Skip to main content

Cymraeg

Gwneud cais am Brifysgol; Opsiynau TGAU & Lefel A

25 Ebrill 2018
Choosing GCSE and A Level Subjects.
Choosing GCSE and A Level Subjects.

Mewn tudalennau blaenorol, rydym eisoes wedi archwilio rôl y ffisiotherapydd, a sut i ddod o hyd i brofiad gwaith ffisiotherapi. Bydd y dudalen hon yn edrych ar gymwysterau TGAU, Safon Uwch a chymwysterau eraill sy’n helpu i gyrraedd y nod o astudio ffisiotherapi ar lefel israddedig (BSc).

Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn gofyn am gymwysterau academaidd tebyg, ar gyfer mynediad i raglenni israddedig ffisiotherapi. ‘Rydym yn argymell eich bod yn gwirio gofynion mynediad unigol y sefydliad y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU)

Rydych yn dewis eich pynciau TGAU yn 14 oed,  i’w hastudio ym mlwyddyn 10 ac 11 yn yr ysgol. Wrth ddewis eich pynciau TGAU, mi allai fod o gymorth i chi ystyried eich diddordebau gyrfa yn y dyfodol.

Gall ddewis eich opsiynau TGAU fod yn gyfnod dryslyd. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae Mathemateg, Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg (os ydych chi’n byw yng Nghymru) a gwyddorau sengl, oll yn bynciau craidd sy’n golygu eu bod yn orfodol. Rhaid i chi hefyd wneud pynciau sylfaen, gan gynnwys Technoleg Gwybodaeth (Cyfrifiaduron), Addysg Gorfforol (AG) a dinasyddiaeth – er bod y rhain fel arfer yn gyrsiau byr. Ynghyd â’ch TGAU gorfodol, cewch ddewis 4 pwnc  ychwanegol yr hoffech eu hastudio.

Mae pynciau dewisol yn amrywio rhwng ysgolion. Byddwch yn derbyn ffurflen sy’n rhestru’r holl bynciau sydd ar gael. Fel rhan o’ch opsiynau, gallwch ddewis cynnwys gwyddorau ychwanegol. Y pynciau craidd gwyddoniaeth yw bioleg, ffiseg a chemeg – mae un pwnc gwyddoniaeth yn orfodol, ond fe allwch ddewis y tri os dymunwch. Ymhlith y pynciau eraill sydd ar gael yw: Pynciau Celf, Dylunio a Thechnoleg (dewis rhwng Electroneg, Technoleg Bwyd, Graffeg, Tecstilau), Dyniaethau, Ieithoedd Tramor Modern (mae dewisiadau fel arfer yn cynnwys Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg), ac AG.

Wrth astudio gwyddorau gofal iechyd, fel Ffisiotherapi, bydd angen o leiaf 7 TGAU gradd A * i C (Gradd 9-4), gan gynnwys y pynciau canlynol

  •  Saesneg neu Gymraeg.
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth

Gallwch ddefnyddio’ch dewisiadau TGAU i’ch paratoi’n well ar gyfer gyrfa mewn Ffisiotherapi, a bydd dewis astudio gwyddorau dwbl neu driphlyg yn helpu i baratoi i astudio gwyddorau dynol uwch yn y brifysgol. Mae nifer yn dewis gwneud TGAU Addysg Gorfforol lawn, ond nid yw hyn yn ofynnol os nad oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon (mae ffisiotherapi yn ymwneud â llawer mwy na chwaraeon!). Mae hi werth nodi bod rhai myfyrwyr wedi sôn bod astudio iaith ar lefel TGAU wedi helpu eu sgiliau cyfathrebu.

Meddyliwch yn ofalus wrth ddewis eich TGAU a chofiwch mai eich dewis chi yw hyn yn y pen draw! Rydym yn argymell siarad â’ch athrawon a’ch rhieni am gyngor a gwneud digon o ymchwil o yrfaoedd sydd o ddiddordeb i chi, cyn i chi wneud eich penderfyniad terfynol.

Lefel AS ac A

I fynd ymlaen i astudio Ffisiotherapi ar lefel israddedig mewn prifysgol, bydd angen i chi gwblhau o leiaf 3 pwnc lefel A. Gellir astudio’r rhain mewn coleg chweched dosbarth neu yn chweched dosbarth yr ysgol, ac fel arfer byddwch rhwng 16 a 18 oed (Blwyddyn 12 a 13). Wrth ddewis lefelau A, byddwch fel rheol yn dewis 4 pwnc. Fel arfer, allwch chi orffen un pwnc ar ôl blwyddyn 12, gan gyrraedd lefel AS, a mynd ymlaen i astudio lefel A llawn yn y 3 phwnc arall. Mae eich cymwysterau AS a lefel A  yn creu sgôr UCAS (Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau) a fydd yn holl bwysig pan fyddwch yn gwneud cais i’r brifysgol. I ddarganfod mwy am sgorio UCAS, cliciwch yma.

Wrth ystyried y cwrs israddedig Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd fel enghraifft, yn ddelfrydol mae angen AAB yn lefel A, yn cynnwys bioleg. Mae’r gofynion yn wahanol mewn prifysgolion, ond fel arfer bydd angen 3 lefel A bob amser i ymgeisio, yn cynnwys bioleg neu fioleg ddynol.

Cymwysterau Eraill

Bydd prifysgolion hefyd yn ystyried y cymwysterau canlynol i’r rhai sy’n astudio y tu allan i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon neu’n dilyn llwybr addysg llai traddodiadol.

• BTEC, HND neu HNC (gan gynnwys gwyddoniaeth fiolegol).
• NVQs perthnasol.
• Cwrs mynediad prifysgol yn seiliedig ar wyddoniaeth.
• Cymwysterau cyfatebol Albanaidd neu Wyddelig.
• Gradd flaenorol.

‘Rydym yn eich argymell  bob amser i wirio gofynion mynediad prifysgolion unigol o safbwynt y cymwysterau uchod, a chysylltu â’r tîm derbyn os nad ydych yn siŵr. Peidiwch ag anghofio bod eich datganiad personol yn holl bwysig (gweler y dudalen flaenorol).

Ydych chi wedi dewis eich TGAU neu bynciau lefel A yn ddiweddar, neu a ydych chi wedi sicrhau lle mewn prifysgol trwy gymwysterau eraill? Gadwech i ni glywed eich straeon yn y sylwadau isod a/neu rhannwch eich profiadau gyda ni drwy Drydar.

@CardiffUPhysio