Canu gyda Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
28 Mehefin 2018
Gan Thomas Mottershead
Ar ddiwrnod olaf mis Chwefror, cefais e-bost gan Reolwr Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NCW), Osian Rowlands, yn gofyn i mi a hoffwn i fod yn rhan o brosiect oedd ar y gweill fel rhan o ŵyl Bro Morgannwg. Gofynnwyd i ychydig o dan 50 o gantorion gymryd rhan yn y prosiect. Darn oedd hwn gan gyfansoddwr o Tsieina, Qigang Chen, a theitl y gwaith oedd Jiang Tcheng Tse, yn seiliedig ar gerdd a ysgrifennwyd yn yr 11eg ganrif gan y bardd Su Shi (1037-1101). Fu fues i’n astudio Mandarin pan oeddwn i yn yr ysgol, ac o ganlyniad, roedd gen i ddiddordeb mewn gweld sut brofiad fyddai traddodiad cerddoriaeth yn y dull Tsieineaidd.
Cyfansoddwyd y darn ar gyfer cantores fenyw yn null Opera Peking (Meng Meng ar yr achlysur hwn), côr cymysg (rhannwyd BBC NCW yn ddau gôr) a cherddorfa symffoni (Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC). Y perfformiad yng Nghaerdydd oedd yr ail berfformiad yn unig o’r darn, ac roedd yn Premiere Ewropeaidd.
Mae Jiang Tcheng Tse yn gân serch esthetig, synhwyrus. Yn y gerdd, mae Shi yn galaru am farwolaeth ei wraig, Wang Fu, ar ôl breuddwyd lle roedd ei wraig yn dychwelyd i’w hen gartref, ac mae’n sôn ei fod yn methu anghofio amdani ar ôl 10 mlynedd, a bod ei bedd 10,000 o filltiroedd i ffwrdd – sy’n golygu ei fod yn methu siarad â hi am yr unigedd mae’n ei deimlo. Mae’n gresynu at sut mae yntau’n edrych yn wahanol yn sgîl treigl amser.
Mae’r darn yn agor gydag awyrgylch llonydd iawn, fel petaech chi’n gallu synhwyro’r galar. Yna daw’r corn Ffrengig unigol i mewn ar Eb, cyn i’r llinynnau ymuno. Wedyn roedd Côr 1 (y côr yr oeddwn i’n canu ynddo) yn dod i mewn fesul rhan ar y nodau hynny, ac yn eu dal am oesoedd. Yna roedd Côr 2 yn dod i mewn ar eu nodau hwythau, gan greu gwrthdaro harmonig rhwng y ddau gôr. Mae’r gwrthdrawiadau harmonig yn bwysig iawn yn y darn.
Mae dau brif uchafbwynt i’r darn, y pwysicaf tua’r diwedd – pan oedd gofyn bod dynion y côr yn siarad Mandarin yn gyflym iawn. Roedd tenoriaid Côr 1, er enghraifft, yn cael eu rhannu er mwyn canu tair rhan (dim ond pedwar tenor oedd yng Nghôr 1), gydag un yn canu clystyrau o saith nodyn, un arall yn canu clystyrau o chwech, a hefyd glystyrau o bump. Roedd rhaid i’r traw fod yn fras hefyd, ond yn codi. Yn ddiweddglo i hyn cafwyd ffrwydrad o sŵn gan y côr a’r gerddorfa, cyn dychwelyd at ddiweddglo mwy cynnil a hiraethus. Mae’r gerddoriaeth yn cofio am briodas a fu’n gyffredinol hapus, er bod y ffrwydradau hyn o bosib yn awgrymu cyfnodau cythryblus.
Yn ystod yr ymarferion cyntaf, daethom i adnabod y darn drwy weithio drwyddo ac ailadrodd yr adrannau’n gyson. Nid oedd neb o’r côr yn gallu siarad Mandarin yn rhugl ond, yn ffodus, roedd gennym y ‘pinyin’, oedd yn rhoi syniad bras i ni o’r math o seiniau, siapiau’r llafariaid a’r geiriau y dylen ni fod yn eu creu. Roedd yr ymarferion yn para tua 2 awr, gan gynnwys rhai ymarferion ar ddydd Sadwrn, felly roedd angen ymrwymiad y tu allan i’r amserau ymarfer arferol.
Roedd set benodol o heriau wrth berfformio’r darn hwn:
- Yr iaith – er fy mod i wedi astudio Mandarin ar lefel sylfaenol ac yn gyfarwydd ag ambell un o’r seiniau, roedd llawer yn anghyfarwydd, felly roedd dod i ddeall seiniau a deuseiniaid y geiriau yn heriol.
- Arddull y cyfansoddiad – ar adegau yn y darn byddem yn gorfod dal nodyn am tua 15-20 eiliad. Gan mai tua 50 o gantorion yn unig oedd yn y côr, doedd dim llawer o gyfle i gynnal yr anadl, felly roedd rhaid inni fod yn ofalus iawn nad oeddem yn anadlu ar yr un pryd â’r person yn ein hymyl. Roedd hefyd tua 8 man lle roedd rhaid troi’r dudalen ar ôl un bar yn unig, a daliodd hynny sawl un (gan gynnwys fi fy hun) yn ystod yr ymarferion!
- O’r piano i’r gerddorfa – pan fydd y piano yn eich ymyl yn yr ymarferion, gallwch fel arfer glywed yr holl nodau mae’r piano’n eu chwarae i chi. Roedd y llinynnau’n cael cyfarwyddyd i chwarae’n dawel, felly roedd hi’n anodd eu clywed pan fyddent yn dechrau, oedd yn golygu bod angen i’r côr wybod beth oedd traw’r nodau. Hefyd bu Qigang yn ailysgrifennu rhan o’i gyfansoddiad y noson cyn y perfformiad, ac o bosib yn torri rhai offerynnau allan, felly roedd yn fwy hanfodol fyth ein bod ni’n gwybod ein nodau… yn ffodus, fe oeddem ni!
Pan symudais i Gaerdydd, fe ddes i’n ymwybodol o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, ac fe fues i’n ddigon ffodus i gael clyweliad a chael fy nerbyn i’r côr. Mae hynny wedi dod yn rhan bwysig o’m bywyd yng Nghaerdydd – mae’r côr mor groesawgar, mor gyfeillgar, mor angerddol ac mor ymroddedig i fod y gorau. Dyna beth sy’n gwneud prosiectau fel hwn bosibl (heb sôn am berfformiadau yn Proms y BBC neu ein taith ddiweddar i Lydaw).
Rhaid rhoi’r ganmoliaeth uchaf i’n Cyfarwyddwr Artistig rhyfeddol, Adrian Partington, am ei doethineb a’i arweiniad yn ein galluogi i ddysgu’r darn mewn 8 ymarfer yn unig! Mae Christopher Williams, cyfeilydd BBC NCW yno gyda ni hefyd bob amser i’n helpu, a fyddai’r ymarferion ddim yr un fath hebddo.
Os ydych chi’n ystyried ymuno â chôr yng Nghaerdydd, allwn i ddim awgrymu côr gwell i ymwneud ag e – rydw i’n mwynhau pob munud, byddwch chi’n dysgu cymaint gan Adrian, a gallech chi hyd yn oed gael gyfle i fod yn rhan o rai o’r prosiectau hyn. Pam lai?