{"id":1660,"date":"2019-03-08T16:12:50","date_gmt":"2019-03-08T16:12:50","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/?p=1660"},"modified":"2019-03-08T16:12:55","modified_gmt":"2019-03-08T16:12:55","slug":"gweithio-mewn-uned-cyfeirio-disgyblion-jodie-gornall","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gweithio-mewn-uned-cyfeirio-disgyblion-jodie-gornall\/","title":{"rendered":"Gweithio mewn Uned Cyfeirio Disgyblion \u2013 Jodie Gornall"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan fod gen i ddiddordeb ers tro mewn iechyd meddwl a\nhelpu pobl eraill, roeddwn i\u2019n chwilio am swydd fyddai\u2019n cynnig amrywiaeth i mi\nsydd y tu hwnt i\u2019m cefndir yn y diwydiant gofal. Gwelais hysbyseb am\nGynorthwy-ydd Addysgu Anghenion Addysgol Arbennig (SENTA) drwy asiantaeth.\nRoedd hyn yn gyfle i mi ddysgu am faes cwbl newydd. Roeddwn i wedi cyflwyno fy\nnghais am Nyrsio Iechyd Meddwl, ac roeddwn i eisiau gallu trafod fy mhrofiad o\nofal mewn amgylcheddau anarferol yn y cyfweliad. Pan gododd y cyfle am wythnos\no waith mewn Uned Cyfeirio Disgyblion, meddyliais y byddai\u2019n ddelfrydol er mwyn\nymgorffori addysg gyda gofal a chefnogaeth arbenigol. Drwy\u2019r profiad, ces i\ngipolwg ar system oedd yn gwbl anghyfarwydd i mi, a llawer o bobl eraill hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Unedau Cyfeirio Disgyblion (PRU) yn opsiwn olaf ar\ngyfer disgyblion trafferthus. Weithiau, dyma&#8217;r unig opsiwn er mwyn cynnig\naddysg i blant sy&#8217;n byw gydag ymddygiad trafferthus, rhai sydd ag anghenion\narbennig (heb ddiagnosis eto efallai), plant sy\u2019n cael eu heithrio neu sydd\nangen cael eu hailintegreiddio. Yr unedau hyn yw\u2019r dewis amgen a ddefnyddir\nfwyaf ar gyfer y rheini sy\u2019n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn\nbennaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae 2,188 o ddisgyblion wedi cofrestru eu bod yn\nderbyn addysg heblaw yn yr ysgol yng Nghymru. O\u2019r rhain, mae 778 wedi ymrestru\nag un PRU (efallai fod rhai wedi cofrestru ddwywaith). O\u2019r 778 hyn, mae 60%\nrhwng 14 a 15 oed. Mae chwe myfyriwr o dan bum mlwydd oed. Mae gan 86.8% o\u2019r\nEOTAS anghenion addysgol arbennig sydd wedi eu cydnabod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r PRU hon yn ymwneud \u00e2 disgyblion 14-16 oed ac\nmae\u2019n cynnal dosbarthiadau gyda chwe disgybl ar y mwyaf, un athro ac un\ncynorthwy-ydd addysgu. Trefnir tacsis wedi\u2019u talu ymlaen llaw i gasglu\u2019r\ndisgyblion o\u2019u cartrefu, neu drefniadau byw eraill, a dod \u00e2 nhw\u2019n uniongyrchol\ni\u2019r ysgol. Mae chwe gwers 45 munud o hyd i\u2019r diwrnod. Mae\u2019r PRU arferol yng\nNghymru\u2019n amserlennu 23.8 o oriau\u2019r wythnos. Mae hyn yn cynnwys pynciau\nsylfaenol y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer bywyd fel oedolion, sef Saesneg a\nMathemateg, ynghyd \u00e2\u2019r pynciau sy\u2019n ymarfer sgiliau creadigol ac ymarferol y\ndisgyblion: Celfyddydau, Ymarfer Corff, Ffotograffiaeth a Bagloriaeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma\u2019r gwersi lle gallant fynegi eu profiadau\npersonol. Mae\u2019r darnau y maen nhw\u2019n eu creu\u2019n wreiddiol ac yn ysbrydoledig. Mae\neu creadigaethau arloesol ac artistig yn adlewyrchu eu deallusrwydd ac yn\namlygu pwysigrwydd y mathau hyn o bynciau, o\u2019u cymharu ag academia prif ffrwd.\nMae\u2019r myfyrwyr yn cael blas anghyfarwydd ar lwyddiant addysgol, ac mae rhai\ncymeradwy\u2019n defnyddio hwn i sbarduno eu hail gyfle.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Beth oedd fwyaf trawiadol i mi oedd bod y disgyblion\nyn ystyried malio dim am addysg yn c\u0175l. \u2018Sdim ots\u2019 yw\u2019r mantra tragwyddol sy\u2019n\ncyfeilio gwersi\u2019r diwrnod. Nhw eu hunain yw eu gelyn gwaethaf. Mae staff yn\nedrych arnyn nhw\u2019n rhy ddiymadferth, gan fyfyrio er ein magwraethau a\u2019n\nhieuenctid ein hunain. Trwy geisio ymateb mewn ffordd empathetig drwy gymharu\neu profiadau \u00e2\u2019ch rhai chi, dim ond cic i\u2019r nyth cacwn fyddai effaith hynny.\nPam ddylen nhw gael cyngor gan rywun sydd, o&#8217;u safbwynt nhw, o genhedlaeth\narall? A dim ond 20 oed ydw i.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ymddygiad ymosodol yn gyffredin iawn; fesul\ndiwrnod, awr a munud. Mae\u2019r mwyafrif o ddisgyblion yn taflu geiriau ymosodol\ntuag at aelodau staff. Maen nhw\u2019n galw enwau ar y staff, yn eu sarhau ac yn\nrhannu eu barn sydd fel arfer yn negyddol ynghylch sut maen nhw\u2019n gwneud eu\nswydd. Maen nhw\u2019n gofyn iddyn nhw \u2018adael llonydd i fi\u2019, ond mewn iaith sydd\nlawer mwy rheglyd fel arfer. Gall y fath ymddygiad ddeillio o ymdeimlad o\nrwystredigaeth yn yr ysgol, fel y gwelir ymysg disgyblion addysg prif ffrwd\nweithiau hefyd. Mae&#8217;n fodd o fynegi eu teimladau. Mae diffyg amynedd,\ncymhelliant a hunan-hyder yn gwneud iddyn nhw gael agwedd wael tuag at bwnc a\u2019r\nathro. Ar y llaw arall, gall yr ebychiadau hyn fod yn symptom o\u2019u hiechyd\nmeddwl.<br>\n<br>\nOherwydd eu magwraeth a&#8217;r ffaith eu bod yn byw gydag iselder, gorbryder, ADHD\na\/neu anhwylderau bwyta, yn anffodus, mae\u2019n ddealladwy. Mae\u2019r rhestr gwbl\nanghyflawn hon o gyflyrau iechyd meddwl sy\u2019n gyffredin ymysg pobl ifanc yn\ngallu eu llethu\u2019n seicolegol yn yr ysgol. Er bod y PRU yn cynnig naws gefnogol\nac arweiniad un i un, y disgyblion sy\u2019n gyfrifol am ddewis yr arweiniad hwn. Os\nyw eu heriau meddyliol yn eu llethu, bydd ysbytai yn rhoi addysg iddyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd llawer o ddisgyblion yn y PRU yn trafod\ncyffuriau, alcohol, rhyw, camdriniaeth, bwlio, cyfweliadau \u00e2\u2019r heddlu a hyd yn\noed carchar yn ddifeddwl. Mae\u2019n anodd gwrando ar y fath sgyrsiau gan blant mor\nifanc. Mae trafod pobl eraill, yn yr ysgol neu y tu hwnt iddi, yn rhywbeth maen\nnhw&#8217;n ei fwynhau&#8217;n fawr. Mae\u2019n anodd gwybod beth sy\u2019n wir a beth sy&#8217;n gelwydd\nbur. Pwy sydd \u00e2\u2019r stori orau? Pwy sy\u2019n mynd i rannu&#8217;r cyfrinach hwnnw gyntaf?\nMae\u2019n fanllef ddi-baid sy\u2019n cynyddu a chynyddu nes i bob un ohonom ael ei\nfyddaru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cael boddhad parod yw nod y mwyafrif ohonyn nhw. Mae\u2019n\nanodd iddyn nhw weld manteision nodau hirdymor, achos nid ydynt yn credu eu bod\nyn gallu datblygu. Mae blynyddoedd llencyndod yn gyfnod o ddarganfod, arbrofi a\ngwthio\u2019r ffiniau. Byw yn y presennol, malio dim am y goblygiadau. Maen nhw\u2019n\nmwynhau teimlo\u2019r adrenalin yn sg\u00eel eu penderfyniadau byrbwyll. Nid yw cael\nswydd, incwm sefydlog neu gynnal teulu ar eu meddyliau. Ond a ddylen nhw boeni\nam y fath bethau?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhai\u2019n bwriadu byw gyda\u2019u Mam, eu Tad neu eu Gwarchodwr\nam weddill eu hoes, gan ddweud y bydd eu harian poced yn ddigon iddyn nhw. Am\nsyndod sy\u2019n aros amdanyn nhw. Bydd rhai eraill yn parhau gyda\u2019u gyrfaoedd\npresennol yn y diwydiant cyffuriau, fel dosbarthwyr neu ddelwyr cyffuriau. Fodd\nbynnag, fyddan nhw ddim yn deall y fathemateg y tu \u00f4l i elw a threuliau, na\ngoblygiadau posibl ymgymryd \u00e2 \u201cswydd\u201d o&#8217;r fath. Mae llawer o\u2019r plant hyn yn\npwysleisio eu bod am gael arian yn y dyfodol: iddyn nhw, dyna\u2019r hyn sydd wrth\nwraidd hapusrwydd. Gallai amddifadiad ariannol, diffyg sefydlogrwydd neu\nddiffyg rhywbeth sefydlog yn eu bywydau egluro\u2019r dyhead am arian. Mae bron i\n40% o\u2019r EOTAS hynny\u2019n cael prydiau am ddim yn yr ysgol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir\ndadlau bod addysg yn gam pwysig, neu mai dyma&#8217;r <em>prif<\/em> gam, tuag at ansawdd bywyd da. Er ein bod yn cwestiynu pam\nrydym ni\u2019n eu helpu pan mae ein hymdrechion yn aml yn cael eu gwrthod, dyma&#8217;r\ncwbwl rydym ni eisiau iddyn nhw. Hyd yn oed pan rydym wedi cael ein gwthio tuag\nat y dibyn, ac wedi brwydro i gadw ein hamynedd, rydym ni eisiau iddyn nhw gael\ndyfodol da. Mae pawb wedi pasio drwy\u2019r un cyfnod yn ein harddegau lle, efallai,\nrydyn ni&#8217;n sylweddoli bod ein gweithredoedd ac ymddygiadau yn y gorffennol heb\nhelpu a&#8217;u bod, mewn gwirionedd, wedi ein rhwystro. Fyddai pethau wedi bod yn\nwell pe bawn i wedi gwneud mwy o ymdrech ar gyfer y darn yna o waith cwrs?\nDdylwn i fod wedi treulio mwy o amser yn ystyried y cyfleodd y mae colegau a\nphrentisiaethau\u2019n eu cynnig? Prifysgol hyd yn oed? Dylai eu nodau fod yn\nrealistig, ond dylid cydnabod eu potensial yn hytrach na chanolbwyntio ar yr\nhyn sydd ar yr arwyneb. Mae\ncyfanswm y myfyrwyr sy\u2019n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol wedi lleihau gan 15%\ndros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae hyn yn dystiolaeth o welliant o ran rheoli\ndisgyblion trafferthus mewn ysgolion prif ffrwd, yn ogystal \u00e2 llwyddiant\ncyfleusterau fel PRUs. Peidiwch\n\u00e2 diystyru eu doniau unigryw dim ond oherwydd eu bod yn anghonfensiynol. Mae&#8217;r\ngallu i fynegi eu hunain mewn celfyddydau amgen fel mowldio clai neu ysgrifennu&#8217;r\ngeiriau ar gyfer c\u00e2n rap, yn ddawn unigryw a gwerthfawr. Gellid eu hystyried yr\nun mor ddeallus pe bai ganddyn nhw\u2019r llwyfan iawn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gan fod gen i ddiddordeb ers tro mewn iechyd meddwl a helpu pobl eraill, roeddwn i\u2019n chwilio am swydd fyddai\u2019n cynnig amrywiaeth i mi sydd y tu hwnt i\u2019m cefndir [&hellip;]","protected":false},"author":43,"featured_media":1665,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[10,9],"tags":[],"class_list":["post-1660","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-adult-mental-health","category-child-and-adolescent-mental-health"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-qM","jetpack-related-posts":[{"id":1701,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","url_meta":{"origin":1660,"position":0},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan","author":"Ben Hannigan","date":"6 August 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":1599,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-myfyriwr-phd\/","url_meta":{"origin":1660,"position":1},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Myfyriwr PhD","author":"Alison Tobin","date":"18 January 2019","format":false,"excerpt":"Mae Sin\u00e9ad Morrison yn fyfyriwr PhD sy\u2019n gweithio\u2019n rhan o astudiaeth ECHO, Profiadau Plant gydag Amrywiolion Rhifau Copi (Copy Number Variants) Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Mae iechyd meddwl wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ers oeddwn yn ifanc, a gallaf gofio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1864,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cyfnewid-gwybodaeth-trwy-leoliadau-nyrsio-iechyd-meddwl-dewisol-dramor\/","url_meta":{"origin":1660,"position":2},"title":"Cyfnewid gwybodaeth trwy leoliadau nyrsio iechyd meddwl dewisol dramor","author":"Abigail Fisher","date":"31 July 2024","format":false,"excerpt":"Roedd cyfnewid gwybodaeth llwyddiannus ar gyfer ymarfer nyrsio iechyd meddwl, polisi, ymchwil ac addysg rhwng ein Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac Ardal Iechyd Lleol Canolbarth y Gogledd (De Cymru Newydd, Awstralia) yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth ymhellach trwy leoliadau myfyrwyr rhyngwladol. Seren Roberts (Uwch Ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl) Mae'r modelau\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/07\/MHB-Australia-placement-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1833,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gofal-iechyd-corfforol-mewn-lleoliadau-iechyd-meddwl-sut-y-gall-cyfnewid-gwybodaeth-daflu-goleuni-ar-gyfleoedd-i-wella-polisiau-ymarfer-addysg-ac-ymchwil\/","url_meta":{"origin":1660,"position":3},"title":"Gofal iechyd corfforol mewn lleoliadau iechyd meddwl: sut y gall cyfnewid gwybodaeth daflu goleuni ar gyfleoedd i wella polis\u00efau, ymarfer, addysg ac ymchwil","author":"Dr Seren Roberts","date":"30 April 2024","format":false,"excerpt":"Seren Roberts \u00a0Penny Jones\u00a0Allyson Wilson\u00a0\u00a0 Mae iechyd corfforol pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn waeth na'r boblogaeth yn gyffredinol, a disgwylir y bydd hyd eu hoes rhwng 13 a 30 mlynedd yn fyrrach. Mae'r anghyfartaledd iechyd hwn yn hysbys iawn. Mae llawer o bolis\u00efau iechyd ledled y byd yn ceisio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/04\/View-from-Southern-Cross-Campus-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1377,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/rhan-2\/","url_meta":{"origin":1660,"position":4},"title":"Rhan 2","author":"Kali Barawi","date":"11 November 2017","format":false,"excerpt":"Mae\u2019r cyn-filwr John Skipper wedi dod yn llefarydd cyhoeddus ac yn hyrwyddwr ymchwil PTSD brwd ar \u00f4l cwblhau\u2019r prawf 3MDR \u00e2\u2019m t\u00eem ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn rhan gyntaf y gyfres hon, rhannodd John ei brofiadau yn y fyddin. Yn yr ail ran, mae\u2019n trafod ei ddiagnosis PTSD a\u2019i brofiadau \u00e2\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8892-copy.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8892-copy.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8892-copy.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8892-copy.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8892-copy.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8892-copy.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":962,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/sut-ydych-chi\/","url_meta":{"origin":1660,"position":5},"title":"Sut ydych chi?","author":"Natalie Ellis","date":"2 February 2017","format":false,"excerpt":"Yn 2015, fe es i Ysgol Gaeaf Prifysgol Caerdydd mewn Seiciatreg. Fel myfyrwyr meddygol ail flwyddyn, roedden ni i gyd newydd orffen bloc o bythefnos mewn seiciatreg ac roedd pawb yn llawn cyffro am seiciatreg. Ynghyd \u00e2'r rhwydweithio a'r sesiynau gr\u0175p, cawsom sgyrsiau gan unigolion oedd \u00e2 phrofiad o salwch\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/03\/GettyImages-955987824.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1660","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/43"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1660"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1660\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1661,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1660\/revisions\/1661"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1665"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1660"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1660"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1660"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}