{"id":1833,"date":"2024-04-30T10:44:22","date_gmt":"2024-04-30T10:44:22","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1833"},"modified":"2024-08-13T08:55:01","modified_gmt":"2024-08-13T08:55:01","slug":"gofal-iechyd-corfforol-mewn-lleoliadau-iechyd-meddwl-sut-y-gall-cyfnewid-gwybodaeth-daflu-goleuni-ar-gyfleoedd-i-wella-polisiau-ymarfer-addysg-ac-ymchwil","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gofal-iechyd-corfforol-mewn-lleoliadau-iechyd-meddwl-sut-y-gall-cyfnewid-gwybodaeth-daflu-goleuni-ar-gyfleoedd-i-wella-polisiau-ymarfer-addysg-ac-ymchwil\/","title":{"rendered":"Gofal iechyd corfforol mewn lleoliadau iechyd meddwl: sut y gall cyfnewid gwybodaeth daflu goleuni ar gyfleoedd i wella polis\u00efau, ymarfer, addysg ac ymchwil"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/staff\/robertss59\">Seren Roberts \u00a0<\/a><a href=\"https:\/\/mnclhd.health.nsw.gov.au\/leadership-team\/director-integrated-mental-health-alcohol-and-other-drugs\/\">Penny Jones\u00a0<\/a><a href=\"https:\/\/www.researchgate.net\/profile\/Allyson-Wilson\">Allyson Wilson\u00a0\u00a0 <\/a><\/p>\n<p>Mae iechyd corfforol pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn waeth na&#8217;r boblogaeth yn gyffredinol, a disgwylir y bydd hyd eu hoes rhwng 13 a 30 mlynedd yn fyrrach. Mae&#8217;r anghyfartaledd iechyd hwn yn hysbys iawn. Mae llawer o bolis\u00efau iechyd ledled y byd yn ceisio cau&#8217;r bwlch iechyd hwn. Mae hybu iechyd a gwella mynediad at wasanaethau iechyd wedi bod yn flaenoriaeth i sicrhau deilliannau iechyd gwell yn achos y boblogaeth ddifreintiedig hon.<\/p>\n<p>Un o\u2019r meysydd sy\u2019n destun llai o ymchwil yw r\u00f4l nyrsys iechyd meddwl wrth fonitro iechyd corfforol a darparu gofal iechyd corfforol ar draws yr holl wasanaethau iechyd meddwl.\u00a0 Er hynny, gall nyrsys iechyd meddwl chwarae rhan hollbwysig yn y maes hwn. Yr hyn a wyddom yn sgil y llenyddiaeth bresennol yw bod nyrsys iechyd meddwl:<\/p>\n<ul>\n<li>\u00a0yn rhoi gwybod bod lefelau amrywiol o ymarfer iechyd corfforol, a bod agweddau cadarnhaol a pharodrwydd mewn rhai meysydd iechyd (cyngor deietegol ac ymarfer corff) ond llai felly mewn meysydd eraill (sgrinio canser a rhoi&#8217;r gorau i ysmygu).<\/li>\n<li>heb gael eu cefnogi fel mater o drefn gan addysg a hyfforddiant gofal iechyd corffor<\/li>\n<li>\u00e2 safbwyntiau gwahanol ar allu nyrsys i gyfrannu at well prosesau gofal iechyd.<\/li>\n<li>\u00a0yn credu y dylai hybu iechyd dreiddio i&#8217;r sefydliad gofal iechyd meddwl cyfan ac y dylai cyfrifoldeb ar y cyd am iechyd a gweithgareddau hybu iechyd fodoli ar bob lefel.<\/li>\n<li>yn cydnabod pwysigrwydd monitro a sgrinio anghenion iechyd corfforol ond mae angen buddsoddiad ac amser i feithrin arbenigedd a hyder drwy addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau.<\/li>\n<li>\u00a0yn rhanedig ac yn ansicr ynghylch ble mae eu cyfrifoldebau.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gwnaed argymhellion ar gyfer nyrsys iechyd meddwl yn seiliedig ar astudiaeth yn y DU o agweddau nyrsys iechyd meddwl, yn ogsytal \u00e2\u2019r llenyddiaeth ehangach nad yw&#8217;n ymwneud \u00e2 nyrsio iechyd meddwl; fodd bynnag, cyhoeddwyd ychydig o ymchwil sy\u2019n dangos yn glir yr hyn y gall nyrsys iechyd meddwl ei wneud yn eu hymarfer. Yn bwysig, mae paratoadau arbenigol ar gyfer nyrsys iechyd meddwl yn y DU yn wahanol i lawer o wledydd eraill gan gynnwys UDA, Seland Newydd ac Awstralia, lle bydd yr holl nyrsys graddedig yn cael eu paratoi mewn rhaglenni addysgol cyffredinol neu gynhwysfawr. Mae hyn yn rhoi\u2019r cyfle i ymchwilio i fanteision neu anfanteision y gwahaniaethau addysgol hyn, a\u2019u deall, wrth baratoi nyrsys i fonitro iechyd corfforol pobl \u00e2 chyflyrau iechyd meddwl, a sut mae&#8217;r rhain yn digwydd yn ymarferol. Penderfynon ni gynnal cyfnewid gwybodaeth i gychwyn gwaith yn y maes hwn yn sgil arsylwadau uniongyrchol.<\/p>\n<p>Yn sgil partneriaeth ag Ardal Iechyd Lleol Canolbarth y Gogledd Arfordirol (MNCLHD), New South Wales, ein hamcanion oedd: a) dysgu oddi wrth ein gilydd; b) bod y ddau barti yn deall gofal iechyd meddwl yn y wlad arall; c) meithrin cydberthnasau at ddibenion cydweithio a datblygu ymchwil, ch) adnabod y cyfleoedd i ehangu\u2019r dystiolaeth i ddatblygu defnyddioldeb technoleg, a hynny i wella gofal nyrsio mewn lleoliadau iechyd meddwl.<\/p>\n<p>I&#8217;r perwyl hwn, trefnwyd sesiynau cyfnewid gwybodaeth dwyffordd mewn dau leoliad dwys a fyddai\u2019n para 3-4 wythnos: y naill yng Nghaerdydd (Mawrth 2023) a&#8217;r llall yn Coff&#8217;s Harbour, New South Wales, Awstralia (Medi 2023). Ynghlwm wrth y lleoliadau hyn yn y ddwy wlad roedd ymweld ag ystod o leoliadau iechyd meddwl i arsylwi, cychwyn trafodaethau a rhannu profiadau. Roedd y lleoliad hefyd yn gyfle i ymgysylltu \u00e2 sefydliadau ymchwil a llunwyr polisi perthnasol.<\/p>\n<p>Roedd arsylwi gofal bywyd go iawn mewn amser real yn golygu bod y partneriaid yn gallu sylwi ar y gwahaniaethau main ond manwl ymarferol na fyddent fel arall yn hysbys hwyrach nac yn gyhoeddedig, ond sydd serch hynny \u00e2 rhan sylweddol ym mhrofiad y claf o ofal iechyd a\u2019r deilliannau posibl. Roedd y cyfleoedd arsylwi hyn yn caniat\u00e1u inni fyfyrio ar y cyd-destun diwylliannol ac addysgol, a sut mae\u2019r rhain yn chwarae rhan yn natblygiad cyd-destunau, arferion ac addysg iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Yn sgil y broses cyfnewid gwybodaeth, dysgasom fod awydd a diddordeb go iawn mewn dysgu oddi wrth systemau iechyd eraill yn strategol ac yn weithredol. Roedd pawb, gan gynnwys nyrsys ar flaen y gad a\u2019r llunwyr polis\u00efau\u2019n awyddus i fanteisio ar y cyfle dysgu. Mae\u2019n bosibl hefyd bod trochi mewn amser real yng nghyd-destunau gweithredol gwledydd eraill yn gwella&#8217;r gwaith o droi tystiolaeth yn ymarfer. Drwy rannu dewisiadau clinigol amgen, herio rhagdybiaethau a thrafod nifer o ddulliau amrywiol sy\u2019n ymdrin \u00e2 gofal iechyd corfforol, roeddem yn gallu cyflymu\u2019r newidiadau hyn<strong>. <\/strong>Arweiniodd rhai trafodaethau yn ystod y lleoliadau cyfnewid gwybodaeth at newidiadau uniongyrchol yn syth bin yn yr arferion ac roedd hyn wedi gwella\u2019r gofal. Roeddem hefyd yn cydnabod bod lle yn y cyfnewid gwybodaeth i gael sgyrsiau i gefnogi myfyrdod bwriadol ar ymarfer clinigol, a hynny i helpu i sbarduno diwygio cyflym at ddibenion arloesi ym maes gofal iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Daethon ni o hyd i fanteision o bwys o ran y broses cyfnewid gwybodaeth, sef:<\/p>\n<ul>\n<li>Bod pawb yn deall ystod y problemau, a hynny ar y cyd;<\/li>\n<li>Cyflymu dysgu ar y cyd a rhannu gwybodaeth;<\/li>\n<li>Adnabod y broses o ddod o hyd i atebion trawsbynciol i\u2019r heriau hirsefydlog;<\/li>\n<li>Cael lle ac amser i gael y sgyrsiau heriol hynny ar y ddisgwrs foesol, foesegol a chyfreithiol ynghylch gofal iechyd corfforol a r\u00f4l y nyrs iechyd meddwl yn hyn o beth;<\/li>\n<li>Gwella cyfleoedd i groesbeillio syniadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 materion ac arferion nyrsio iechyd meddwl ehangach, yn ogystal \u00e2 r\u00f4l y cyd-destun addysgol yn y rhain; a,<\/li>\n<li>Cydweithio rhyngwladol i hyrwyddo ymchwil ar nyrsio iechyd meddwl.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Er y gallwn ddysgu cryn dipyn yn sgil gwaith ymchwil yn ogystal \u00e2 gwaith cyhoeddedig ehangach ar fodelau a dulliau gofal, ac yn wir r\u00f4l y nyrs, hyd nes y byddwn yn gweld gofal nyrsio iechyd meddwl uniongyrchol ar waith mewn cyd-destunau diwylliannol gwahanol, hwyrach y byddwn yn colli neu\u2019n gohirio\u2019r cyfleoedd hollbwysig hynny i wella gofal iechyd corfforol mewn lleoliadau iechyd meddwl.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Seren Roberts \u00a0Penny Jones\u00a0Allyson Wilson\u00a0\u00a0 Mae iechyd corfforol pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn waeth na'r boblogaeth yn gyffredinol, a disgwylir y bydd hyd eu hoes rhwng 13 a 30 [&hellip;]","protected":false},"author":7088,"featured_media":1837,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30],"tags":[],"class_list":["post-1833","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-tz","jetpack-related-posts":[{"id":1670,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-fel-dewis-gyrfaol-ben-hannigan-nicola-evans\/","url_meta":{"origin":1833,"position":0},"title":"Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol &#8211; Ben Hannigan &amp; Nicola Evans","author":"Alison Tobin","date":"29 April 2019","format":false,"excerpt":"Sut i ddisgrifio\u2019r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu\u2019n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion, ac sy\u2019n cynnwys rhoi gofal wyneb\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1356,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-ym-mhalestina\/","url_meta":{"origin":1833,"position":1},"title":"Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhalestina","author":"Dr Mohammad Marie","date":"30 October 2017","format":false,"excerpt":"Mohammad Marie \u00a0-\u00a0 nyrs iechyd meddwl academaidd ym Mhrifysgol An-Najah Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn amrywio o un wlad i'r llall. Mae hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys rhai'n gysylltiedig \u00e2 diwylliant, gwleidyddiaeth ac adnoddau. Yn achos Palestina, gyda'i hanes o wrthdaro, nid yw gwasanaethau iechyd meddwl\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":461,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/deall-systemau-a-gwasanaethau-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1833,"position":2},"title":"Deall systemau a gwasanaethau iechyd meddwl","author":"Ben Hannigan","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Gan weithio ar y cyd \u00e2 chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau yn uniongyrchol, mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio systemau iechyd meddwl. Mae ein prosiectau\u2019n ymchwilio i drefniadaeth a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, y gwaith\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1701,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","url_meta":{"origin":1833,"position":3},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan","author":"Ben Hannigan","date":"6 August 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":1240,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/allai-gwyddor-data-chwyldroi-gofal-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1833,"position":4},"title":"Allai gwyddor data chwyldroi gofal iechyd meddwl?","author":"Jemma Cole","date":"2 August 2017","format":false,"excerpt":"Mae salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar person bob blwyddyn, ac yn aml mae hynny\u2019n cael effaith ddinistriol ar eu bywydau.\u00a0 Ac er bod salwch meddwl yn cael sylw cynyddol yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol, mae ein dealltwriaeth o\u2019r hyn sy\u2019n achosi cyflyrau sy\u2019n amrywio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":321,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mental-health-united-we-stand-divided-we-fall-cymraeg\/","url_meta":{"origin":1833,"position":5},"title":"Iechyd meddwl:  Mewn undeb y mae nerth","author":"Professor Michael Owen","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Dyw iechyd meddwl byth ymhell o\u2019r penawdau y dyddiau hyn, a dyna sut dylai fod. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae salwch meddwl yn effeithio ar bobl ar draws yr ystod oedran, o blant i'r henoed, ac mae\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1833","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7088"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1833"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1833\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1886,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1833\/revisions\/1886"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1837"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1833"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1833"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1833"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}