{"id":1701,"date":"2019-08-06T13:04:25","date_gmt":"2019-08-06T13:04:25","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1701"},"modified":"2019-08-06T13:04:29","modified_gmt":"2019-08-06T13:04:29","slug":"dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","title":{"rendered":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil\nym maes iechyd meddwl?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roeddwn yn\ngweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar\ngyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod\nbyr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy nenu at waith iechyd meddwl, a\nfinnau\u2019n wirfoddolwr amser-llawn mewn un o wasanaethau dydd yr elusen iechyd\nmeddwl Mind. Cwrddais ag ymarferwyr a myfyrwyr iechyd meddwl yno, a dechreuais\nystyried llwybrau at ymarfer proffesiynol cyn cofrestru ar gyfer cwrs\nhyfforddiant iechyd meddwl a nyrsio cyffredinol pedair blwyddyn o hyd. Hon oedd\nyr adeg y byddai\u2019r rhan fwyaf o nyrsys yn cael eu paratoi ar gyfer ymarfer yn\nysgolion y GIG, heb ymwneud ag addysg uwch. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n cofio\nmeddwl, a finnau\u2019n fyfyriwr nyrsio, fod gennym lawer i\u2019w wneud fel proffesiwn i\ngynhyrchu sylfaen dystiolaeth a pharatoi ymarferwyr i feddwl yn ogystal \u00e2\ngwneud. Roeddwn yn chwilfrydig fel myfyrwyr, yna fel nyrs iechyd meddwl\ncymunedol, ac roedd gennyf (hyd heddiw) gymhelliant i wella profiad pobl sy\u2019n\nbyw gyda phroblemau iechyd meddwl. Gweithiais gyda chydweithwyr tra oeddwn yn\nymarfer, i ymgymryd \u00e2 rhywfaint o ymchwil leol, ar raddfa fach, i waith\nrhyngbroffesiynol a barn defnyddwyr y gwasanaeth, a phan neidiais o ymarfer i\naddysg uwch, ar gyfer swydd fyddai, yn \u00f4l yr hysbyseb, yn canolbwyntio ar\naddysgu, roeddwn yn benderfynol y byddai ymchwil iechyd meddwl yn rhan gyfartal\no\u2019m r\u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Pwy sy&#8217;n eich ysbrydoli, neu sydd wedi eich\nysbrydoli?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i wastad\nwedi edmygu pobl all ddefnyddio, a chreu, syniadau a thystiolaeth sy\u2019n croesi\nffiniau disgyblaethol traddodiadol. Rwy\u2019n gallu meddwl am nifer o bobl sy\u2019n\ngweithio ym maes iechyd meddwl all wneud hyn. Ar ben hynny, o gymharu \u00e2\u2019n\nniferoedd, mae nifer cymharol fach o ymchwilwyr ym maes nyrsio. Rydw i wedi\ncael cefnogaeth ac ysbrydoliaeth gan bobl, yma yng Nghaerdydd a thu hwnt, sydd\nwedi buddsoddi eu hegni mewn tyfu capasiti ymchwil a seilio gwasanaethau ac\nymarfer ar fwy o wybodaeth a thystiolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Ar beth ydych yn gweithio ar hyn o bryd?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i&#8217;n\nymchwilydd gwasanaethau iechyd meddwl cymhwysol, ac rwy\u2019n ymddiddori mewn\nprofiadau pobl o ddefnyddio\u2019r system gofal iechyd meddwl, a gweithio ynddi.\nRwy\u2019n rhan o ddau brosiect ar hyn o bryd, ac yn goruchwylio myfyrwyr doethurol:\nmae un yn synthesis o\u2019r dystiolaeth ym maes gofal diwedd oes ar gyfer pobl \u00e2\nsalwch meddyliol difrifol, a threial a gwerthusiad o ymyriad newydd ar gyfer\npobl sydd ag anhwylder pryder \u00f4l-drawmatig yw\u2019r ail. Rwy\u2019n dysgu llawer gan y\nddau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Sut mae eich ymchwil yn llywio eich ymarfer\n(clinigol), ac i&#8217;r gwrthwyneb?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dydw i ddim yn\ngweithio fel ymarferydd bellach, ond mae pob prosiect rydw i wedi\u2019i arwain neu\ngyfrannu ato wedi bod yn un sy\u2019n ymwneud \u00e2 gwasanaethu a\/neu ymarfer. Mae\u2019r\ncwestiynau ymchwil rwy\u2019n ymddiddori ynddynt yn deillio o brofiadau ac\narsylwadau pobl sy\u2019n cael gofal iechyd meddwl, a phobl sy\u2019n ei roi. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Pa newidiadau ydych wedi&#8217;u gweld mewn agweddau\ntuag at iechyd meddwl yn ystod eich gyrfa?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n\nsyfrdanol faint yn fwy y mae pobl yn trafod iechyd meddwl ac yn ysgrifennu\namdano, o gymharu \u00e2\u2019r 1980au, pan ddechreuodd fy ngyrfa. Rwy\u2019n credu mai peth\ncadarnhaol iawn yw hwn, ac rwy\u2019n gobeithio bod hyn yn cael ei adlewyrchu mewn\nmwy o oddefgarwch a dealltwriaeth ymysg y cyhoedd. Hefyd, rwy\u2019n arsylwi sut mae\niechyd meddwl yn faes dadleuol o hyd: a mwy byth, rwy\u2019n tybio, nag yn achos\nmeysydd gofal iechyd eraill. Mae trafodaethau a dadleuon chwyrn ym mhob math o\nfaes, gan gynnwys fframweithiau esboniadol ar gyfer deall trallod, hawliau\ncystadleuol at wybodaeth, cynnwys a ffiniau ymarfer proffesiynol, ac ati. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Yn eich barn chi, beth yw&#8217;r prif heriau ar\ngyfer iechyd meddwl?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r\ngwasanaethau iechyd meddwl wedi\u2019i chael hi\u2019n anodd mewn oes o gyni, ac mae\u2019r\ngweithlu iechyd meddwl wedi\u2019i wasgu\u2019n ddifrifol. Os ydym yn ddifrifol am wella\niechyd meddwl a datblygu gwasanaethau, mae angen buddsoddiad newydd arnom, a\nhyrwyddo pa mor foddhaus mae gyrfaoedd ym maes gofal iechyd meddwl. Hefyd, mae\nangen i ni gynyddu nifer y bobl sy\u2019n ymwneud ag ymchwil i wasanaethau iechyd\nmeddwl, gan gynnwys pobl sydd \u00e2 chefndiroedd mewn nyrsio a\u2019r proffesiynau\niechyd cyswllt. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Pa gyngor fyddech yn ei gynnig i&#8217;r rheini sy&#8217;n\ndechrau ar yrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dewch o hyd i\nffrindiau a gweithio gyda nhw. Os yw ymchwil i systemau a gwasanaethau iechyd\nmeddwl cymhwysol yn apelio atoch, gwrandewch yn ofalus ar brofiadau a\nsafbwyntiau pobl sy\u2019n byw gydag anawsterau iechyd meddwl ac yn defnyddio\u2019r\ngwasanaethau, ac ar brofiadau a safbwyntiau\u2019r bobl sy\u2019n gweithio yn y system. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn [&hellip;]","protected":false},"author":1037,"featured_media":431,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[33,30],"tags":[],"class_list":["post-1701","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-rr","jetpack-related-posts":[{"id":1670,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-fel-dewis-gyrfaol-ben-hannigan-nicola-evans\/","url_meta":{"origin":1701,"position":0},"title":"Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol &#8211; Ben Hannigan &amp; Nicola Evans","author":"Alison Tobin","date":"29 April 2019","format":false,"excerpt":"Sut i ddisgrifio\u2019r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu\u2019n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion, ac sy\u2019n cynnwys rhoi gofal wyneb\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1280,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mhnr2017\/","url_meta":{"origin":1701,"position":1},"title":"#MHNR2017","author":"Ben Hannigan","date":"27 September 2017","format":false,"excerpt":"Fe groesawyd cynrychiolwyr i Gynhadledd Ymchwil Ryngwladol Nyrsio Iechyd Meddwl (#MHNR2017) yn Neuadd Dinas Caerdydd ar 14 ac 15 Medi 2017. Dyma\u2019r 23ain tro i\u2019r gynhadledd gael ei chynnal. Hwn oedd y tro cyntaf i\u2019r gynhadledd ymweld \u00e2 Chymru, a Dychmygu, Creu ac Ymchwilio oedd y thema eleni. Croesawyd papurau\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1356,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-ym-mhalestina\/","url_meta":{"origin":1701,"position":2},"title":"Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhalestina","author":"Dr Mohammad Marie","date":"30 October 2017","format":false,"excerpt":"Mohammad Marie \u00a0-\u00a0 nyrs iechyd meddwl academaidd ym Mhrifysgol An-Najah Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn amrywio o un wlad i'r llall. Mae hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys rhai'n gysylltiedig \u00e2 diwylliant, gwleidyddiaeth ac adnoddau. Yn achos Palestina, gyda'i hanes o wrthdaro, nid yw gwasanaethau iechyd meddwl\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1833,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gofal-iechyd-corfforol-mewn-lleoliadau-iechyd-meddwl-sut-y-gall-cyfnewid-gwybodaeth-daflu-goleuni-ar-gyfleoedd-i-wella-polisiau-ymarfer-addysg-ac-ymchwil\/","url_meta":{"origin":1701,"position":3},"title":"Gofal iechyd corfforol mewn lleoliadau iechyd meddwl: sut y gall cyfnewid gwybodaeth daflu goleuni ar gyfleoedd i wella polis\u00efau, ymarfer, addysg ac ymchwil","author":"Dr Seren Roberts","date":"30 April 2024","format":false,"excerpt":"Seren Roberts \u00a0Penny Jones\u00a0Allyson Wilson\u00a0\u00a0 Mae iechyd corfforol pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn waeth na'r boblogaeth yn gyffredinol, a disgwylir y bydd hyd eu hoes rhwng 13 a 30 mlynedd yn fyrrach. Mae'r anghyfartaledd iechyd hwn yn hysbys iawn. Mae llawer o bolis\u00efau iechyd ledled y byd yn ceisio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1864,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cyfnewid-gwybodaeth-trwy-leoliadau-nyrsio-iechyd-meddwl-dewisol-dramor\/","url_meta":{"origin":1701,"position":4},"title":"Cyfnewid gwybodaeth trwy leoliadau nyrsio iechyd meddwl dewisol dramor","author":"Abigail Fisher","date":"31 July 2024","format":false,"excerpt":"Roedd cyfnewid gwybodaeth llwyddiannus ar gyfer ymarfer nyrsio iechyd meddwl, polisi, ymchwil ac addysg rhwng ein Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac Ardal Iechyd Lleol Canolbarth y Gogledd (De Cymru Newydd, Awstralia) yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth ymhellach trwy leoliadau myfyrwyr rhyngwladol. Seren Roberts (Uwch Ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl) Mae'r modelau\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1761,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/darlith-a-gwobr-cyflawniad-oes-skellern\/","url_meta":{"origin":1701,"position":5},"title":"Darlith a Gwobr Cyflawniad Oes Skellern","author":"Ben Hannigan","date":"16 August 2023","format":"gallery","excerpt":"Gwnaeth Eileen Skellern gyfraniad o bwys at ddatblygiad nyrsio iechyd meddwl modern a rhyngbersonol, ac yn sgil ei marwolaeth yn 1980 sefydlwyd cyfres o ddarlithoedd er cof iddi. Ers 2006 mae Darlith Skellern wedi cael ei thraddodi yn flynyddol, ar y cyd \u00e2 Gwobr Cyflawniad Oes. Bellach, y digwyddiad deublyg\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/06\/Hannigan-Ben.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1701","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1037"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1701"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1701\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1702,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1701\/revisions\/1702"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/431"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1701"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1701"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1701"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}