{"id":854,"date":"2016-11-11T09:15:31","date_gmt":"2016-11-11T09:15:31","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=854"},"modified":"2016-11-11T09:15:31","modified_gmt":"2016-11-11T09:15:31","slug":"siel-syfrdandod-gwersi-ar-gyfer-heddiw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/siel-syfrdandod-gwersi-ar-gyfer-heddiw\/","title":{"rendered":"Siel-syfrdandod \u2013 Gwersi ar gyfer Heddiw"},"content":{"rendered":"<p>Ar 1 Tachwedd, i goff\u00e1u canmlwyddiant Brwydr y Somme, un o ddigwyddiadau diffiniol y Rhyfel Byd Cyntaf &#8211; siaradais mewn cyfarfod o Gymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg am fy ymchwil ar drawma seicolegol a brwydro straen. Mae canmlwyddiant y Rhyfel Mawr wedi&#8217;n hatgoffa ni sawl tro o&#8217;r dioddefaint enbyd yn y ffosydd a&#8217;r effaith arhosol a gafodd ar iechyd corfforol a meddyliol y milwyr. Ar fy nheithiau drwy gofnodion achosion meddygol y <a href=\"https:\/\/www.cambridge.org\/core\/journals\/medical-history\/article\/shell-shock-revisited-an-examination-of-the-case-records-of-the-national-hospital-in-london\/B6D0DAA82DA3FCD438709B6773BF8A93\">Rhyfel Byd Cyntaf yn yr Ysbyty Cenedlaethol ar gyfer y Rhai a Barlyswyd ac Epileptig<\/a> (yr Ysbyty Niwroleg a Niwrolawdriniaeth Cenedlaethol erbyn heddiw) ac Adran Seiciatrig Charit\u00e9 yn ninas Berlin, fe ddes i ar draws cannoedd o achosion o siel-syfrdandod, milwyr oedd wedi&#8217;u creithio&#8217;n seicolegol gan eu profiadau yn y rhyfel.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cofnodion achos yn cynnig darlun dirdynnol o brofiad y milwyr o ryfela yn y ffosydd, a&#8217;u blinder corfforol a meddyliol. \u00a0Maen nhw&#8217;n rhoi golwg i ni ar fyd sydd &#8211; ers i&#8217;r cyn-filwyr olaf o&#8217;r Rhyfel Byd Cyntaf farw &#8211; bellach yn anhygyrch i ni drwy&#8217;r cof. Roedd natur rhyfela diwydiannol modern &#8211; gyda&#8217;i arfau newydd, byddinoedd mwy o faint, cynnydd yn niferoedd y clwyfedig a natur anhysbys y brwydro &#8211; yn cynyddu&#8217;r pwysau ar y milwr unigol yn sylweddol. Roedd rhyfela statig neu mewn ffosydd, o&#8217;i gymharu \u00e2 rhyfela symudol, yn aml yn gorfodi&#8217;r milwr i aros yn yr un safle am ddyddiau &#8211; ambell waith prin yn gallu symud, gan y byddai&#8217;r symudiad lleiaf yn ei wneud yn darged rhwydd i saethwyr y gelyn. Canlyniad hyn oedd diflastod ac undonedd, goddefolrwydd a diffyg unrhyw beth i fynd \u00e2&#8217;u sylw; roedd y milwyr ar eu pen eu hunain gyda&#8217;u meddyliau a&#8217;u hofnau. Hefyd roedden nhw&#8217;n gweld dinistr, cyrff wedi&#8217;u malurio a chyrff marw; a sielio di-baid &#8211; ambell waith am oriau bwy gilydd, ddydd ar \u00f4l dydd. Roedd dynion a g\u00e2i eu hamlygu i straen fel hyn dan bwysau&#8217;n barhaus.<\/p>\n<p>Pan fyddai&#8217;r pwysau&#8217;n annioddefol &#8211; a allai ddigwydd ar \u00f4l digwyddiad arbennig o ysgytwol neu yn sgil effaith gronnol yr wythnosau a&#8217;r misoedd lawer yn y ffosydd &#8211; roedd llawer o filwyr yn methu ag ymdopi&#8217;n feddyliol a chawsant eu derbyn i orsafoedd clirio cleifion ac ysbytai maes. Amcangyfrifir bod dros 80,000 o filwyr Prydain wedi dioddef yn y fath fodd. Cafodd rhai &#8211; yr achosion mwyaf difrifol a pharhaus mae&#8217;n debyg &#8211; eu derbyn i ysbytai arbenigol ar \u00f4l dod adref.<\/p>\n<p>Roedd rhai o&#8217;r dynion oedd wedi&#8217;u derbyn i&#8217;r Ysbyty Cenedlaethol yn Queen Square wedi datblygu symptomau nodweddiadol siel-syfrdandod: parlys, ysgwyd, atal, byddardod a ffitiau. Roedd eraill, nad oedd modd iddyn nhw ddianc yn gorfforol rhag tanio&#8217;r gelyn, wedi dianc i fan meddyliol gwahanol, cyflwr rhwng cwsg ac effro oedd yn eu galluogi i gadw rhywfaint o bellter o&#8217;r byd allanol. Roedd tynnu&#8217;n \u00f4l dros dro fel hyn o erchyllterau&#8217;r rhyfel &#8211; y byddai seiciatryddion modern yn ei roi yn y categori diagnostig &#8216;cyflyrau datgysylltiol&#8217; &#8211; yn gwarchod yr unigolyn rhag cyflyrau emosiynol dwys fel ofn a diymadferthedd.<\/p>\n<p>Er bod rhai milwyr yn llithro i mewn ac allan o gyflyrau breuddwydiol, roedd eraill yn raddol yn colli pob cyswllt \u00e2\u2019r byd real, gan ddatblygu syniadau rhyfedd, ymddwyn mewn ffyrdd anarferol a chael profiadau nad oedd neb arall yn eu rhannu. Nid oedd y symptomau seicotig hyn yn strategaeth ymarferol, ymwybodol i oroesi neu ymdopi: yn hytrach roedden nhw&#8217;n llethu&#8217;r unigolyn, gyda byd amgen yn disodli realiti. Roedd rhai cyflyrau seicotig fel pe baent yn datrys problemau neu gyflawni dymuniadau dros dro, ac yn fodd i ddianc rhag sefyllfa bywyd oedd yn peri pryder. Cofnododd Karl Jaspers, y seiciatrydd a&#8217;r athronydd o&#8217;r Almaen, y ffenomen hon yn awdurdodol yn ei gyfrol ar Seicopatholeg Gyffredinol: &#8216;Drwy rithdybiau a rhithwelediadau mae ofnau, anghenion, gobeithion a dymuniadau&#8217;r unigolyn yn ymddangos yn fyw ac yn real. [&#8230;] Mae seicosis ymatebol yn gweithredu fel amddiffynfa, noddfa, dihangfa yn ogystal \u00e2 chyflawni dymuniadau. Mae&#8217;n deillio o wrthdaro gyda realiti sydd wedi mynd yn annioddefol.&#8217;<\/p>\n<p>Gallai rhai o&#8217;r profiadau seicotig hyn droi&#8217;n epidemig &#8211; gan ledaenu o un milwr i&#8217;r nesaf. Yr achos mwyaf enwog oedd Angylion Mons &#8211; cwmwl o ryfelwyr angylaidd a ymddangosodd yn Mons gan atal cyrch yr Almaen yn erbyn byddin Brydeinig lawer llai o faint &#8211; ond datblygodd llawer o straeon tebyg am ryfelwyr goruwchnaturiol, cestyll hudol a chymylau rhyfedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.<\/p>\n<p>Roedd y syniad bod profiadau trawmatig yn gallu ysgogi cyflyrau seicotig yn mynd yn erbyn syniadau seiciatrig traddodiadol: credid bod seicosis yn anhwylder cronig &#8211; yn anochel yn arwain at ddirywio deallusol lle byddai\u2019n rhaid aros mewn ysbyty meddwl am oes; ond eto i gyd gwellodd llawer o filwyr a ddatblygodd syniadau seicotig o fewn cyfnod byr.\u00a0 Mewn gwirionedd, mae canfyddiad y mwyafrif o bobl o seicosis wedi parhau&#8217;n eithaf monolithig tan y presennol: ceir normalrwydd meddyliol ar un ochr a gorffwylltra, yr ystyrir ei fod yn broblem gronig, ar y llall. Mae&#8217;r achosion o seicosis siel-syfrdandod, a&#8217;r modd trawiadol y gellir gwella ohono yn aml, yn adrodd stori wahanol: gall digwyddiadau bywyd ysgogi seicosis &#8211; ac er bod modd i&#8217;r salwch seicotig droi&#8217;n gronig, gall hefyd fod yn gyfyngedig i un episod byr.<\/p>\n<p>Dyma un o&#8217;r gwersi meddygol perthnasol o&#8217;r Rhyfel Byd Cyntaf, a gadarnhawyd gan waith epidemolegol diweddarach i&#8217;r hyn sy&#8217;n sbarduno seicosis a&#8217;r ffordd mae&#8217;n datblygu.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.helion.co.uk\/new-and-forthcoming-titles\/they-called-it-shell-shock-combat-stress-in-the-first-world-war.html\">Ceir gwersi diddorol eraill am y cysylltiadau rhwng straen a salwch meddwl<\/a>, ac roedd diddordeb arbennig gan aelodau Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg ynddynt:<\/p>\n<ul>\n<li>Ni ddatblygodd llawer o filwyr siel-syfrdandod wrth wasanaethu yn y ffrynt; yn wir, digwyddodd cryn dipyn o&#8217;r achosion pan oedd y milwyr ar wyliau neu cyn iddyn nhw gael eu hanfon i\u2019r rheng flaen. Sbardun arall nad oedd yn ymwneud yn uniongyrchol \u00e2 brwydro oedd anffyddlondeb priodasol. Yn yr holl achosion hyn yn ystod gwyliau gartref, roedd mynd i ysbyty siel-syfrdandod yn gallu achub bywydau, gan atal y milwr rhag dychwelyd i&#8217;r ffosydd.<\/li>\n<li>Datblygodd llawer o sifiliaid (gan gynnwys plant) symptomau siel-syfrdandod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Sbardunau cyffredin oedd cyrchoedd awyr, ffrwydradau mewn ffatr\u00efoedd arfau (e.e. yn Silvertown), ond hefyd m\u00e2n anawsterau fel cwympo neu anafiadau yn y gwaith.<\/li>\n<li>Ni anfonwyd y mwyafrif o&#8217;r milwyr a gafodd driniaeth feddygol am drawma seicolegol yn \u00f4l i&#8217;r llinell flaen. Casgliad y meddygon ym Mhrydain ac yn yr Almaen oedd na fyddai achosion o&#8217;r fath yn gallu gwrthsefyll straen gwasanaethu heb gael ail bwl ac felly argymhellwyd y dylid rhyddhau&#8217;r mwyafrif llethol o filwyr o&#8217;u dyletswyddau milwrol.<\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.kcl.ac.uk\/kcmhr\/publications\/assetfiles\/2013\/Linden2013a.pdf\">Roedd therap\u00efau seicolegol a ddatblygwyd ar gyfer symptomau siel-syfrdandod yn addawol<\/a>, o leiaf yn y tymor byr. Erbyn heddiw, mae hyd at draean o&#8217;r cleifion sy&#8217;n gweld eu meddyg teulu&#8217;n cwyno am symptomau nad oes esboniad meddygol iddynt, ac mae&#8217;r syndromau ymarferol hyn &#8211; gyda llawer yn debyg i&#8217;r rhai a ddatblygwyd gan filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf &#8211; fel arfer yn gronig ac yn anodd eu trin. Dyma un o brif heriau iechyd cyhoeddus ac economaidd-gymdeithasol ein hoes.<\/li>\n<li>Mae ymatebion \u00f4l-drawmatig yn ddibynnol ar ddiwylliant (roedd ffitiau yn fwy cyffredin ymhlith milwyr yr Almaen na milwyr Prydain); mae dibyniaeth ddiwylliannol ymatebion seicolegol i adfyd yn chwarae rhan gynyddol yn yr argyfwng dyngarol presennol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Pan ataliwyd cyrch y Cynghreiriaid ym mis Tachwedd 1916, roedd dros 1,000,000 o filwyr y Gymanwlad, Ffrainc a&#8217;r Almaen wedi&#8217;u clwyfo, eu dal neu eu lladd. Yng nghofnodion y cleifion yn ysbytai siel-syfrdandod Llundain a Berlin yn aml fe ddes i ar draws milwyr oedd wedi dioddef trawma yn yr un frwydr &#8211; ar ddwy ochr wahanol y rheng flaen. Roedd pob un wedi gweld dioddefaint anfesuradwy, ac wedi&#8217;u creithio&#8217;n seicolegol. Roedden nhw wedi dioddef yn yr epidemig o drawma oedd ar un pwynt yn bygwth cysgodi holl broblemau meddygol eraill y rhyfel. Mae&#8217;r hanesion unigol hyn yn datgelu&#8217;r cyflwr dynol, ymatebion sylfaenol pobl i ofn a cholled sy&#8217;n codi uwchlaw pob gwahaniaeth gwleidyddol ac ideolegol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ar 1 Tachwedd, i goff\u00e1u canmlwyddiant Brwydr y Somme, un o ddigwyddiadau diffiniol y Rhyfel Byd Cyntaf - siaradais mewn cyfarfod o Gymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg am fy ymchwil ar [&hellip;]","protected":false},"author":1068,"featured_media":853,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[32,33,30],"tags":[],"class_list":["post-854","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diagnosis-triniaethau-a-lles","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-dM","jetpack-related-posts":[{"id":321,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mental-health-united-we-stand-divided-we-fall-cymraeg\/","url_meta":{"origin":854,"position":0},"title":"Iechyd meddwl:  Mewn undeb y mae nerth","author":"Professor Michael Owen","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Dyw iechyd meddwl byth ymhell o\u2019r penawdau y dyddiau hyn, a dyna sut dylai fod. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae salwch meddwl yn effeithio ar bobl ar draws yr ystod oedran, o blant i'r henoed, ac mae\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1325,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymchwil-iechyd-meddwl-maer-dyfodol-yn-galw\/","url_meta":{"origin":854,"position":1},"title":"Ymchwil Iechyd meddwl &#8211; mae&#8217;r dyfodol yn galw","author":"Professor Jeremy Hall","date":"16 October 2017","format":false,"excerpt":"Afiechyd Meddwl - argyfwng cenedlaethol Mae afiechyd meddwl yn argyfwng cenedlaethol. Bob blwyddyn mae un ym mhob pedwar person yn y DU yn dioddef problem iechyd meddwl, sy'n cael effaith enfawr ar yr unigolyn, eu teulu a chymdeithas. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb salwch o'r gwaith,\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1370,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cyfweld-a-chyn-filwr\/","url_meta":{"origin":854,"position":2},"title":"Cyfweld \u00e2 Chyn-Filwr","author":"Kali Barawi","date":"10 November 2017","format":false,"excerpt":"Mae tua 4% o gyn-filwyr Prydain yn byw ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Therapi seicolegol sy\u2019n canolbwyntio ar y digwyddiad trawmatig yw\u2019r driniaeth a ffefrir ar gyfer PTSD, a gall fod yn fuddiol iawn, ond yn anffodus ceir cryn ymwrthedd i\u2019r driniaeth. Mae angen brys i ddod o hyd\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":946,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymrwymiad-or-newydd-ond-parhau-maer-anghydraddoldeb-ym-maes-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":854,"position":3},"title":"Ymrwymiad o&#8217;r newydd, ond parhau mae&#8217;r anghydraddoldeb ym maes iechyd meddwl","author":"Jemma Cole","date":"13 January 2017","format":false,"excerpt":"Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi ailddatgan un o ymrwymiadau ei rhagflaenydd David Cameron ei bod am wella gofal iechyd meddwl. Cafodd ei datganiad sylw rhwng penawdau'r BBC am nifer y cleifion seiciatrig sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys a'r nifer anghymesur o achosion lle ceir oedi cyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1573,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-amy-lynham-cydymaith-ymchwil-seicosis-ac-anhwylderau-affeithiol-mawr\/","url_meta":{"origin":854,"position":4},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Amy Lynham, Cydymaith Ymchwil, Seicosis ac Anhwylderau Affeithiol Mawr","author":"Amy Lynham","date":"20 September 2018","format":false,"excerpt":"\u00a0Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Astudiais seicoleg yn y Brifysgol am fy mod wedi fy nghyfareddu gan yr ymennydd ac ymddygiad dynol. Treuliais flwyddyn yn gweithio yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn rhan o leoliad proffesiynol, a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1864,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cyfnewid-gwybodaeth-trwy-leoliadau-nyrsio-iechyd-meddwl-dewisol-dramor\/","url_meta":{"origin":854,"position":5},"title":"Cyfnewid gwybodaeth trwy leoliadau nyrsio iechyd meddwl dewisol dramor","author":"Abigail Fisher","date":"31 July 2024","format":false,"excerpt":"Roedd cyfnewid gwybodaeth llwyddiannus ar gyfer ymarfer nyrsio iechyd meddwl, polisi, ymchwil ac addysg rhwng ein Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac Ardal Iechyd Lleol Canolbarth y Gogledd (De Cymru Newydd, Awstralia) yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth ymhellach trwy leoliadau myfyrwyr rhyngwladol. Seren Roberts (Uwch Ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl) Mae'r modelau\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/11\/angels-of-mons.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/854","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1068"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=854"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/854\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":855,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/854\/revisions\/855"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/853"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=854"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=854"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=854"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}