{"id":1882,"date":"2024-09-04T14:14:40","date_gmt":"2024-09-04T14:14:40","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1882"},"modified":"2024-09-04T14:14:40","modified_gmt":"2024-09-04T14:14:40","slug":"anniddigrwydd-mewn-pobl-ifanc-a-chyflyrau-genetig-prin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/anniddigrwydd-mewn-pobl-ifanc-a-chyflyrau-genetig-prin\/","title":{"rendered":"Anniddigrwydd mewn pobl ifanc \u00e2 chyflyrau genetig prin"},"content":{"rendered":"<p><strong>Cafodd y blog hwn ei gyhoeddi\u2019n wreiddiol ar Gymuned Ymchwil Springer Nature: <\/strong><a href=\"https:\/\/communities.springernature.com\/posts\/irritability-in-young-people-with-rare-genetic-conditions\"><strong>mae modd ei ddarllen yma<\/strong><\/a><\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n poeni y byddan nhw\u2019n cael eu labelu fel plentyn drwg, anodd, neu hyd yn oed annymunol\u201d. Dyma farn roeddwn i wedi\u2019i chlywed o\u2019r blaen wrth gynnal cyfweliadau ymchwil gyda rhieni plant \u00e2 chyflwr genetig prin, yn aml mewn perthynas ag ymddygiadau anniddig yr oedd eu plant yn eu harddangos.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n meddwl tybed a yw anniddigrwydd yn her gyffredin i deuluoedd plant \u00e2 chyflyrau genetig prin, ac os felly, beth yw effaith hyn ar blant a phobl ifanc? Arweiniodd hyn at ddatblygu ymchwil newydd a oedd \u00e2\u2019r nod o ddeall anniddigrwydd mewn plant \u00e2 chyflyrau genetig prin, yn enwedig amrywiolion efelychu rhif sy\u2019n gysylltiedig ag anhwylderau niwroddatblygiadol.<\/p>\n<p>Felly, beth yw amrywiolyn efelychu rhif? Llyfryn canllaw yw DNA sy&#8217;n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer creu a chynnal bywyd. Mae DNA yn cael ei storio mewn cromosomau, y mae gan fodau dynol 23 p\u00e2r ohonyn nhw. Mae amrywiolyn efelychu rhif, neu &#8216;CNV&#8217;, yn newid genetig. Gall CNVau ddigwydd pan fydd rhan fawr o gromosom naill ai&#8217;n cael ei dileu neu ei dyblygu, sy&#8217;n golygu y gallen ni fod \u00e2 dim digon neu ormod o DNA. Bydd gan y rhan fwyaf o bobl CNV o ryw fath, ond mae&#8217;r rhan fwyaf yn ddiniwed. Fodd bynnag, os yw&#8217;r CNV yn digwydd mewn safle penodol ar y cromosom, gall effeithio ar ein datblygiad neu iechyd corfforol. Yn wir, rydyn ni\u2019n gwybod o waith ymchwil fod yna ystod o CNVau sy&#8217;n effeithio ar ddatblygiad plant, ac rydyn ni\u2019n galw&#8217;r rhain yn CNVau niwroddatblygiadol, neu \u2018ND-CNVau\u2019.\u201d<\/p>\n<p>Mae anniddigrwydd yn gyflwr emosiynol cyffredin lle mae person yn teimlo ei fod yn digio neu\u2019n gofidio\u2019n hawdd. Efallai ein bod ni\u2019n gyfarwydd \u00e2&#8217;r syniad o strancio ymysg plant bach, ac er na fydden ni eisiau ystyried emosiynau beunyddiol yn broblematig, gall ymddygiad anniddig sy&#8217;n anarferol i oedran plentyn fod yn heriol i deuluoedd. Yn glinigol, gall plentyn gael ei ystyried yn anniddig os yw&#8217;n mynd yn grac yn amlach ac yn gyflymach na&#8217;i ffrindiau o&#8217;r un oedran. Mae anniddigrwydd yn rheswm cyffredin dros atgyfeirio plant at wasanaethau iechyd meddwl plant a\u2019r glasoed, ac mae\u2019n nodwedd allweddol o lawer o gyflyrau niwroddatblygiadol a seiciatrig. Er bod llawer o waith wedi&#8217;i wneud i ddeall anniddigrwydd, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael i blant ag ND-CNVau.<\/p>\n<p>Nod yr astudiaeth hon oedd deall a yw plant ag ND-CNVau yn fwy anniddig na&#8217;u cyfoedion. Mae\u2019r uwch awdur yr Athro Marianne van den Bree wedi datblygu un o\u2019r carfannau ymchwil mwyaf yn y byd o unigolion sydd \u00e2 chyflyrau genetig niwroddatblygiadol. Yn rhan o\u2019r astudiaeth hon roedden ni wedi cyfweld \u00e2 rhieni 485 o blant \u00e2 CNV, a 164 o frodyr a chwiorydd heb unrhyw gyflwr genetig hysbys. Cafodd y rhieni eu holi\u2019n fanwl am deimladau ac ymddygiadau eu plentyn mewn cyfweliad a elwir yr Asesiad Seiciatrig Plant a\u2019r Glasoed (CAPA). Fe wnaethon ni hefyd ofyn i\u2019r plant gwblhau tasgau gan gynnwys prawf deallusrwydd, neu IQ, o&#8217;r enw Graddfa Deallusrwydd Dalfyredig Weschler (WASI). Fe wnaethon ni gymharu canlyniadau gan blant a oedd yn hysbys i ni eu bod nhw ag ND-CNV, \u00e2 gr\u0175p o frodyr a chwiorydd nad oedd \u00e2 chyflwr genetig. Fe wnaeth ein hymchwil ddangos fod plant ag ND-CNV bron 4 gwaith yn fwy tebygol o fod yn anniddig, o gymharu \u00e2&#8217;u brodyr a&#8217;u chwiorydd.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, roedd yn rhaid i ni holi ein hunain ynghylch pam y gallai hyn fod. Roedden ni eisoes yn gwybod bod plant ag ND-CNVau yn fwy tebygol o fod \u00e2 chyflwr niwroddatblygiadol neu seiciatrig, megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, anhwylder gorbryder, anhwylder hwyliau, neu awtistiaeth, a bod anniddigrwydd yn nodwedd gyffredin o&#8217;r cyflyrau hyn. Felly, roedd yn bwysig ystyried a oedd y lefel uwch hon o anniddigrwydd a gafodd ei nodi mewn plant ag ND-CNVau yn uniongyrchol gysylltiedig ag un o&#8217;r cyflyrau hyn, ni waeth a oedd ganddyn nhw ND-CNV ai peidio. Fodd bynnag, datgelodd y dadansoddiad hwn nad oedd lefelau uwch o anniddigrwydd mewn plant ag ND-CNVau yn syml oherwydd eu bod nhw\u2019n fwy tebygol o gael cyflyrau eraill sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 lefelau uwch o anniddigrwydd.<\/p>\n<p>Yn dilyn hyn, fe wnaethon ni ystyried y cysylltiadau rhwng gallu dysgu a&#8217;i effaith ar anniddigrwydd. Rydyn ni\u2019n gwybod gall plant ag ND-CNVau brofi anawsterau dysgu, a gall pobl ifanc sy&#8217;n ei chael hi&#8217;n anoddach dysgu ei chael hi&#8217;n anoddach cwblhau tasgau neu gyfathrebu&#8217;n effeithiol. Gall hyn fod yn rhwystredig, ac arwain at ymddygiad anniddig. Fodd bynnag, wnaethon ni ddim canfod unrhyw dystiolaeth gref o&#8217;r data bod gallu dysgu ac anniddigrwydd yn gysylltiedig. Yn ogystal, fe wnaethon ni ganfod eto bod plant ag ND-CNV yn fwy tebygol o fod yn anniddig na\u2019u brodyr a chwiorydd \u00e2 gallu dysgu tebyg.<\/p>\n<p>Ar y cyfan, fe wnaethon ni ddysgu bod plant ag ND-CNVau yn fwy tebygol o fod yn anniddig, heb ystyried cyflyrau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol eraill sydd eisoes yn bodoli neu anhawster gyda dysgu. Ond beth allwn ni ei wneud \u00e2&#8217;r wybodaeth hon? Mae ymddygiad anniddig yn rhywbeth na fydd clinigwyr yn sylwi arno o bosibl, ac felly rydyn ni\u2019n cynghori meddygon i fod yn ymwybodol o\u2019r risg uchel hon o anniddigrwydd mewn pobl ifanc sydd \u00e2 chyflyrau genetig prin, er mwyn cynnig y driniaeth neu\u2019r ymyriad mwyaf addas. Er enghraifft, er nad yw gallu dysgu yn gwneud plant yn anniddig, mae\u2019n bosibl y bydd pobl ifanc anniddig sydd \u00e2 chyflyrau genetig ag anhawster gyda dysgu. Felly, os ydyn ni am ymyrryd a helpu teuluoedd i reoli neu wella anniddigrwydd eu plentyn, efallai y bydd angen i ni ystyried gallu dysgu. Gallai hyn olygu gwneud addasiadau i ymyriadau megis therapi gwybyddol ymddygiadol fel bod triniaethau\u2019n fwy hygyrch i\u2019r gr\u0175p hwn o bobl ifanc. Mae\u2019n bosibl hefyd y byddai rhieni ac athrawon yn elwa ar gymorth wrth reoli ymddygiad anniddig yn y cartref ac yn yr ysgol.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn bwysig ystyried a allai anniddigrwydd pobl ifanc ag ND-CNV fod yn arwydd cynnar o broblemau iechyd meddwl yn ddiweddarach yn eu bywyd. Bydd cynnal ymchwil gyda phobl sawl gwaith ac ar sawl oedran yn ein helpu i weld a allai hyn fod yn wir. Byddai hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni ynghylch a allai ymyriadau cynnar i anniddigrwydd helpu i atal problemau iechyd meddwl yn ddiweddarach. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni\u2019n bwriadu ymchwilio iddo nesaf. Mae anniddigrwydd yn rhan bwysig o\u2019r darlun ymddygiadol i lawer o deuluoedd sydd \u00e2 phlentyn \u00e2 chyflwr genetig prin, ac mae\u2019n haeddu sylw ymchwil pellach.<\/p>\n<p>Hoffen ni ddiolch i&#8217;r holl blant a theuluoedd a gymerodd ran yn yr astudiaeth, yn ogystal \u00e2&#8217;r holl gefnogaeth rydyn ni wedi&#8217;i chael gan elusennau cymorth, gan gynnwys Max Appeal a Unique.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cafodd y blog hwn ei gyhoeddi\u2019n wreiddiol ar Gymuned Ymchwil Springer Nature: mae modd ei ddarllen yma \u201cRwy\u2019n poeni y byddan nhw\u2019n cael eu labelu fel plentyn drwg, anodd, neu [&hellip;]","protected":false},"author":7094,"featured_media":1881,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30,31],"tags":[],"class_list":["post-1882","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion","category-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-um","jetpack-related-posts":[{"id":646,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ysgol-haf-niwrowyddoniaeth-beunyddiol-a-chwsg-rhydychen\/","url_meta":{"origin":1882,"position":0},"title":"Ysgol Haf Niwrowyddoniaeth Beunyddiol a Chwsg Rhydychen","author":"Hayley Moulding","date":"15 August 2016","format":false,"excerpt":"Mae'r cysylltiad cynhenid rhwng cwsg a iechyd meddwl wedi cael ei anwybyddu a'i wrthod yn y gorffennol. Mae sylwadau a hanesion unigolion, ynghyd \u00e2 gwaith ymchwil, wedi profi y gall cwsg fod yn ffactor o ran iechyd meddwl ac, i'r gwrthwyneb, y gall iechyd meddwl gael effaith ar gwsg. Rwy'n\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1599,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-myfyriwr-phd\/","url_meta":{"origin":1882,"position":1},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Myfyriwr PhD","author":"Alison Tobin","date":"18 January 2019","format":false,"excerpt":"Mae Sin\u00e9ad Morrison yn fyfyriwr PhD sy\u2019n gweithio\u2019n rhan o astudiaeth ECHO, Profiadau Plant gydag Amrywiolion Rhifau Copi (Copy Number Variants) Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Mae iechyd meddwl wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ers oeddwn yn ifanc, a gallaf gofio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1325,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymchwil-iechyd-meddwl-maer-dyfodol-yn-galw\/","url_meta":{"origin":1882,"position":2},"title":"Ymchwil Iechyd meddwl &#8211; mae&#8217;r dyfodol yn galw","author":"Professor Jeremy Hall","date":"16 October 2017","format":false,"excerpt":"Afiechyd Meddwl - argyfwng cenedlaethol Mae afiechyd meddwl yn argyfwng cenedlaethol. Bob blwyddyn mae un ym mhob pedwar person yn y DU yn dioddef problem iechyd meddwl, sy'n cael effaith enfawr ar yr unigolyn, eu teulu a chymdeithas. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb salwch o'r gwaith,\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1410,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cwsg-y-gadwyn-aur-ar-gyfer-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1882,"position":3},"title":"Cwsg: Y gadwyn aur ar gyfer iechyd meddwl","author":"Katie Swaden Lewis","date":"1 December 2017","format":false,"excerpt":"Mae'n gaeaf, a ph\u2019un a ydych chi'n mwynhau'r nosweithiau tywyllach, y tywydd oerach ac addurniadau Nadolig cynamserol yn y siopau ai peidio, bydd y mwyafrif ohonom yn llawenhau o gael yr awr ychwanegol yn y gwely sy'n nodi'r newid o Amser yr Haf i Amser Safonol Greenwich. 'Canmol cwsg' Nid\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1810,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/a-yw-profiadau-o-arwahanrwydd-cymdeithasol-yn-effeithio-ar-iechyd-meddwl-pobl-ifanc\/","url_meta":{"origin":1882,"position":4},"title":"A yw profiadau o arwahanrwydd cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc?","author":"Alison Tobin","date":"9 February 2024","format":false,"excerpt":"Sut mae cael eich ynysu oddi wrth bobl ifanc eraill yn berthnasol i broblemau iechyd meddwl? Yn y blog hwn, mae Dr Katherine Thompson, cydymaith ymchwil \u00f4l-ddoethurol sy\u2019n ymchwilio i fodelau ystadegol i ragweld iselder ym Mhrifysgol Purdue yn yr Unol Daleithiau, yn trafod ei hymchwil PhD yn y maes\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl plant a'r glasoed&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl plant a'r glasoed","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed\/"},"img":{"alt_text":"Sad and contemplative young woman by a window.","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":487,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cynyddu-ymwybyddiaeth-o-iechyd-meddwl-mewn-clefyd-huntington\/","url_meta":{"origin":1882,"position":5},"title":"Cynyddu ymwybyddiaeth o Iechyd meddwl mewn Clefyd Huntington","author":"Dr Emma Yhnell","date":"27 June 2016","format":false,"excerpt":"Anhwylder ar yr ymennydd yw Clefyd Huntington (HD), clefyd niwroddirywiol a achosir gan gelloedd yr ymennydd yn marw'n raddol. Mae achos genetig i HD, ac felly os yw genyn y clefyd gennych chi, mae 50% o debygolrwydd y gallech ei drosglwyddo i'ch plant. Mae prawf genetig ar gael i bobl\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/iStock_23941105_LARGE-1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/iStock_23941105_LARGE-1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/iStock_23941105_LARGE-1.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/iStock_23941105_LARGE-1.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/iStock_23941105_LARGE-1.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/iStock_23941105_LARGE-1.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1882","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7094"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1882"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1882\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1907,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1882\/revisions\/1907"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1881"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1882"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1882"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1882"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}