Skip to main content

Uncategorized

Cefnogi ein Diwylliant Ymchwil: Cronfa Diwylliant Ymchwil Prifysgol Caerdydd 2024

2 Ebrill 2024

Is-bennawd: Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio Cronfa Diwylliant Ymchwil i gefnogi digwyddiadau sy’n gwella cymuned ymchwil y Brifysgol

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n gweithio i feithrin diwylliant ymchwil gefnogol, greadigol, agored, gynhwysol, dryloyw a gonest ar y cyd i bawb. Mae diwylliant ymchwil yn cyfeirio at yr ymddygiad, y gwerthoedd a’r agweddau rydyn ni’n eu gwerthfawrogi ac yn eu disgwyl ledled ein cymuned a’n cyd-destunau ymchwil.

Yn ddiweddar lansion ni Gronfa Diwylliant Ymchwil Prifysgol Caerdydd 2024, ac mae bellach ar agor i dderbyn ceisiadau. Nod y gronfa ymateb cyflym hon yw creu diwylliannau ymchwil cadarnhaol ledled y sefydliad. Cefnogir y prosiect gan Gronfa Amgylchedd a Diwylliant Cymru Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae’r gronfa, a lansiwyd eleni, yn rhoi cymorth i weithgareddau a fwriedir i wella diwylliant ymchwil.

Yn sgil Arolwg Diwylliant Ymchwil y Brifysgol a gynhaliwyd yn 2022, cawson ni syniad cryf ynghylch blaenoriaethau ymchwilwyr yng Nghaerdydd. Dangosodd y canlyniadau fod gan gydweithwyr farn gadarnhaol iawn ynghylch y cydweithio a’r colegoldeb sy’n digwydd yn lleol. Fodd bynnag, awgrymodd ymatebwyr hefyd fod angen rhagor o gefnogaeth sefydliadol i feithrin y syniad o gymuned, yn enwedig y tu allan i’r ysgolion a chanolfannau.

Mae’r cyllid hwn felly ar gael i allu trefnu digwyddiadau sy’n cefnogi’r gwaith o greu cymuned a gwaith ar y cyd mewn ysgolion, colegau, a chanolfannau ymchwil eraill yn ogystal â rhwng y rhain.

Bwriad y gronfa yw bod yn hyblyg er mwyn galluogi’r staff i ymateb i’r hyn sydd ei angen arnyn nhw mewn byr o dro. Mae’r holl aelodau o’r staff sy’n ymwneud ag ymchwil mewn unrhyw lwybr gyrfaol ac unrhyw gyfnod gyrfaol yn gymwys i arwain cais a chymryd rhan mewn digwyddiadau a ariennir, pan fo’n briodol. Ymhlith y rhain mae staff ymchwil amser llawn a rhan-amser, myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, staff academaidd, technegol a staff yn y Gwasanaethau Proffesiynol sy’n ymwneud â chefnogi a chyflwyno ymchwil ac addysg dan arweiniad ymchwil. Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan dimau sy’n cynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ogystal ag ystod o lefelau gyrfaol a rolau.

Rydyn ni’n gwahodd cynigion sy’n dangos y gallu i wella diwylliant a chyd-destunau ymchwil drwy gynyddu’r broses o cydweithio a chymuned mewn tîm, is-adran, adran, ysgol neu goleg, boed hynny ledled timau, is-adrannau, adrannau, ysgolion neu golegau; neu ledled y sefydliad yn fwy cyffredinol.

Byddwn ni’n ariannu ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau sy’n datblygu arferion lleol sy’n effeithio’n gadarnhaol ar ddiwylliant ymchwil, gan gynnwys lles, moeseg ymchwil, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth; digwyddiadau sy’n hyrwyddo’r broses o ymgysylltu ag academyddion allanol a rhanddeiliaid eraill neu feithrin perthynas rhwng ymchwilwyr a’r rheini sy’n galluogi ymchwil megis y gwasanaethau proffesiynol, technegwyr ac arbenigwyr. Hwyrach y bydd y gweithgareddau yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithdai, byrddau crwn, digwyddiadau arddangos, siaradwyr gwadd a sefydlu rhwydweithiau.

Dyddiadau allweddol:

Galwad y Gronfa Diwylliant Ymchwil yn agor: Dydd Mercher 20 Mawrth 2024dylid cyflwyno pob cais gan ddefnyddio’r ffurflen fer ar-lein hon.

Cyfnod gwneud cais yn dod i ben: Gwener 19 Ebrill 2024

Cyllid: gwahoddir ceisiadau hyd at £3,000 ac mae’n rhaid gwario’r cyllid erbyn 31 Gorffennaf 2024.