{"id":1851,"date":"2024-07-01T10:19:46","date_gmt":"2024-07-01T10:19:46","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1851"},"modified":"2024-07-29T10:19:56","modified_gmt":"2024-07-29T10:19:56","slug":"pam-rwyn-gweithio-ym-maes-ymchwil-iechyd-meddwl-chloe-apsey","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/pam-rwyn-gweithio-ym-maes-ymchwil-iechyd-meddwl-chloe-apsey\/","title":{"rendered":"Pam rwy&#8217;n gweithio ym maes ymchwil iechyd meddwl &#8211; Chloe Apsey"},"content":{"rendered":"<p><strong>Pam dewisoch chi wneud ymchwil i iechyd meddwl \/ gweithio ym maes ymchwil iechyd meddwl?<\/strong><\/p>\n<p>Pan oeddwn i yn yr ysgol yn astudio ar gyfer fy nghymwysterau TGAU, penderfynais i fod gen i ddiddordeb mewn seicoleg a gyrfa ym maes iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Dewisais i astudio Seicoleg, Bioleg a Llenyddiaeth Saesneg ar lefel Safon Uwch. Roedd fy ngraddau\u2019n edrych yn addawol iawn ar \u00f4l y flwyddyn gyntaf, ac fe ges i gynnig lle amodol mewn sawl prifysgol Gr\u0175p Russell. Treuliais i\u2019r flwyddyn olaf yn astudio\u2019n galed er mwyn ceisio sicrhau fy lle yn y prifysgolion hynny. Yn anffodus, oherwydd rhai problemau personol, dechreuais i deimlo\u2019n fwy a mwy pryderus, ac roedd hi\u2019n anodd mynd i\u2019r ysgol a chanolbwyntio. O ganlyniad, fe ges i BBB yn hytrach na\u2019r AAB angenrheidiol.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n torri fy nghalon, a doedd y ffaith bod angen i mi godi\u2019r ff\u00f4n ar yr un prynhawn (oherwydd sut mae\u2019r system glirio\u2019n gweithio) a holi prifysgolion eraill a oedd unrhyw leoedd yn weddill ganddyn nhw ddim yn helpu. Am fod Seicoleg yn bwnc mor boblogaidd, dim ond hyn a hyn o opsiynau oedd gen i, ond derbyniais i le ym Mhrifysgol Plymouth yn y diwedd.<\/p>\n<p>Treuliais i\u2019r tair blynedd yn gweithio\u2019n galed iawn, ac fe ges i radd dosbarth cyntaf ym mhob blwyddyn astudio, gan gynnwys llythyr o ganmoliaeth bob blwyddyn. Gan fy mod i yn Plymouth, fe ges i\u2019r cyfle hefyd i ysgrifennu traethawd hir unigryw iawn ar effeithiau gwybyddol narcosis nitrogen, a hynny gan ddefnyddio siambr hyperbarig ac electroenceffalograffeg (EEG).<\/p>\n<p>Ar \u00f4l graddio, fe wnes i gais i astudio ar gyfer gradd meistr ym maes Niwrowyddoniaeth ym mhob un o\u2019r prifysgolion roeddwn i wedi eisiau mynd iddyn nhw i ddechrau, a chynigiodd pob un ohonyn nhw le i mi. Ymhlith y prifysgolion hynny roedd Prifysgol Caerdydd, wnaeth gynnig ysgoloriaeth gradd meistr i mi i wneud ei chwrs Niwroddelweddu. Fe wnes i fwynhau\u2019r cwrs yn fawr, ac roeddwn i\u2019n awyddus i barhau \u00e2 gyrfa ymchwil!<\/p>\n<p>Fe wnes i gais am swydd Cynorthwyydd Seicoleg yn y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) er mwyn helpu\u2019r ganolfan i gynnal ei phrosiect ymchwil ar COVID-19. Yn anffodus, doeddwn i ddim yn llwyddiannus (roeddwn i braidd yn nerfus ac yn or-siaradus yn y cyfweliad). Yn ffodus, fe ges i alwad wythnos yn ddiweddarach gan d\u00eem NCMH i roi gwybod bod swydd arall ar gael, fyddai\u2019n golygu gweithio ar brosiect ymchwil ar Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD). Roedd y t\u00eem yn meddwl y bydda i\u2019n berffaith ar gyfer y swydd, gan i mi fwydro yn y cyfweliad a dechrau s\u00f4n am iechyd meddwl menywod ac effeithiau hormonau ar eich hwyliau. Roedd y swydd am gyfnod penodol o dri mis i ddechrau, ond tair blynedd yn ddiweddarach, dw i wedi camu ymlaen o fod yn Gynorthwyydd Seicoleg i fod yn Gynorthwyydd Ymchwil. Dw i hefyd wedi dechrau astudio ar gyfer PhD sy\u2019n ymchwilio i PMDD.<\/p>\n<p>Pam dw i\u2019n dweud hyn i gyd wrthych chi? Os bydd y llwybr syth oedd gennych chi mewn golwg ddim ar gael i chi, bydd llwybr hirach ar gael yn aml sy\u2019n eich helpu i gyrraedd y nod, a gallai\u2019r llwybr hwnnw fod hyd yn oed yn fwy difyr na\u2019r llwybr cyntaf.<\/p>\n<p><strong>Ar beth rydych chi\u2019n gweithio ar hyn o bryd?<\/strong><\/p>\n<p>Mae fy swydd a\u2019r PhD yn ymchwilio i achosion PMDD a\u2019i arwyddion. Mae PMDD yn effeithio ar 5.5% o fenywod a phobl gafodd eu rhoi mewn categori rhyw benywaidd adeg eu geni sy\u2019n cael mislif. Ymhlith symptomau PMDD mae hwyliau isel difrifol, gorbryder ac anniddigrwydd. Mae\u2019r rhain i\u2019w gweld yn y 7-10 diwrnod cyn y mislif ac yn gwella ar \u00f4l i\u2019r mislif ddechrau.<\/p>\n<p>Er mwyn gallu gwneud diagnosis o PMDD, mae angen mesur eich symptomau bob dydd dros ddwy gylchred fislifol. Fodd bynnag, oherwydd y materion methodolegol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 hyn, mae llawer o ymchwil wedi methu \u00e2 mabwysiadu mesurau safonedig, sy\u2019n arwain at lawer o ddryswch a gwallau yn y llenyddiaeth bresennol.<\/p>\n<p>Ein nod yw cynnal yr astudiaeth enetig fwyaf o PMDD sy\u2019n defnyddio mesurau monitro hwyliau arfaethedig i gadarnhau\u2019r diagnosis. Rydyn ni hefyd wrthi\u2019n gweithio gyda\u2019r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu ap tracio hwyliau a mislifoedd er mwyn ein helpu i gasglu data. Y gobaith yw y bydd hefyd yn adnodd diagnostig yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Hefyd, yn rhan o\u2019r PhD, rydyn ni\u2019n cydweithio \u00e2\u2019r ap tracio mislifoedd Clue. Mae wedi caniat\u00e1u i ni weld ei ddata er mwyn ystyried sut mae pobl sy\u2019n dioddef gan PMDD yn tracio eu symptomau.<\/p>\n<p><strong>Pa newidiadau rydych chi wedi&#8217;u gweld mewn agweddau tuag at iechyd meddwl yn ystod eich gyrfa?<\/strong><\/p>\n<p>Mae sgyrsiau ynghylch iechyd meddwl a mislifoedd yn bendant yn dod yn fwy cyffredin a hamddenol, sy\u2019n wych. Mae\u2019r sgyrsiau hyn yn galluogi pobl i gyfleu eu teimladau a cheisio\u2019r cymorth sydd ei angen arnyn nhw.<\/p>\n<p><strong>Yn eich barn chi, beth yw&#8217;r prif heriau ar gyfer iechyd meddwl?<\/strong><\/p>\n<p>Yn anffodus, mae mwy o addysg yn y cyfryngau ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at lawer o gamaddysg. Diagnosis sy\u2019n cael ei gydnabod o\u2019r newydd yw PMDD, a dim ond hyn a hyn o lenyddiaeth sydd ar gael, ond mae llawer o\u2019r postiadau ar-lein yn s\u00f4n am y pwnc fel pe bai\u2019n wyddor fanwl. Mae llawer o adnoddau da ar gael, yn enwedig o ffynonellau sydd wedi\u2019u cymeradwyo gan glinigwyr megis y Gymdeithas Ryngwladol er Anhwylderau Cyn Mislif (IAPMD). Fodd bynnag, gall y wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol fod yn gamarweiniol weithiau.<\/p>\n<p><strong>Pa gyngor y byddech chi\u2019n ei roi i&#8217;r rhai sy&#8217;n dechrau gyrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl?<\/strong><\/p>\n<p>Ceisiwch gael cymaint o brofiad \u00e2 phosibl, yn enwedig o weithio gyda phobl sydd \u00e2 phrofiadau bywyd. Yn ystod fy amser yn y brifysgol, bues i\u2019n weithiwr cymorth oedd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig a diagnosis o anaf trawmatig i\u2019r ymennydd. Roedd y profiad hwn yn amhrisiadwy, gan i mi gael syniad o oblygiadau go iawn fy ngwaith. Hefyd, gofynnwch gwestiynau bob cyfle posibl. Os ydych chi\u2019n dal i astudio neu\u2019n mynd i seminar, ceisiwch ofyn cwestiynau neu aros ar \u00f4l i siarad \u00e2\u2019r darlithydd, yn enwedig os yw\u2019r pwnc yn arbennig o ddiddorol!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Pam dewisoch chi wneud ymchwil i iechyd meddwl \/ gweithio ym maes ymchwil iechyd meddwl? Pan oeddwn i yn yr ysgol yn astudio ar gyfer fy nghymwysterau TGAU, penderfynais i [&hellip;]","protected":false},"author":43,"featured_media":1849,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30],"tags":[],"class_list":["post-1851","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-tR","jetpack-related-posts":[{"id":1629,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-dr-kathryn-peall-uwch-ddarlithydd-clinigol-sefydliad-ymchwil-y-niwrowyddorau-ac-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1851,"position":0},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2&#8217;r Ymchwilydd, Dr Kathryn Peall, Uwch-ddarlithydd Clinigol, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl","author":"Alison Tobin","date":"18 February 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Dechreuodd fy niddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl yn ystod fy PhD, pan oeddwn yn canolbwyntio ar symptomau iechyd meddwl mewn math penodol o anhwylder sy\u2019n amharu ar y gallu i symud. Heblaw am yr hyfforddiant seiciatreg yr oeddwn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1599,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-myfyriwr-phd\/","url_meta":{"origin":1851,"position":1},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Myfyriwr PhD","author":"Alison Tobin","date":"18 January 2019","format":false,"excerpt":"Mae Sin\u00e9ad Morrison yn fyfyriwr PhD sy\u2019n gweithio\u2019n rhan o astudiaeth ECHO, Profiadau Plant gydag Amrywiolion Rhifau Copi (Copy Number Variants) Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Mae iechyd meddwl wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ers oeddwn yn ifanc, a gallaf gofio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1701,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","url_meta":{"origin":1851,"position":2},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan","author":"Ben Hannigan","date":"6 August 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":1573,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-amy-lynham-cydymaith-ymchwil-seicosis-ac-anhwylderau-affeithiol-mawr\/","url_meta":{"origin":1851,"position":3},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Amy Lynham, Cydymaith Ymchwil, Seicosis ac Anhwylderau Affeithiol Mawr","author":"Amy Lynham","date":"20 September 2018","format":false,"excerpt":"\u00a0Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Astudiais seicoleg yn y Brifysgol am fy mod wedi fy nghyfareddu gan yr ymennydd ac ymddygiad dynol. Treuliais flwyddyn yn gweithio yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn rhan o leoliad proffesiynol, a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1531,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ffyrdd-newydd-o-feddwl-am-iechyd-meddwl-a-lles-plant-oed-ysgol-gynradd\/","url_meta":{"origin":1851,"position":4},"title":"Ffyrdd newydd o feddwl am iechyd meddwl a lles plant oed ysgol gynradd","author":"Stephen Jennings","date":"26 June 2018","format":false,"excerpt":"Cynnydd yn y diddordeb gwleidyddol-gymdeithasol mewn iechyd meddwl plant a'r glasoed Mae consensws eang mewn ymchwil yn awgrymu bod gan 10 y cant o blant a phobl ifanc yn y DU gyflwr iechyd meddwl y gellir cael diagnosis clinigol ohono fel gorbryder neu iselder. Ceir sail ymchwil sylweddol sy'n cysylltu\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1688,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-syr-michael-owen\/","url_meta":{"origin":1851,"position":5},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Yr Athro Syr Michael Owen","author":"Professor Michael Owen","date":"5 July 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Digwyddodd dri pheth i mi pan oeddwn yn fyfyriwr Meddygaeth a ddylanwadodd ar fy newis gyrfa.\u00a0 Yn gyntaf, sylwais yn ystod fy nghwrs BSc Ymsang fy mod i'n hoffi gwneud gwaith ymchwil; roeddwn yn mwynhau gwneud arbrofion a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/06\/IMG_1021-Cardiff-University-FVFJ66R71WFV-copy-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1851","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/43"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1851"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1851\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1856,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1851\/revisions\/1856"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1849"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1851"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1851"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1851"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}