Gwneud cais am Brifysgol; Profiad Gwaith Ffisiotherapi.
19 Ebrill 2018
Wrth wneud cais i astudio Ffisiotherapi yn y Brifysgol, mae angen i chi ddangos eich bod yn deall yn union beth yw ffisiotherapi a beth mae ffisiotherapyddion yn ei wneud. Mae prifysgolion yn edrych yn ffafriol ar ymgeiswyr sy’n dangos dealltwriaeth dda o’r maes a chyflwyno tystiolaeth o ymchwilio’r rôl yn eu datganiadau personol. Yn aml, disgwylir i’r ymgeiswyr hynny sy’n cael eu cyfweld i ateb cwestiynau ynglŷn â materion ffisiotherapi cyfredol, yn ogystal ag am ofal iechyd a chymdeithasol. Nid yw profiad gwaith mewn ffisiotherapi yn hollol hanfodol, ond gallai fod o gymorth wrth i chi wneud cais i astudio ffisiotherapi.
Efallai na fydd amser gan rai adrannau ffisiotherapi o fewn y GIG na chlinigau preifat, i gefnogi myfyrwyr ar brofiad gwaith yn ystod cyfnodau prysur; ni allant bob amser ateb y galw. Mae ymgeiswyr wedi datgan eu bod yn aml yn teimlo’n rhwystredig wrth geisio trefnu profiad gwaith ac yn datgan na gawsant unrhyw lwc. Peidiwch â digalonni- mi fyddai profiad gwaith mewn unrhyw agwedd o ofal iechyd yn ddefnyddiol i chi, cofiwch dyfal donc a dyrr y garreg!
Wrth i diwtoriaid derbyn y Brifysgol fynd ati i adolygu’ch datganiad personol, maent yn edrych am nodweddion unigryw sy’n gwneud ffisiotherapyddion da. Bydd angen i chi drafod eich profiadau bywyd a dangos tystiolaeth, megis eich bod chi yn
- medru cyfathrebu’n effeithiol a meddu ar sgiliau rhyngbersonol da, gyda’r gallui ddangos empathi, amynedd a sensitifrwydd.
- gallu gweithio’n dda arei ben ei hun, yn gallu hunan gymhelli,yn dangos menter a bod gennych sgiliau trefnu da.
- gweithio’n ddafel rhan o dîm, wedi bod arweinydd o rywfath, a/neu gallu ysgogi eraill.
- wedi dangos neu cymryd cyfrifoldeb am sefyllfa / tasg, gan arddangos sgiliau datrys problemau.
- deall gofynion gweithio mewn maes gofal iechyd / fel ffisiotherapydd, yn gallu gweithio dan bwysau.
- â diddordeb mewn anatomeg a ffisioleg a gwella iechyd pobl.
Yn aml, gallwch ddangos tystiolaeth o lawer o’r uchod o brofiadau bywyd rydych chi eisoes wedi cael. Ydych chi erioed wedi gwirfoddoli ar gyfer elusen? Wedi cymryd rhan mewn rhaglen fentor yn y Chweched Dosbarth / Coleg? Wedi gweithio gydag eraill mewn swydd ran-amser? Wedi gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind? Wedi bod yn aelod o dîm chwaraeon neu grŵp o ryw fath? Mae yna lawer mwy o enghreifftiau, mae’n siwr eich bod eisoes wedi cael llawer o brofiadau y gallwch chi eu trafod, heb eich bod wedi ystyried eu bod yn berthnasol!
Tabeth, os hoffech chi drefnu rhagor o brofiad, allwch ddechrau trwy gysylltu â’r canlynol :-
- Eich adrannau ffisiotherapi mewn ysbytai GIG lleol.
- Adrannau ffisiotherapi mewn unrhyw ysbytai preifat cyfagos (e.e. Spire Healthcare, Nuffield Health, BMI Healthcare ).
- Clinigau Ffisiotherapi Preifat (Chwiliwch glinigau preifat yn eich ardal chi trwy ddefnyddio Physio2U Directory).
- Ffisiotherapyddion clybiau chwaraeon lleol – drwy e-bostio’r clwb efallai.
- Ysgolion ac unedau anghenion arbennig ar gyfer plant ac oedolion anabl.
- Gwaith gwirfoddol gydag elusennau yn eich ardal leol fel Parkinson’s UK, MS Society, Age UK, elusennau strôc neu elusennau anaf yr ymennydd.
Peidiwch â phoeni os na allwch ddod o hyd i brofiad gwaith, nid yw’n hanfodol cyn i chi wneud cais. Cofiwch feddwl am brofiadau bywyd rydych chi eisoes wedi eu cael yn yr ysgol, yn y gweithle ac yn y cartref!
Ydych chi wedi trefnu profiad gwaith ffisiotherapi? Sut oedd y profiad ? Rhowch eich sylwadau isod neu danfon tweet!
- Dewch i weld ni @ Eisteddfod yr Urdd, Bae Caerdydd ar 28 Mai 2019
- Paratoi ar gyfer Cyfweliadau Prifysgol Ffisiotherapi
- Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn lansio ymgyrch ‘Gwnewch Wahaniaeth’
- Cwrdd a Ffiz y ffisiotherapydd!
- Dewch i weld ni @ Eisteddfod yr Urdd, Llanelwedd ar 30 Mai 2018