Beth yw arferion cyhoeddi rheibus a sut allwch chi eu hosgoi?
24 Hydref 2023Lindsay Roberts – Gwasanaethau Llyfrgell y Brifysgol
Gall cyhoeddi mewn cyfnodolion ymddangos yn eithaf cymhleth heddiw. Mae nifer y cyfnodolion sydd ar gael wedi cynyddu’n aruthrol gyda chynnydd cyhoeddi mynediad agored ac mae’r newid i gyfnodolion electronig wedi dileu’r cyfyngiadau a oedd yn bodoli o ran cynhyrchu rhifynnau cyson o faint tebyg.
Rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi derbyn ebyst digymell gan gyhoeddwyr cyfnodolion yn cynnig cyfle i chi gyhoeddi neu ymuno â’r bwrdd golygyddol ar gyfer un o’u cyfnodolion am ffi resymol iawn. Byddant yn aml yn cynnig cymhellion deniadol megis derbyniad gwarantedig gyda troad cyflym ar gyfer cyhoeddi. Felly, beth ydych chi’n ei wneud yn yr achosion hynny? Anwybyddu a dileu’r ebost? Manteisio ar y cyfle? Neu a ydych yn penderfynu ymchwilio ymhellach cyn gwneud penderfyniad?
Gyda chyfnodolion rheibus, mae rhai arwyddion cyffredin i gadw llygad allan amdanynt – maent yn sicrhau eu bod yn cael eu derbyn, dydyn nhw ddim yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid ac maent yn defnyddio ffactorau effaith camarweiniol. Cofiwch, os yw rhywbeth yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod. Mae’r cyhoeddwyr a’r cyfnodolion rheibus hyn yn esblygu felly gall fod yn heriol bod yn wirioneddol hyderus ynghylch ble i gyhoeddi. Fodd bynnag, mae rhai adnoddau defnyddiol ar gael i roi rhywfaint o arweiniad i chi. Mae’r rhain yn cynnwys Meddwl, Gwirio, Cyflwyno sy’n cwmpasu cyhoeddwyr llyfrau yn ogystal â chyfnodolion a Cabell’s International – Adroddiadau rheibus (caerdydd.ac.uk). Mae gan y brifysgol danysgrifiad i Cabell’s a byddwn bob amser yn argymell ei ddefnyddio i wirio os ydych yn ansicr ynglŷn â statws cyfnodolyn. Gall defnyddio offer o’r fath i wirio rhoi tawelwch meddwl a hefyd ein hatal rhag neidio i’r penderfyniad anghywir a allai olygu colli cyfle dilys. Er enghraifft, gall fod rhagdybiaeth neu sibrydion am bob cyfnodolyn gan gyhoeddwr penodol eu bod yn rheibus ac felly dylid gwahardd pob cyhoeddiad gyda nhw. Fodd bynnag, o archwilio’n fwy manwl trwy ddefnyddio Cabell’s, efallai y gwelwch nad yw hynny’n wir bob amser.
Os hoffech chi ddysgu rhagor, cyhoeddodd y llyfrgell erthygl Blas ar y pwnc hwn yn ddiweddar – Byddwch yn ymwybodol o arferion cyhoeddi rheibus – Mewnrwyd – Prifysgol Caerdydd. Mae’r llyfrgell hefyd wedi cynhyrchu tiwtorial sy’n cynnwys adran ar ddewis cyfnodolion i’w cyhoeddi.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â llyfrgellydd eich pwnc.