried megis cysyniad prosiectau, casglu data (ymchwilio) ac ysgrifennu. Mae’r rhain yn galluogi academyddion a chyhoeddwyr i nodi’n glir pwy gyfrannodd beth at bob allbwn. Mae nifer fawr o gyhoeddwyr wedi manteisio ar y cynllun hwn (sydd yn beth da) ac er ei fod wedi’i gynllunio i wella tryloywder cyfrifoldebau cyfranwyr, a’u cydnabod, nid yw’n mynd mor bell â mynnu unrhyw fath o newid i un o agweddau pwysicaf ar gyhoeddi, sef awduraeth.
Roedden ni am fynd â CRediT ymhellach. Roedden ni o’r farn y dylai unrhyw un sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at allbwn ymchwil gael ei gynnwys yn gyd-awdur. Roedden ni’n teimlo’n gryf na ddylai unrhyw un gael ei gynnwys ar restr awduron sydd wedi cyfrannu llai nag unrhyw un arall nad yw wedi’i gynnwys ar y rhestr awduron honno.
Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau ymchwil (gan gynnwys Prifysgol Caerdydd) yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid bod awdur wedi gwneud cyfraniad deallusol sylweddol i allbwn, ac nid yw helpu i gaffael data yn ddigon i haeddu teitl ‘awdur’.
Mae diffiniadau geiriadur y gair ‘deallusol’ yn cynnwys:
- “cynnwys gallu’r person i feddwl ac i ddeall syniadau a gwybodaeth” ac
- “yn perthyn i ddeallusrwydd neu ddealltwriaeth”.
A yw’n bosibl cyflawni gweithdrefn gymhleth mewn labordy heb feddwl a deall yr hyn rydyn ni’n ei wneud? Oni fydden ni’n disgwyl i grŵp o dechnegwyr labordy i feddwl yn feirniadol a deall yr hyn roedden nhw’n ei wneud a pham? Wrth gwrs, mae’r cwestiynau hyn yn rhethregol.
Dechreuon ni weithio ar Gynllun Cyfraniad CRediT EARTH yn ystod mis Mawrth 2022 gyda’r nod o roi clod i bob unigolyn sy’n cyfrannu’n sylweddol at yr wyddoniaeth rydyn ni’n ei chynhyrchu a’i chyhoeddi. Er bod technegwyr ymchwil yn derbyn cydnabyddiaeth ar ddiwedd bapur ymchwil yn hanesyddol , nid yw hyn yn cael llawer o effaith i’w rhagolygon gyrfa ac yn debygol o fynd yn ddi-sylw rhan fwyaf o’r amser.
Roedd nod y cynllun yn syml, sef dyrannu rhif unigryw i unrhyw allbwn lle gallai’r prif awdur neu’r awdur arweiniol sicrhau i ni fod:
- pawb a gyfrannodd yn sylweddol at y gwaith yn cael eu cynnwys yn y rhestr awduron oni bai bod yn well ganddynt gael eu crybwyll yn y cydnabyddiaethau yn unig
- ni chyfrannodd unrhyw aelod o’r rhestr awduron lai nag unrhyw berson arall nad yw’n aelod ac a hoffai fod.
Gellid cynnwys y rhif yn yr adran gydnabyddiaethau a byddai hynny’n ddatganiad clir o’n hymrwymiad i gynrychiolaeth deg: “Dyma gyfraniad CRediT EARTH Caerdydd #…”
Cyflwynwyd y cynllun i’r Ysgol ym mis Mai 2022. Cymysg oedd yr adborth cychwynnol; roedd rhai aelodau staff yn gadarnhaol ond roedd eraill yn gwrthwynebu’r syniad o ychwanegu at eu baich gweinyddol ac awgrymodd llawer eu bod eisoes yn cynnwys pawb a yn haeddu cael eu cynnwys beth bynnag. Roedd yn bosib lleihau’r baich hyn drwy ofyn i’r prif awdur/awdur arweiniol ddychwelyd y ffurflen, gan nodi’r teitl, y cyfnodolyn, a’r dyddiad derbyn.
Dechreuodd y cynllun ar 27 Mai 2022. Erbyn diwedd mis Medi dim ond 2 rif oedd wedi’u dosbarthu (ac roedd un o’r rhain yn bapur yn perthyn i mi). Yn ystod y cyfnod hwnnw bu staff yn EARTH yn awduron arweiniol ar 11 o gyhoeddiadau.
Roedd adborth yn nodi ymwybyddiaeth isel o’r cynllun a diffyg eglurder ynghylch pa bapurau a oedd yn gymwys. Er enghraifft, os nad oedd papur wedi manteisio ar ddefnyddio cymorth technegol, mae’n siŵr yr oedd yn cydymffurfio â’r cynllun heb nodi hyn yn benodol, ie? Rwy’n cyfaddef nad oeddwn yn disgwyl hyn gan fy mod wedi cymryd yn ganiataol y byddai pawb eisiau ymgysylltu â’r cynllun i ddangos i gymuned ein Hysgol (a’r byd y tu hwnt iddi) ein bod yn cymryd cydnabod cyfraniadau ein holl gydweithwyr o ddifrif. Byddai gwneud hyn yn eglur yn ein holl bapurau (boed nhw’n cynnwys ymdrechion eraill ai peidio) yn ei gwneud yn glir i bawb ein bod bob amser yn ystyried cydnabyddiaeth deg.
Problem arall oedd y ffaith bod yr amser rhwng derbyn a chyhoeddi bellach yn fyr iawn fel arfer, felly roedd pobl yn colli eu cyfle i wneud cais am y cynllun. Yn dilyn awgrym ein Rheolwr Ymchwil, Andrew Emery, penderfynon ni y dylai pobl wneud cais am y cynllun cyn eu bod yn cyflwyno papur. Wrth wneud hyn, fyddai dim rhaid iddyn nhw gofio cyflwyno cais ar ôl derbyn cadarnhad o gymeradwyaeth.
Ailgyhoeddwyd y cynllun ym mis Mai 2023 gyda’r addasiad hwn. Anfonwyd gwybodaeth at yr holl staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a gosodwyd posteri o amgylch yr Ysgol, ond nid oedd cynnydd yn y nifer o ymgeiswyr erbyn mis Gorffennaf. Ar ôl gofyn i arweinwyr ein Canolfan Ymchwil helpu i ledaenu’r gair cefais fy synnu gan yr ymateb bod rhai yn gweld y cynllun yn ymarfer ticio bocsys yn unig ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf. Ar ôl ysgrifennu’r Datganiad Amgylcheddol ar gyfer ein cyflwyniad i REF2021, rwy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd gwelliannau mesuradwy i’r amgylchedd ymchwil. Gall hyn ond adlewyrchu gwelliannau gwirioneddol, ac mae arferion ticio bocsys yn gwneud i’r holl beth ymddangos yn chwerthinllyd. Mae’n rhaid i’r newidiadau rydyn ni’n eu gwneud i ddiwylliant ymchwil gael eu hanelu at wella diwylliant ymchwil. Pe byddai modd mesur y rhain ar gyfer yr ymarfer REF nesaf yna gorau’r oll, ond nid dyna yw eu pwrpas.
Ar ddechrau mis Tachwedd derbyniais y neges ganlynol gan gydweithiwr “…Roeddwn i eisiau diolch i chi am eich ymdrechion i annog pobl i gynnwys staff technegol am eu cyfraniadau i bapurau ymchwil. Ar hyn o bryd rwy’n ymwneud â X o lawysgrifau gan ddefnyddwyr labordai – nifer heb ei thebyg ers fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd… rwy’n meddwl bod pobl yn fwy ymwybodol y dylen nhw fod yn gwneud hyn. Diolch i chi am godi’r mater.”
Erbyn mis Rhagfyr 2023, rydyn ni wedi cyhoeddi 22 o rifau Cyfraniadau CRediT EARTH. Mae’r niferoedd hyn o hyd yn llawer is na chyfanswm y papurau a arweinir gan staff yr Ysgol, ond rwyf o’r farn ein bod yn teithio i’r cyfeiriad cywir. Efallai y bydd y blog hwn yn annog mwy o’n staff i ymgysylltu â’r cynllun gyda’r gobaith y bydd Ysgolion eraill yn cyflwyno prosesau tebyg. Yn bersonol, rwy’n credu bod hyn yn no-brainer (a na, dydw i ddim yn golygu hynny ag unrhyw synnwyr o eironi).