{"id":461,"date":"2016-06-06T09:02:51","date_gmt":"2016-06-06T09:02:51","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=461&#038;lang=cy"},"modified":"2016-06-06T11:44:49","modified_gmt":"2016-06-06T11:44:49","slug":"deall-systemau-a-gwasanaethau-iechyd-meddwl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/deall-systemau-a-gwasanaethau-iechyd-meddwl\/","title":{"rendered":"Deall systemau a gwasanaethau iechyd meddwl"},"content":{"rendered":"<p>Gan weithio ar y cyd \u00e2 chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau yn uniongyrchol, mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio systemau iechyd meddwl.<!--more--><\/p>\n<p>Mae ein prosiectau\u2019n ymchwilio i drefniadaeth a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, y gwaith mae gweithwyr proffesiynol ac eraill yn ei wneud, a phrofiadau a barn pobl sy&#8217;n byw gydag anawsterau iechyd meddwl. Mae&#8217;r gwaith ymchwil hwn yn aml yn cynnwys defnyddio dulliau ansoddol manwl (megis cyfweliadau lled-strwythuredig, hir), naill ai ar eu pen eu hunain neu wedi\u2019u cyfuno \u00e2 dulliau meintiol (megis holiaduron). Yn sail i&#8217;r rhaglen ymchwil hon mae\u2019r syniad bod angen deall gwasanaethau yn gyntaf os yw llunwyr polisi, rheolwyr ac ymarferwyr i\u2019w gwella. <\/p>\n<p><strong>Pam mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn gymhleth?<\/strong><\/p>\n<p>Man cychwyn ar gyfer ymchwil o&#8217;r math hwn yw\u2019r sylw bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn gymhleth. Mae hynny\u2019n wir am nifer o resymau:<br \/>\nYn aml rhennir cyfrifoldebau o ran gofal a thriniaeth rhwng gwahanol sefydliadau: byrddau ac ymddiriedolaethau GIG, awdurdodau lleol, elusennau, darparwyr sector preifat. Gall hyn gymhlethu\u2019r ddarpariaeth integredig.<\/p>\n<p>Yn nodweddiadol gwneir gwaith gofalu wyneb yn wyneb (yn enwedig ar gyfer pobl \u00e2 chyflyrau hirdymor) gan bobl o amrywiaeth o grwpiau galwedigaethol: meddygon, nyrsys, gweithwyr proffesiynol cysylltiedig \u00e2 iechyd, gweithwyr cymdeithasol, staff cymorth a staff  parabroffesiynol. O fewn ac ar draws pob un o&#8217;r grwpiau hyn mae gan yr aelodau gyfuniadau amrywiol o wybodaeth a sgiliau, sy\u2019n cyfrannu at raniad llafur cymhleth ac yn creu cyfleoedd i wahaniaethau ddod i&#8217;r amlwg yng nghyswllt nodau darparu\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n<p>Gwneir gwaith hefyd gan bobl nad ydynt yn cael eu talu am eu gwaith. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys rhai sy&#8217;n byw gyda salwch, ynghyd ag aelodau o\u2019u teuluoedd a gofalwyr lleyg.  Maent yn cael eu cynnwys yn y gwaith pryd bynnag y cynhelir trafodaethau gydag ymarferwyr cyflogedig ynghylch pa driniaethau a therap\u00efau y dylid eu dilyn, a phryd bynnag y maent yn chwarae rhan weithredol mewn cynlluniau gofal.<\/p>\n<p><strong>Y system iechyd meddwl<\/strong><\/p>\n<p>Mae system iechyd meddwl y Deyrnas Unedig wedi esblygu dros ddegawdau lawer, ac mae\u2019n gymhleth yn yr union ffyrdd a ddisgrifir uchod. Am flynyddoedd lawer roedd gofal iechyd meddwl trefnedig yn golygu gofal mewn ysbytai seiciatrig mawr yn ddieithriad. Adeiladwyd nifer fawr o&#8217;r rhain o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, a phan oeddent ar eu hanterth roedd miloedd lawer o gleifion mewnol ynddynt.  Mae ysbyty&#8217;r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yn enghraifft dda o hyn. Agorodd yr ysbyty hon yn 1908, a hyd nes iddi gau i gleifion mewnol yng ngwanwyn 2016 roedd yn ganolog i\u2019r gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl prifddinas Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r hyn a fu gynt yn system gwbl seiliedig ar ysbytai wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth. Y dyddiau hyn, darperir gofal drwy rwydweithiau o wasanaethau a staff mewn lleoliadau cymunedol ac ysbytai, ac mae\u2019r elfennau cymunedol yn dod yn fwyfwy amlwg o hyd.  <\/p>\n<p>Mae polis\u00efau penodol sy\u2019n gyrru gofal iechyd meddwl yn y gymuned wedi bod ar waith ers o leiaf y 1960au cynnar, a rhai tirnodau cynnar oedd Cynllun Ysbytai 1962 a Phapur Gwyn Better Services for the Mentally Ill yn 1975. Daeth timau iechyd meddwl cymunedol rhyngbroffesiynol, oedd yn cyfuno\u2019r ymarferwyr oedd yn diwallu anghenion pobl oddi mewn i ardaloedd diffiniedig, yn fodel amlycaf ar gyfer trefnu gofal a thriniaeth arbenigol o ganol y 1970au ymlaen. Am gyfnodau hir yn ail hanner yr ugeinfed ganrif nid oedd y system iechyd meddwl  yn flaenoriaeth ar gyfer sylw polisi a gwella gwasanaeth, ac ni lwyddodd i ddenu\u2019r adnoddau angenrheidiol i gefnogi\u2019r newid hanesyddol tuag at ofal yn y gymuned yn llawn.<\/p>\n<p>Dechreuodd y diffyg sylw cymharol hwn newid yng nghanol y 1990au, a symudodd y system iechyd meddwl o\u2019r diwedd yn nes at ganol y llwyfan.  Mewn ymateb i feirniadaeth ynghylch tangyllido a thanberfformiad, sefydlwyd mathau newydd o dimau cymunedol.  Enghreifftiau pwysig o hyn oedd gwasanaethau sy&#8217;n darparu atebion mewn argyfwng a thriniaeth gartref ar gyfer pobl a allasai gael eu derbyn i\u2019r ysbyty fel arall, ynghyd \u00e2 gwasanaethau ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl sy&#8217;n dioddef pwl cyntaf o salwch meddwl mawr ac allgymorth grymusol ar gyfer pobl \u00e2 phroblemau tymor hir sy\u2019n achosi anabledd.<\/p>\n<p>Cr\u00ebwyd rolau newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol, a buddsoddwyd mewn gwasanaethau newydd seiliedig ar ofal sylfaenol ac ymyriadau ar gyfer pobl oedd yn dioddef o iselder, pryder a phroblemau iechyd meddwl eraill cyffredin.<\/p>\n<p>Mewn cyfnod o ddatganoli, dechreuodd gwasanaethau iechyd meddwl ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig ymffurfio mewn gwahanol ffyrdd.  Yng Nghymru (ond dim ond yma) pasiwyd deddf oedd yn cyflwyno mandad ar gyfer gofal iechyd meddwl sylfaenol, ynghyd \u00e2 chydgysylltu gofal statudol a chynllunio gofal a thriniaeth i bobl sy&#8217;n derbyn gofal iechyd meddwl eilaidd. Yn fwyaf diweddar oll, mae gwasanaethau\u2019n wynebu cael eu had-drefnu mewn cyfnod o gyni, ac mae tystiolaeth yn dod i\u2019r amlwg bod buddsoddiadau hir ddisgwyliedig yn Lloegr yn cael eu tynnu&#8217;n \u00f4l a bod gwasanaethau\u2019n crebachu.<\/p>\n<p><strong>Ymchwilio i\u2019r system iechyd meddwl<\/strong><\/p>\n<p>Mae ymchwil i systemau iechyd meddwl yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn digwydd yn erbyn y cefndir cyffredinol hwn o gymhlethdod a newid. Bu astudiaethau yn y gorffennol yn ymchwilio i waith a rolau ymarferwyr cymunedol, a\u2019r siwrneiau astrus a ddilynwyd gan bobl sy&#8217;n byw gydag anawsterau iechyd meddwl wrth iddynt groesi o ofal sylfaenol i ofal eilaidd ac o\u2019r cartref i\u2019r ysbyty, ac wrth iddynt symud o un math o wasanaeth arbenigol i un arall.<\/p>\n<p>Mae prosiectau wedi defnyddio ymchwil weithredol i gyflwyno brysbennu yn fodd i reoli\u2019r galw am wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn y gymuned.  Mae prosiectau mwy diweddar a pharhaus (sy&#8217;n cynnwys gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Dinas Llundain, Prifysgol Manceinion, yn y GIG ac \u00e2 phobl sydd \u00e2 phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl) yn ymchwilio i\u2019r risgiau llai amlwg i bobl ifanc mewn ysbyty iechyd meddwl, cynllunio gofal a cydgysylltu gofal mewn gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol ac mewn ysbytai a dulliau gofal cymdeithasol ag ymdrin ag adferiad wedi salwch meddwl.<\/p>\n<p>Ein nod yw darparu gwybodaeth newydd ddefnyddiol sy\u2019n gwneud gwahaniaeth, ac y gellir troi ati i lywio penderfyniadau ynghylch sut mae cynllunio, trefnu a chyflwyno gwasanaethau.  Edrychwch ar y blog hwn yn gyson i weld newyddion yn y dyfodol ynghylch ymchwil yn y meysydd hyn a meysydd eraill cysylltiedig.<\/p>\n<p>Mae Dr Ben Hannigan yn Ddarllenydd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae\u2019n blogio yn <a href=\"https:\/\/benhannigan.com\/\">benhannigan.com<\/a> ac yn trydar ar <a href=\"http:\/\/twitter.com\/benhannigan\">@benhannigan<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gan weithio ar y cyd \u00e2 chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau yn uniongyrchol, mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol [&hellip;]","protected":false},"author":1037,"featured_media":444,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[33,30],"tags":[],"class_list":["post-461","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-7r","jetpack-related-posts":[{"id":1701,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","url_meta":{"origin":461,"position":0},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan","author":"Ben Hannigan","date":"6 August 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":1670,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-fel-dewis-gyrfaol-ben-hannigan-nicola-evans\/","url_meta":{"origin":461,"position":1},"title":"Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol &#8211; Ben Hannigan &amp; Nicola Evans","author":"Alison Tobin","date":"29 April 2019","format":false,"excerpt":"Sut i ddisgrifio\u2019r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu\u2019n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion, ac sy\u2019n cynnwys rhoi gofal wyneb\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1833,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gofal-iechyd-corfforol-mewn-lleoliadau-iechyd-meddwl-sut-y-gall-cyfnewid-gwybodaeth-daflu-goleuni-ar-gyfleoedd-i-wella-polisiau-ymarfer-addysg-ac-ymchwil\/","url_meta":{"origin":461,"position":2},"title":"Gofal iechyd corfforol mewn lleoliadau iechyd meddwl: sut y gall cyfnewid gwybodaeth daflu goleuni ar gyfleoedd i wella polis\u00efau, ymarfer, addysg ac ymchwil","author":"Dr Seren Roberts","date":"30 April 2024","format":false,"excerpt":"Seren Roberts \u00a0Penny Jones\u00a0Allyson Wilson\u00a0\u00a0 Mae iechyd corfforol pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn waeth na'r boblogaeth yn gyffredinol, a disgwylir y bydd hyd eu hoes rhwng 13 a 30 mlynedd yn fyrrach. Mae'r anghyfartaledd iechyd hwn yn hysbys iawn. Mae llawer o bolis\u00efau iechyd ledled y byd yn ceisio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":766,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/menywod-yn-debygol-o-gael-anhwylderau-iechyd-meddwl-cyffredin\/","url_meta":{"origin":461,"position":3},"title":"Menywod yn debygol o gael anhwylderau iechyd meddwl cyffredin","author":"Dr Nicola Evans","date":"10 October 2016","format":false,"excerpt":"Fel nyrs iechyd meddwl sy'n teimlo'n gryf ynghylch iechyd a lles pobl ifanc, trist iawn oedd darllen am y perygl cynyddol i fenywod ifanc yn \u00f4l Arolwg Morbidrwydd Seiciatrig 2014 Iechyd Meddwl a Lles yn Lloegr. Dyma'r pedwerydd Arolwg Morbidrwydd Seiciatrig Oedolion (APMS) sydd wedi'i gynnal i weld faint o\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Young-women-at-risk.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Young-women-at-risk.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Young-women-at-risk.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Young-women-at-risk.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":1356,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-ym-mhalestina\/","url_meta":{"origin":461,"position":4},"title":"Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhalestina","author":"Dr Mohammad Marie","date":"30 October 2017","format":false,"excerpt":"Mohammad Marie \u00a0-\u00a0 nyrs iechyd meddwl academaidd ym Mhrifysgol An-Najah Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn amrywio o un wlad i'r llall. Mae hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys rhai'n gysylltiedig \u00e2 diwylliant, gwleidyddiaeth ac adnoddau. Yn achos Palestina, gyda'i hanes o wrthdaro, nid yw gwasanaethau iechyd meddwl\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":556,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/iechyd-meddwl-anableddau-dysgu-a-gofal-cymdeithasol-gwarchod-hawliau-dynol-yn-y-cyfnod-argyfyngus-o-doriadau-llym-sydd-ohoni\/","url_meta":{"origin":461,"position":5},"title":"Iechyd meddwl, anableddau dysgu a gofal cymdeithasol: gwarchod hawliau dynol yn y cyfnod argyfyngus o doriadau llym sydd ohoni","author":"Julie Doughty","date":"9 July 2016","format":false,"excerpt":"Trefnwyd y gynhadledd hon, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 24 Mehefin, ar y cyd rhwng y Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl \u00e2 salwch meddwl difrifol a'u gofalwyr. Y nod oedd dod \u00e2 defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, llunwyr polis\u00efau, ymarferwyr ym maes\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/461","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1037"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=461"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/461\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":463,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/461\/revisions\/463"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/444"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=461"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=461"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=461"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}