{"id":1723,"date":"2020-02-17T15:02:57","date_gmt":"2020-02-17T15:02:57","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1723"},"modified":"2020-02-17T15:20:59","modified_gmt":"2020-02-17T15:20:59","slug":"integreiddio-ymchwil-iechyd-meddwl-o-ansawdd-uchel-ag-addysgu-israddedig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/integreiddio-ymchwil-iechyd-meddwl-o-ansawdd-uchel-ag-addysgu-israddedig\/","title":{"rendered":"Integreiddio ymchwil iechyd meddwl o ansawdd uchel ag addysgu israddedig"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Dr William Davies, Ysgolion Meddygaeth a Seicoleg<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o brif heriau ymchwil iechyd meddwl yw rhoi gwybod i\u2019r grwpiau\nrhanddeiliaid perthnasol am y canfyddiadau sy\u2019n datblygu gennym \u2013 mae\u2019r rhain\nyn cynnwys cyd-academyddion, cleifion a chyrff cefnogi, clinigwyr, cyllidwyr ac\nelusennau, a gweithwyr proffesiynol fel cwnselwyr genetig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae myfyrwyr israddedig yn rhanddeiliaid allweddol eraill. Gan eu bod\nnhw\u2019n ddinasyddion gwybodus, dylent fod mewn sefyllfa dda i achosi newid\ncadarnhaol yn y gymdeithas, boed drwy wneud eu hymchwil eu hunain neu drwy lu o\nfecanweithiau eraill. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel academydd sy\u2019n ymwneud ag ymchwil ac ag addysgu, credaf fod rhaid i\nbobl fel fi sicrhau bod myfyrwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf cadarn\nynghylch pynciau fel iechyd meddwl, a\u2019u bod yn cael y sgiliau i werthuso a\ndehongli canfyddiadau ymchwil. Fel y cyfryw, roeddwn i\u2019n hynod falch o dderbyn\ny wobr \u2018Rhagoriaeth mewn Addysgu (Israddedig) yn ddiweddar gan yr <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/medicine\">Ysgol Feddygaeth<\/a>.&nbsp;&nbsp;&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy r\u00f4l addysgu\u2019n amrywiol, ac mae\u2019n cynnwys darlithio i garfannau\nmawr o fyfyrwyr, hwyluso sesiynau tiwtorial llai (e.e. mewn <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=zQDLa1r7xow\">Dysgu\u2019n Seiliedig ar Achosion<\/a> fel y\u2019i gelwir), a phrosiectau\ncyfarwyddo un-i-un, ar draws dwy Ysgol yn y Brifysgol. Mae fy ymchwil yn\nymwneud \u00e2 deall pam mae gwrywod a benywod yn ymddwyn yn wahanol, a <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0091302214000375?via%3Dihub\">pham mae gwahaniaeth o ran sut mae\u2019r\nrhyweddau\u2019n agored i gael cyflyrau iechyd meddwl penodol<\/a>. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn <a href=\"https:\/\/www.biorxiv.org\/content\/10.1101\/483636v2\">r\u00f4l y cromosomau rhyw (X ac Y)<\/a> ac mewn <a href=\"https:\/\/www.frontiersin.org\/articles\/10.3389\/fpsyt.2019.00876\/full\">pam mae rhai menywod yn datblygu anhwylderau\nseiciatrig yn fuan ar \u00f4l esgor<\/a>. Mae trafod y pynciau hyn, ynghyd ag asesiad o sut gellir defnyddio\nymchwil geneteg ymddygiadol yn y dyfodol, yn un o brif linynnau fy narlithoedd\nar fodiwlau \u2018Seicoleg Fiolegol a Gwahaniaethau Unigol\u2019 a \u2018Geneteg Ymddygiadol\u2019\nyn yr <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/psychology\">Ysgol Seicoleg<\/a>.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae prosiectau ymchwil israddedig yn caniat\u00e1u i fyfyrwyr brofi bywyd fel\nymchwilydd <em>bona fide<\/em>, gyda\u2019r holl\ngyffro (a straen!) sydd ynghlwm wrth hynny. Drwy weithio ar gwestiwn pwysig a\nnewydd, a thrwy ryngweithio ag ymchwilwyr medrus iawn wrth eu gwaith, buan iawn\ny gall myfyrwyr israddedig ddod i werthfawrogi\u2019r heriau, y cymhlethdodau a\u2019r\nm\u00e2n bethau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 datblygu a phrofi damcaniaethau, ac \u00e2 chynhyrchu\ndata a\u2019u rhoi mewn cyd-destun. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhywbeth newydd i\u2019w groesawu yw cynlluniau interniaeth SPRInt y Brifysgol (Ysgol Seicoleg) a\u2019r interniaeth ymchwil <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/study\/undergraduate\/why-study-with-us-as-an-undergraduate\/research-opportunities\">ar y campws, sy\u2019n galluogi myfyrwyr<\/a> i wneud gwaith ymchwil gyda th\u00e2l wrth ymyl mentor academaidd am gyfnod byr, fel arfer yn ystod gwyliau\u2019r haf \u2013 yn ddiweddar cyhoeddwyd papur mawr ei effaith o waith fy myfyriwr SPRInt diwethaf, gyda hithau\u2019n awdur cyntaf. Dangosodd y papur hwn fod <a href=\"http:\/\/dx.doi.org\/10.1136\/jmedgenet-2019-106676\">unigolion sydd \u00e2 mwtaniad genetig penodol ar gromosom X mewn mwy o berygl o broblemau hwyliau a\u2019r galon<\/a> ac felly, dylai roi gwybodaeth bwysig ychwanegol i\u2019r unigolion sy\u2019n cael eu heffeithio, i\u2019w teuluoedd a chlinigwyr, ac i gwnselwyr genetig. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae prosiectau ymchwil yn elfen graidd o lawer o raddau, gan gynnwys y\ngraddau B.Sc. ymsang y mae rhai myfyrwyr meddygol yn eu cwblhau \u2013 mae cyfran\nuchel o\u2019r rhain yn rhoi mewnwelediadau gwyddonol a chlinigol pwysig. Mae\nastudiaethau o dan arweiniad myfyrwyr ymsang yn fy ngr\u0175p wedi disgrifio\nnodweddion ymddygiadol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r cyflwr croen genetig ichtyosis\nsy\u2019n gysylltiedig \u00e2 X mewn <a href=\"https:\/\/journals.plos.org\/plosone\/article?id=10.1371\/journal.pone.0164417\">gwrywod<\/a> a <a href=\"https:\/\/journals.plos.org\/plosone\/article?id=10.1371\/journal.pone.0212330\">benywod<\/a>, a dangoswyd bod <a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/full\/10.1002\/brb3.646\">amrywiad o fewn y <em>gennyn STS<\/em> rhyw-gysylltiedig sy\u2019n ymwneud \u00e2 sylw<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal \u00e2 sgiliau academaidd, mae gwaith prosiect yn addysgu nifer o\nsgiliau trosglwyddadwy hanfodol gan gynnwys rhwydweithio a chydweithredu,\ncyflwyno data a chyfathrebu, a\u2019r gallu i werthuso tystiolaeth ac ystyried\ngoblygiadau moesegol posibl sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r gwaith. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I grynhoi fy mhrofiad, mae manteision mawr i<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/learning-hub\/supporting-your-teaching\/research-led-teaching\"> addysgu wedi\u2019i arwain gan ymchwil mewn\nsefydliadau fel Prifysgol Caerdydd<\/a>, nid yn unig i fyfyrwyr israddedig (sy\u2019n elwa\no gael eu cynnwys mewn amgylchedd ymchwil deinamig a bywiog), ond hefyd i\u2019w\ncanolwyr (sydd fel arfer yn elwa o gynhyrchedd a brwdfrydedd eu myfyrwyr yn y\nlabordy) ac i\u2019r gymdeithas yn ehangach (sy\u2019n elwa o wybodaeth, sgiliau ac\narbenigedd gwell gan fyfyrwyr ac o ganfyddiadau prosiectau israddedig). Po\nfwyaf o gyfleoedd sydd gan fyfyrwyr israddedig i ymgysylltu ag ymchwil sydd ar\ny gweill, a pho fwyaf o gyfleoedd sydd gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa\n(e.e. myfyrwyr \u00f4l-raddedig a Chymrodyr Ymchwil) i fentora myfyrwyr fel hyn ac i\nfireinio eu sgiliau cyfarwyddo, gorau oll! <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dr William Davies, Ysgolion Meddygaeth a Seicoleg Un o brif heriau ymchwil iechyd meddwl yw rhoi gwybod i\u2019r grwpiau rhanddeiliaid perthnasol am y canfyddiadau sy\u2019n datblygu gennym \u2013 mae\u2019r rhain [&hellip;]","protected":false},"author":1099,"featured_media":1726,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[33],"tags":[],"class_list":["post-1723","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-rN","jetpack-related-posts":[{"id":1050,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-prifysgolion-a-safetalk\/","url_meta":{"origin":1723,"position":0},"title":"Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion a SafeTALK","author":"Jo Pinder","date":"2 March 2017","format":false,"excerpt":"Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion, ac mae llawer o them\u00e2u hanfodol yngl\u0177n \u00e2 lles myfyrwyr y dylwn eu trafod ar y diwrnod hwn. Gall myfyrwyr wynebu amrywiaeth enfawr o wahanol ffactorau cymdeithasol, academaidd a diwylliannol sy'n achosi straen yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol. Yn aml, gall hyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1701,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","url_meta":{"origin":1723,"position":1},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan","author":"Ben Hannigan","date":"6 August 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":1670,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-fel-dewis-gyrfaol-ben-hannigan-nicola-evans\/","url_meta":{"origin":1723,"position":2},"title":"Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol &#8211; Ben Hannigan &amp; Nicola Evans","author":"Alison Tobin","date":"29 April 2019","format":false,"excerpt":"Sut i ddisgrifio\u2019r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu\u2019n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion, ac sy\u2019n cynnwys rhoi gofal wyneb\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":758,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cymorth-cyntaf-i-iechyd-meddwl-myfyrwyr\/","url_meta":{"origin":1723,"position":3},"title":"Cymorth Cyntaf i iechyd meddwl myfyrwyr","author":"Tsvetina Ivanova","date":"10 October 2016","format":false,"excerpt":"Mae hi\u2019n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw. Mae\u2019n ymddangos bod ei thema, sef 'Cymorth Cyntaf Seicolegol ' yn arbennig o berthnasol i\u2019r profiadau prifysgol y mae rhai pobl ifanc yn eu hwynebu. Pan fydd myfyrwyr yn pontio i fywyd prifysgol, gall fod perygl i\u2019w lles. Mae gwahanol ffactorau, fel\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Woman.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Woman.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Woman.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Woman.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Woman.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Woman.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1599,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-myfyriwr-phd\/","url_meta":{"origin":1723,"position":4},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Myfyriwr PhD","author":"Alison Tobin","date":"18 January 2019","format":false,"excerpt":"Mae Sin\u00e9ad Morrison yn fyfyriwr PhD sy\u2019n gweithio\u2019n rhan o astudiaeth ECHO, Profiadau Plant gydag Amrywiolion Rhifau Copi (Copy Number Variants) Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Mae iechyd meddwl wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ers oeddwn yn ifanc, a gallaf gofio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1240,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/allai-gwyddor-data-chwyldroi-gofal-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1723,"position":5},"title":"Allai gwyddor data chwyldroi gofal iechyd meddwl?","author":"Jemma Cole","date":"2 August 2017","format":false,"excerpt":"Mae salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar person bob blwyddyn, ac yn aml mae hynny\u2019n cael effaith ddinistriol ar eu bywydau.\u00a0 Ac er bod salwch meddwl yn cael sylw cynyddol yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol, mae ein dealltwriaeth o\u2019r hyn sy\u2019n achosi cyflyrau sy\u2019n amrywio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2020\/02\/Will-Davies.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1723","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1099"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1723"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1723\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1729,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1723\/revisions\/1729"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1726"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1723"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1723"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1723"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}