{"id":556,"date":"2016-07-09T14:05:37","date_gmt":"2016-07-09T14:05:37","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=556"},"modified":"2016-07-11T09:27:57","modified_gmt":"2016-07-11T09:27:57","slug":"iechyd-meddwl-anableddau-dysgu-a-gofal-cymdeithasol-gwarchod-hawliau-dynol-yn-y-cyfnod-argyfyngus-o-doriadau-llym-sydd-ohoni","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/iechyd-meddwl-anableddau-dysgu-a-gofal-cymdeithasol-gwarchod-hawliau-dynol-yn-y-cyfnod-argyfyngus-o-doriadau-llym-sydd-ohoni\/","title":{"rendered":"Iechyd meddwl, anableddau dysgu a gofal cymdeithasol: gwarchod hawliau dynol yn y cyfnod argyfyngus o doriadau llym sydd ohoni"},"content":{"rendered":"<p>Trefnwyd y gynhadledd hon, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 24 Mehefin, ar y cyd rhwng y Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol a <a href=\"http:\/\/www.hafal.org\/\">Hafal<\/a>, prif elusen Cymru ar gyfer pobl \u00e2 salwch meddwl difrifol a&#8217;u gofalwyr.<\/p>\n<p>Y nod oedd dod \u00e2 defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, llunwyr polis\u00efau, ymarferwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, cyfreithwyr ac academyddion oll ynghyd i drafod yr amgylchedd presennol ar gyfer pobl sy&#8217;n ceisio cael cymorth gyda gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gyfraith yng Nghymru&#8217;n gwyro&#8217;n raddol oddi wrth y gyfraith yn Lloegr, ac mae galw cynyddol am gyfleoedd i rannu gwybodaeth a safbwyntiau ynghylch yr hawl i dderbyn cymorth a sut gellir arddel yr hawl honno. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 wedi trawsnewid cyfraith a pholisi.<\/p>\n<p>Sonnir yma am rai o&#8217;r materion a ddaeth i&#8217;r amlwg yn ystod y digwyddiad. Drannoeth i ganlyniad refferendwm yr UE oedd hi, felly roedd yr awyrgylch wrth i ni ddechrau braidd yn dawedog. Serch hynny, waeth beth a ddaw yn y dyfodol, bydd egwyddorion sylfaenol rhyngwladol confensiynau ar hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig ac Ewrop wrth wraidd y gyfraith yng Nghymru o hyd.<\/p>\n<p>Cadeiriwyd y gynhadledd gan Richard Jones, Athro er Anrhydedd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, ac awdur gweithiau ymarferol uchel eu hawdurdod, <a href=\"http:\/\/www.sweetandmaxwell.co.uk\/Catalogue\/ProductDetails.aspx?recordid=6475&amp;searchorigin=Mental+Health+Act+Manual&amp;productid=670951\">Llawlyfr y Ddeddf Iechyd Meddwl<\/a> a <a href=\"http:\/\/www.sweetandmaxwell.co.uk\/Catalogue\/ProductDetails.aspx?recordid=6752&amp;searchorigin=Mental+Capacity+Act+Manual&amp;productid=713315\">Llawlyfr y Ddeddf Galluedd Meddyliol<\/a>. Dechreuodd y digwyddiad drwy bwysleisio&#8217;r anawsterau sy&#8217;n wynebu gweithwyr proffesiynol a&#8217;r cyhoedd o ran cael gafael ar y gyfraith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan nad ydyw wedi&#8217;i chyhoeddi yn ei fformat cyfredol, dim ond ar gronfeydd data cyfreithiol drud. Croesawodd y cyfleoedd y byddai&#8217;r gynhadledd hon yn eu cynnig i ystyried yr hawl i gael gwasanaethau.<\/p>\n<p>Roedd y sesiwn gyntaf am y gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc. Mae&#8217;r pwnc hwn wedi cael cryn sylw cyhoeddus yn yr wythnosau diwethaf. Er enghraifft, daeth i&#8217;r amlwg yn yr <a href=\"https:\/\/www.centreformentalhealth.org.uk\/missed-opportunities\">adolygiad ymchwil &#8216;Cyfleoedd Wedi Eu Colli&#8217; gan y Ganolfan Iechyd Meddwl<\/a> fod plant yn aros deng mlynedd ar gyfartaledd rhwng dechrau cael anawsterau a chael triniaeth, ac na roddwyd cymorth o gwbl i dri chwarter y rhieni \u00e2&#8217;i geisiodd.<\/p>\n<p>Yn gynharach eleni, dywedodd Pwyllgor Seneddol yn Lloegr fod <a href=\"http:\/\/www.publications.parliament.uk\/pa\/cm201516\/cmselect\/cmeduc\/481\/48102.htm\">plant o dan ofal<\/a> yn cael eu trin yn arbennig o wael gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), er gwaethaf y cyfraddau uchel o anhwylder meddyliol yn y gr\u0175p hwnnw.<\/p>\n<p>Yng Nghymru, mae&#8217;r problemau hyn yn hysbys ac maent wedi arwain at sefydlu rhaglen <a href=\"http:\/\/www.goodpractice.wales\/t4cyp\">&#8216;Gyda&#8217;n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc&#8217; (T4CYP)<\/a>, rhaglen gwella gwasanaeth aml-asiantaeth sy&#8217;n gweithio ar ffyrdd o ail-lunio, ailfodelu ac ailffocysu gwasanaethau iechyd meddwl ac emosiynol a ddarperir ar gyfer plant a phobl ifanc.<\/p>\n<p>Roedd y siaradwyr a gymerodd ran yn y sesiwn yn cynnwys yr ymgyrchydd iechyd meddwl, Mair Elliott; Jane Williams o Brifysgol Abertawe; a Camilla Parker a Julie Doughty o Brifysgol Caerdydd. Mae Mair yn ymddiriedolwr ar gyfer <a href=\"http:\/\/www.hafal.org\/youngpeople\/\">Hafal<\/a> ac yn gyd-awdur yr <a href=\"http:\/\/www.hafal.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/A-report-by-young-people-on-their-well-being-and-mental-health.pdf\">adroddiad Gwneud Synnwyr<\/a>, sef ymateb gan bobl ifanc i Gyda&#8217;n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Mae wedi bod yn rhoi tystiolaeth ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ers 2012 yn nodi beth sydd angen ei wella yn y gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc.<\/p>\n<p>Tynnodd sylw at y gwariant cyfrannol isel ar y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, er mai yn ystod eu plentyndod mae problemau llawer o bobl yn dechrau, a&#8217;r diffyg data ar p&#8217;un ai yw byrddau iechyd lleol yn gwneud beth sy&#8217;n ofynnol ohonynt. Mae&#8217;r adroddiad <em>Gwneud Synnwyr<\/em> yn nodi mai gwraidd y broblem yw bod unigolion wedi cael eu cyfeirio fwy nag unwaith at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc rhwng 2010 a 2014, er nad y gwasanaethau arbenigol hynny sy&#8217;n addas i&#8217;r plant bob tro. Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>ehangu\/creu cymorth o ansawdd uchel a ddarperir gan weithwyr iechyd meddwl amhroffesiynol<\/li>\n<li>peidio \u00e2 rhoi gormod o feddyginiaeth wrth i blant dyfu<\/li>\n<li>ymgorffori deallusrwydd emosiynol a dulliau ymdopi iach yng nghwricwlwm yr ysgolion<\/li>\n<li>cyflwyno amserlen bendant ar gyfer cyfeirio ac adolygu arferion o fewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc<\/li>\n<li>aildrefnu&#8217;r cyfnod pontio i wasanaethau oedolion, er mwyn osgoi newid eithriadol mewn gwasanaeth i blant 18 oed<\/li>\n<li>cefnogi gofalwyr<\/li>\n<li>gwrando ar safbwyntiau pobl ifanc<\/li>\n<\/ul>\n<p>Eglurodd Jane Williams wedyn sut yr oedd <a href=\"http:\/\/www.swansea.ac.uk\/law\/wales-observatory\/\">Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol<\/a> wedi cyfrannu at adroddiad <em>Gwneud Synnwyr<\/em> drwy gysoni ei ganfyddiadau a&#8217;i gasgliadau \u00e2 chyfraith hawliau dynol. Cyflwynodd Julie Doughty nodyn hysbysu am gymorth i blant yng Nghymru sydd o dan ofal, neu sydd wedi bod o dan ofal. Cafwyd cipolwg gan Camilla Parker ar y sefyllfa yn Lloegr, lle mae arian newydd yn cael ei fuddsoddi mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc gan y Llywodraeth, er bod prinder difrifol o adnoddau o hyd.<\/p>\n<p>Roedd y sgwrs gyda&#8217;r gynulleidfa&#8217;n cynnwys trafodaeth am y cyfyng-gyngor a&#8217;r tensiynau rhwng ceisio cadw plentyn yn agos at y cartref, ond heb fod mewn ward oedolion. Rhoddodd Sian Richards, cynrychiolydd sy&#8217;n arwain Gyda&#8217;n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, ddiweddariad defnyddiol ar gynnydd y mudiad.<\/p>\n<p>Bu Alison Tarrant, ymchwilydd PhD yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth sydd \u00e2 diddordeb arbennig mewn byw&#8217;n annibynnol, yn cyflwyno modd o orfodi hawliau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn unol \u00e2 <a href=\"http:\/\/www.ccwales.org.uk\/the-act\/\">Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014<\/a>. Disgrifiodd y Ddeddf fel un &#8216;hynod o uchelgeisiol&#8217; wrth iddi osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo lles pobl sydd angen cymorth (yn oedolion neu&#8217;n blant) a&#8217;u gofalwyr. Tynnodd sylw arbennig at y prawf cymhwysedd pedwar-cam sydd wedi&#8217;i gyflwyno gan y Ddeddf. Nid yw&#8217;n glir o hyd sut y bydd hyn yn gweithio wrth asesu anghenion unigol.<\/p>\n<p>Bu Alun Thomas, Prif Weithredwr Hafal ac Andrea Gray, Rheolwr Deddfwriaeth Iechyd Meddwl gyda Llywodraeth Cymru, yn trafod goblygiadau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Cyflwynodd y Mesur yr hawl i bob defnyddiwr gwasanaeth iechyd meddwl gael <a href=\"http:\/\/www.hafal.org\/pdf\/Care_and_Treatment_Planning_1.pdf\">cynllun gofal a thriniaeth unigryw<\/a> ac ychwanegodd at eu hawliau i eiriolaeth. Yn \u00f4l ymchwil gan Hafal ac adolygiad gan y Llywodraeth, mae&#8217;r Mesur wedi dangos gwelliant, ond mae&#8217;n anodd cael cysondeb. Yn ystod trafodaeth gyda&#8217;r gynulleidfa, amlygwyd y problemau ymarferol sy&#8217;n codi o ganlyniad i oedi a&#8217;r ffaith fod gofal sylfaenol ac eilaidd mewn adrannau ar wah\u00e2n.<\/p>\n<p>Roedd y cyfraniad olaf gan yr Athro Phil Fennell am y fframwaith cyfreithiol cymhleth o amddifadu diogelu rhyddid (DoLS). Mae gweithdrefnau ffurfiol helaeth bellach yn ofynnol i unrhyw un sy&#8217;n byw mewn llety \u00e2 chymorth, lle maent o dan oruchwyliaeth barhaus ac nad ydynt yn rhydd i adael. Yn dilyn dyfarniad y llynedd gan y Goruchaf Lys, rhaid i drefniant o&#8217;r fath i amddifadu rhyddid unigolyn, gael ei gymeradwyo gan y Llys Gwarchod er mwyn iddo fod yn gyfreithlon. Mae diwygiadau&#8217;r gyfraith ar waith mewn adolygiad gan <a href=\"http:\/\/www.lawcom.gov.uk\/project\/mental-capacity-and-deprivation-of-liberty\/\">Gomisiwn y gyfraith.<\/a><\/p>\n<p>Yn y cyfamser, cyrhaeddodd y baich anghynaliadwy ar gyrff cyhoeddus yn ddiweddar ei benllanw wrth i&#8217;r barnwr sy&#8217;n gyfrifol am y Llys Gwarchod alw&#8217;r Arglwydd Ganghellor a&#8217;r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd <a href=\"http:\/\/www.communitycare.co.uk\/2016\/03\/10\/court-ruling-piles-pressure-government-release-funding-representation-deprivation-liberty-cases\/\">i egluro<\/a> pwy sy&#8217;n gyfrifol.<\/p>\n<p>Er nad oedd neb a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn meddwl bod yr heriau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 chynnig gwasanaethau amserol ac effeithiol ar gyfer oedolion a phlant yn yr hinsawdd economaidd bresennol am gilio, roedd digonedd o frwdfrydedd ac ymrwymiad yn y sgyrsiau am wella hygyrchedd y gwasanaeth cywir ar yr adeg iawn.<\/p>\n<p>(\u00d4l-sgript: Ychydig ddiwrnodau ar \u00f4l y gynhadledd, cyhoeddwyd <a href=\"http:\/\/gov.wales\/topics\/health\/nhswales\/mental-health-services\/code-of-practice\/?lang=en\">C\u00f4d Ymarfer newydd Deddf Iechyd Meddwl<\/a>, a chyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru <a href=\"http:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/06\/The-right-care.pdf\">adroddiad ar les plant mewn gofal preswyl<\/a>.)<\/p>\n<p>Dilynwch ni ar Twitter: <a href=\"http:\/\/www.twitter.com\/CHSCLaw\" target=\"_blank\">@CHSCLaw<\/a><\/p>\n<p><em>Julie Doughty, Darlithydd yn y Gyfraith, a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae&#8217;n cael nawdd gan NISCHR (Llywodraeth Cymru) a Sefydliad Nuffield.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Trefnwyd y gynhadledd hon, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 24 Mehefin, ar y cyd rhwng y Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl [&hellip;]","protected":false},"author":1066,"featured_media":559,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[32,33,30,31],"tags":[],"class_list":["post-556","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diagnosis-triniaethau-a-lles","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion","category-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-8Y","jetpack-related-posts":[{"id":461,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/deall-systemau-a-gwasanaethau-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":556,"position":0},"title":"Deall systemau a gwasanaethau iechyd meddwl","author":"Ben Hannigan","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Gan weithio ar y cyd \u00e2 chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau yn uniongyrchol, mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio systemau iechyd meddwl. Mae ein prosiectau\u2019n ymchwilio i drefniadaeth a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, y gwaith\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1670,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-fel-dewis-gyrfaol-ben-hannigan-nicola-evans\/","url_meta":{"origin":556,"position":1},"title":"Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol &#8211; Ben Hannigan &amp; Nicola Evans","author":"Alison Tobin","date":"29 April 2019","format":false,"excerpt":"Sut i ddisgrifio\u2019r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu\u2019n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion, ac sy\u2019n cynnwys rhoi gofal wyneb\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":946,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymrwymiad-or-newydd-ond-parhau-maer-anghydraddoldeb-ym-maes-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":556,"position":2},"title":"Ymrwymiad o&#8217;r newydd, ond parhau mae&#8217;r anghydraddoldeb ym maes iechyd meddwl","author":"Jemma Cole","date":"13 January 2017","format":false,"excerpt":"Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi ailddatgan un o ymrwymiadau ei rhagflaenydd David Cameron ei bod am wella gofal iechyd meddwl. Cafodd ei datganiad sylw rhwng penawdau'r BBC am nifer y cleifion seiciatrig sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys a'r nifer anghymesur o achosion lle ceir oedi cyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1701,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","url_meta":{"origin":556,"position":3},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan","author":"Ben Hannigan","date":"6 August 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":1339,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gwella-iechyd-meddwl-a-lles-plant-a-phobl-ifanc\/","url_meta":{"origin":556,"position":4},"title":"Gwella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc","author":"Dr Rhiannon Evans","date":"17 October 2017","format":false,"excerpt":"Dr Rhiannon Evans, Uwch-ddarlithydd, DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Michelle Hughes, Nyrs Arbenigol CAMHS, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Mae iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn parhau'n fater o bwysigrwydd mawr ym maes iechyd cyhoeddus. Mae llawer o broblemau'n ymddangos yn ystod glasoed, gyda 50%\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1810,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/a-yw-profiadau-o-arwahanrwydd-cymdeithasol-yn-effeithio-ar-iechyd-meddwl-pobl-ifanc\/","url_meta":{"origin":556,"position":5},"title":"A yw profiadau o arwahanrwydd cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc?","author":"Alison Tobin","date":"9 February 2024","format":false,"excerpt":"Sut mae cael eich ynysu oddi wrth bobl ifanc eraill yn berthnasol i broblemau iechyd meddwl? Yn y blog hwn, mae Dr Katherine Thompson, cydymaith ymchwil \u00f4l-ddoethurol sy\u2019n ymchwilio i fodelau ystadegol i ragweld iselder ym Mhrifysgol Purdue yn yr Unol Daleithiau, yn trafod ei hymchwil PhD yn y maes\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl plant a'r glasoed&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl plant a'r glasoed","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed\/"},"img":{"alt_text":"Sad and contemplative young woman by a window.","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/556","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1066"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=556"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/556\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":557,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/556\/revisions\/557"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/559"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=556"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=556"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=556"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}