Gwrthrych #17. Concerto Piano Joly Braga Santos: ar ddibyn ebargofiant ddoe, testun ymchwil heddiw
4 Hydref 2018
Gan Ana Beatriz Ferreira (PhD mewn Perfformio)
Ers trefnu a pherfformio première Concerto Piano Joly Braga Santos yn y DU, yn Llundain yn 2015, rwyf wedi datblygu diddordeb dwfn yn y gwaith hwn, nid yn unig fel perfformiwr fel ymchwilydd hefyd
Roedd y llawysgrif, a gwblhawyd ym 1973, wedi’i chuddio am dros ugain mlynedd yn archifau Llyfrgell Genedlaethol Portiwgal pan glywais amdani drwy hap a damwain. Gwelais i fod y gwaith yn llawn mentrusrwydd, telynegiaeth a chelfgarwch sy’n nodweddi’r cyfansoddwr hwn o Bortiwgal. Aeth â’m bryd yn syth.
Fodd bynnag, yn wahanol i Chopin, Rachmaninov neu, i sôn am gyd-wladwr, Vianna da Motta, nid chafodd Joly ei ddenu’n reddfol i gyfansoddi ar gyfer y piano. Nid yw ei waith yn cynnwys sonatâu piano neu ddarnau sy’n parhau am yn hir.
Yn hytrach, yn ystod blynyddoedd cyfansoddi hynod gynhyrchiol Joly, datblygwyd ei berthynas â’r piano drwy gerddoriaeth siambr. Mae hyn yn cynnwys dau driawd, dau bedwarawd a nifer o weithiau eraill. Fodd bynnag, y Concerto Piano er cof y cerddor meistrolgar Sérgio Varella-Cid o Bortiwgal oedd ei gampwaith ar gyfer yr offeryn hwn.
Yn ddiweddar, gorffennais flwyddyn gyntaf fy PhD yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd gan astudio’r pwnc penodol hwn: Cerddoriaeth piano Joly a’r iaith gerddorol yn y concerto hwn. Hyd yn hyn, mae rhai cwestiynau diddorol iawn wedi codi ynglŷn â sut roedd yn defnyddio adnoddau, ei ddefnydd o dechnegau piano a dylanwadau cerddorol arno.
Ar ben hynny, yn y darn hwn sy’n anhonnol yn bennaf ac yn ymddangos yn wahanol iawn i ddarn traddodiadol, tybed a allai fod ffordd fwy dwys, arloesol ac ysgogol o anrhydeddu’r gorffennol?
Drwy ymarfer, perfformio a dadansoddi’r sgôr, ynghyd ag ymchwilio yn yr archifau, bydd rhywfaint o oleuni’n cael ei fwrw ar y cwestiynau hyn a llawer mwy er mwyn datblygu ein dealltwriaeth o’r cyfansoddwr hwn. Bydd y gwaith hwn yn ystyried ei brosesau meddwl wrth gyfansoddi ac yn hyrwyddo’r gwaith hwn gymaint â phosibl, er mwyn gwneud yn siŵr na fydd yn sefyll ar ddibyn ebargofiant byth eto.
I gael rhagor o wybodaeth am y perfformiad yn 2015 a’r llawysgrif, gwyliwch: