{"id":573,"date":"2016-07-14T07:25:34","date_gmt":"2016-07-14T07:25:34","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=573"},"modified":"2016-07-14T07:58:03","modified_gmt":"2016-07-14T07:58:03","slug":"beth-mae-niwrowyddoniaeth-wedi-ei-wneud-dros-seiciatreg-erioed","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/beth-mae-niwrowyddoniaeth-wedi-ei-wneud-dros-seiciatreg-erioed\/","title":{"rendered":"Beth mae niwrowyddoniaeth wedi ei wneud dros seiciatreg erioed?"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae gan seiciatreg broblem.<\/strong><br \/>\nRydw i wrth fy modd gyda fy mhroffesiwn, sef Seiciatreg, ond un o&#8217;r rhesymau pam wnes i ymuno \u00e2\u2019r gangen hynod ddiddorol hon o feddygaeth oedd oherwydd ei bod yn ymddangos yn amlwg i mi fod ganddi broblemau a fyddai&#8217;n newid yn ystod fy oes.  Beth, felly, yw&#8217;r broblem gyda Seiciatreg?   Wel, yn fy marn i, gellir deall y mater fel hyn.  Os byddwch chi\u2019n mynd at feddyg yn pesychu a gyda\u2019ch anadl yn brin, bydd y meddyg yn ymchwilio i&#8217;r symptomau hyn ar eich rhan.    Yn nodweddiadol, bydd y meddyg yn trafod eich symptomau gyda chi, yn gwrando ar eich brest, ac os ydi eich achos chi\u2019n ddigon drwg, yn trefnu pelydr-x, prawf gwaed a diwylliannau gwaed.  Yn y pen draw, bydd diagnosis penodol yn cael ei gyrraedd.  Gallai\u2019r diagnosis, o bosibl, fod yn un o niwmonia heintus, er enghraifft.   Ar sail y diagnosis, bydd triniaeth wedi ei theilwra yn cael ei rhoi i chi, ac fe fyddwch chi\u2019n gwella, yn \u00f4l pob tebyg.  <\/p>\n<p>Gadewch i ni gyferbynnu hyn \u00e2 sefyllfa Seiciatreg.  Os byddwch chi\u2019n mynd at feddyg gyda symptom fel iselder, bydd meddyg unwaith eto\u2019n siarad gyda chi ac yn nodi hanes manwl eich cyflwr.  Fodd bynnag, mae&#8217;n annhebygol iawn y gellir cynnal unrhyw brawf penodol sy&#8217;n llawn gwybodaeth, ac ar ddiwedd y broses bydd y meddyg yn dweud wrthych chi eich bod chi wedi cael diagnosis o iselder &#8211; sef, wedi&#8217;r cyfan, eich symptom cyn dod at y meddyg.   Efallai y cynigir triniaeth, naill ai drwy therapi seicolegol neu driniaeth \u00e2 chyffuriau, ond ni all y meddyg fod yn sicr y bydd yn trin eich iselder penodol, yn bennaf am nad yw ef neu hi\u2019n gwybod beth yw union achosion eich salwch.  A dyma\u2019r pwynt allweddol.  Seiciatreg yw&#8217;r gangen olaf o feddygaeth i symud o ddisgrifio pethau i ddeall eu hachosion, a nes byddwn ni\u2019n deall achosion y cyflyrau hyn, ni fyddwn yn gallu trin pobl yn well.   <\/p>\n<p>Y newyddion da, fodd bynnag, yw bod y newid hwn yn digwydd yn awr.  Rydym yn dechrau deall llawer mwy am yr hyn sy&#8217;n achosi problemau iechyd meddwl, a gallwn ddechrau meddwl am sut y gallwn eu trin yn well.   Credaf fod gan Niwrowyddoniaeth r\u00f4l bwysig i&#8217;w chwarae wrth i\u2019r newid hwn ddigwydd.  Fodd bynnag, cyn symud ymlaen i feddwl am yr hyn y gall Niwrowyddoniaeth ei wneud yn y dyfodol, efallai ei bod yn werth meddwl am yr hyn mae Niwrowyddoniaeth wedi ei wneud yn barod dros Seiciatreg.<\/p>\n<p><strong>Beth mae niwrowyddoniaeth wedi ei wneud dros seiciatreg?<\/strong><br \/>\nEfallai mai un o&#8217;r pethau pwysicaf a\u2019m denodd i at Seiciatreg yw&#8217;r ffaith fod gennym rai triniaethau ar gyfer y prif gyflyrau a welwn, fel iselder neu seicosis neu orbryder.  Cafodd llawer o&#8217;r triniaethau hyn eu darganfod ar hap &#8211; weithiau mewn ffyrdd rhyfedd a dirgel &#8211; fodd bynnag, mae Niwrowyddoniaeth wedi ein galluogi i ddeall y ffyrdd mae\u2019r triniaethau gwahanol hyn yn gweithio.  Mae hyn, yn ei dro, wedi dweud rhywbeth wrthym am achosion posibl cyflyrau fel iselder a sgitsoffrenia.  Er enghraifft, rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o&#8217;r meddyginiaethau gwrth-iselder mawr rydym yn eu defnyddio yn gweithio drwy effeithio ar system gemegol yn yr ymennydd sy&#8217;n ymwneud \u00e2 serotonin niwrodrosglwyddydd.  Yn yr un modd, mae cyffuriau trin sgitsoffrenia a symptomau seicotig yn tueddu i weithredu ar system yn ymwneud \u00e2 dopamin yn yr ymennydd.  Mae deall y systemau cemegol y mae\u2019r meddyginiaethau hyn yn gweithredu arnyn nhw wedi ein galluogi ni i ddylunio rhai fersiynau o\u2019r cyffuriau sy\u2019n cael eu goddef yn well ac, yn bwysig, i ragfynegi a monitro sgil effeithiau gwell.  Fodd bynnag, mae\u2019n siomedig nad yw Niwrowyddoniaeth wedi nodi llawer o driniaethau newydd ar gyfer y cyflyrau mawr a welwn mewn cleifion eto.<\/p>\n<p>Mae Niwrowyddoniaeth hefyd wedi dangos i ni, yn gwbl glir yn fy marn i, bod sail cyflyrau seiciatrig yn yr ymennydd.  Er na ellir gweld y rhan fwyaf o anhwylderau seiciatrig drwy ficrosgop, ac eithrio cyflyrau fel clefyd Alzheimer, mae sganio&#8217;r ymennydd wedi ein galluogi ni i weld bod gwahaniaethau cynnil yn ymennydd rhai sy&#8217;n dioddef o gyflyrau fel sgitsoffrenia o\u2019u cymharu \u00e2 rhai nad ydyn nhw\u2019n dioddef o\u2019r cyflyrau hynny.  Er bod hyn yn cael ei gymryd yn ganiataol yn aml yn awr, pan wnaed datblygiadau o&#8217;r fath am y tro cyntaf 40 mlynedd yn \u00f4l, fe wnaethon nhw newid canfyddiadau, o feddwl bod sgitsoffrenia wedi ei achosi gan fagu plant yn wael i sylweddoli ei fod yn gyflwr go iawn ar yr ymennydd.  Ers hynny, bu datblygiadau enfawr o ran sganio&#8217;r ymennydd, ond yn anffodus nid ydyn nhw wedi cael llawer o effaith ar ein hymarfer clinigol eto.  <\/p>\n<p>Efallai mai\u2019r un datblygiad mawr arall, pe bai\u2019n rhaid i mi ddewis dim ond un arall, fyddai ym maes geneteg seiciatryddol.   Rydym wedi gwybod ers tro bod llawer o gyflyrau seiciatrig yn tueddu i redeg mewn teuluoedd.  Fodd bynnag, er gwaethaf degawdau o waith ymchwil, bu&#8217;n anodd iawn nodi genynnau penodol sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chadarnhau hyn ar gyfer cyflyrau fel clefyd Alzheimer neu sgitsoffrenia.  Fodd bynnag, yn ddiweddar, mewn enghraifft galonogol o wyddonwyr yn gweithio gyda&#8217;i gilydd ac yn cydweithio o gwmpas y byd, mae astudiaethau mawr wedi cael eu rhoi at ei gilydd sydd wedi cynnwys digon o b\u0175er, wedi ei gyfuno \u00e2 thechnoleg newydd, i ddechrau dangos y ffactorau risg genetig sy&#8217;n cyfrannu at y risg o\u2019r cyflyrau hyn.  Mae hyn yn bwysig dros ben, gan fod geneteg yn ffordd benodol o gael rhywfaint o fewnwelediad i&#8217;r systemau biolegol lle gall newidiadau arwain at fod yn agored i niwed o ran problemau iechyd meddwl.   <\/p>\n<p><strong>Beth allai niwrowyddoniaeth ei wneud eto dros seiciatreg?  <\/strong><\/p>\n<p>Efallai mai\u2019r cyffro mwyaf yw yr hyn y gall Niwrowyddoniaeth ei gyfrannu at Seiciatreg eto.  Mae Technoleg wedi datblygu\u2019n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae astudiaethau yn bosibl yn awr nad oeddem byth yn meddwl y byddem yn gallu eu cynnal.   Ynghyd \u00e2&#8217;n dealltwriaeth o risg genetig ac, wrth gwrs, y risg a ddaw i ganlyn ffactorau amgylcheddol amrywiol fel straen, mae gennym yn awr yr arfau i ddeall lawer yn well beth sy&#8217;n digwydd yn yr ymennydd, a beth sy\u2019n achosi symptomau anhwylder meddyliol.   Er bod gormod o wahanol ddatblygiadau mewn Niwrowyddoniaeth i mi eu rhestru i gyd, gellid cyfeirio at un fel enghraifft.  Un o\u2019r anawsterau mawr wrth astudio anhwylderau&#8217;r ymennydd fel sgitsoffrenia, iselder neu glefyd Alzheimer yw nad oes gennym fynediad at feinwe&#8217;r ymennydd gan bobl sy&#8217;n byw gyda&#8217;r cyflwr.  Mae hyn yn cyferbynnu \u00e2 sefyllfa rhywbeth fel canser y croen neu anhwylder yr afu, lle gellir cymryd biopsi.  Drwy ddatblygiadau rhyfeddol mewn technoleg celloedd bonyn, fodd bynnag, rydym yn awr yn gallu cymryd samplau syml o groen neu wallt cleifion sydd \u00e2 chyflwr seiciatrig, a gallwn dyfu\u2019r rhain mewn dysgl mewn ffordd sy&#8217;n caniat\u00e1u i&#8217;r celloedd droi\u2019n niwronau neu gelloedd yr ymennydd.  Mae hyn yn golygu ein bod ni, am y tro cyntaf, yn gallu astudio celloedd ymennydd byw gan gleifion sydd \u00e2 chyflyrau seiciatrig.  Er mai dim ond yn ddiweddar mae\u2019r dechnoleg hon wedi dod ar gael, wrth iddi gael ei datblygu mae\u2019n ymddangos yn debygol yn barod y bydd yn gwneud cyfraniad mawr at ein gallu i ddeall y cyflyrau hyn.  O\u2019u cyfuno \u00e2 meysydd eraill o gynnydd technolegol, fel datblygiadau enfawr yn ein gallu i sganio ymennydd byw mewn bodau dynol i ddeall y ffordd mae gwahanol rannau\u2019r ymennydd yn rhyngweithio mewn iechyd ac afiechyd, rydw i\u2019n wirioneddol obeithiol y byddwn ni\u2019n gweld ton newydd o ddealltwriaeth a thriniaethau ar gyfer cyflyrau seiciatrig yn y degawdau i ddod.<\/p>\n<p><strong>Beth all niwrowyddoniaeth ei wneud dros hyfforddiant mewn seiciatreg?<\/strong><br \/>\nMae&#8217;r datblygiadau cyffrous hyn ym maes Niwrowyddoniaeth hefyd yn cynnig ffordd o ddenu pobl ifanc sydd \u00e2 diddordeb mewn Gwyddoniaeth at Seiciatreg a disgyblaethau cysylltiedig.  Yn America, Niwrowyddoniaeth yw un o\u2019r meysydd mwyaf poblogaidd ar gyfer ymchwil ymysg y graddedigion meddygol disgleiriaf erbyn hyn, ac yn sicr yma yng Nghaerdydd mae ein rhaglenni PhD Niwrowyddoniaeth yn hynod boblogaidd a mwy o lawer wedi ymgeisio am y cyrsiau na\u2019r llefydd sydd ar gael gennym ar eu cyfer.  Mae hyn yn golygu y gallwn ddod \u00e2 rhai o&#8217;r bobl ddisgleiriaf a gorau i faes Niwrowyddoniaeth, a rhai ohonyn nhw hefyd i faes Seiciatreg ac iechyd meddwl.  Mae\u2019r arbenigedd meddygol hwn wedi cael ei ystyried yn y gorffennol fel arbenigedd &#8216;Sinderela&#8217;, ond mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn.  Fel y dywedodd Tom Insel, sydd newydd ymddeol fel Cyfarwyddwr NIMH yn America, hwn yw\u2019r arbenigedd mae\u2019r hyfforddeion gorau yn mynd amdano.  Er bod y newid hwn wedi digwydd yn America, mae angen i ni gyfathrebu ar frys gymaint o gyffro sydd dros Niwrowyddoniaeth a&#8217;r posibiliadau ar gyfer deall a thrin anhwylderau&#8217;r ymennydd yn well i hyfforddeion yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal \u00e2 chyfrannu at sbarduno hyfforddiant seiciatrig yn y Deyrnas Unedig unwaith eto.   Un datblygiad cadarnhaol iawn fu\u2019r gefnogaeth yn ddiweddar gan Ymddiriedolaeth Wellcome a Sefydliad Gatsby i edrych ar sut gellir dod \u00e2 Niwrowyddoniaeth i mewn i hyfforddiant ar gyfer arbenigeddau meddygol a chysylltiedig.<\/p>\n<p><strong>Sut beth fydd seiciatreg yn y dyfodol?<\/strong><br \/>\nYn y cyfnod cyffrous hwn, mae&#8217;n werth oedi am funud i feddwl sut byddem yn dymuno i arfer seiciatrig edrych yn y dyfodol.  Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai conglfaen ein harfer fydd rhyngweithio rhwng meddygon a gweithwyr proffesiynol eraill y gwasanaeth iechyd a&#8217;u cleifion o hyd, yn seiliedig ar ymagwedd ofalgar ac empathig.  Hyn sy&#8217;n gwneud Seiciatreg yn arbenigedd gwerth chweil, a gall greu perthynas mor arbennig rhwng gofalwyr a&#8217;u cleifion.  Rwy\u2019n gwbl sicr hefyd y byddwn yn parhau i fod angen ystyried pobl sy&#8217;n dioddef o broblemau iechyd meddwl mewn ffordd wirioneddol gyfannol, gan feddwl nid yn unig am eu sefyllfa gorfforol ond hefyd eu lleoliadau cymdeithasol ac amgylcheddol.  Fodd bynnag, rwy\u2019n gobeithio y byddwn ni hefyd yn gallu defnyddio dulliau Niwrowyddoniaeth yn y dyfodol i ddeall yn well yr hyn sy&#8217;n achosi i unigolion fod yn agored i niwed ac mewn perygl o salwch drwy sganio&#8217;r ymennydd neu brofion moleciwlaidd i&#8217;n galluogi ni i dargedu ein triniaethau presennol a datblygu triniaethau newydd lawer yn well, o safbwynt seicolegol a ffarmacolegol. Pan fydd ein triniaethau yn seiliedig ar yr hyn sy&#8217;n achosi gwir symptomau seiciatrig, ac yn cael eu targedu yn erbyn hynny, byddwn wedi dechrau datrys problemau Seiciatreg.<\/p>\n<p><em>Mae&#8217;r Athro Jeremy Hall yn cael arian gan Ymddiriedolaeth Wellcome, y Cyngor Ymchwil Feddygol, yr UE, NRN, Astra Zeneca, Sefydliad Jane Hodge a Sefydliad Waterloo.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae gan seiciatreg broblem. Rydw i wrth fy modd gyda fy mhroffesiwn, sef Seiciatreg, ond un o'r rhesymau pam wnes i ymuno \u00e2\u2019r gangen hynod ddiddorol hon o feddygaeth oedd [&hellip;]","protected":false},"author":1061,"featured_media":578,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[32,30,31],"tags":[],"class_list":["post-573","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diagnosis-triniaethau-a-lles","category-iechyd-meddwl-oedolion","category-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-9f","jetpack-related-posts":[{"id":1573,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-amy-lynham-cydymaith-ymchwil-seicosis-ac-anhwylderau-affeithiol-mawr\/","url_meta":{"origin":573,"position":0},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Amy Lynham, Cydymaith Ymchwil, Seicosis ac Anhwylderau Affeithiol Mawr","author":"Amy Lynham","date":"20 September 2018","format":false,"excerpt":"\u00a0Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Astudiais seicoleg yn y Brifysgol am fy mod wedi fy nghyfareddu gan yr ymennydd ac ymddygiad dynol. Treuliais flwyddyn yn gweithio yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn rhan o leoliad proffesiynol, a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1629,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-dr-kathryn-peall-uwch-ddarlithydd-clinigol-sefydliad-ymchwil-y-niwrowyddorau-ac-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":573,"position":1},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2&#8217;r Ymchwilydd, Dr Kathryn Peall, Uwch-ddarlithydd Clinigol, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl","author":"Alison Tobin","date":"18 February 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Dechreuodd fy niddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl yn ystod fy PhD, pan oeddwn yn canolbwyntio ar symptomau iechyd meddwl mewn math penodol o anhwylder sy\u2019n amharu ar y gallu i symud. Heblaw am yr hyfforddiant seiciatreg yr oeddwn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1851,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/pam-rwyn-gweithio-ym-maes-ymchwil-iechyd-meddwl-chloe-apsey\/","url_meta":{"origin":573,"position":2},"title":"Pam rwy&#8217;n gweithio ym maes ymchwil iechyd meddwl &#8211; Chloe Apsey","author":"Alison Tobin","date":"1 July 2024","format":false,"excerpt":"Pam dewisoch chi wneud ymchwil i iechyd meddwl \/ gweithio ym maes ymchwil iechyd meddwl? Pan oeddwn i yn yr ysgol yn astudio ar gyfer fy nghymwysterau TGAU, penderfynais i fod gen i ddiddordeb mewn seicoleg a gyrfa ym maes iechyd meddwl. Dewisais i astudio Seicoleg, Bioleg a Llenyddiaeth Saesneg\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/06\/IMG_1021-Cardiff-University-FVFJ66R71WFV-copy-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/06\/IMG_1021-Cardiff-University-FVFJ66R71WFV-copy-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/06\/IMG_1021-Cardiff-University-FVFJ66R71WFV-copy-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/06\/IMG_1021-Cardiff-University-FVFJ66R71WFV-copy-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/06\/IMG_1021-Cardiff-University-FVFJ66R71WFV-copy-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/06\/IMG_1021-Cardiff-University-FVFJ66R71WFV-copy-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1688,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-syr-michael-owen\/","url_meta":{"origin":573,"position":3},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Yr Athro Syr Michael Owen","author":"Professor Michael Owen","date":"5 July 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Digwyddodd dri pheth i mi pan oeddwn yn fyfyriwr Meddygaeth a ddylanwadodd ar fy newis gyrfa.\u00a0 Yn gyntaf, sylwais yn ystod fy nghwrs BSc Ymsang fy mod i'n hoffi gwneud gwaith ymchwil; roeddwn yn mwynhau gwneud arbrofion a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":1033,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/canfyddiadau-o-salwch-meddwl-y-cyfryngau-ac-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":573,"position":4},"title":"Canfyddiadau o salwch meddwl: Y cyfryngau ac iechyd meddwl","author":"Rachel Pass","date":"21 February 2017","format":false,"excerpt":"Ymddangosodd hwn gyntaf ar thebraindomain.org Fyddech chi ddim yn beio rhywun sydd \u00e2 chanser y fron neu ffibrosis systig am eu clefyd, fyddech chi? Fe wyddom eu bod yn cael eu hachosi gan namau ar y mecanwaith biolegol. Gall dewisiadau bywyd gynyddu'r risg ond mae llai o stigma'n gysylltiedig \u00e2\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1682,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/jeremy-hall\/","url_meta":{"origin":573,"position":5},"title":"Jeremy Hall","author":"Professor Jeremy Hall","date":"10 June 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Dylanwadodd dau beth arnaf. Y peth cyntaf oedd diddordeb dwys yn yr ymennydd. Yr ail oedd yr angen amlwg am wella triniaethau ar gyfer pobl sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl. Hefyd, roeddwn yn sicr mai\u2019r maes meddygol hwn\u2026","rel":"","context":"In &quot;schizophrenia&quot;","block_context":{"text":"schizophrenia","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/schizophrenia-cy\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/Jeremy_Hall_200x200_new.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/Modern-examination-in-the-hospital-Edit.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/573","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1061"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=573"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/573\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":580,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/573\/revisions\/580"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/578"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=573"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=573"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=573"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}