Labordy byw newydd ar gyfer Prifysgol wrth-hiliol
11 Medi 2024Ar 1 Gorffennaf 2024, fe wnaeth grŵp ag arbenigedd amrywiol sydd am weld Prifysgol wrth-hiliol drafod creu ‘labordy byw’ newydd yma
Daeth SPARK (Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol) a MEAD (y Grŵp Ymchwil Ymfudo, Ethnigrwydd, Hil ac Amrywiaeth) â phawb ynghyd, gan gynnwys ymchwilwyr y Brifysgol, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr doethurol gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a thri sefydliad partner, EYST (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru) (rhan o SPARK), Bawso a Race Council Cymru. Wedi’i chefnogi gan gyllid Cronfa Diwylliant Ymchwil y Brifysgol, rhoddodd y sesiwn gyfle cychwynnol i drin a thrafod labordy byw sy’n ymwneud â gwrth-hiliaeth yn SPARK.
Roedd y sesiwn syniadau hon yn adeiladu ar gydberthnasau a oedd eisoes wedi’u sefydlu drwy waith ar y cyd rhwng SPARK a MEAD, gan gynnwys digwyddiad yn arddangos ymchwil y Brifysgol a oedd yn berthnasol i’w pholisi ar ethnigrwydd ym mis Tachwedd 2023.
Mae pobl yn diffinio ac yn deall labordai byw mewn gwahanol ffyrdd yn y sector addysg drydyddol, ond yn eu hanfod maen nhw’n cysylltu gweithgaredd academaidd sefydliad (ymchwil, addysgu a dysgu) â phartneriaid nad ydyn nhw’n academaidd, gan gynnwys gwasanaethau proffesiynol mewnol prifysgolion a busnesau allanol, sefydliadau’r trydydd sector, cyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol, i geisio atebion i broblem ‘byd go iawn’ mewn lleoliad ‘bywyd go iawn’. Yn ôl Higgins a Klein, 2011, mae labordai byw ‘yn eu hanfod yn waith ar y cyd.’
Mae Strategaeth newydd Prifysgol Caerdydd tuag at 2035 yn nodi ei bod am ddefnyddio ‘…ein prifysgol yn ‘labordy byw’ i ddiffinio ein heriau ar y cyd a gweithio gyda’n gilydd i geisio atebion.’ Mae yna nifer o labordai byw mewn prifysgolion a mannau eraill ledled y DU ac Ewrop (er enghraifft, gweler y Rhwydwaith Ewropeaidd o Labordai Byw). Ymhlith eu manteision, caiff y canlynol eu nodi’n aml: eu natur ‘agored’ a’u bod yn canolbwyntio ar gyd-greu, eu potensial cryf i wireddu newid sylweddol a mynd i’r afael â heriau cymhleth, eu gallu i ailddiffinio profiad dysgu myfyrwyr a chreu cyfleoedd gwerth chweil ar gyfer ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth yn y byd go iawn i academyddion. Fodd bynnag, dydy’r rhain ddim yn cynnwys labordy byw sy’n canolbwyntio ar wrth-hiliaeth.
Mae’r Sgwrs Fawr ar ddyfodol Prifysgol Caerdydd a’n Strategaeth newydd yn cydnabod ‘nad yw’r model presennol ar gyfer prifysgolion bellach yn addas i’r diben’. Mae angen mynd i’r afael ar fyrder â’r ‘systemau a’r diwylliannau sy’n ymwneud â’n gwaddol’ sydd wedi’u gwreiddio yn ein sefydliad drwy ddod yn ‘brifysgol wrth-hiliol’. Mae hyn yn sylfaenol i’r math o brifysgol y dylen ni fod, a’r hyn rydyn ni’n dymuno ei fod.
Mae’r Athro Emmanuel Ogbonna o Ysgol Busnes y Brifysgol a Ronald Roberts yn ein hatgoffa bod gwrth-hiliaeth yn adeiladu ar ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ond yn mynd y tu hwnt iddo:
‘Nod cyfle cyfartal yw ceisio sicrhau bod unigolion yn cael cyfle cyfartal i gymryd rhan neu ‘gystadlu’ drwy brosesau sy’n trin pawb yn deg neu mewn ffordd debyg. Mae amrywiaeth a reolir yn disgrifio camau gweithredu bwriadol i hyrwyddo prosesau i gynnwys pobl o gefndiroedd gwahanol. Mae gwrth-hiliaeth yn mynd y tu hwnt i’r ddau ddull hyn drwy weithredu mewn modd penodol ac ymwybodol i wrthsefyll a mynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol.’ (Roberts, 2021: 2)
Mae hyn yn hollbwysig i Brifysgol Caerdydd, ac i holl sefydliadau a chyrff cyhoeddus Addysg Uwch Cymru, sydd wedi’u hysgogi ers tro gan brofiad byw o anghydraddoldebau a gwahaniaethu sydd wedi’u gwreiddio, ac a gafodd sylw yn fwy diweddar yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru tuag at Gymru wrth-hiliol. Mae ein Profost a’n Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Damian Walford Davies, yn siarad am y rheidrwydd brys hwn a’r cyfraniad y gallai labordy byw sy’n ymwneud â gwrth-hiliaeth ei wneud:
‘Un o’n nodau yw gwneud Prifysgol Caerdydd yn sefydliad gwrth-hiliol. Dyma un o’r elfennau nad ydyn nhw’n agored i drafodaeth. Mae gwrth-hiliaeth wedi’i wreiddio yn ein strategaeth sefydliadol newydd ac yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol nesaf. Mae cyflawni’r nod hwn yn gofyn i ni wneud pethau’n wahanol, a dyma’n union y bydd y ‘labordy byw’ newydd hwn yn ein helpu i’w gyflawni. Bydd yr wybodaeth sy’n deillio o’r fenter hon yn cefnogi sefydliadau eraill ledled Cymru a’r byd i gymryd camau pwysig i fod yn wrth-hiliol. Mae’r fenter newydd hon yn enghraifft wych o Brifysgol Caerdydd yn creu gwybodaeth newydd ar y cyd i greu byd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’
O’n sesiwn syniadau, rydyn ni wedi dechrau mapio’r hyn y gallai labordy byw sy’n ymwneud â gwrth-hiliaeth ganolbwyntio arno, gan gynnwys pedair cydran ‘graidd’ ein prifysgol, hynny yw, ymchwil, addysgu ac addysg, arferion sefydliadol ac ymgysylltu dinesig. Rydyn ni hefyd wedi dechrau trafodaeth ar sut y gallai labordy byw ei hun fod yn wrth-hiliol, o ran ei greu a’i ddyluniad, ei natur a sut mae’n gweithredu. Dyma drafodaeth bwysig i’w chael i sicrhau bod yr hyn a wnawn a sut rydyn ni’n mynd ati’n cyd-fynd ag arfer gwrth-hiliol.
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn yn y broses o lunio syniadau ar gyfer y Labordy Byw Gwrth-hiliaeth – dyma ymdrech ar y cyd o bob rhan o’r Brifysgol a’n partneriaid cymunedol ac rydyn ni wrthi’n datblygu’r labordy / mae’n brosiect cydweithio parhaus.
Yr Athro Sin Yi Cheung, SocSi
Uzo Iwobi, Cyngor Hil Cymru
Princess Onyeanusi, Cyngor Hil Cymru
Wanjiku Mbugua, BAWSO
Anaer Yeerjiang, myfyriwr doethuriaeth (SocSi)
Kemba Hadaway-Morgan, myfyriwr doethuriaeth (SocSi)
Usha Ladwa-Thomas, Llywodraeth Cymru ac Arloeswr Preswyl SBARC
Heledd Jenkins, Uned Gwahaniaethau Cydraddoldeb, Llywodraeth Cymru
Venice Cowper (Canolfan Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant)
Shabnam Ali (Canolfan Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant)
Yr Athro Chris Taylor, SBARC
Dr Anna Skeels, SBARC
Dr Hayley Trowbridge, SBARC
Selima Bahadur (EYST)
Dr Sofia Vougioukalou (CARE)
Noam Devey, Datblygiad Sefydliadol a Staff
Yr Athro Helen Williams, Yr Academi Dysgu ac Addysgu
Mae ein camau nesaf yn cynnwys sesiwn gweithgor mewnol ym mis Awst, gan ganolbwyntio ar ddylunio labordy byw, ymgorffori’r labordy byw yng Nghynllun Gweithredu Blwyddyn Un Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol a datblygu ein strategaeth adnoddau, gan gynnwys cynigion ar gyfer cyllid sydd eisoes wedi’i nodi.