{"id":1599,"date":"2019-01-18T16:13:24","date_gmt":"2019-01-18T16:13:24","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1599"},"modified":"2019-01-18T16:13:24","modified_gmt":"2019-01-18T16:13:24","slug":"dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-myfyriwr-phd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-myfyriwr-phd\/","title":{"rendered":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Myfyriwr PhD"},"content":{"rendered":"<p><strong> Mae Sin\u00e9ad Morrison yn fyfyriwr PhD sy\u2019n gweithio\u2019n rhan o astudiaeth ECHO, Profiadau Plant gydag Amrywiolion Rhifau Copi (Copy Number Variants)<\/strong><\/p>\n<p><strong>Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl?<\/strong><\/p>\n<p>Mae iechyd meddwl wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ers oeddwn yn ifanc, a gallaf gofio i&#8217;r funud y foment pan esboniwyd i mi bod yr ymdeimlad o gorddi a brofais wrth ofidio am rywbeth yn deillio o fy ymennydd, mewn gwirionedd, nid fy stumog. Allwn i ddim yn credu bod rhywbeth oedd yn teimlo mor gorfforol yn gallu cael ei achosi gan y ffordd roeddwn yn meddwl, a&#8217;r emosiynau roeddwn yn eu teimlo. Gwnaeth hynny gynnau angerdd go iawn ar gyfer deall yr ymennydd ac iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Roedd fy mam, a hithau&#8217;n nyrs seiciatrig, yn berchen ar ychydig o werslyfrau am anhwylderau seiciatrig, a byddwn yn sleifio i&#8217;w hystafell a myfyrio yn eu cylch cyn hired ag y gallwn, er nad oeddwn yn deall rhyw lawer (gweithgaredd eithaf difflach i blentyn 12 oed). Penderfynais astudio Seicoleg yn y Brifysgol, a chefais fy ngwerslyfrau fy hun (nid yw&#8217;n deimlad mor gyffrous os ydych chi&#8217;n gorfod sefyll prawf ar y cynnwys). Fodd bynnag, roeddwn wrth fy modd yn cynnal gwaith ymchwil, felly gwnes i gais ar gyfer PhD mewn ymchwil iechyd meddwl.<\/p>\n<p><strong>Pwy wnaeth, neu pwy sy&#8217;n eich ysbrydoli?<\/strong><\/p>\n<p>Fy mam, sy&#8217;n nyrs seiciatrig, fu&#8217;n adrodd y straeon mwyaf diddorol i mi am ei hamser ar y wardiau, ac a gafodd argraff arnaf i hefyd o ran y diffyg adnoddau a thriniaethau sydd ar gael i bobl sy&#8217;n profi problemau iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhwydwaith o ymgyrchwyr ar gyfer cydnabod a thrin y syndrom geneteg rwy&#8217;n ei astudio (Syndrom Dileu 22q11.2) yn wirioneddol ysbrydoledig o ran eu gwaith diflino i wneud yn si\u0175r bod eu teuluoedd yn cael y gofal gorau posibl, mewn byd lle nad yw&#8217;r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am y syndrom. Maen nhw, a&#8217;r teuluoedd eu hunain yn fy atgoffa&#8217;n gyson pa mor bwysig yw&#8217;r gwaith ymchwil.<\/p>\n<p><strong>\u00a0Ar beth ydych chi&#8217;n gweithio ar hyn o bryd?<\/strong><\/p>\n<p>Rydym yn ffodus iawn i gael carfan ardderchog o blant a phobl ifanc sydd \u00e2 syndrom geneteg o&#8217;r enw Syndrom Dileu 22q11.2; yr astudiaeth ECHO. Rydym wedi bod yn olrhain sefyllfa&#8217;r teuluoedd hynny bob rhyw ddwy flynedd. Yn y gorffennol, mae ein gr\u0175p wedi canfod lefelau uchel o broblemau iechyd meddwl, fel ADHD, gorbryder a phrofiadau anarferol fel rhithwelediadau yn y plant hynny, ac rwy&#8217;n ystyried sut allai&#8217;r rheiny newid dros amser, a chael eu cysylltu, o bosibl, \u00e2 galluoedd dysgu fel talu sylw a chofio.<\/p>\n<p><strong>Sut mae eich ymchwil yn llywio eich ymarfer (clinigol), ac i&#8217;r gwrthwyneb?<\/strong><\/p>\n<p>Yn aml, nid yw teuluoedd na chlinigwyr yn gwybod beth i&#8217;w ddisgwyl wrth i blant \u00e2 Syndrom Dileu 22q11.2 dyfu&#8217;n h\u0177n, ac felly mae&#8217;r ymchwil hon yn hanfodol er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth iddyn nhw ynghylch hynny, a gosod pethau yn eu lle&#8217;n gynnar i wneud yn si\u0175r bod cymorth ar gael.<\/p>\n<p><strong>Pa newidiadau ydych chi wedi&#8217;u gweld mewn agweddau tuag at iechyd meddwl yn ystod eich gyrfa?<\/strong><\/p>\n<p>Mae agweddau tuag at iechyd meddwl yn newid er gwell. Mae stigma yn gostwng o ran siarad am iechyd meddwl, ac mae llawer iawn mwy o bobl yn siarad yn agored am eu brwydrau personol ag iechyd meddwl, sy&#8217;n beth ardderchog. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o le i wella o hyd cyn bod rhagfarn ar sail iechyd meddwl yn cael ei dileu&#8217;n llwyr. Gall ymchwil i iechyd meddwl helpu chwalu mythau niweidiol; er enghraifft, y gallai pobl \u00e2 phroblemau iechyd meddwl fod yn beryglus neu&#8217;n dreisgar, pan fod ganddynt, mewn gwirionedd, fwy o risg o brofi trais. Mae hyn yn helpu i ostwng yr arfer o feirniadu&#8217;r rheini \u00e2 phroblemau iechyd meddwl, ac felly&#8217;n annog pobl i ddatgelu&#8217;r problemau hynny, ac eraill i fod yn fwy parod i dderbyn.<\/p>\n<p><strong>\u00a0Yn eich barn chi, beth yw&#8217;r heriau allweddol ar gyfer iechyd meddwl?<\/strong><\/p>\n<p>Rydw i o&#8217;r farn mai un o&#8217;r heriau allweddol yw cymhlethdod y problemau rydym yn eu hastudio ym maes ymchwil iechyd meddwl, a&#8217;r anhawster o ran integreiddio&#8217;r ffactorau biolegol a chymdeithasol sy&#8217;n rhyngweithio mewn cymaint o ffyrdd gwahanol. Fodd bynnag, allech chi byth, fel ymchwilydd unigol, edrych ar bob ffactor sy&#8217;n cyfrannu at iechyd meddwl. Dyna pam mae cydweithredu mor hanfodol, oherwydd drwy gydweithio, gallwn ddechrau gosod darnau&#8217;r jig-so mawr hwn at ei gilydd!<\/p>\n<p>Rydym wedi gweld enghreifftiau gwych o hyn yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda grwpiau ymchwil gwahanol, o wledydd gwahanol, hyd yn oed, yn cyfuno eu samplau er mwyn cael y cyfle gorau posibl o ddatguddio pethau sydd, o bosibl, yn cyfrannu at iechyd meddwl.<\/p>\n<p><strong>\u00a0 Pa gyngor fyddech chi&#8217;n ei gynnig i&#8217;r rheini sy&#8217;n dechrau ar yrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl?<\/strong><\/p>\n<p>Dylech gynnwys barn y bobl rydych yn gobeithio fydd yn elwa, am mai nhw sy&#8217;n deall eu problemau&#8217;n well nag unrhyw un, ac yn cynnig syniadau gwych ar gyfer meysydd ymchwil.<\/p>\n<p>At hynny, ceisiwch siarad \u00e2 chymaint o bobl ag y gallwch am eich ymchwil \u2013 mae&#8217;n anodd ei grynhoi mewn fformat syml ar adegau, ond mae hynny wir yn helpu i ddygymod \u00e2 phrif amcanion eich gwaith ymchwil, ac i beidio manylu gormod ar eich prosiect personol heb ystyried ei le o fewn y maes yn fwy eang.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Sin\u00e9ad Morrison yn fyfyriwr PhD sy\u2019n gweithio\u2019n rhan o astudiaeth ECHO, Profiadau Plant gydag Amrywiolion Rhifau Copi (Copy Number Variants) Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym [&hellip;]","protected":false},"author":43,"featured_media":1602,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30,31],"tags":[],"class_list":["post-1599","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion","category-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-pN","jetpack-related-posts":[{"id":321,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mental-health-united-we-stand-divided-we-fall-cymraeg\/","url_meta":{"origin":1599,"position":0},"title":"Iechyd meddwl:  Mewn undeb y mae nerth","author":"Professor Michael Owen","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Dyw iechyd meddwl byth ymhell o\u2019r penawdau y dyddiau hyn, a dyna sut dylai fod. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae salwch meddwl yn effeithio ar bobl ar draws yr ystod oedran, o blant i'r henoed, ac mae\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":962,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/sut-ydych-chi\/","url_meta":{"origin":1599,"position":1},"title":"Sut ydych chi?","author":"Natalie Ellis","date":"2 February 2017","format":false,"excerpt":"Yn 2015, fe es i Ysgol Gaeaf Prifysgol Caerdydd mewn Seiciatreg. Fel myfyrwyr meddygol ail flwyddyn, roedden ni i gyd newydd orffen bloc o bythefnos mewn seiciatreg ac roedd pawb yn llawn cyffro am seiciatreg. Ynghyd \u00e2'r rhwydweithio a'r sesiynau gr\u0175p, cawsom sgyrsiau gan unigolion oedd \u00e2 phrofiad o salwch\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1582,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-dr-adam-cunningham-tim-astudiaeth-echo-mrc-cngg\/","url_meta":{"origin":1599,"position":2},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Dr Adam Cunningham, T\u00eem Astudiaeth ECHO, MRC CNGG","author":"Adam Cunningham","date":"27 September 2018","format":false,"excerpt":"Bu'r ymennydd a'r meddwl o ddiddordeb i mi erioed, yn ogystal \u00e2'r modd yr ydym yn gweld ac yn deall y byd o'n cwmpas. Gallwn fod wedi dilyn llwybr ymchwil mwy sylfaenol am y modd y mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth, neu sut mae niwronau'n gweithio, ond roedd gweithio ar\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1688,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-syr-michael-owen\/","url_meta":{"origin":1599,"position":3},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Yr Athro Syr Michael Owen","author":"Professor Michael Owen","date":"5 July 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Digwyddodd dri pheth i mi pan oeddwn yn fyfyriwr Meddygaeth a ddylanwadodd ar fy newis gyrfa.\u00a0 Yn gyntaf, sylwais yn ystod fy nghwrs BSc Ymsang fy mod i'n hoffi gwneud gwaith ymchwil; roeddwn yn mwynhau gwneud arbrofion a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":838,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/profiad-myfyriwr-israddedig-o-ymchwil-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1599,"position":4},"title":"Profiad myfyriwr israddedig o ymchwil iechyd meddwl","author":"Chloe Sheldon","date":"9 November 2016","format":false,"excerpt":"Mae Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP) yn cynnig lleoliadau dros yr haf i israddedigion Prifysgol Caerdydd yn amgylchedd ymchwil y Brifysgol. Mae CUROP yn cynnig taliad i helpu myfyrwyr sydd ar leoliad am hyd at wyth wythnos, gan weithio o dan oruchwyliaeth ar brosiectau ymchwil sydd wedi\u2019u diffinio gan\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/11\/Doctor-investigating-brain.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/11\/Doctor-investigating-brain.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/11\/Doctor-investigating-brain.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/11\/Doctor-investigating-brain.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/11\/Doctor-investigating-brain.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/11\/Doctor-investigating-brain.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1682,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/jeremy-hall\/","url_meta":{"origin":1599,"position":5},"title":"Jeremy Hall","author":"Professor Jeremy Hall","date":"10 June 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Dylanwadodd dau beth arnaf. Y peth cyntaf oedd diddordeb dwys yn yr ymennydd. Yr ail oedd yr angen amlwg am wella triniaethau ar gyfer pobl sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl. Hefyd, roeddwn yn sicr mai\u2019r maes meddygol hwn\u2026","rel":"","context":"In &quot;schizophrenia&quot;","block_context":{"text":"schizophrenia","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/schizophrenia-cy\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/Jeremy_Hall_200x200_new.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1599","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/43"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1599"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1599\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1605,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1599\/revisions\/1605"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1602"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1599"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1599"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1599"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}