{"id":1864,"date":"2024-07-31T11:14:02","date_gmt":"2024-07-31T11:14:02","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1864"},"modified":"2024-08-05T15:00:15","modified_gmt":"2024-08-05T15:00:15","slug":"cyfnewid-gwybodaeth-trwy-leoliadau-nyrsio-iechyd-meddwl-dewisol-dramor","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cyfnewid-gwybodaeth-trwy-leoliadau-nyrsio-iechyd-meddwl-dewisol-dramor\/","title":{"rendered":"Cyfnewid gwybodaeth trwy leoliadau nyrsio iechyd meddwl dewisol dramor"},"content":{"rendered":"<p>Roedd <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/physical-health-care-in-mental-health-settings-how-a-knowledge-exchange-can-shed-light-on-opportunities-for-policy-practice-education-and-research-improvement\/\">cyfnewid gwybodaeth llwyddiannus ar gyfer ymarfer nyrsio iechyd meddwl, polisi, ymchwil ac addysg<\/a> rhwng ein Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac Ardal Iechyd Lleol Canolbarth y Gogledd (De Cymru Newydd, Awstralia) yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth ymhellach trwy leoliadau myfyrwyr rhyngwladol.<\/p>\n<p><strong>Seren Roberts (Uwch Ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl)<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r modelau addysg nyrsio iechyd meddwl yn wahanol iawn rhwng y ddwy wlad. Mae addysg nyrsio ledled y DU yn faes penodol gyda phedwar maes nyrsio ar gael ar lefel israddedig: plant, oedolion, anabledd dysgu a nyrsio meddwl. Yn Awstralia, mae addysg nyrsio yn generig heb unrhyw arbenigedd maes ar lefel israddedig. Mae\u2019r ddwy wlad hefyd yn cynnig modelau gwahanol o gydnabod a chofrestru gyda chyrff llywodraethu i ymarfer fel nyrsys iechyd meddwl arbenigol.<\/p>\n<p>Am y rheswm hwn, mae gan hwyluso lleoliad ar gyfer myfyrwyr nyrsio israddedig oblygiadau pwysig ar gyfer dysgu ymarfer a datblygiad ein gweithlu yn y dyfodol yn y ddwy wlad. Mae gwerth lleoliadau dewisol rhyngwladol ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol nyrsys israddedig yn ogystal \u00e2 chymhwysedd diwylliannol, wedi&#8217;i hen sefydlu (<a href=\"https:\/\/jcompassionatehc.biomedcentral.com\/articles\/10.1186\/s40639-018-0048-4\">Adamson, 2018,<\/a> <a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/32001429\/\">Bagnasco et al., 2020,<\/a> <a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/26059923\/\">Browne et al., 2015,<\/a> <a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/30746979\/\">Carter et al., 2019,<\/a> <a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/35276538\/\">Johnston et al., 2022,<\/a> <a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/36481523\/\">Ulvund et al., 2023)<\/a>. Gallai lleoliadau myfyrwyr nyrsio rhyngwladol hefyd arwain at ymlediad gwybodaeth a sgiliau rhwng gwahanol wledydd (<a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0260691708001019\">Keogh and Russel-Roberts, 2009)<\/a> fel math o gyfnewid gwybodaeth.<\/p>\n<p>Gan adeiladu ar ein partneriaeth gydweithredol ryngwladol, fe wnaethom gynnig y cyfle i\u2019n myfyrwyr nyrsio iechyd meddwl ymgymryd \u00e2 lleoliad rhyngwladol gydag Ardal Iechyd Lleol Canolbarth Arfordir y Gogledd ar gyfer eu lleoliad dewisol. Dyma&#8217;r lleoliad dewisol rhyngwladol cyntaf yn Awstralia i&#8217;n myfyrwyr nyrsio. Mae&#8217;r lleoliad arsylwi dewisol yn para am 3 wythnos ac mae hanner ffordd drwy&#8217;r rhaglen. Mae&#8217;n caniat\u00e1u i fyfyrwyr brofi cyd-destun gofal iechyd gwahanol yn y DU neu dramor. Ym mis Mawrth 2024, aeth ein myfyriwr cyntaf, myfyriwr israddedig nyrsio iechyd meddwl, i Ardal Iechyd Lleol Canolbarth Arfordir y Gogledd ar gyfer ei lleoliad dewisol. Mae Abi yn adrodd ei stori am ei phrofiadau a&#8217;i dysgu yn ystod y lleoliad dewisol hwn.<\/p>\n<p><strong>Abi Fisher (Myfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl)<\/strong><\/p>\n<p>Roedd cwblhau un o fy lleoliadau nyrsio iechyd meddwl yn Awstralia yn gyfle anhygoel. Rwyf wedi gallu cymryd cymaint o\u2019r profiad dysgu hwn drwy gael mewnwelediad unigryw i amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd meddwl mewn rhanbarth bach o New South Wales \u2013 Coffs Harbour \u2013 a deall mwy am y llwybr hyfforddi ar gyfer nyrsys iechyd meddwl yn Awstralia.<\/p>\n<p>Roeddwn yn ddigon ffodus i dreulio amser gydag ystod o wasanaethau iechyd meddwl yn ystod fy lleoliad. Roedd hyn yn cynnwys amser ar ward adsefydlu iechyd meddwl, yr uned gofal dwys seiciatrig, gyda&#8217;r t\u00eem iechyd meddwl cymunedol (TIMC) a th\u00eem iechyd meddwl yr adran achosion brys.<\/p>\n<p>Gwnaeth y rhaglen ward adsefydlu argraff aruthrol arnaf. Wedi&#8217;i dylunio o ongl therapiwtig, roedd y rhaglen yn hybu ymdeimlad o gymuned, cyfeillgarwch a hunanwerth. Roedd pob diwrnod yn cael ei gynllunio a&#8217;i drefnu gan y defnyddwyr gwasanaeth yn ystod cyfarfod y bore, gydag amrywiaeth o weithgareddau arfaethedig ar gael. Roedd staff yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol gyda defnyddwyr gwasanaeth fel rhan o&#8217;r rhaglen gynhwysol hon.<\/p>\n<p>Wrth siarad \u00e2\u2019r defnyddwyr gwasanaeth, daeth yn amlwg bod eu hymdeimlad o gael eu gwerthfawrogi\u2019n wirioneddol yn rhan hanfodol o\u2019u taith bersonol i adferiad a gwellhad. Mae sgwrsio a myfyrio yn dod yn llawer mwy naturiol mewn amgylchedd nad yw&#8217;n cyfeirio (non-directive) (<a href=\"https:\/\/www.psychologytoday.com\/gb\/blog\/what-doesnt-kill-us\/201503\/carl-rogers-person-centered-approach\">Joseph, 2015<\/a>). Er enghraifft, digwyddodd fy sgwrs fwyaf diddorol a gwerthfawr gyda defnyddiwr gwasanaeth yn ystod bore o arddwriaeth yng ngerddi\u2019r ward.<\/p>\n<p>Teimlaf fod natur a llwyddiant y rhaglen adsefydlu hon yn haeddu cydnabyddiaeth. Roedd fy lleoliad diwethaf yn y DU ar ward adsefydlu ac un o\u2019m hadlewyrchiadau o\u2019r lleoliad hwnnw oedd y diffyg ymgysylltu cymunedol a rhyngweithiol rhwng staff a defnyddwyr gwasanaethau. Teimlaf y gallai rhai o elfennau&#8217;r rhaglen adsefydlu a welais yn Coffs Harbour fod yn hynod werthfawr o ran llywio a gwella rhaglenni adsefydlu iechyd meddwl presennol ac yn y dyfodol yng Nghymru a ledled y DU<strong>.<\/strong><\/p>\n<p>Un agwedd ar nyrsio yn Awstralia a oedd yn amlwg i mi oedd y gwahaniaeth rhwng y llwybrau hyfforddi i ddod yn nyrs iechyd meddwl. Yn Awstralia, mae nyrsys ar draws y tair cangen yn cwblhau&#8217;r un radd nyrsio cyffredinol. Yn ystod eu hyfforddiant, dyw\u2019r nyrsus ond yn cael chwarter yr amser lleoliad yr ydym ni yn ei gael yn y DU.<\/p>\n<p>Yn dilyn y rhaglen nyrsio gyffredinol hon, mae opsiynau i wneud hyfforddiant ychwanegol mewn maes penodol er enghraifft, iechyd meddwl. O ganlyniad i&#8217;r llwybr llai arbenigol hwn, mae llai o rolau nyrsio arbenigol ar gael yn Awstralia. Roedd yr holl therapyddion nyrsio y cyfarf\u00fbm \u00e2 hwy ar leoliad wedi gwneud eu hyfforddiant arbenigol yn y DU ac yn defnyddio&#8217;r cymhwyster hwn mewn r\u00f4l eithaf unigryw yn system gofal iechyd Awstralia.<\/p>\n<p>Teimlaf fod yr hyfforddiant arbenigol a gawn o ddechrau\u2019r graddau nyrsio yn y DU yn ein paratoi yn dda ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni symud i rolau mwy arbenigol. Byddai\u2019n ddiddorol cael gwybod a yw\/sut mae\u2019r gwahaniaethau sylweddol hyn mewn llwybrau hyfforddi yn effeithio ar ganlyniadau triniaeth a boddhad staff a chleifion.<\/p>\n<p>Rwyf wedi cael llawer iawn o fudd o gwblhau un o fy lleoliadau nyrsio yn Awstralia. Mae\u2019r bartneriaeth gydweithredol ryngwladol y mae\u2019r cyfle hwn wedi\u2019i chreu yn ddiamau yn amhrisiadwy. Byddwn wrth fy modd pe bai\u2019r profiad hwn yn cael ei gynnig i fyfyrwyr nyrsio\u2019r dyfodol ac i\u2019r berthynas gydweithredol hon barhau i dyfu. Mae ganddo botensial cyffrous i lywio a gwella ymarfer nyrsio yng Nghymru ac Awstralia.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Roedd cyfnewid gwybodaeth llwyddiannus ar gyfer ymarfer nyrsio iechyd meddwl, polisi, ymchwil ac addysg rhwng ein Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac Ardal Iechyd Lleol Canolbarth y Gogledd (De Cymru Newydd, [&hellip;]","protected":false},"author":7093,"featured_media":1870,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30],"tags":[],"class_list":["post-1864","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-u4","jetpack-related-posts":[{"id":1670,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-fel-dewis-gyrfaol-ben-hannigan-nicola-evans\/","url_meta":{"origin":1864,"position":0},"title":"Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol &#8211; Ben Hannigan &amp; Nicola Evans","author":"Alison Tobin","date":"29 April 2019","format":false,"excerpt":"Sut i ddisgrifio\u2019r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu\u2019n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion, ac sy\u2019n cynnwys rhoi gofal wyneb\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1833,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gofal-iechyd-corfforol-mewn-lleoliadau-iechyd-meddwl-sut-y-gall-cyfnewid-gwybodaeth-daflu-goleuni-ar-gyfleoedd-i-wella-polisiau-ymarfer-addysg-ac-ymchwil\/","url_meta":{"origin":1864,"position":1},"title":"Gofal iechyd corfforol mewn lleoliadau iechyd meddwl: sut y gall cyfnewid gwybodaeth daflu goleuni ar gyfleoedd i wella polis\u00efau, ymarfer, addysg ac ymchwil","author":"Dr Seren Roberts","date":"30 April 2024","format":false,"excerpt":"Seren Roberts \u00a0Penny Jones\u00a0Allyson Wilson\u00a0\u00a0 Mae iechyd corfforol pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn waeth na'r boblogaeth yn gyffredinol, a disgwylir y bydd hyd eu hoes rhwng 13 a 30 mlynedd yn fyrrach. Mae'r anghyfartaledd iechyd hwn yn hysbys iawn. Mae llawer o bolis\u00efau iechyd ledled y byd yn ceisio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1356,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-ym-mhalestina\/","url_meta":{"origin":1864,"position":2},"title":"Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhalestina","author":"Dr Mohammad Marie","date":"30 October 2017","format":false,"excerpt":"Mohammad Marie \u00a0-\u00a0 nyrs iechyd meddwl academaidd ym Mhrifysgol An-Najah Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn amrywio o un wlad i'r llall. Mae hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys rhai'n gysylltiedig \u00e2 diwylliant, gwleidyddiaeth ac adnoddau. Yn achos Palestina, gyda'i hanes o wrthdaro, nid yw gwasanaethau iechyd meddwl\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1761,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/darlith-a-gwobr-cyflawniad-oes-skellern\/","url_meta":{"origin":1864,"position":3},"title":"Darlith a Gwobr Cyflawniad Oes Skellern","author":"Ben Hannigan","date":"16 August 2023","format":"gallery","excerpt":"Gwnaeth Eileen Skellern gyfraniad o bwys at ddatblygiad nyrsio iechyd meddwl modern a rhyngbersonol, ac yn sgil ei marwolaeth yn 1980 sefydlwyd cyfres o ddarlithoedd er cof iddi. Ers 2006 mae Darlith Skellern wedi cael ei thraddodi yn flynyddol, ar y cyd \u00e2 Gwobr Cyflawniad Oes. Bellach, y digwyddiad deublyg\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1701,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","url_meta":{"origin":1864,"position":4},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan","author":"Ben Hannigan","date":"6 August 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":1280,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mhnr2017\/","url_meta":{"origin":1864,"position":5},"title":"#MHNR2017","author":"Ben Hannigan","date":"27 September 2017","format":false,"excerpt":"Fe groesawyd cynrychiolwyr i Gynhadledd Ymchwil Ryngwladol Nyrsio Iechyd Meddwl (#MHNR2017) yn Neuadd Dinas Caerdydd ar 14 ac 15 Medi 2017. Dyma\u2019r 23ain tro i\u2019r gynhadledd gael ei chynnal. Hwn oedd y tro cyntaf i\u2019r gynhadledd ymweld \u00e2 Chymru, a Dychmygu, Creu ac Ymchwilio oedd y thema eleni. Croesawyd papurau\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1864","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7093"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1864"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1864\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1878,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1864\/revisions\/1878"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1870"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1864"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1864"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1864"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}