{"id":1810,"date":"2024-02-09T14:59:25","date_gmt":"2024-02-09T14:59:25","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1810"},"modified":"2024-02-09T15:42:31","modified_gmt":"2024-02-09T15:42:31","slug":"a-yw-profiadau-o-arwahanrwydd-cymdeithasol-yn-effeithio-ar-iechyd-meddwl-pobl-ifanc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/a-yw-profiadau-o-arwahanrwydd-cymdeithasol-yn-effeithio-ar-iechyd-meddwl-pobl-ifanc\/","title":{"rendered":"A yw profiadau o arwahanrwydd cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc?"},"content":{"rendered":"<h4><b>Sut mae cael eich ynysu oddi wrth bobl ifanc eraill yn berthnasol i broblemau iechyd meddwl? Yn y blog hwn, mae Dr Katherine Thompson, cydymaith ymchwil \u00f4l-ddoethurol sy\u2019n ymchwilio i fodelau ystadegol i ragweld iselder ym <\/b><a href=\"https:\/\/www.purdue.edu\/\"><b>Mhrifysgol Purdue<\/b><\/a> <b>yn yr Unol Daleithiau, yn trafod ei hymchwil PhD yn y maes hwn. Tynnwyd sylw at yr ymchwil hon yn Narlith Gyhoeddus <\/b><a href=\"https:\/\/www.waterloofoundation.org.uk\/\">The Waterloo Foundation<\/a><b> yn 2023, a gyflwynwyd gan y <\/b><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/neuroscience-mental-health\">Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl<\/a><b>.<\/b><\/h4>\n<p><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><span data-contrast=\"auto\">Gyda phandemig byd-eang COVID-19 yn gorfodi pobl i fod ar wah\u00e2n, mae\u2019r ffocws ar arwahanrwydd cymdeithasol yn fater iechyd cyhoeddus wedi cynyddu\u2019n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Gall cysylltiadau cymdeithasol, a&#8217;r cydberthnasau sy&#8217;n deillio o&#8217;r cysylltiadau hyn, ddarparu cefnogaeth, cwmni, ac arweiniad i lywio bywyd bob dydd. Mae ymchwil ym mhob maes y gwyddorau ymddygiadol wedi dangos bod profiadau cymdeithasol person yn gysylltiedig \u00e2&#8217;u hiechyd meddwl a chorfforol.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><span data-contrast=\"auto\">Gallai diffyg, neu hyd yn oed absenoldeb, cysylltiadau cymdeithasol, a elwir yn arwahanrwydd cymdeithasol, gael effaith pellgyrhaeddol ar ganlyniadau iechyd hirdymor. Mae llawer o astudiaethau wedi canolbwyntio ar sut mae oedolion sydd wedi\u2019u hynysu\u2019n gymdeithasol yn wynebu mwy o risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl. Fodd bynnag, gallai hyn fod hyd yn oed yn fwy perthnasol i blant a phobl ifanc ar adeg pan fo cydberthnasau yn chwarae rhan allweddol yn eu datblygiad. Yn \u00f4l y <\/span><a href=\"https:\/\/www.hhs.gov\/surgeongeneral\/priorities\/connection\/index.html\"><span data-contrast=\"none\">cyngor diweddaraf<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> gan Lawfeddyg Cyffredinol yr Unol Daleithiau ar heriau iechyd cyhoeddus sylweddol sy&#8217;n gofyn am ymwybyddiaeth a gweithredu ar unwaith, mae arwahanrwydd cymdeithasol yn flaenoriaeth frys er mwyn gwella iechyd.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><span data-contrast=\"auto\">Defnyddiodd fy ngwaith PhD ddata hydredol manwl i ddeall yn well y cysylltiad rhwng arwahanrwydd cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Dangosodd fy nghydweithwyr a minnau yng <\/span><a href=\"http:\/\/tynnwyd%20sylw%20at%20yr%20ymchwil%20hon%20yn%20narlith%20gyhoeddus%20the%20waterloo%20foundation%20yn%202023%2C%20a%20gyflwynwyd%20gan%20y%20sefydliad%20arloesedd%20niwrowyddoniaeth%20ac%20iechyd%20meddwl.\/\"><span data-contrast=\"none\">Nghanolfan SGDP King\u2019s College Llundain<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> ei bod yn bwysig ystyried sut y gall profiadau cymdeithasol newid dros amser, a bod arwahanrwydd cymdeithasol nid yn unig yn ffactor risg ond y gellid ei ystyried hefyd yn ganlyniad i broblemau iechyd meddwl, neu\u2019r <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">ddau.<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">.\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><span data-contrast=\"auto\">Mae pobl ifanc yn profi arwahanrwydd cymdeithasol ychydig yn wahanol i oedolion. Gan fod gan blant rieni neu frodyr a chwiorydd o\u2019u cwmpas yn aml, mae modd cyflwyno\u2019r cysyniad o arwahanrwydd cymdeithasol plentyndod fel y graddau y mae plant yn gysylltiedig \u00e2 phlant eraill. Mae hyn yn wahanol i deimlo&#8217;n unig, oherwydd gall plant fod yn unig hyd yn oed pan fydd plant eraill o\u2019u cwmpas. Cynhalion ni gyfres o astudiaethau allweddol a asesodd arwahanrwydd cymdeithasol gan ddefnyddio data o <\/span><a href=\"https:\/\/eriskstudy.com\/\"><span data-contrast=\"none\">astudiaeth E-Risk<\/span><\/a><a href=\"https:\/\/eriskstudy.com\/\"><span data-contrast=\"none\">https:\/\/eriskstudy.com\/<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> o 2,232 o blant a oedd dan sylw rhwng eu pen-blwydd yn 5 oed a 18 oed.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><b><span data-contrast=\"auto\">Arwahanrwydd cymdeithasol trwy gydol cyfnod datblygiad plentyn\u00a0<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><span data-contrast=\"auto\">Dangoson ni fod yna grwpiau o blant sy&#8217;n dilyn gwahanol lwybrau o arwahanrwydd cymdeithasol dros amser. Wrth hyn rwy\u2019n golygu bod rhai plant wedi\u2019u hynysu\u2019n gynnar yn eu plentyndod, ond aeth hyn yn llai wrth iddynt fynd drwy\u2019r ysgol, ac nid oedd plant eraill wedi\u2019u hynysu\u2019n gynnar yn eu plentyndod ond cynyddodd hyn wrth iddynt fynd yn h\u0177n. Nid oedd y rhan fwyaf o blant wedi\u2019u hynysu, ac i&#8217;r rhai a oedd, fe symudon nhw i mewn ac allan o arwahanrwydd dros amser. Yn dibynnu ar ba lwybr neu gr\u0175p yr oedd y plant ynddo, roedd hyn yn effeithio ar eu hiechyd meddwl yn wahanol. Yn hytrach na phrofi arwahanrwydd cymdeithasol ar unrhyw adeg yn arwain at risg uwch ar gyfer problemau iechyd meddwl, roedd yn dibynnu ar ba bryd yr oedd yr arwahanrwydd yn digwydd. Roedd plant yn fwy tebygol o gael problemau\u2019n digwydd ar yr un pryd ar yr adeg pan oeddent wedi\u2019u hynysu fwyaf. Pwysleision ni bwysigrwydd cydnabod arwahanrwydd cymdeithasol ymhlith plant yn ddangosydd gwerthfawr o broblemau sy\u2019n digwydd ar yr un pryd, megis problemau emosiynol, gorfywiogrwydd ac ymddygiad byrbwyll. Wrth roi\u2019r cymorth cywir ar yr adeg gywir, gallai plant sydd wedi\u2019u hynysu elwa ar gymorth ar yr adeg y maent fwyaf agored i arwahanrwydd er mwyn lleihau\u2019r risg o broblemau hirdymor.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><b><span data-contrast=\"auto\">A yw arwahanrwydd cymdeithasol yn arwain at broblemau iechyd meddwl, neu a yw problemau iechyd meddwl yn arwain at arwahanrwydd?\u00a0<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><span data-contrast=\"auto\">Mae arwahanrwydd cymdeithasol wedi cael ei ystyried yn ffactor risg ar gyfer deilliannau gwael, yn yr ystyr bod profi arwahanrwydd yn arwain at anawsterau yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae hefyd yn bosibl bod pobl sy&#8217;n profi anawsterau yn tynnu\u2019n \u00f4l o gymdeithas, gan arwain at arwahanrwydd. Ymchwilion ni i&#8217;r cwestiwn hwn o gyfeiriadedd ar gyfer plant \u00e2 symptomau anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn ystod plentyndod. Roedd plant a oedd yn orfywiog neu fyrbwyll yn fwy tebygol o brofi arwahanrwydd cymdeithasol yn nes ymlaen. Gall rhyngweithio negyddol \u00e2 chyfoedion olygu bod plant ag ADHD yn tynnu\u2019n \u00f4l, yn cael eu gwrthod, yn teimlo\u2019n unig ac wedi\u2019u hynysu. Gallai canolbwyntio ar frwydro yn erbyn rhagfarnau negyddol ynghylch niwroamrywiaeth mewn ysgolion a chymunedau lleol helpu i leihau profiadau o arwahanrwydd cymdeithasol i\u2019r plant hyn. Dylid asesu arwahanrwydd cymdeithasol yn ofalus mewn plant ag ADHD. Gallent elwa o ymyriadau sydd wedi&#8217;u hanelu at gynyddu cyfranogiad cymdeithasol a lleddfu heriau cymdeithasol. Rydym yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwella cymorth cymdeithasol gan gymheiriaid a chynhwysiant i blant ag ADHD, yn enwedig mewn ysgolion.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><span data-contrast=\"auto\">Aeth ein gwaith diweddaraf ymhellach i ddangos bod profiadau pobl ifanc o arwahanrwydd cymdeithasol wedi&#8217;u cydblethu&#8217;n ddatblygiadol ag iechyd meddwl gwael, yn enwedig ar gyfer iselder a phrofiadau seicotig. Yn hytrach na ffactor risg neu ddeilliant iechyd meddwl gwael, gallai arwahanrwydd cymdeithasol fod yn arwydd o nam gweithredol sy\u2019n digwydd <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">ochr yn ochr \u00e2<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\"> symptomau iechyd meddwl. Gwnaethom hyn drwy ddangos bod gorgyffwrdd genetig sylweddol ag iselder a phrofiadau seicotig ag arwahanrwydd cymdeithasol. Gallwn gymharu hyn \u00e2 phroblemau cysgu. Mae symptomau iechyd meddwl yn gysylltiedig yn hydredol ac yn ddeugyfeiriol \u00e2 phroblemau cysgu yn ystod plentyndod a glasoed. Mae problemau cysgu yn wahanol i broblemau iechyd meddwl, ond maent fel arfer yn mynd law yn llaw yn ffenoteipaidd ac yn enetig. Maent yn aml yn cael eu trin yn symptom ymylol neu eilaidd ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl. Gall problemau cysgu fod yn arwydd bod person yn cael anawsterau, yn ogystal \u00e2 gwaethygu symptomau pobl \u00e2&#8217;r anhwylderau hyn ar yr un pryd. Gallai arwahanrwydd cymdeithasol a symptomau iechyd meddwl fod yn rhyng-gysylltiedig mewn ffordd debyg, a gallai holi am arwahanrwydd cymdeithasol fod yn llwybr i nodi pobl ifanc sydd nid yn unig yn wynebu risg o gael symptomau iechyd meddwl ond sydd eisoes yn profi anawsterau nad ydynt wedi\u2019u nodi eisoes.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Sut mae cael eich ynysu oddi wrth bobl ifanc eraill yn berthnasol i broblemau iechyd meddwl? Yn y blog hwn, mae Dr Katherine Thompson, cydymaith ymchwil \u00f4l-ddoethurol sy\u2019n ymchwilio i [&hellip;]","protected":false},"author":43,"featured_media":1812,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[31],"tags":[],"class_list":["post-1810","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-tc","jetpack-related-posts":[{"id":1339,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gwella-iechyd-meddwl-a-lles-plant-a-phobl-ifanc\/","url_meta":{"origin":1810,"position":0},"title":"Gwella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc","author":"Dr Rhiannon Evans","date":"17 October 2017","format":false,"excerpt":"Dr Rhiannon Evans, Uwch-ddarlithydd, DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Michelle Hughes, Nyrs Arbenigol CAMHS, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Mae iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn parhau'n fater o bwysigrwydd mawr ym maes iechyd cyhoeddus. Mae llawer o broblemau'n ymddangos yn ystod glasoed, gyda 50%\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":946,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymrwymiad-or-newydd-ond-parhau-maer-anghydraddoldeb-ym-maes-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1810,"position":1},"title":"Ymrwymiad o&#8217;r newydd, ond parhau mae&#8217;r anghydraddoldeb ym maes iechyd meddwl","author":"Jemma Cole","date":"13 January 2017","format":false,"excerpt":"Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi ailddatgan un o ymrwymiadau ei rhagflaenydd David Cameron ei bod am wella gofal iechyd meddwl. Cafodd ei datganiad sylw rhwng penawdau'r BBC am nifer y cleifion seiciatrig sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys a'r nifer anghymesur o achosion lle ceir oedi cyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":556,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/iechyd-meddwl-anableddau-dysgu-a-gofal-cymdeithasol-gwarchod-hawliau-dynol-yn-y-cyfnod-argyfyngus-o-doriadau-llym-sydd-ohoni\/","url_meta":{"origin":1810,"position":2},"title":"Iechyd meddwl, anableddau dysgu a gofal cymdeithasol: gwarchod hawliau dynol yn y cyfnod argyfyngus o doriadau llym sydd ohoni","author":"Julie Doughty","date":"9 July 2016","format":false,"excerpt":"Trefnwyd y gynhadledd hon, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 24 Mehefin, ar y cyd rhwng y Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl \u00e2 salwch meddwl difrifol a'u gofalwyr. Y nod oedd dod \u00e2 defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, llunwyr polis\u00efau, ymarferwyr ym maes\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":461,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/deall-systemau-a-gwasanaethau-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1810,"position":3},"title":"Deall systemau a gwasanaethau iechyd meddwl","author":"Ben Hannigan","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Gan weithio ar y cyd \u00e2 chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau yn uniongyrchol, mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio systemau iechyd meddwl. Mae ein prosiectau\u2019n ymchwilio i drefniadaeth a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, y gwaith\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1531,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ffyrdd-newydd-o-feddwl-am-iechyd-meddwl-a-lles-plant-oed-ysgol-gynradd\/","url_meta":{"origin":1810,"position":4},"title":"Ffyrdd newydd o feddwl am iechyd meddwl a lles plant oed ysgol gynradd","author":"Stephen Jennings","date":"26 June 2018","format":false,"excerpt":"Cynnydd yn y diddordeb gwleidyddol-gymdeithasol mewn iechyd meddwl plant a'r glasoed Mae consensws eang mewn ymchwil yn awgrymu bod gan 10 y cant o blant a phobl ifanc yn y DU gyflwr iechyd meddwl y gellir cael diagnosis clinigol ohono fel gorbryder neu iselder. Ceir sail ymchwil sylweddol sy'n cysylltu\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1670,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-fel-dewis-gyrfaol-ben-hannigan-nicola-evans\/","url_meta":{"origin":1810,"position":5},"title":"Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol &#8211; Ben Hannigan &amp; Nicola Evans","author":"Alison Tobin","date":"29 April 2019","format":false,"excerpt":"Sut i ddisgrifio\u2019r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu\u2019n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion, ac sy\u2019n cynnwys rhoi gofal wyneb\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1810","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/43"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1810"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1810\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1813,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1810\/revisions\/1813"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1812"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1810"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1810"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1810"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}