Fy amser yn Krakow gan Katie Renker
2 Hydref 2018
Treuliodd Katie Renker semestr ym Mhrifysgol Jagiellonian, Krakow, yn astudio cerddoriaeth
“Felly pryd wyt ti’n mynd nôl i Gaerdydd?”
“Dydw i ddim”
“Sori?”
“Rydw i wedi penderfynu symud i wlad Pwyl”
“Aeth yr arholiadau mor wael â hynny?”
Sgwrs hollol ddychmygol yw hon, ond rwy’n teimlo ei bod yn cyfleu’n gywir ymateb llawer o ffrindiau ac aelodau o’r teulu pan ddywedais i wrthyn nhw mod i’n pacio popeth er mwyn treulio pum mis yn byw yn nwyrain (sori, ‘canolbarth’) Ewrop, yn astudio mewn prifysgol ag enw roeddwn i’n methu ei ynganu.
Y cyfan aeth gyda fi oedd camera… a chês… a sach gefn fawr… a sielo (er mawr ddifyrrwch i bawb y bues i bron â’u llorio wrth geisio mynd drwy gatiau’r maes awyr) yn ogystal ag ymdeimlad llawer haws ei gludo, ond yr un mor drwm, o gyffro ofnus ynghylch yr antur newydd sbon roeddwn i ar fin cychwyn arni.
Fe ddes i nôl… yn iawn, yn dal yn drwm-lwythog (rhywbeth yn debyg i geffyl pwn deugoes), ond wedi fy ngweddnewid o ran ysbryd a meddwl? Falle bod hynny’n or-ddweud braidd. Ond fe wnes i ddod nôl â chyflenwad newydd gwych o droeon trwstan ac anturiaethau i’w hychwanegu at fy nghronfa barod o hanesion ‘celwydd golau’, dealltwriaeth newydd o wleidyddiaeth, cymdeithas, diwylliant a hanes gwlad hardd, sy’n llawn bywyd (er gwaethaf ei beiau), gwersi a ddysgwyd gan athrawon newydd a’m hysbrydolodd, trafodaethau angerddol yn y dosbarth, sgyrsiau meddw am 3 y bore, a rhwydwaith o ffrindiau gwirioneddol ryngwladol a gadwodd fy nghalon yn llawn, fy niwrnodau yn brysur, a’m cynlluniau teithio at y dyfodol yn helaeth.
Myfyriwr 2il flwyddyn BA Cerddoriaeth oeddwn i; a fi oedd y cyntaf o’m hysgol academaidd yng Nghaerdydd i fanteisio ar y cyfle anhygoel i dreulio semestr yn astudio ym mhrifysgol hynaf gwlad Pwyl, sydd hefyd yn digwydd bod ym mhrifddinas diwylliant y wlad, ‘Dinas y Brenhinoedd’ – Krakow. Rhag ofn bod hynny ddim yn swnio’n ddigon cyffrous ar ei ben ei hun, gadewch i mi ddweud, efallai bod gan Gymru lawer o gestyll, ond oes carchar dreigiau mewn unrhyw un ohonynt, gyda draig fetel hyll sy’n anadlu tân y tu allan? Neu ‘barêd y dreigiau’ gyda bwystfilod arnofio anferth yn brwydro draw yn yr afon yng nghanol tân gwyllt? Neu bâr o esgyrn draig hollol ddilys, 100%, oedd yn bendant heb fod yn perthyn i forfil a hipopotamws, yn hongian tu allan i eglwys gadeiriol y castell? Na? Wel, dyna ni te.
Ac os rhown ni’r dreigiau o’r neilltu, alla i ddim canmol digon ar y profiad Erasmus. Roeddwn i’n un o lond dwrn yn unig o bobl o’r adran eleni a daflodd eu hunain i sefyllfa ansicr (er bod hynny gyda chefnogaeth, trefniadau a pharatoadau da, ac yn destun monitro gan Global Opportunities+y brifysgol+Erasmus+Ewrop), a’r cyfan galla i wneud yw annog mwy o bobl i fentro i’r dwfn, hyd yn oed os bydd eich dinas chi’n un israddol sydd ddim yn cynnwys cynifer o greaduriaid adeiniog, cennog.
Mae heriau ynghlwm wrth gael hyd i’ch ffordd mewn gwlad newydd sydd â iaith 7 cyflwr, ac sydd felly’n amhosib (ffaith wyddonol yw hynny, nid dim ond esgusodion rhywun diog), dod o hyd i lety a dod i ddeall y system drafnidiaeth yng nghanol gaeaf gwlad Pwyl (neu’n anoddach fyth, brotocolau mewnrwyd, porthol a chyffredinol y brifysgol rydych wedi mynd iddi). Mae’r un peth yn wir am wneud yn siŵr bod eich credydau’n creu’r cyfansymiau cywir, eich bod chi’n dysgu beth ddylech chi, a’ch bod chi ddim yn marw ar anturiaethau amheus ganol nos. Weithiau cwtsh nôl gartre fydd y peth rydych chi’n hiraethu amdano fwyaf; ond wedyn byddwch chi’n cofio bod dreigiau yn eich dinas chi, a bydd yr hiraeth yn diflannu, ac fe ddewch chi adre’n deithiwr (neu’n ddofwr dreigiau) goleuedig, a llawer mwy trefnus ac annibynnol, gyda llu o sgiliau trosglwyddadwy.
Cofleidiwch yr ofn, cofleidiwch y pethau rhyfedd, cofleidiwch eich ffrindiau newydd, manteisiwch ar ddealltwriaeth yr athrawon newydd, archwiliwch bob cornel o’ch cartref newydd a’r tu hwnt, ac anadlu cymaint o aer ffres Ewrop ag y gallwch chi cyn Brexit a’r dynged sydd ar y gorwel. Fyddwch chi ddim yn difaru.
*Rwy’n sylweddoli bod y stori hon rywsut wedi troi o gwmpas dreigiau yn bennaf, felly sori am hynny, ond ar yr un pryd… dreigiau.
Gallwch ddarllen mwy am anturiaethau Katie ar ei blog.