{"id":396,"date":"2016-06-06T09:00:30","date_gmt":"2016-06-06T09:00:30","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=396&#038;lang=cy"},"modified":"2016-06-06T13:10:00","modified_gmt":"2016-06-06T13:10:00","slug":"healthy-people-can-hear-voices-too-cy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/healthy-people-can-hear-voices-too-cy\/","title":{"rendered":"Mae pobl Iach yn gallu clywed lleisiau hefyd"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r rhan fwyaf ohonom wedi dod ar draws ambell berson ar y stryd yn mwmial wrthynt eu hunain, fel pe baent yn cael sgwrs gyda rhywun arall.<!--more--> Maent yn aml yn ymddangos fel petaent wedi llwyr ymgolli yn eu cymdeithion anweledig, ac eto rywsut wedi drysu neu hyd yn oed mewn trallod ar adegau.<\/p>\n<p>Beth fyddai eich ymateb chi petawn i\u2019n dweud wrthych mai\u2019r rheswm mwyaf tebygol am eu hymddygiad di-ddal yw eu bod yn clywed lleisiau, neu fel y dywedai gweithwyr meddygol proffesiynol, yn profi rhithweledigaethau clyweledol?<\/p>\n<p>Ni fyddai\u2019r mwyafrif ohonom yn petruso cyn galw unigolion o\u2019r fath yn \u2018wallgof\u2019.<\/p>\n<p>Efallai bod y rhai ohonom sy&#8217;n osgoi eu golygon ac yn eu hystyried yn rhyfedd, neu hyd yn oed yn beryglus, yn credu hynny am resymau da. Go brin bod unrhyw beth yn diffinio gwallgofrwydd yn well na chlywed lleisiau. Does dim yn erydu ein hymdeimlad ohonom ein hunain yn fwy sylfaenol na cholli cysylltiad \u00e2 realiti.<\/p>\n<p>Yn naturiol, yr ydym yn ofni\u2019r &#8216;bobl wallgof hynny&#8217; sydd wedi colli cysylltiad \u00e2 realiti, gan eu bod yn ein hatgoffa\u2019n barhaus y gallai hynny &#8211; ni waeth pa mor annhebygol yr ymddengys \u2013 ddigwydd i ninnau ryw ddiwrnod.<\/p>\n<p>Beth petawn i\u2019n dweud wrthych chi fod pobl normal yn gallu clywed lleisiau hefyd? A beth fyddai eich ymateb petawn i\u2019n dweud wrthych chi nad oes rhaniad clir rhyngom \u2018ni bobl normal\u2019 a \u2018nhw\u2019?<\/p>\n<p>Wrth gwrs, nid wyf yn gwadu\u2019r ffaith y gall clywed lleisiau achosi trallod mawr ac achosi pob math o broblemau ym mywyd pob dydd rhywun. Mae gan lawer o bobl sy&#8217;n gweld rhithweledigaethau afiechyd seicotig y gellir rhoi diagnosis yn ei gylch, ond mae llawer mwy o bobl nad oes angen unrhyw fath o ofal seiciatrig arnynt &#8211; ond sy\u2019n clywed lleisiau\u2019n barhaus.<\/p>\n<p>Mae fy ymchwil PhD yn canolbwyntio ar &#8216;gyflwr meddyliol peryglus&#8217; seicosis, y cyfnod tyngedfennol cyn datblygu salwch seicotig megis sgitsoffrenia, a nodweddir yn aml gan newidiadau cynnil ym meddyliau a chanfyddiadau rhywun.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, nid dyma\u2019r stori lawn o bell ffordd. Ni fydd mwyafrif (dros 60%) yr unigolion sydd \u00e2\u2019r ffactorau risg hyn byth yn datblygu seicosis llawn, a dyma\u2019r bobl sydd wedi ceisio cymorth gan y gwasanaethau seiciatrig. Mewn gwirionedd, o\u2019u cymharu \u00e2 phawb a gafodd brofiadau anarferol, y rhai sy\u2019n cael diagnosis yn y pen draw yw\u2019r lleiafrif.<\/p>\n<p>Yr wyf hefyd yn aelod o\u2019r Consortiwm Rhyngwladol ar Ymchwil Rhithweledigaethau (ICHR); ynghyd \u00e2 chydweithwyr o&#8217;r prosiect &#8216;Hearing the Voice&#8217; ym Mhrifysgol Durham a llawer o rai eraill ledled y byd, rydym wedi cyhoeddi cyfres o bapurau Mynediad Agored ar rhithweledigaethau. Teitl un ohonynt yw \u2018Auditory Verbal Hallucinations in Persons with and without a Need for Care\u2019.<\/p>\n<p>Cafwyd mai\u2019r ffactorau pwysicaf oedd yn gwahaniaethu rhwng yr unigolion sydd angen mewnbwn seiciatrig a\u2019r rhai nad oes angen hynny arnynt, yn hytrach na phresenoldeb y lleisiau eu hunain, yw faint o drallod mae\u2019r lleisiau\u2019n ei achosi (sydd fel arfer yn gysylltiedig \u00e2 lefel uchel o negyddiaeth emosiynol yng nghynnwys y lleisiau) a faint o reolaeth sydd gan yr unigolyn arnynt.<\/p>\n<p>Ni ddylai fod yn wrthreddfol na fyddech yn ymdopi\u2019n dda iawn pe na bai gennych lawer iawn o reolaeth, os o gwbl, ar y lleisiau sy\u2019n eich poeni\u2019n barhaus. Yn wir, pan fyddwn ni\u2019n meddwl am \u2018bobl wallgof\u2019, at yr achosion hyn yr ydym ni\u2019n cyfeirio, nid y bobl \u2018normal\u2019 sy\u2019n bwrw ymlaen \u00e2&#8217;u bywydau.<\/p>\n<p>Mewn geiriau eraill, mae tuedd i\u2019r ddelwedd a\u2019r gynrychiolaeth a roddir i &#8216;glywed lleisiau&#8217;. Pan na fyddwn ni\u2019n deall rhywbeth, mae llawer ohonom naill ai\u2019n rhamanteiddio neu\u2019n stigmateiddio\u2019r ffenomena dan sylw.<\/p>\n<p>Nid yw clywed lleisiau yn eithriad i hyn. Mae pobl yn ofni gofyn am gymorth pan fydd hyn yn mynd yn broblem oherwydd bod pobl yn ofni\u2019r rhai sy&#8217;n gofyn am gymorth. Ymddengys bod y portread o\u2019r \u2018rhai \u00e2 salwch meddwl\u2019 a geir yn y cyfryngau torfol yn eu cyfleu naill ai ar ffurf athrylith gwallgof neu lofrudd seicotig.<\/p>\n<p>Ni roddir unrhyw gydnabyddiaeth i\u2019r tir canol \u2013 y rhai sy&#8217;n clywed lleisiau a hefyd yn bwrw ymlaen \u00e2\u2019u bywydau\u2019n llwyddiannus \u2013 oherwydd nad oes &#8216;cyffro&#8217; ynghlwm wrth glywed lleisiau a bod yn iach.<\/p>\n<p>Ym mlwyddyn gyntaf fy PhD, fe gyflawnais amrywiol orchwylion gwybyddol ynghylch dysgu a\u2019r cof mewn dros gant o unigolion iach sy\u2019n bobl hynod ddeallus ac yn gweithredu\u2019n eithriadol o lwyddiannus. Roeddent yn cynnwys myfyrwyr israddedig ac \u00f4l-raddedig yn ogystal ag aelodau iau o staff ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Ac eto, adroddodd bron pob un ohonynt eu bod hefyd wedi cael lefelau amrywiol o brofiadau anarferol, weithiau\u2019n aml. Yn amlwg nid yw hyn yn golygu bod pawb ohonynt yn \u2018wallgof\u2019.<\/p>\n<p>Yn wir, petai pawb ohonom sy\u2019n clywed lleisiau yn cael ein labelu\u2019n wallgof, fyddai dim llawer o bobl normal ar \u00f4l yn ein plith. Mae\u2019n wir y bydd cyfran ohonynt yn mynd ymlaen i brofi problemau iechyd meddwl. Ond mater o ystadegau&#8217;n unig yw hynny, a thebygolrwydd yr ydym i gyd yn agored iddo.<\/p>\n<p>Hyd yn oed ymhlith pobl sydd \u00e2 risg uchel genetig neu amgylcheddol o ddatblygu seicosis (megis y rhai sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig difrifol), nid oes ffactor unigol sy\u2019n rhagfynegi salwch yn y dyfodol yn gwbl gywir. Yn sicr, nid yw clywed lleisiau yn ffactor o\u2019r fath.<\/p>\n<p>Felly beth am y rhai sy&#8217;n clywed lleisiau\u2019n lladd arnynt yn ddi-baid, gan reoli eu bywyd cyfan? Rhai sydd ddim yn ymateb i driniaeth? On\u2019d oes rhaid eu bod nhw\u2019n wallgof?!<\/p>\n<p>I mi, mae labelu rhywun sydd ag angen amlwg am help seiciatrig yn \u2018wallgof\u2019 fel galw rhywun sydd \u00e2\u00a0chanser angheuol yn \u2018fethiant o ran amlder celloedd&#8217;. Mae\u2019n swnio\u2019n hurt, on\u2019d yw e? Nid y symptom sy\u2019n diffinio\u2019r unigolyn sy\u2019n dioddef. Yn union fel y mae gan bob un ohonom fecanweithiau amlder celloedd, mae gan bob un ohonom hefyd y potensial i &#8216;fynd yn wallgof&#8217;.<\/p>\n<p>Nid codi bwganod yr wyf fi, ond nid wyf chwaith yn cynnig gobeithion ac addewidion di-sail. Yn union fel mae rhai pobl yn marw o ganser, nid yw eraill byth yn ymadfer yn llawn wedi seicosis. Ond nid yw hynny\u2019n golygu y dylem ni eu trin yn wahanol o gwbl.<\/p>\n<p>Y tro nesaf y byddwch chi\u2019n clywed rhywun yn galw eich enw, dim ond i ganfod nad oes neb yno wedi i chi droi &#8211; beth am ystyried: ydych chi wedi croesi\u2019r ffin rhwng &#8216;normalrwydd&#8217; a &#8216;gwallgofrwydd&#8217;? Efallai dylai pawb ohonom feddwl ddwywaith cyn tynnu\u2019r llinell honno.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae\u2019r rhan fwyaf ohonom wedi dod ar draws ambell berson ar y stryd yn mwmial wrthynt eu hunain, fel pe baent yn cael sgwrs gyda rhywun arall. Maent yn aml [&hellip;]","protected":false},"author":1030,"featured_media":406,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[32,30],"tags":[],"class_list":["post-396","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diagnosis-triniaethau-a-lles","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-6o","jetpack-related-posts":[{"id":1660,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gweithio-mewn-uned-cyfeirio-disgyblion-jodie-gornall\/","url_meta":{"origin":396,"position":0},"title":"Gweithio mewn Uned Cyfeirio Disgyblion \u2013 Jodie Gornall","author":"Alison Tobin","date":"8 March 2019","format":false,"excerpt":"Gan fod gen i ddiddordeb ers tro mewn iechyd meddwl a helpu pobl eraill, roeddwn i\u2019n chwilio am swydd fyddai\u2019n cynnig amrywiaeth i mi sydd y tu hwnt i\u2019m cefndir yn y diwydiant gofal. Gwelais hysbyseb am Gynorthwy-ydd Addysgu Anghenion Addysgol Arbennig (SENTA) drwy asiantaeth. Roedd hyn yn gyfle i\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/03\/GettyImages-955987824.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/03\/GettyImages-955987824.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/03\/GettyImages-955987824.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/03\/GettyImages-955987824.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/03\/GettyImages-955987824.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/03\/GettyImages-955987824.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1487,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ailystyried-ac-ehangur-astudiaeth-enetig-fwyaf-o-sgitsoffrenia\/","url_meta":{"origin":396,"position":1},"title":"Ailystyried ac ehangu\u2019r astudiaeth enetig fwyaf o sgitsoffrenia","author":"Antonio Pardinas","date":"27 February 2018","format":false,"excerpt":"Yn ei stori fer \u2018Teigrod Gleision\u2019, mae\u2019r ysgrifennwr Archentaidd Jorge Luis Borges yn trafod ceisio deall yr annisgwyl. Wrth olrhain y teigr chwedlonol mewn man anghysbell yn Nelta\u2019r Ganges, daw athro o hyd i gerrig gleision tywynnol ynghudd mewn agen. Er nad hwynt-hwy oedd nod ei daith, mae\u2019n cymryd dyrnaid\u2026","rel":"","context":"In &quot;schizophrenia&quot;","block_context":{"text":"schizophrenia","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/schizophrenia-cy\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/puzzle-2500333_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/puzzle-2500333_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/puzzle-2500333_1920.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/puzzle-2500333_1920.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/puzzle-2500333_1920.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/puzzle-2500333_1920.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1424,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cyfryngau-cymdeithasol-ac-iechyd-meddwl-2\/","url_meta":{"origin":396,"position":2},"title":"Cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl","author":"Emma Williams","date":"13 December 2017","format":false,"excerpt":"Yn ddi-os, mae\u2019r cyfryngau cymdeithasol wedi newid y ffordd y mae\u2019r gymdeithas ac unigolion yn cyfathrebu a rhannu gwybodaeth. Bellach, mae\u2019n rhan annatod o fywydau llawer o bobl, yn enwedig y rheiny rhwng 16-30 oed. Bu i Daisy Ridley, a ddaeth yn enwog yn sydyn fel Rey yn y ffilmiau\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1141,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/straen-ym-mlynyddoedd-cynnar-eich-bywyd-yr-effaith-ar-salwch-meddwl\/","url_meta":{"origin":396,"position":3},"title":"Straen ym mlynyddoedd cynnar eich bywyd &#8211; yr effaith ar salwch meddwl","author":"Anna Moon","date":"25 April 2017","format":false,"excerpt":"Rydych chi o dan fygythiad. Mae eich ymennydd yn ymateb ar unwaith. Fel rhedwr ar ddechrau ras, mae'n deffro fel pe bai'r bygythiad gan saethiad gwn. Yr hypothalamws sy'n dechrau'r gwaith, gan anfon cemegau at y chwarren bit\u1e85idol. Mae'r hormonau o'r chwarren bit\u1e85idol yn llifo i ail chwarren, sef y\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":1591,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-y-byd\/","url_meta":{"origin":396,"position":4},"title":"Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd!","author":"Sam Hibbitts","date":"14 November 2018","format":false,"excerpt":"Roedd yn bleser mawr cadeirio sesiwn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ym Mhrifysgol Caerdydd ar 10 Hydref 2018. Cawson ni gyfraniad anhygoel gan y staff a myfyrwyr gyda gr\u0175p amrywiol o dros 60 o gyfranogwyr. Llofnododd Caerdydd adduned 'Amser i Newid' sy'n ceisio herio sut rydym yn meddwl ac yn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":573,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/beth-mae-niwrowyddoniaeth-wedi-ei-wneud-dros-seiciatreg-erioed\/","url_meta":{"origin":396,"position":5},"title":"Beth mae niwrowyddoniaeth wedi ei wneud dros seiciatreg erioed?","author":"Professor Jeremy Hall","date":"14 July 2016","format":false,"excerpt":"Mae gan seiciatreg broblem. Rydw i wrth fy modd gyda fy mhroffesiwn, sef Seiciatreg, ond un o'r rhesymau pam wnes i ymuno \u00e2\u2019r gangen hynod ddiddorol hon o feddygaeth oedd oherwydd ei bod yn ymddangos yn amlwg i mi fod ganddi broblemau a fyddai'n newid yn ystod fy oes. Beth,\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/Modern-examination-in-the-hospital-Edit.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/Modern-examination-in-the-hospital-Edit.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/Modern-examination-in-the-hospital-Edit.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/Modern-examination-in-the-hospital-Edit.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/Modern-examination-in-the-hospital-Edit.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/Modern-examination-in-the-hospital-Edit.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/04\/iStock_000016353737_Medium.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/396","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1030"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=396"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/396\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":468,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/396\/revisions\/468"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/406"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=396"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=396"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=396"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}