{"id":1675,"date":"2019-05-23T06:51:38","date_gmt":"2019-05-23T06:51:38","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1675"},"modified":"2019-05-23T09:26:16","modified_gmt":"2019-05-23T09:26:16","slug":"o-famau-instagram-i-seicosis-ol-enedigol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/o-famau-instagram-i-seicosis-ol-enedigol\/","title":{"rendered":"O &#8216;famau Instagram&#8217; i Seicosis \u00d4l-enedigol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae mamolaeth\ni fod yn rhywbeth sy&#8217;n ymddangos yn &#8220;berffaith&#8221; ar Instagram. Yn\nllawn gwenu, cwtsio a babis ciwt. Ond mae mwy iddo na hynny, sydd ddim yn amlwg\nar yr olwg gyntaf. Rydyn ni gyd yn clywed am oblygiadau corfforol rhoi\ngenedigaeth, ond nid am salwch meddwl ar \u00f4l cael babi. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mamolaeth mewn Bywyd Go Iawn<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhaglen ddogfen Louis Theroux, <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/iplayer\/episode\/m00052dk\/louis-theroux-mothers-on-the-edge\">Mothers\non the Edge<\/a>, oedd y ffordd berffaith o ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth\nIechyd Meddwl.Roedd y\nffilm yn dangos sawl menyw a&#8217;u teuluoedd sydd \u00e2 sbectrwm eang a chymhleth o\nsalwch meddwl \u00f4l-enedigol, gyda seicosis \u00f4l-enedigol yn un o&#8217;r rhai mwyaf\ndifrifol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hoffwn estyn\nclod mawr i&#8217;r menywod yn &#8216;Mothers on the Edge&#8217;, yn ogystal \u00e2&#8217;r rhai hynny a\naeth ati i rannu eu straeon i godi ymwybyddiaeth a chael gwared ar y stigma.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd Barbara,\nmam am y tro cyntaf a ddaeth i&#8217;r ysbyty ddau ddiwrnod ynghynt, wedi drysu.\nDywedodd wrth Theroux ei bod hi&#8217;n meddwl mai ei g\u0175r oedd ei mab, a fyddai&#8217;n\ngolygu ei fod yn frawd i&#8217;r babi yn ogystal ag yn dad. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd ei\nmeddwl ar garlam, ni allai gysgu ac yn y diwedd, fe aeth i orsaf drenau lle\nroedd hi&#8217;n bwriadu dod \u00e2&#8217;i bywyd i ben. Nid oedd ganddi unrhyw hanes o salwch\nmeddwl cyn y profiad hwn. Ar \u00f4l pedair wythnos yn yr uned mamau a babanod,\ndaeth yn \u00f4l at ei hun a chafodd ei hanfon adref. &#8216;Gwyrth Nadolig arall&#8217; yn \u00f4l\ndisgrifiad y seiciatrydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Datblygodd\nLisa, mam i dri, a oedd wedi cael pyliau o iselder \u00f4l-enedigol yn y gorffennol,\nbwl seicotig ar \u00f4l ei beichiogrwydd mwyaf diweddar. Disgrifiodd ei g\u0175r y\ndirywiad &#8216;hynod frawychus&#8217; dros gyfnod o bythefnos. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Esboniodd Lisa\nymhellach ei bod hi&#8217;n teimlo&#8217;n isel, ddim yn siarad, heb olchi am ddyddiau ac\nyn credu bod y t\u0177 yn mynd i gael ei feddiannu gan glowniaid sy&#8217;n lladd a\nfyddai&#8217;n eu rhwygo ar wah\u00e2n ac yn dinistrio eu t\u0177. &#8216;Roedd yr hyn y gallwn ei\nweld mor fyw&#8217;, dywedodd Lisa. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Chwe mis yn\nddiweddarach mae&#8217;n dal i deimlo&#8217;r ofn hwnnw, er nad yw hi bellach yn credu y\nbydd yn digwydd. Er ei bod hi&#8217;n parhau i gael symptomau o orbryder, mae hi&#8217;n\nddigon da erbyn hyn i fynd n\u00f4l adref ar \u00f4l cyfnod hir yn yr uned mamau a\nbabanod. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Seicosis \u00d4l-enedigol: y ffeithiau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae seicosis\n\u00f4l-enedigol yn bwl difrifol o salwch meddwl sy&#8217;n effeithio ar rhwng un neu ddwy\nenedigaeth ym mhob 1,000. Mae&#8217;n cynnwys rhai o&#8217;r ffurfiau mwyaf difrifol o\nsalwch seiciatrig sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 beichiogrwydd ac mae&#8217;n amlwg pryd mae&#8217;n\ndechrau, ddyddiau neu wythnosau ar \u00f4l i&#8217;r babi gael ei eni. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall hyn\nddigwydd i fenywod heb unrhyw hanes seiciatrig yn y gorffennol, fel Barbara,\nneu gyda thua hanner yr achosion, i&#8217;r rhai hynny sydd \u00e2 hanes o salwch meddwl\ndifrifol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan\nfenywod sydd ag anhwylder deubegynol risg arbennig o uchel, gyda tua 1 ym mhob\n5 o fenywod yn profi pwl o seicosis ar \u00f4l genedigaeth. Mewn achosion eraill,\ngall rhoi genedigaeth achosi mwy o byliau deubegynol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae symptomau yn ystod pwl yn ddifrifol\na gallant newid yn sydyn, o fewn oriau neu ddiwrnodau. Gallant gynnwys hwyliau\nuchel neu isel, dryswch, credoau anarferol, a chlywed neu weld pethau sydd ddim\nyno, fel y dangoswyd mewn modd mor bwerus yn y rhaglen ddogfen. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallai fynd yn s\u00e2l ar yr adeg hon gael\neffaith fawr ar fywydau menywod a&#8217;u teuluoedd, gan amharu ar y berthynas gyda&#8217;r\nbabi newydd. Yn drasig, ond yn anaml, gall pyliau o salwch arwain at\nhunanladdiad neu niwed i&#8217;r babi. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall pyliau o seicosis \u00f4l-enedigol bara\nwythnosau neu fisoedd. Er gwaethaf pa mor ddifrifol y gall ymddangos, mae&#8217;r\nrhan fwyaf o fenywod yn gwella gyda&#8217;r driniaeth iawn ac yn mynd yn eu blaen i\nddatblygu perthynas ardderchog \u00e2&#8217;u plant. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er bod yr ymateb i driniaeth ar gyfer\ncyfnod seicotig ac\u00edwt y salwch yn gallu bod yn wych, fel y gwelsom gyda\nBarbara, mae&#8217;n fwy cyffredin i fenywod brofi cyfnod estynedig o iselder yn rhan\no&#8217;r salwch, a gwellhad dros gyfnod hirach, wrth ddod i delerau gyda&#8217;r profiad o\ngael salwch meddwl difrifol ar yr adeg hon. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Unedau mamau a babanod<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pyliau o\nseicosis \u00f4l-enedigol yn aml yn ddifrifol iawn ac fel arfer mae angen triniaeth\nbellach. Dangosodd y rhaglen ddogfen ddwy uned seiciatrig arbenigol: uned mamau\na babanod yn ne Llundain ac un arall yng Nghaer-wynt lle mae mamau yn byw ochr\nyn ochr \u00e2&#8217;u babanod. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er bod\ncadarnhad y bydd cyllid ar gael i gynyddu nifer yr unedau i famau a babanod yn\nLloegr o 17 i 21, nid oes unedau o&#8217;r fath yng Nghymru na Gogledd Iwerddon o\nhyd, a dim ond nifer cyfyngedig o welyau sydd ar gael. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn\ngolygu bod menywod yn y DU yn parhau i wynebu&#8217;r penderfyniad anodd o orfod\nteithio oriau o&#8217;u cartrefi i gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt, neu gael\neu hanfon i ward seiciatreg gyffredinol a chael eu gwahanu o&#8217;u babanod. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r\nGynghrair Iechyd Meddwl Mamau yn ceisio sicrhau bod y mater hwn yn cael sylw\ntrwy&#8217;r <a href=\"https:\/\/maternalmentalhealthalliance.org\/campaign\/\">ymgyrch Perthnasol i\nBawb<\/a>. Y nod yw bod pob menyw yw cael mynediad at y gofal sydd ei\nangen arnynt a&#8217;u teuluoedd, ble bynnag a phryd bynnag y mae ei angen.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Yr angen am ymchwil<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y rhaglen\nddogfen, soniwyd am y &#8220;storm berffaith&#8221; o ddigwyddiadau ac\namgylchiadau a all arwain at seicosis \u00f4l-enedigol: roedd hormonau, bwydo ar y\nfron, newidiadau o ran cwsg, cymhlethdodau obstetreg, hanes blaenorol, geneteg\nac addasu i amgylchiadau newydd yn eu plith. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ychydig iawn\nrydyn ni&#8217;n ei wybod o hyd am yr hyn sy&#8217;n achosi seicosis \u00f4l-enedigol, sut y\ngallwn ragweld pwy sy&#8217;n mynd i gael pwl, ac yn bwysicaf oll, sut y gallwn ei\natal.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i&#8217;n rhan\no un o nifer o brosiectau sy&#8217;n digwydd yn y Brifysgol sydd \u00e2&#8217;r nod o wella ein\ndealltwriaeth o&#8217;r ffactorau sy&#8217;n achosi seicosis \u00f4l-enedigol ac anhwylder\nhwyliau mewn beichiogrwydd. Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith yn arwain at\nwella rhagfynegiadau a thriniaethau gwell ar gyfer menywod sy&#8217;n cael eu\nheffeithio gan y mathau hyn o salwch. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn ein\nhelpu i gyflawni&#8217;r nod, rydym yn chwilio am fenywod sydd wedi dioddef o\nseicosis \u00f4l-enedigol a\/neu sydd ag anhwylder deubegynol i gymryd rhan yn ein\nhastudiaethau. I gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan, ewch i <a href=\"http:\/\/www.ncmh.info\/postpartum\">www.ncmh.info\/postpartum<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae mamolaeth i fod yn rhywbeth sy'n ymddangos yn \"berffaith\" ar Instagram. Yn llawn gwenu, cwtsio a babis ciwt. Ond mae mwy iddo na hynny, sydd ddim yn amlwg ar [&hellip;]","protected":false},"author":1686,"featured_media":1678,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[10,30],"tags":[],"class_list":["post-1675","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-adult-mental-health","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-r1","jetpack-related-posts":[{"id":321,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mental-health-united-we-stand-divided-we-fall-cymraeg\/","url_meta":{"origin":1675,"position":0},"title":"Iechyd meddwl:  Mewn undeb y mae nerth","author":"Professor Michael Owen","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Dyw iechyd meddwl byth ymhell o\u2019r penawdau y dyddiau hyn, a dyna sut dylai fod. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae salwch meddwl yn effeithio ar bobl ar draws yr ystod oedran, o blant i'r henoed, ac mae\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1240,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/allai-gwyddor-data-chwyldroi-gofal-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1675,"position":1},"title":"Allai gwyddor data chwyldroi gofal iechyd meddwl?","author":"Jemma Cole","date":"2 August 2017","format":false,"excerpt":"Mae salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar person bob blwyddyn, ac yn aml mae hynny\u2019n cael effaith ddinistriol ar eu bywydau.\u00a0 Ac er bod salwch meddwl yn cael sylw cynyddol yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol, mae ein dealltwriaeth o\u2019r hyn sy\u2019n achosi cyflyrau sy\u2019n amrywio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":1507,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gwell-ymwybyddiaeth-o-iechyd-meddwl-plant\/","url_meta":{"origin":1675,"position":2},"title":"Gwell ymwybyddiaeth o iechyd meddwl plant","author":"Dr Frances Rice","date":"10 May 2018","format":false,"excerpt":"Mae llawer o blant a phobl ifanc yn profi teimladau o ofid a thristwch neu yn cael trafferth canolbwyntio ar waith ysgol. Yn achlysurol, gall yr anawsterau hynny ddatblygu i fod yn rhai parhaus ac ymyrryd \u00e2 bywyd gartref, gwaith ysgol a\u2019r gallu i wneud ffrindiau. Deallir yn gynyddol y\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1573,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-amy-lynham-cydymaith-ymchwil-seicosis-ac-anhwylderau-affeithiol-mawr\/","url_meta":{"origin":1675,"position":3},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Amy Lynham, Cydymaith Ymchwil, Seicosis ac Anhwylderau Affeithiol Mawr","author":"Amy Lynham","date":"20 September 2018","format":false,"excerpt":"\u00a0Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Astudiais seicoleg yn y Brifysgol am fy mod wedi fy nghyfareddu gan yr ymennydd ac ymddygiad dynol. Treuliais flwyddyn yn gweithio yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn rhan o leoliad proffesiynol, a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1033,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/canfyddiadau-o-salwch-meddwl-y-cyfryngau-ac-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1675,"position":4},"title":"Canfyddiadau o salwch meddwl: Y cyfryngau ac iechyd meddwl","author":"Rachel Pass","date":"21 February 2017","format":false,"excerpt":"Ymddangosodd hwn gyntaf ar thebraindomain.org Fyddech chi ddim yn beio rhywun sydd \u00e2 chanser y fron neu ffibrosis systig am eu clefyd, fyddech chi? Fe wyddom eu bod yn cael eu hachosi gan namau ar y mecanwaith biolegol. Gall dewisiadau bywyd gynyddu'r risg ond mae llai o stigma'n gysylltiedig \u00e2\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":396,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/healthy-people-can-hear-voices-too-cy\/","url_meta":{"origin":1675,"position":5},"title":"Mae pobl Iach yn gallu clywed lleisiau hefyd","author":"Clara Humpston","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Mae\u2019r rhan fwyaf ohonom wedi dod ar draws ambell berson ar y stryd yn mwmial wrthynt eu hunain, fel pe baent yn cael sgwrs gyda rhywun arall. Maent yn aml yn ymddangos fel petaent wedi llwyr ymgolli yn eu cymdeithion anweledig, ac eto rywsut wedi drysu neu hyd yn oed\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/04\/iStock_000016353737_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/04\/iStock_000016353737_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/04\/iStock_000016353737_Medium.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/04\/iStock_000016353737_Medium.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/04\/iStock_000016353737_Medium.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/04\/iStock_000016353737_Medium.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/05\/GettyImages-481394474.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1675","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1686"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1675"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1675\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1676,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1675\/revisions\/1676"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1678"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1675"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1675"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1675"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}