{"id":1890,"date":"2024-08-20T10:38:49","date_gmt":"2024-08-20T10:38:49","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1890"},"modified":"2024-08-20T14:28:31","modified_gmt":"2024-08-20T14:28:31","slug":"grym-creu-ar-y-cyd-profiad-bywyd-wrth-gynnal-ymchwil","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/grym-creu-ar-y-cyd-profiad-bywyd-wrth-gynnal-ymchwil\/","title":{"rendered":"Grym creu ar y cyd &#8211; profiad bywyd wrth gynnal ymchwil"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn y blog hwn mae Emma Meilak, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd yng Nghanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a Sami Gichki, un o aelodau Gr\u0175p Cynghori Pobl Ifanc Canolfan Wolfson, yn rhannu eu barn ar bwysigrwydd cynnwys pobl \u00e2 phrofiad bywyd o gyflyrau iechyd meddwl yn rhan o waith ymchwil.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Emma<br \/>\n<\/strong>Ein gweledigaeth yng <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\">Nghanolfan Wolfson<\/a> yw cynnal ymchwil rhyngddisgyblaethol o safon sy\u2019n gwella bywydau pobl ifanc. Mae cynnwys y cyhoedd yn rhan annatod o&#8217;n hymchwil, a&#8217;n nod yw rhoi arbenigedd profiad bywyd pobl ifanc wrth wraidd ein gwaith.<\/p>\n<p>Ein cenhadaeth yw creu cymuned o gyfranwyr y mae eu harbenigedd yn llywio, yn cefnogi ac yn sail i waith y Ganolfan. Mae&#8217;r gymuned hon yn ein llywio ar y cwestiynau ymchwil sy&#8217;n bwysig i bobl ifanc, ac yn ein cynghori ar sut mae ymchwil yn cael ei chynnal a&#8217;i chyfathrebu.<\/p>\n<p>Ein nod yw:<\/p>\n<ol>\n<li>Gwrando ar bobl sydd \u00e2 phrofiad bywyd yn rhan o\u2019n gwaith hymchwil a&#8217;n strategaeth, ei integreiddio a\u2019i werthfawrogi<\/li>\n<li>Creu cymuned o gyfranwyr i sicrhau cydberthnasau tymor hir<\/li>\n<li>Hyfforddi&#8217;r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr iechyd meddwl am bwysigrwydd cynnwys y cyhoedd<\/li>\n<li>Llunio glasbrint arfer gorau ar gyfer cynnwys pobl ifanc yn rhan o ymchwil<\/li>\n<\/ol>\n<p>Yn ganolog i&#8217;n cenhadaeth i gynnwys y cyhoedd mae ein Gr\u0175p Cynghori Pobl Ifanc. Cafodd y gr\u0175p ei greu yn 2021 ac mae\u2019n cynnwys pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sydd \u00e2 phrofiad bywyd o anawsterau iechyd meddwl. Rydyn ni\u2019n cwrdd unwaith y mis i drafod prosiectau ymchwil, cael hyfforddiant a chreu cynnwys ar y cyd i gefnogi gweithgareddau a digwyddiadau ymgysylltu\u2019r Ganolfan.\u00a0 Mae\u2019r gr\u0175p yn weithgar mewn sawl maes o waith y Ganolfan : maen nhw\u2019n mynegi eu barn ar geisiadau grant cyn eu cyflwyno, yn cwrdd ag ymchwilwyr i drafod sut i fynd ati o ran prosiectau, yn cyd-gyflwyno yn ein Hysgol Haf flynyddol ac yn creu blogiau a chynnwys yn rheolaidd i ni eu defnyddio mewn digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau eraill. Er enghraifft, fe wnaeth y cynghorwyr greu ymgyrch ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ar y cyd \u00e2\u2019n swyddog cyfathrebu ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.<\/p>\n<p>Un o gonglfeini\u2019r ffordd rydyn ni\u2019n mynd ati yw meithrin cydberthynas gyda\u2019n pobl ifanc sy\u2019n gweithio\u2019r ddwy ffordd, gan geisio adborth yn aml ar y cyfleoedd a\u2019r profiadau y bydden nhw am i ni eu cynnig iddyn nhw. Mae cwmpas y rhain yn eang ac maen nhw wedi cynnwys teithiau i Gaeredin i roi cyflwyniadau mewn cynadleddau, mynediad at uwch staff academaidd i gael cyngor ar yrfaoedd, ac ysgrifennu geirdaon ar gyfer ceisiadau am swyddi.<\/p>\n<p>Wedi dweud hynny, rhoi cyngor ar <em>sut <\/em>yn union rydyn ni\u2019n cynnal ein hymchwil yw bara menyn gweithgaredd y Gr\u0175p Cynghori Pobl Ifanc. Maen nhw wedi bod yn allweddol wrth arwain datblygiad ein treial clinigol flaenllaw newydd <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/take-part\/ws3-clinical-trial\">Sgiliau er Lles y Glasoed<\/a> (SWELL)\u00a0 astudiaeth sy&#8217;n canolbwyntio ar ddiogelu pobl ifanc rhag iselder. Rydyn ni wedi ymgynghori \u00e2&#8217;r gr\u0175p droeon, gan gyfrannu at ddyluniad yr astudiaeth a&#8217;r adnoddau i&#8217;w defnyddio yn rhan o sesiynau therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gr\u0175p yn rhoi eu barn ar sut rydyn ni\u2019n cynnal ein hymchwil &#8211; ond maen nhw hefyd wrthi&#8217;n gosod yr agenda ar gyfer yr hyn rydyn ni\u2019n ei wneud yma yn y Ganolfan. Yn ystod un o\u2019n trafodaethau cynharaf, cafodd stigma iechyd meddwl ei chodi\u2019n thema allweddol bwysig i\u2019n pobl ifanc.\u00a0 O ystyried arwyddoc\u00e2d y mater hwn i\u2019n hymgynghorwyr, fe wnaethon ni newid pwyslais ein cyfarfod Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu i drafod hyn yn fanwl ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys clinigwyr y GIG a phartneriaid y trydydd sector, yn ogystal \u00e2 Chomisiynydd Plant Cymru a chynghorwyr o Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Dros y tair blynedd diwethaf, rwyf wedi cael fy syfrdanu\u2019n rheolaidd gan angerdd ein pobl ifanc ynghylch lleisio\u2019u barn ym maes ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc. Maen nhw eisiau cyfrannu&#8217;n uniongyrchol at sut mae ein hymchwil yn cael ei dylunio, ei chynnal a&#8217;i lledaenu &#8211; fel y bydd Sami, aelod o&#8217;r Gr\u0175p Cynghori Pobl Ifanc, yn esbonio nesaf.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Sami<\/strong><\/p>\n<p><strong>Creu ar y cyd<\/strong>: dyma ffordd o gynnwys lleisiau\u2019r rheiny a ddylai fod yn elwa o waith ymchwil ym mhob cam o\u2019r broses. Mae hyn er mwyn ei gwneud yn fwy cynhwysol a sicrhau ei bod wedi\u2019i thargedu at eu blaenoriaethau <em>nhw<\/em>, rhywbeth a all fynd ar goll yn hawdd ar ochr glinigol y gwaith.<\/p>\n<p>Yng Nghanolfan Wolfson, mae&#8217;r cysyniad o greu ar y cyd yn cael ei wireddu mewn ffordd hyfryd. Pobl ifanc yn gweithio gydag ymchwilwyr, gan adeiladu&#8217;n gyson ar ymchwil ac hefyd yn ei herio lle bynnag y bo angen. Proses sy&#8217;n helpu i greu&#8217;r hyn sy&#8217;n gweithio i lawer o bobl.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Gr\u0175p Cynghori Pobl Ifanc yn cynghori ar lawer o brosiectau gwahanol. Rydyn ni\u2019n rhannu ein profiad bywyd ein hunain yn uniongyrchol \u00e2\u2019r ymchwilwyr, gan ddweud: \u201cdydy hyn ddim yn gynhwysol \u2013 byddai hyn yn gweithio\u2019n well\u201d. Rydyn ni\u2019n helpu i wneud i\u2019r ymchwil ganolbwyntio ar y gwahanol heriau y mae pobl ifanc fel ni wedi\u2019u hwynebu wrth gael mynediad at gymorth iechyd meddwl yn ein bywydau.<\/p>\n<p>Er mor bwysig yw&#8217;r materion hyn o safbwynt ymchwil, maen nhw\u2019r un mor bwysig i ni fel pobl ifanc. Mae\u2019n rhywle diogel a llawn gobaith, lle rydyn ni\u2019n rhydd i siarad am ein brwydrau, ac rydyn ni bob amser yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnon ni i wneud hyn.<\/p>\n<p>Meithrin cysylltiad a pherthynas rhwng aelodau\u2019r gr\u0175p a\u2019r Ganolfan sy\u2019n creu\u2019r mannau diogel hyn i ni fod yn agored. Alla i ddim gor-ddweud pa mor bwysig yw\u2019r angen am gysylltiadau dynol a&#8217;r budd o gwrdd \u00e2&#8217;n gilydd wyneb yn wyneb. Dyma le mae&#8217;r gwir harddwch &#8211; wrth greu diwylliant lle rydyn ni\u2019n ymddiried yn ein gilydd, yn garedig i\u2019n gilydd, ac yn gwerthfawrogi ein gilydd.<\/p>\n<figure id=\"post-1895 media-1895\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/9e0e314a-11b3-47cb-b8dd-e7fb964ab766-rotated.jpg\" alt=\"\" width=\"289\" height=\"217\" \/><\/figure>\n<p><em>Lluniau o gyfarfod wyneb yn wyneb diweddar lle nododd y bobl ifanc eu syniadau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol. Fe wnaethon nhw hefyd ddefnyddio lluniau wedi\u2019u tynnu \u00e2 llaw i ddathlu&#8217;r sgiliau y mae pob aelod yn eu cyfrannu i\u2019r gr\u0175p. <\/em><\/p>\n<p>Mae\u2019n gallu bod yn anodd creu lle fel hyn, er bod natur y ffordd y caiff y gr\u0175p cynghori ei drin yn gyfartal \u00e2\u2019r ymchwilwyr yn ei gwneud yn haws! Rydyn ni\u2019n cael ein hannog i ddysgu ond hefyd i addysgu yn yr un modd. Addysgu gan ddefnyddio&#8217;r wybodaeth rydyn ni wedi&#8217;i hennill trwy brofiad bywyd. I wneud pethau hyd yn oed yn fwy cyfartal, rydyn ni hefyd yn cael iawndal am ein hamser a&#8217;n harbenigedd.<\/p>\n<p>Wrth gloi, gallai strwythur gr\u0175p Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc gael ei ddefnyddio\u2019n lasbrint ar gyfer sut y gallai creu ar y cyd gael ei wreiddio\u2019n rhan o waith ymchwil. Gwneud rhywbeth cyson sy&#8217;n rhoi gwell sgiliau i bobl ifanc, tra&#8217;n gwneud profiad bywyd yn flaenoriaeth heb gymryd mantais ohono.<\/p>\n<p><strong>Emma : <\/strong>Mae\u2019r wybodaeth y mae ein pobl ifanc wedi\u2019i rhannu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gwneud ein hymchwil yn fwy perthnasol, wedi helpu i ddiffinio\u2019r hyn sy\u2019n dderbyniol i\u2019r rheiny sy\u2019n cymryd rhan, ac wedi gwella\u2019r profiad o gymryd rhan mewn gwaith ymchwil. Mae wedi bod yn fraint enfawr i mi weithio gyda nhw a dod i&#8217;w hadnabod.<\/p>\n<p>Dysgwch ragor am Ganolfan Wolfson a&#8217;i gwaith gyda phobl ifanc ar <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/wolfson-centre-for-young-peoples-mental-health\/ourwork\/publicinvolvement\">ein gwefan<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn mae Emma Meilak, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd yng Nghanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a Sami Gichki, un o aelodau Gr\u0175p Cynghori Pobl Ifanc Canolfan [&hellip;]","protected":false},"author":7097,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30],"tags":[],"class_list":["post-1890","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-uu","jetpack-related-posts":[{"id":1670,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-fel-dewis-gyrfaol-ben-hannigan-nicola-evans\/","url_meta":{"origin":1890,"position":0},"title":"Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol &#8211; Ben Hannigan &amp; Nicola Evans","author":"Alison Tobin","date":"29 April 2019","format":false,"excerpt":"Sut i ddisgrifio\u2019r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu\u2019n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion, ac sy\u2019n cynnwys rhoi gofal wyneb\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1573,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-amy-lynham-cydymaith-ymchwil-seicosis-ac-anhwylderau-affeithiol-mawr\/","url_meta":{"origin":1890,"position":1},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Amy Lynham, Cydymaith Ymchwil, Seicosis ac Anhwylderau Affeithiol Mawr","author":"Amy Lynham","date":"20 September 2018","format":false,"excerpt":"\u00a0Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Astudiais seicoleg yn y Brifysgol am fy mod wedi fy nghyfareddu gan yr ymennydd ac ymddygiad dynol. Treuliais flwyddyn yn gweithio yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn rhan o leoliad proffesiynol, a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1882,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/anniddigrwydd-mewn-pobl-ifanc-a-chyflyrau-genetig-prin\/","url_meta":{"origin":1890,"position":2},"title":"Anniddigrwydd mewn pobl ifanc \u00e2 chyflyrau genetig prin","author":"Jessica Hall","date":"4 September 2024","format":false,"excerpt":"Cafodd y blog hwn ei gyhoeddi\u2019n wreiddiol ar Gymuned Ymchwil Springer Nature: mae modd ei ddarllen yma \u201cRwy\u2019n poeni y byddan nhw\u2019n cael eu labelu fel plentyn drwg, anodd, neu hyd yn oed annymunol\u201d. Dyma farn roeddwn i wedi\u2019i chlywed o\u2019r blaen wrth gynnal cyfweliadau ymchwil gyda rhieni plant \u00e2\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1810,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/a-yw-profiadau-o-arwahanrwydd-cymdeithasol-yn-effeithio-ar-iechyd-meddwl-pobl-ifanc\/","url_meta":{"origin":1890,"position":3},"title":"A yw profiadau o arwahanrwydd cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc?","author":"Alison Tobin","date":"9 February 2024","format":false,"excerpt":"Sut mae cael eich ynysu oddi wrth bobl ifanc eraill yn berthnasol i broblemau iechyd meddwl? Yn y blog hwn, mae Dr Katherine Thompson, cydymaith ymchwil \u00f4l-ddoethurol sy\u2019n ymchwilio i fodelau ystadegol i ragweld iselder ym Mhrifysgol Purdue yn yr Unol Daleithiau, yn trafod ei hymchwil PhD yn y maes\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl plant a'r glasoed&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl plant a'r glasoed","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed\/"},"img":{"alt_text":"Sad and contemplative young woman by a window.","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1794,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/defnyddio-dull-ysgol-gyfan-ar-gyfer-iechyd-meddwl-yng-nghymru\/","url_meta":{"origin":1890,"position":4},"title":"Defnyddio dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru &#8211; Zoe Haslam,Dr Rachel Brown","author":"Zoe Haslam","date":"21 September 2023","format":false,"excerpt":"Mae nifer cynyddol o genhedloedd yn eirioli dros ddull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith yn amlinellu eu model ar gyfer ymgorffori\u2019r dull hwn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Mae ein hymchwil yn ceisio archwilio sut mae polisi o'r fath\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":461,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/deall-systemau-a-gwasanaethau-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1890,"position":5},"title":"Deall systemau a gwasanaethau iechyd meddwl","author":"Ben Hannigan","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Gan weithio ar y cyd \u00e2 chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau yn uniongyrchol, mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio systemau iechyd meddwl. Mae ein prosiectau\u2019n ymchwilio i drefniadaeth a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, y gwaith\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1890","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7097"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1890"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1890\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1904,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1890\/revisions\/1904"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1890"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1890"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1890"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}