Mia Peace – Is-raddedig I ôl-raddedig
21 May 2018 Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n gwneud i’n myfyrwyr aros ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ar ôl cwblhau eu gradd israddedig? Darllenwch ymlaen i ddarganfod beth sy darhai o’n myfyrwyr i ddweud …
Beth wy ti’n astudio ar lefel ôl-raddedig?
MSc Cynaliadwyedd, Cynlliunio a Pholisiau Amgylcheddol
Beth wnes ti astudio yn israddedig?
BSc Daearyddiaeth (Dynol)
Ydych chi wedi dod yn uniongyrchol o IR i OR neu gymryd seibiant?
Syth o is-raddedig
Beth a ddaeth â thi nol?
Wedi astudio fy nghwrs israddedig yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd, roeddwn yn gwybod fy mod i eisiau parhau â fy astudiaethau yma gan fod yr ysgol yn ysgol dda iawn gydag amrywiaeth eang o gyrsiau a modiwlau yn cael eu cynnig i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Beth wy ti’n caru am Gaerdydd?
Mae Caerdydd yn ddinas gwych i fyw ynddi fel myfyriwr. Mae yn le gyfeillgar, llawn bwrlwm byddwch yn ei ddisgwyl o brif ddinas. Rhywbeth grêt arall am y ddinas ydy ei fod yn ddinas rhad i fyw ynddi a bod y rhan fwyaf o lefydd yn rhwydd i gyrraedd ar droed.
Ble mae dy hoff le yng Nghaerdydd a pham?
Rwy’n mwynhau rhedeg o amgylch Parc Bute yn lle rhedeg o amgylch strydoedd brysur canol Caerdydd. Mae digon o orsafoedd ffitrwydd o amgylch y parc sy’n meddwl gallwch gwneud eich ymarfer corf tu allan. Mae Parc Bute hefyd yn le hyfryd i ymlacio a chael picnic pan mae’r haul yn gwenu.
Pam wnaethoch chi benderfynu aros yng Nghaerdydd ar gyfer eich astudiaethau uwchraddedig?
Wedi astudio fy ngradd cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, roeddwn yn gwybod bod Caerdydd yn brifysgol gwych i astudio ynddi gyda staff gwych a Chaerdydd ei hunan yn ddinas llawn bwrlwm i fyw ynddi fel myfyriwr. Roedd hyn i gyd yn gwneud i mi eisiau astudio fy ngwrs ôl-raddedig yma hyd yn oed yn fwy. Roedd y cwrs a’r dewis eang o fodiwlau o fewn fy nghwrs yn berffaith i’r hyn oeddwn eisiau ymchwilio ac felly wrth benderfynu astudio cwrs ôl-raddedig yng Nghaerdydd roeddwn yn ehangu ar yr hyn dysgais yn fy ngwrs israddedig ac hefyd yn dysgu sgiliau bydd yn bwysig i mi mewn swyddi i ddod.
Beth yw manteision astudio ar lefel ôl-raddedig?
I unrhywun hoffai barhau i astudio ar ôl cwblhau ei cwrs ôl-raddedig, yna mae fy ngwrs ôl-radd i yn berffaith i arwain ymlaen at hyn gan ein bod yn ymchwilio a chasglu data ein hun ar gyfer ein traethawd hir ac rydym hefyd yn cwblhau gwahanol aseiniadau megis traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau a gwaith grŵp. Mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer y byd gwaith gan eu bod yn sgiliau pwysig sydd yn berthnasol ar gyfer pob math o swyddi. Rwyf hefyd yn credu bod gwneud cwrs ôl-radd hefyd yn dangos i unrhyw gyflogwr eich bod yn berson gweithgar.
Sut mae astudiaeth ôl-raddedig yn wahanol i astudiaeth israddedig?
Os gwnaethoch fwynhau eich gradd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, byddwch yn siwr o fwynhau eich cwrs ôl-raddedig yma. Mae hyn oherwydd eich bod yn astudio yn fanwyl eich dewis o bwnc. Mae stwythur yr amserlen, y darlithoedd a’r seminarau yn eithaf tebyg i hynny yn fy ngradd cyntaf gyda’r gwahaniaeth mwyaf o’r traethawd hir sydd i’w cwblhau yn y trydydd tymor dros yr haf ac felly yn cwblhau fy ngradd yn hwyrach yn y flwyddyn. Gwahaniaeth arall ydy bod y gwaith yn fwy anodd ond gan eich bod yn astudio eich dewis o bwnc rydych chi yn mwynhau, nid yw’r gwaith mor anodd a byddai rhai yn meddwl ar y dechrau.
Pa gefnogaeth sydd ar gael yng Nghaerdydd fel myfyriwr ôl-raddedig?
Mae unrhyw fyfyriwr ôl-raddedig yn cael cynnig yr un cefnogaeth ag unrhyw fyfyriwr israddedig. Un o’r sawl buddion o fod yn fyfyriwr ôl-raddedig ydy gallu cael mynediad i’r ystafell i fyfyriwyr ôl-radd yn Undeb y Myfrywyr sy’n meddwl bod gennym nifer o lefydd i weithio ynddynt.
Beth/pwy wnaeth eich helpu i wneud y penderfyniad i aros yng Nghaerdydd?
Roeddwn yn awyddus i astudio cwrs ôl-radd ond nid oeddwn yn siwr os oeddwn eisiau blwyddyn allan cyn trial am le. Yn y diwedd, penderfynais fy mod i eisiau parhau â fy astudiaethau yn syth ac roedd fy nheulu a fy ffrindiau yn cefnogi fy newis. Hefyd, fe wnes i wir fwynhau fy mhrofiad yma fel myfyriwr israddedig ynghyd â chael darlithwyr gwych ac hefyd wedi dwli ar y ddinas.
Sut ydych chi’n ariannu eich astudiaethau ôl-raddedig?
Benthyciad Ôl-raddedig
Gan edrych yn ôl ar eich amser fel fyfyriwr israddedig, oes yna unrhyw beth y byddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Byddwn i yn edrych mewn i ymuno â thîm chwaraeon oherwydd gallwch fod yn hollol newydd i unrhyw chwaraeon i ymuno â’r timoedd yma. Byddwn hefyd yn annog i unrhyw fyfyriwr israddedig i edrych mewn i gynlluniau y brifysgol i astudio dramor a’r cyfleoedd i weithio yn ystod eich cwrs. Mae’r cyfleoedd yma i gyd yn gallu helpu unrhywun i edrych yn fwy gystadleuol pan yn trial am swyddi ar ôl graddio.