{"id":1710,"date":"2019-09-19T11:31:58","date_gmt":"2019-09-19T11:31:58","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1710"},"modified":"2019-09-19T11:32:02","modified_gmt":"2019-09-19T11:32:02","slug":"storir-gynhadledd-am-adrodd-straeon-jodie-gornall","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/storir-gynhadledd-am-adrodd-straeon-jodie-gornall\/","title":{"rendered":"Stori\u2019r Gynhadledd am Adrodd Straeon &#8211; Jodie Gornall"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><br> <\/strong>Y Gynhadledd Ryngwladol am Adrodd Straeon er Iechyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un waith, fe fu cynhadledd, un wahanol i unrhyw\ngynhadledd arall oedd wedi bod ynghynt. Cafodd y siwtiau busnes a\u2019r teiau eu\ntrawsnewid yn batrymau blodeuog a gwisgoedd hamddenol a llachar. Fin nos,\ncerddais i mewn i glywed straeon symbolig o dywysogesau, milwyr ac angenfilod\ncythreulig. Gyda chyfeiliant ffidl a sielo, mae\u2019r perfformiad hwn yn cael ei\ngyflwyno i gynulleidfa sydd \u00e2 dychymyg athletig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma Norwyes yn cael ei chyflwyno. Mae gwisg\nshiffon felen lachar yn ymddangos, gyda si\u00f4l binc sy\u2019n gweddu i\u2019r dim o gwbl.\nMae hi\u2019n cyfuno perfformiad ffisegol \u00e2 chwedloniaeth Lychlynnaidd, ac mae\u2019r\nhanes torcalonnus o\u2019i mab, adroddwr arall a ddatblygodd ganser y geg, wedi\u2019i\nblethu i mewn i\u2019r perfformiad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Celfyddydau er Iechyd gynhaliodd yr ail\nGynhadledd Adrodd Straeon hon. Mae\u2019r gynhadledd yn dechrau \u00e2 sesiwn gyflwyno\nforeol, gydag egwyl baned a sawl sesiwn gyfochrog wedyn, ar draws gwahanol\nsafleoedd gerllaw, a phob un o\u2019r rhain \u00e2\u2019i thema ei hun. Anogir y rhai sy\u2019n dod\ni fynd lle byddant yn cael yr ysbrydoliaeth fwyaf, a lle byddant eisiau rhannu\neu stori. Mae naws o greadigrwydd am y digwyddiad, sy\u2019n croesawu beirniadaeth a\nchymeradwyaeth. Cael eich gofyn i rannu eich stori a mynd ymhellach i mewn iddi\nyw\u2019r ganmoliaeth uchaf, sy\u2019n chwalu\u2019r rhwystrau Prydeinig ynghylch gofod\npersonol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai eich bod yn dychmygu ystafell lawn\nhipis o\u2019r radd flaenaf, Athrawon Trelawney a beirdd mewn hen ddillad ail law a\nbwff\u00ea figanaidd amser cinio. Fe fu bwff\u00ea figanaidd &#8211; roedd yn hyfryd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Go brin y cydnabyddir PowerPoints yn straeon,\ngan fod straeon yn deillio o\u2019r meddwl a\u2019r tafod. Mae myrdd o feddyliau, geiriau\na seiniau. Mae\u2019r straeon yn cerflunio meddyliau\u2019r gweithwyr gofal iechyd, y\ndefnyddwyr gwasanaethau, y cyn-gleifion, y perthnasau a\u2019r gweithwyr diwydiannol\nsy\u2019n bresennol. Dyma fyd ar wah\u00e2n i\u2019r cyfrifiaduron a\u2019r nodiadau achos yr ydym\nyn gyfarwydd \u00e2 nhw. Mae\u2019r perfformiadau\u2019n mynd rhagddo wrth eu pwysau, ac\nymhyfrydu yw\u2019r bwriad. Mae\u2019r dosbarth cymdeithasol yn ymddangos yn gyson, gydag\nambell i siaradwr o gymuned ddigynrychiolaeth yn britho\u2019r gr\u0175p. Gobeithiaf\nbeidio \u00e2 chlywed gormod o straeon gan gr\u0175p sydd eisoes \u00e2 llais cryf. Rwy\u2019n\ndysgu am straeon digidol, profiadau cleifion ac yn clywed adroddiadau pwerus,\nsy\u2019n ennyn dymuniad y tu hwnt i feithrin gwaith t\u00eem a sgiliau arweinyddiaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy gydol amser y gynhadledd, disgrifir adrodd\nstraeon yn allu cynhenid. Yn sg\u00eel yr hanesion a\u2019r straeon am ysbrydion, naws\ngynnes, gyfeillgar y digwyddiad sy\u2019n fy nharo fwyaf. Ydych chi erioed wedi\nadrodd stori i gr\u0175p o ffrindiau a chael ymateb gwerthfawrogol? Dyma gynhadledd\nsy\u2019n mynd \u00e2 hynny i\u2019r eithaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd rhai\u2019n meddwl, efallai, beth yw\u2019r pwynt?\nBeth am fynd i\u2019r dafarn i drafod hynt a helynt yr wythnos? Ond mewn gofal\niechyd, gall adrodd hanesion cyn-gleifion er mwyn cysuro rhywun sydd newydd\ngael diagnosis, fod y gwahaniaeth rhwng anesmwythder a thangnefedd. Dyma\nddylanwad profiadau bywyd go iawn, heb gyfeirio at ystadegaeth. Mae diwylliant\ny gynhadledd yn galluogi rhywun, a\u2019r cleifion yn enwedig, i gymryd awenau\u2019r\nnaratif. Mae adrodd straeon yn cael ei gydnabod fel mecanwaith lesol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy sesiwn gyntaf yn trafod \u201cYsgrifennu er\nLles\u201d. Mae siaradwyr yn trafod sut mae ysgrifennu\u2019n gallu meithrin\nymwybyddiaeth ofalgar a sut maent yn teimlo\u2019n ynysedig hebddo; ysgrifennu,\ngorffwys ac adnewyddu yw eu harwyddair. Rwy\u2019n gallu cydymdeimlo \u00e2 hynny, gan fy\nmod yn gyfarwydd \u00e2 rhyddhad dymunol teipio\u2019n fyrbwyll pan fo ysfa i ysgrifennu\narnaf. Nid oes fawr o ofn gwarth neu gywilydd ar neb, gyda\u2019r holl siaradwyr yn\ndisgrifio dro ar \u00f4l tro mai man diogel yw\u2019r gynhadledd. Roedd y cadeiryddion yn\ntrafod y dewrder sydd ei angen i ysgrifennu, gan ein bod yn hawlio ein bod yn\nddilys drwy adrodd y stori. Mae \u2018na barodrwydd i dderbyn hunangyfrifoldeb.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaeth un siaradwr grynhoi adrodd straeon mewn ffordd graff. Dull cydraddoli yw e, yn ei golwg hi. P\u2019un a oes cysylltiad uniongyrchol, cydymdeimlad neu ddiddordeb pur, mae pawb wrth eu boddau\u2019n gwrando ar stori. <br> <br> <strong>Anne-Marie et al. yn\ncyflwyno BORDERLINE<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae tair menyw\u2019n sefyll mewn llinell. Mae\u2019r un\ngyntaf yn camu ymlaen ac yn dweud wrthym ni, \u201cI Kirsty mae\u2019r perfformiad hwn.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma Anne-Marie, sy\u2019n nyrs iechyd meddwl ers\noddeutu 30 mlynedd, ac yn ddarlithydd bellach, yn eich pledu\u2019n emosiynol \u00e2\u2019i\npherfformiad, gan adrodd am ei phlentyndod hyd heddiw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Dyrnod yn y stumog y mae hi\u2019n dechrau ag e, gan amlygu trallodion y GIG yn yr argyfwng Brexit sydd ohoni, ac yn erfyn arnoch, nid yn annhebyg i gardotyn. A\u2019r diwydiant ar gynnydd, mae Anne-Marie yn rhag-weld y gorbryder torfol fydd yn gorchuddio\u2019r byd pan fydd y galw am staff iechyd meddwl yn goresgyn y cyflenwad. Mae fflachiau sydyn o wenu a chwerthin o\u2019i phlentyndod yn eich hudo, wrthi i hithau sugno ar y lolipop y mae hi\u2019n cynnig i chi, cyn ei gipio\u2019n \u00f4l, gan ddweud nad ydym wedi gwneud digon i haeddu\u2019r melyster hwn eto. Drwy ddadlennu ei chysylltiadau teuluol a\u2019r dylanwadau sydd arni, mae hi\u2019n agor ei hun a\u2019i hangerdd, gan ddarlunio\u2019r datblygiadau ym maes iechyd meddwl ar hyd cenedlaethau. Mae ei hymroddiad i\u2019w gwaith yn amlwg.<br> <br> Mae hi\u2019n cwestiynu\u2019r diogelwch a\u2019r gefnogaeth sydd i\u2019r gweithwyr gofal iechyd eu hunain, a\u2019r chwythu plwc sydd mor gyfarwydd ar y newyddion. Nyrsys yw\u2019r rhai sy\u2019n eich esmwytho, heb gamu o\u2019r adwy ac yn meithrin ymddiriedaeth. O dan eiriau Anne-Marie, mae ymdeimlad o anobaith a rhwystredigaeth. Mae hi\u2019n rhywun sydd wedi\u2019i distewi gan enw da ei swydd, ac yn ymddangos fel ei bod wedi\u2019i chythruddo. Tyst anarferol yw hi, ac mae ei barn yn adfywiol gwrando arni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nicky: menyw anhygoel heb ddim ond bwriadau\ngwych, ac yn amlwg yn hen gyfarwydd \u00e2\u2019r llwyfan. Mae hi\u2019n adrodd stori Kirsty,\ndefnyddiwr gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) yn\nddryswch anochel. Gan ddifa a rheoli, mae\u2019n effeithio fwy ar fenywod na dynion,\nac i gael diagnosis, rhaid i chi dicio pum blwch allan o naw. Ond beth yw hwn?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae diagnosau o BPD yn dod yn fwyfwy cyffredin,\nac mae\u2019n glir o stori Kirsty bod yr anhwylder yn cael ei warthnodi ar gyfradd\nyr un mor gyflym. Mae ei straeon yn dangos y graddau y mae BPD wedi dod yn\nlabel. Mae meddygon wedi gwrthod ei thrin, ac mae\u2019r un feddyginiaeth y mae\nhithau wedi gorddosio arni wedi\u2019i rhagnodi iddi eto. Yn ddealladwy, mae Kirsty\nar fin colli ymddiriedaeth yn y system. Mae hi eisiau i\u2019w realiti fod yn\nhysbys, a chael ei thrin fel claf unigol. Mae hi eisiau i ystyriaethau ynghylch\niechyd meddwl fod yr un mor gyffredin a mesur pwysedd gwaed a chyfradd y galon,\nac ni alla i weld pam lai. Nicky, naill ai oherwydd ei gallu i actio neu ei\nphrofiad personol o broblemau iechyd meddwl, yn cyflwyno\u2019r diymadferthedd y mae\nllawer o ddefnyddwyr gwasanaeth yn ei brofi, a\u2019u hawydd i gael eu deall, heb eu\nbarnu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Sylwia: nyrs newydd gymwysedig fydd yn gwneud y proffesiwn yn falch ohoni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"> Yn enedigol o Wlad Pwyl, mae Sylwia\u2019n cynnig gobaith. Lawn brwdfrydedd, mae hi\u2019n adrodd am y bobl \u201cliwgar\u201d oedd yn agos iddi yn ei thref gartref, ac mae hi\u2019n chwerthin am ddylanwadau crefydd a chael ei galw\u2019n \u201cwallgof\u201d ganddyn nhw. Adfywiol yw clywed hyn.<br> <br> Fwyaf sydyn, mae hi\u2019n ein hatgoffa pam rydym ni yno. Bu farw ei ffrind, a wthiwyd gan wawd dros y dibyn, drwy hunanladdiad heb unrhyw rybudd yn \u00f4l pob golwg.<br> <br> Mae hi\u2019n cysylltu trafferth gydag iechyd meddwl \u00e2\u2019r rhwystr iaith pan symudodd i Gymru. Mae Sylwia am uno ein hanawsterau cyffredin a\u2019n heriau beunyddiol, lle gallai fod angen mwy o gymorth i ymdopi ar rai pobl nag eraill. Nid yw hi\u2019n gwahaniaethu rhwng ei rhieni a\u2019r cyhoedd, gan ddeall pa mor hawdd gellir llithro i mewn i argyfwng iechyd meddwl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod hyfforddiant nyrsio Sylwia, daeth\nKirsty i ddarlith i adrodd ei stori. I Sylwia, bu hon yn foment wnaeth droi\u2019r\nfantol. Gwnaeth hi gynhyrfu\u2019n emosiynol, a theimlo newid dynamig ymysg ei\ncharfan. Dechreuodd eraill i rannu eu straeon, a phwysleisiwyd pwysigrwydd\ngofal cyfannol ac ystyriaeth anfeirniadol. Mae Sylwia wedi dechrau ar ei gyrfa\nnyrsio \u00e2 newid ar ei meddwl ac awch i chwalu ffiniau. Hyderaf y bydd hi\u2019n\nllwyddiannus. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gyda\u2019i gilydd, maent yn dangos agwedd\ngydweithredol tuag at wasanaethau iechyd meddwl; dyma gr\u0175p o ffrindiau sy\u2019n\nrhannu angerdd dros godi ymwybyddiaeth o\u2019r mater pwysig hwn drwy adrodd eu straeon\nam y tro cyntaf. Dyma alwad ddiflewyn-ar-dafod sy\u2019n ysgogi, gan wybod bod pob\nsafbwynt yr un mor bwysig \u00e2\u2019r un flaenorol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd Kirsty\u2019n bwriadu perfformio ei stori ei\nhun yn y gynhadledd, ond yn anffodus, mae ei hiechyd meddwl wedi gwaethygu. Mae\nhwn yn bwynt ingol sy\u2019n crochlefain yn uwch nag unrhyw stori arall o\u2019r llwyfan.\nRydym yn dymuno\u2019r gorau iddi ac yn gobeithio y bydd yn gwella\u2019n ddiogel.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Y Gynhadledd Ryngwladol am Adrodd Straeon er Iechyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Un waith, fe fu cynhadledd, un wahanol i unrhyw gynhadledd arall oedd wedi bod ynghynt. Cafodd [&hellip;]","protected":false},"author":43,"featured_media":1049,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[33,30],"tags":[],"class_list":["post-1710","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-rA","jetpack-related-posts":[{"id":1864,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cyfnewid-gwybodaeth-trwy-leoliadau-nyrsio-iechyd-meddwl-dewisol-dramor\/","url_meta":{"origin":1710,"position":0},"title":"Cyfnewid gwybodaeth trwy leoliadau nyrsio iechyd meddwl dewisol dramor","author":"Abigail Fisher","date":"31 July 2024","format":false,"excerpt":"Roedd cyfnewid gwybodaeth llwyddiannus ar gyfer ymarfer nyrsio iechyd meddwl, polisi, ymchwil ac addysg rhwng ein Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac Ardal Iechyd Lleol Canolbarth y Gogledd (De Cymru Newydd, Awstralia) yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth ymhellach trwy leoliadau myfyrwyr rhyngwladol. Seren Roberts (Uwch Ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl) Mae'r modelau\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1599,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-myfyriwr-phd\/","url_meta":{"origin":1710,"position":1},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Myfyriwr PhD","author":"Alison Tobin","date":"18 January 2019","format":false,"excerpt":"Mae Sin\u00e9ad Morrison yn fyfyriwr PhD sy\u2019n gweithio\u2019n rhan o astudiaeth ECHO, Profiadau Plant gydag Amrywiolion Rhifau Copi (Copy Number Variants) Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Mae iechyd meddwl wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ers oeddwn yn ifanc, a gallaf gofio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":461,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/deall-systemau-a-gwasanaethau-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1710,"position":2},"title":"Deall systemau a gwasanaethau iechyd meddwl","author":"Ben Hannigan","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Gan weithio ar y cyd \u00e2 chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau yn uniongyrchol, mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio systemau iechyd meddwl. Mae ein prosiectau\u2019n ymchwilio i drefniadaeth a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, y gwaith\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/yJl7OB3sSpOdEIpHhZhd_DSC_1929_1.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1499,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/letsshare\/","url_meta":{"origin":1710,"position":3},"title":"#LetsShare","author":"Jo Pinder","date":"28 February 2018","format":false,"excerpt":"Jo, Ymarferydd Lles a Hyrwyddwr Amser Newid, sy'n s\u00f4n am Ymgyrch Iechyd Meddwl newydd Prifysgol Caerdydd: Beth sydd ar eich meddwl? \u00a0Mae #LetsShare yn ein hannog i gyd i rannu mwy pan ddaw hi'n fater o iechyd meddwl... Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin; bydd yn cael effaith ar un\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1410,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cwsg-y-gadwyn-aur-ar-gyfer-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1710,"position":4},"title":"Cwsg: Y gadwyn aur ar gyfer iechyd meddwl","author":"Katie Swaden Lewis","date":"1 December 2017","format":false,"excerpt":"Mae'n gaeaf, a ph\u2019un a ydych chi'n mwynhau'r nosweithiau tywyllach, y tywydd oerach ac addurniadau Nadolig cynamserol yn y siopau ai peidio, bydd y mwyafrif ohonom yn llawenhau o gael yr awr ychwanegol yn y gwely sy'n nodi'r newid o Amser yr Haf i Amser Safonol Greenwich. 'Canmol cwsg' Nid\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1587,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/pam-maen-bosibl-nad-yw-cael-sgwrs-am-iechyd-meddwl-yn-y-man-gwaith-mor-syml\/","url_meta":{"origin":1710,"position":5},"title":"Pam mae&#8217;n bosibl nad yw cael sgwrs am iechyd meddwl yn y man gwaith mor syml","author":"James Wallace","date":"24 October 2018","format":false,"excerpt":"\u00a0James Wallace , Ymchwilydd PhD Ymddangosodd yr erthygl hon am y tro cyntaf yn The Conversation ar 10 Hydref 2018 I lawer o bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl, gall ofn y stigma sy'n gysylltiedig \u00e2 chyflyrau effeithio ar eu perthynas ag eraill. Nid yw'r ofn hwn yn gyfyngedig i\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1710","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/43"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1710"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1710\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1712,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1710\/revisions\/1712"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1049"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1710"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1710"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1710"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}