Amdanom ni
Mae ein staff yn cynnal ymchwil ar amrywiaeth mawr o bynciau cerddorol ar hyn o bryd gan gynnwys cerddoriaeth rhyfel, cerddoriaeth yn Fienna, cerddoriaeth ar lwyfan, a cherddoriaeth a’r aruchel. Maent hefyd yn astudio materion cerddorol mewn amrywiaeth eang o gyfnodau (o’r ddeunawfed ganrif i’r unfed ganrif ar hugain) ac mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau (fel Gorllewin Ewrop, y Dwyrain Canol a Gorllewin Affrica).
Cydnabuwyd ein henw da am ragoriaeth yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Mae’r Ysgol bellach yn 8fed yn y DU ymhlith adrannau cerddoriaeth am ragoriaeth ymchwil.
Yn arwyddocaol, cafodd yr Ysgol sgôr o 90% yn y categori “amgylchedd ymchwil” – dangosydd uchel ei statws o safle ysgolheigaidd sy’n mesur pa mor gydnaws yw’r amgylchedd ar gyfer cynhyrchu ymchwil o ansawdd sy’n arwain y byd o ran ei bywiogrwydd a chynaliadwyedd. Mae hynny dros ddwywaith yn uwch na sgôr y sector ar gyfartaledd.
Yr un mor arwyddocaol, ystyriwyd bod 85% o ymchwil yr ysgol naill ai’n “arwain y byd” neu’n “rhyngwladol rhagorol.”