{"id":1610,"date":"2019-01-30T15:30:47","date_gmt":"2019-01-30T15:30:47","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1610"},"modified":"2019-01-30T15:44:55","modified_gmt":"2019-01-30T15:44:55","slug":"jammind-fel-y-digwyddodd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/jammind-fel-y-digwyddodd\/","title":{"rendered":"JAMMIND: Fel y digwyddodd"},"content":{"rendered":"<p>Ymddangosodd y sylw hwn yn gyntaf ar wefan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl<\/p>\n<p><em><strong>\u201cNi fydd stigma yn diflannu dros nos. Ac eto, ni allwn ganiat\u00e1u i\u2019r rhai sydd ag anhwylder meddyliol barhau i wynebu\u2019r diraddio a gwatwar sydd wedi chwarae gormod o ran yn hanes dynol ryw.<\/strong><\/em><strong> <em>Gellir sicrhau dyfodol mwy disglair o lawer pan fydd gwybodaeth yn disodli anwybodaeth, [\u2026] a phan fydd cyswllt \u00e2 realiti anhwylder meddyliol (yn hytrach na stereoteipiau) yn cyffwrdd ag empathi pobl.\u201d<\/em><\/strong><\/p>\n<p><strong>Stephen P. Hinshaw (2007)<\/strong><\/p>\n<p>Rhwng 28 a 30 Medi, croesawodd neuaddau Adeilad Hadyn Ellis lu o ddatblygwyr gemau fideo, ymgyrchwyr iechyd meddwl a niwrowyddonwyr. Tra bod rhai o aelodau\u2019r gynulleidfa hon yn adnabod y lle eisoes, nid yw gweld datblygwyr gemau fideo yn rhywbeth arferol yng Nghanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig Prifysgol Caerdydd, ac roeddem wrth ein bodd bod cynifer ohonynt wedi penderfynu ymuno \u00e2 ni. Gyda\u2019n gilydd, diolch i nawdd gan Ymddiriedolaeth Wellcome a\u2019r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH), gwnaethom weithio\u2019n hwyr o dan faner JAMMIND, ein digwyddiad Iechyd Meddwl a Gemau Cyfrifiadurol cyntaf.<\/p>\n<p>Yn ystod y jam, cawsom gymorth gan banel o gynghorwyr a siaradwyr rhagorol. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt a hoffwn eu cydnabod yma. Gwnaeth <a href=\"https:\/\/twitter.com\/paulpcf22\">yr Athro Paul Fletcher<\/a> ein helpu i lansio\u2019r digwyddiad, a rhoddodd gipolwg i ni ar b\u0175er gemau fideo i helpu i ddeall cyflyrau seiciatrig cymhleth (rwyf wir yn argymell ei drafodaeth ar <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=tV2RLLtOgL4\">brofiadau a chanfyddiad seicotig<\/a>).<\/p>\n<p>Ar \u00f4l hynny, gwnaeth <a href=\"http:\/\/bdrn.org\/dr-arianna-diflorio\/\">Dr. Arianna di Florio<\/a> o NCMH ein herio \u00e2 thystiolaeth a oedd yn dangos bod stigma\u2019n bodoli am ei fod yn ymateb dynol hawdd i\u2019r hyn sy\u2019n anhysbys (cliciwch <a href=\"https:\/\/www.nature.com\/articles\/s41562-017-0243-x\">yma<\/a> i weld ymchwil ar pam y gallai hyn fod yn wir). Yn olaf, ar yr ail ddiwrnod, cawsom drafodaeth bwysig gan <a href=\"https:\/\/www.codefirstgirls.org.uk\/press-releases\/ones-to-watch-2017\">Dr. Natasha Latysheva<\/a>, rhaglennydd a gwyddonydd data profiadol a ddangosodd i ni pa mor anodd yw llywio\u2019n llwyddiannus drwy ddyfroedd ansefydlog y diwydiant cyfrifiadurol gan gadw eich un yn ddiogel ac yn iach ar yr un pryd.<\/p>\n<p>Rhwng y trafodaethau ac ar \u00f4l iddynt ddod i ben, gwnaeth pob un o\u2019n cyfranogwyr JAMMIND ymdrech enfawr, sydd wedi synnu pob un ohonom ar bwyllgor trefnu JAMMIND. Roedd pob un o\u2019r syniadau a ddatblygwyd yn mynd i\u2019r afael yn uniongyrchol \u00e2\u2019r cysyniad anodd o gynrychioli iechyd meddwl (a salwch meddwl) ar ffurf gemau fideo. Fel yr wyf wedi dadlau <a href=\"https:\/\/www.ncmh.info\/2018\/08\/03\/jammind-mental-health-gaming\/\">o\u2019r blaen<\/a>, nid yw gemau fideo fel arfer yn awyddus i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r mater hwn, ond mae\u2019r gwaith a wnaed gan ein timau talentog yn dangos i ni nad oes angen i hyn fod yn wir.<\/p>\n<p>Rydym i gyd yn gobeithio y bydd y gemau a gr\u00ebwyd yn ystod y penwythnos hwn yn enghraifft arall o botensial y cyfrwng hwn i droi syniadau yn rhywbeth sy\u2019n hwyliog a hyfryd.<\/p>\n<p>Rydym hefyd yn gobeithio y byddant yn gwneud i <strong>chi <\/strong>feddwl am eu cynnwys a pham eu bod yn ei gyflwyno yn y ffordd honno: Sut maent yn gwneud i chi deimlo? A ydych wedi cael profiad tebyg i\u2019r hyn y maent yn ei ddisgrifio? A ydynt yn gwneud i chi feddwl am y profiadau hynny mewn ffordd wahanol?<\/p>\n<p>Mae croeso i chi gysylltu \u00e2 ni drwy <a href=\"https:\/\/www.twitter.com\/ncmh_wales\">Twitter<\/a>\/<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/walesmentalhealth\">Facebook<\/a>\/pa bynnag ffordd yr hoffech a dweud wrthym!<\/p>\n<p>Hefyd, os ydych yn ddatblygwr gemau eich hun, dylech wybod y caiff cod ffynhonnell pob g\u00eam JAMMIND ei ryddhau o dan <a href=\"https:\/\/tldrlegal.com\/license\/x11-license\">drwydded X11<\/a>, felly os hoffech adeiladu arnynt neu greu eich fersiwn neu eich stori eich hun, mae croeso i chi wneud hynny!<\/p>\n<h2>Gemau JAMMIND 2018<\/h2>\n<h4>Y Cyfweliad<\/h4>\n<p>Y Cyfweliad (gwobr gydradd gyntaf), gan Chris Roper, Jessica Lacombe a Tom Chambers. Dychmygwch. Mae\u2019n un o\u2019r diwrnodau \u2018o na\u2019 hynny lle nad yw\u2019r larwm wedi canu. Ac mae angen i chi fynd i rywbeth pwysig, cyfweliad ar gyfer swydd sy\u2019n bwysig iawn i chi, neu o leiaf swydd sy\u2019n golygu na fydd yn rhaid i chi fwyta nwdls ramen am fis arall.<\/p>\n<p>Nawr, cynhelir y cyfweliad swydd mewn dwy funud mewn rhan o\u2019r dref sy\u2019n bell i ffwrdd, ond dylech gyrraedd yno\u2019n hawdd os byddwch yn rhedeg yn gyflym, does bosib? Wel, bydd y g\u00eam hon yn dangos i chi bod \u201chawdd\u201d yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb, ac efallai fod y dyn hwnnw neu\u2019r fenyw honno sydd i weld yn rhedeg yn gyflymach na chi yn cael trafferth gyda phethau gwahanol.<\/p>\n<h4>Tynnu Llun<\/h4>\n<p>Tynnu Llun (gwobr gydradd gyntaf), gan Steve Sparkes, Oliver Jackson, Soma Wheelhouse, Munzir Quraishy a Jonaid Iqba. Mae bod yn un o\u2019r ffotograffwyr gorau yn y byd a gweithio i National Geographic yn freuddwyd, yn enwedig pan fyddwch yn cael eich talu (gan gynnwys eich holl dreuliau!) i deithio i ynys anghysbell yng Nghanada i chwilio am garib\u0175 Dawson y credid ei fod wedi diflannu ers tro. Fodd bynnag, nid yn unig y mae\u2019n rhaid i chi ddod o hyd i\u2019r anifail hwn, ond mae\u2019r ynys yn llawn rhywogaethau lliwgar o fadarch, ac rydych yn cael dyhead digroeso i dynnu lluniau ohonynt.<\/p>\n<p>A fyddech yn gallu croesi\u2019r ynys a dod o hyd i\u2019r carw Llychlyn chwedlonol gan ymdopi \u00e2 hyn hefyd?<\/p>\n<h4>Cael help<\/h4>\n<p>Cael help (ail wobr), gan William Akins, Ardhan Fadhlurrahman, Nicholas Clifton ac Anna Moon. Gall diwrnodau deimlo\u2019n anodd pan ydych yn eich arddegau. Mae gennych bentwr o waith cartref, nid yw ffrindiau yn ateb eich galwadau, mae cariadon yn eich brifo ac nid yw eich rhieni yn deall.<\/p>\n<p>Yn y sefyllfa hon, gall yr holl bwysau hynny gyda\u2019i gilydd weithiau wneud i chi deimlo\u2019n hollol flinedig ac nid ydynt yn caniat\u00e1u i chi feddwl am unrhyw beth arall. Pan fydd trafferthion bob dydd yn eich llethu, pan fyddwch yn teimlo\u2019n ddigalon, a fyddech yn gallu gwneud penderfyniad anodd mewn pryd? A fyddwch yn gallu dweud \u201chelpwch fi\u201d wrth rywun?<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ymddangosodd y sylw hwn yn gyntaf ar wefan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl \u201cNi fydd stigma yn diflannu dros nos. Ac eto, ni allwn ganiat\u00e1u i\u2019r rhai sydd [&hellip;]","protected":false},"author":1509,"featured_media":1609,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[33,30,31],"tags":[],"class_list":["post-1610","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion","category-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-pY","jetpack-related-posts":[{"id":1682,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/jeremy-hall\/","url_meta":{"origin":1610,"position":0},"title":"Jeremy Hall","author":"Professor Jeremy Hall","date":"10 June 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Dylanwadodd dau beth arnaf. Y peth cyntaf oedd diddordeb dwys yn yr ymennydd. Yr ail oedd yr angen amlwg am wella triniaethau ar gyfer pobl sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl. Hefyd, roeddwn yn sicr mai\u2019r maes meddygol hwn\u2026","rel":"","context":"In &quot;schizophrenia&quot;","block_context":{"text":"schizophrenia","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/schizophrenia-cy\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/Jeremy_Hall_200x200_new.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200},"classes":[]},{"id":1670,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-fel-dewis-gyrfaol-ben-hannigan-nicola-evans\/","url_meta":{"origin":1610,"position":1},"title":"Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol &#8211; Ben Hannigan &amp; Nicola Evans","author":"Alison Tobin","date":"29 April 2019","format":false,"excerpt":"Sut i ddisgrifio\u2019r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu\u2019n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion, ac sy\u2019n cynnwys rhoi gofal wyneb\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1794,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/defnyddio-dull-ysgol-gyfan-ar-gyfer-iechyd-meddwl-yng-nghymru\/","url_meta":{"origin":1610,"position":2},"title":"Defnyddio dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru &#8211; Zoe Haslam,Dr Rachel Brown","author":"Zoe Haslam","date":"21 September 2023","format":false,"excerpt":"Mae nifer cynyddol o genhedloedd yn eirioli dros ddull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith yn amlinellu eu model ar gyfer ymgorffori\u2019r dull hwn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Mae ein hymchwil yn ceisio archwilio sut mae polisi o'r fath\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":766,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/menywod-yn-debygol-o-gael-anhwylderau-iechyd-meddwl-cyffredin\/","url_meta":{"origin":1610,"position":3},"title":"Menywod yn debygol o gael anhwylderau iechyd meddwl cyffredin","author":"Dr Nicola Evans","date":"10 October 2016","format":false,"excerpt":"Fel nyrs iechyd meddwl sy'n teimlo'n gryf ynghylch iechyd a lles pobl ifanc, trist iawn oedd darllen am y perygl cynyddol i fenywod ifanc yn \u00f4l Arolwg Morbidrwydd Seiciatrig 2014 Iechyd Meddwl a Lles yn Lloegr. Dyma'r pedwerydd Arolwg Morbidrwydd Seiciatrig Oedolion (APMS) sydd wedi'i gynnal i weld faint o\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Young-women-at-risk.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Young-women-at-risk.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Young-women-at-risk.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Young-women-at-risk.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":1325,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymchwil-iechyd-meddwl-maer-dyfodol-yn-galw\/","url_meta":{"origin":1610,"position":4},"title":"Ymchwil Iechyd meddwl &#8211; mae&#8217;r dyfodol yn galw","author":"Professor Jeremy Hall","date":"16 October 2017","format":false,"excerpt":"Afiechyd Meddwl - argyfwng cenedlaethol Mae afiechyd meddwl yn argyfwng cenedlaethol. Bob blwyddyn mae un ym mhob pedwar person yn y DU yn dioddef problem iechyd meddwl, sy'n cael effaith enfawr ar yr unigolyn, eu teulu a chymdeithas. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb salwch o'r gwaith,\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1507,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gwell-ymwybyddiaeth-o-iechyd-meddwl-plant\/","url_meta":{"origin":1610,"position":5},"title":"Gwell ymwybyddiaeth o iechyd meddwl plant","author":"Dr Frances Rice","date":"10 May 2018","format":false,"excerpt":"Mae llawer o blant a phobl ifanc yn profi teimladau o ofid a thristwch neu yn cael trafferth canolbwyntio ar waith ysgol. Yn achlysurol, gall yr anawsterau hynny ddatblygu i fod yn rhai parhaus ac ymyrryd \u00e2 bywyd gartref, gwaith ysgol a\u2019r gallu i wneud ffrindiau. Deallir yn gynyddol y\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1297-002.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1610","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1509"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1610"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1610\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1612,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1610\/revisions\/1612"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1609"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1610"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1610"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1610"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}