{"id":1587,"date":"2018-10-24T09:45:17","date_gmt":"2018-10-24T09:45:17","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1587"},"modified":"2018-10-25T10:00:07","modified_gmt":"2018-10-25T10:00:07","slug":"pam-maen-bosibl-nad-yw-cael-sgwrs-am-iechyd-meddwl-yn-y-man-gwaith-mor-syml","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/pam-maen-bosibl-nad-yw-cael-sgwrs-am-iechyd-meddwl-yn-y-man-gwaith-mor-syml\/","title":{"rendered":"Pam mae&#8217;n bosibl nad yw cael sgwrs am iechyd meddwl yn y man gwaith mor syml"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/theconversation.com\/profiles\/james-wallace-212208\">\u00a0James Wallace <\/a>, Ymchwilydd PhD<\/p>\n<p><strong>Ymddangosodd yr erthygl hon am y tro cyntaf yn The Conversation ar 10 Hydref 2018 <\/strong><\/p>\n<p>I lawer o bobl sy&#8217;n profi anawsterau iechyd meddwl, gall ofn y stigma sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 chyflyrau effeithio ar eu perthynas ag eraill. Nid yw&#8217;r ofn hwn yn gyfyngedig i ryngweithiadau cymdeithasol yn unig, gall effeithio ar bob agwedd ar fywyd, gan gynnwys y man gwaith.<\/p>\n<p>Yn y gwaith, gall ymatebion posibl cydweithwyr a chyflogwyr wneud i&#8217;r rheini sy&#8217;n cael trafferthion gyda chyflwr iechyd meddwl deimlo na allan nhw fod yn agored am eu profiadau. Nid problem fach yw hon, honnir bod <u><a href=\"https:\/\/www.time-to-change.org.uk\/get-involved\/get-your-workplace-involved\/employer-pledge\">95% o staff<\/a><\/u> sy&#8217;n ffonio i mewn yn s\u00e2l oherwydd straen yn rhoi rheswm gwahanol dros angen amser i ffwrdd.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, cafwyd rhai camau i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r broblem yn y DU. Mae&#8217;r menter gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl Amser i Newid wedi llunio <u><a href=\"https:\/\/www.time-to-change.org.uk\/get-involved\/get-your-workplace-involved\/employer-pledge\">adduned cyflogwr<\/a><\/u>, y gall cwmn\u00efau ddefnyddio i ddangos eu &#8220;hymrwymiad i newid sut rydym yn meddwl ac yn gweithredu ynghylch iechyd meddwl yn y man gwaith, a gwneud yn si\u0175r bod gweithwyr sy&#8217;n sy&#8217;n wynebu&#8217;r problemau hyn yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi&#8221;.<\/p>\n<p>Ar adeg ysgrifennu, mae <u><a href=\"https:\/\/www.time-to-change.org.uk\/get-involved\/get-involved-workplace\/pledged-employers\">865 o gyrff<\/a><\/u> wedi gwneud yr adduned. Mae&#8217;n galonogol gweld cymaint o gwmn\u00efau&#8217;n cymryd y mater o ddifrif &#8211; ond nid yw&#8217;r adduned hwn yn mynd yn ddigon pell. Wrth geisio herio&#8217;r stigma yn y man gwaith mae&#8217;n hawdd meddwl y bydd creu awyrgylch sy&#8217;n annog siarad yn agored am iechyd meddwl yn helpu i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r broblem. Mae&#8217;n golygu y byddai gweithwyr yn rhydd i siarad am eu profiadau heb ofni cael eu beirniadu. I&#8217;r rhai a oedd wedi teimlo bod yn rhaid iddyn nhw gadw eu profiadau&#8217;n gyfrinachol, gallai hyn ymddangos fel rhyddid newydd a gwerthfawr. Ond efallai nad yw pethau mor syml.<\/p>\n<p><strong>Bod yn chi eich hun<\/strong><\/p>\n<p>Yn y 1970au, ysgrifennodd yr athronydd o Ffrancwr <u><a href=\"https:\/\/archive.org\/stream\/FoucaultMichelTheHistoryOfSexuality1AnIntroduction.pdf\/Foucault_Michel_The_History_of_Sexuality_1_An_Introduction.pdf_djvu.txt\">Michel Foucault<\/a><\/u>, &#8220;rhaid cael delwedd wrthdro o b\u0175er i gredu bod yr holl leisiau hynny &#8230; yn ailadrodd y waharddeb aruthrol i ddweud beth yw un a beth mae rhywun yn ei wneud &#8230; yn siarad \u00e2 ni am ryddid&#8221;. Roedd Foucault yn ysgrifennu am y gyffesgell Gristnogol yn hytrach nag am sgwrsio \u00e2&#8217;i gydweithwyr yn y swyddfa ar y peiriant coffi, ac eto mae ei bwynt yn berthnasol o hyd.<\/p>\n<p>Mae Foucault yn tynnu sylw at y ffaith y gallwn yn aml feddwl bod y gallu i fynegi pwy ydym ni yn ffordd o fynegi ein rhyddid oddi wrth b\u0175er. Fodd bynnag, iddo ef, mae&#8217;n bwysig cydnabod bod disgrifio&#8217;ch hun fel unigolyn sy&#8217;n credu neu&#8217;n teimlo pethau penodol yn golygu eich bod yn cael eich adnabod fel math penodol ar berson. Mae hyn mewn gwirionedd yn golygu bod yn ddarostyngedig i fath penodol o b\u0175er. Mewn geiriau eraill, pan fydd unigolyn yn siarad am ei iechyd meddwl yn y man gwaith mae perygl y gall gael ei glymu \u2013 a&#8217;i leihau o bosibl \u2013 iddo.<\/p>\n<p>Nid amgylchedd cadarnhaol yw&#8217;r ateb o gwbl.<\/p>\n<p>Os yw gweithiwr yn cysylltu \u00e2 rheolwr llinell neu aelod o&#8217;r t\u00eem adnoddau dynol ac yn egluro ei fod wedi profi hwyliau isel yn ddiweddar, mae dwy ffordd o edrych ar hyn. Un yw bod y person yn cael amser anodd, ond mae hyn yn ddealladwy o ystyried digwyddiadau diweddar \u2013 efallai ei ymwahanu \u00e2&#8217;i bartner neu mae rhywun annwyl wedi marw.<\/p>\n<p>Ffordd arall yw meddwl bod gan y person duedd naturiol i deimlo fel hyn. Gallai hyn gynnwys credoau am ei hanes genetig, neu&#8217;r syniad bod ganddo bersonoliaeth iselhaol. Y gwahaniaeth rhwng y ddau fersiwn hyn o ddigwyddiadau yw&#8217;r gwahaniaeth rhwng deall y stori fel profiad a gaiff y person, a rhywbeth yw&#8217;r person.<\/p>\n<p><strong>Nid chi yw eich iechyd meddwl<\/strong><\/p>\n<p>Efallai nad yw&#8217;n amlwg pam mae&#8217;r gwahaniaeth hwn yn bwysig, neu pam y gallai fod yn broblem. Wedi&#8217;r cyfan, yn y ddau achos mae&#8217;r unigolyn yn chwilio am gymorth a gall ddisgwyl cefnogaeth gan ei sefydliad. Y broblem gyda deall iechyd meddwl fel rhan o bwy ydym ni yw ei fod yn ein rhoi mewn perygl o anwybyddu&#8217;r ffordd y mae ein hamgylchedd yn cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl.<\/p>\n<p>A bwrw bod gweithiwr yn dweud wrth ei reolwr llinell ei fod yn teimlo dan straen yn y gwaith a&#8217;i fod yn ei chael hi&#8217;n anodd ymdopi. Mae un ffordd o ymateb yn seiliedig ar y gred bod y person hwn yn rhywun y mae straen yn effeithio arno&#8217;n naturiol. Yn yr achos hwn, efallai y byddwn yn cynnig cymorth iddo, o bosibl mynediad at raglen cymorth i weithwyr. Y ffordd arall fyddai edrych ar ffactorau eraill, er enghraifft llwyth gwaith yr unigolyn. Efallai y gwneir galwadau afresymol ac mae gofyn iddo wneud gormod. Efallai y byddai&#8217;r hyn y disgwylir iddo ei wneud yn gwneud i unrhyw un deimlo dan straen.<\/p>\n<p>Er bod y nod o ddadstigmateiddio iechyd meddwl yn y man gwaith yn rhywbeth glodwiw, mae&#8217;n rhaid i ni ystyried beth mae hyn yn ei olygu. Mae angen i ni ddeall y r\u00f4l bwysig sydd gan ein profiadau o ddydd i ddydd \u2013 gan gynnwys profiadau o waith \u2013 yn eu cael wrth lunio ein hiechyd meddwl. Oni bai ein bod yn gwerthfawrogi effaith y profiadau hyn, y peth y byddwn ni&#8217;n ei wneud yn y b\u00f4n yw dod o hyd i ffyrdd i bobl ymdopi yn hytrach na&#8217;u helpu mewn ffordd ystyrlon.<\/p>\n<p>Mae James Wallace yn derbyn cyllid oddi wrth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"\u00a0James Wallace , Ymchwilydd PhD Ymddangosodd yr erthygl hon am y tro cyntaf yn The Conversation ar 10 Hydref 2018 I lawer o bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl, gall [&hellip;]","protected":false},"author":1610,"featured_media":1359,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30],"tags":[],"class_list":["post-1587","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-pB","jetpack-related-posts":[{"id":1629,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-dr-kathryn-peall-uwch-ddarlithydd-clinigol-sefydliad-ymchwil-y-niwrowyddorau-ac-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1587,"position":0},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2&#8217;r Ymchwilydd, Dr Kathryn Peall, Uwch-ddarlithydd Clinigol, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl","author":"Alison Tobin","date":"18 February 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Dechreuodd fy niddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl yn ystod fy PhD, pan oeddwn yn canolbwyntio ar symptomau iechyd meddwl mewn math penodol o anhwylder sy\u2019n amharu ar y gallu i symud. Heblaw am yr hyfforddiant seiciatreg yr oeddwn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1320,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-y-byd-iechyd-meddwl-yn-y-gweithle\/","url_meta":{"origin":1587,"position":1},"title":"Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Iechyd meddwl yn y gweithle","author":"Amy Sykes","date":"10 October 2017","format":false,"excerpt":"10 Hydref yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2017, ac iechyd meddwl yn y gweithle yw\u2019r ffocws eleni a bennwyd gan Ffederasiwn Byd-eang Iechyd Meddwl. Ym Mhrifysgol Caerdydd rydym yn mabwysiadu dull o fynd i\u2019r afael \u00e2 iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr a staff sy\u2019n cofleidio\u2019r sefydliad cyfan. Fel\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/world-mental-health.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/world-mental-health.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/world-mental-health.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/world-mental-health.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/world-mental-health.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1499,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/letsshare\/","url_meta":{"origin":1587,"position":2},"title":"#LetsShare","author":"Jo Pinder","date":"28 February 2018","format":false,"excerpt":"Jo, Ymarferydd Lles a Hyrwyddwr Amser Newid, sy'n s\u00f4n am Ymgyrch Iechyd Meddwl newydd Prifysgol Caerdydd: Beth sydd ar eich meddwl? \u00a0Mae #LetsShare yn ein hannog i gyd i rannu mwy pan ddaw hi'n fater o iechyd meddwl... Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin; bydd yn cael effaith ar un\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1240,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/allai-gwyddor-data-chwyldroi-gofal-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1587,"position":3},"title":"Allai gwyddor data chwyldroi gofal iechyd meddwl?","author":"Jemma Cole","date":"2 August 2017","format":false,"excerpt":"Mae salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar person bob blwyddyn, ac yn aml mae hynny\u2019n cael effaith ddinistriol ar eu bywydau.\u00a0 Ac er bod salwch meddwl yn cael sylw cynyddol yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol, mae ein dealltwriaeth o\u2019r hyn sy\u2019n achosi cyflyrau sy\u2019n amrywio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":1670,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-fel-dewis-gyrfaol-ben-hannigan-nicola-evans\/","url_meta":{"origin":1587,"position":4},"title":"Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol &#8211; Ben Hannigan &amp; Nicola Evans","author":"Alison Tobin","date":"29 April 2019","format":false,"excerpt":"Sut i ddisgrifio\u2019r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu\u2019n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion, ac sy\u2019n cynnwys rhoi gofal wyneb\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1810,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/a-yw-profiadau-o-arwahanrwydd-cymdeithasol-yn-effeithio-ar-iechyd-meddwl-pobl-ifanc\/","url_meta":{"origin":1587,"position":5},"title":"A yw profiadau o arwahanrwydd cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc?","author":"Alison Tobin","date":"9 February 2024","format":false,"excerpt":"Sut mae cael eich ynysu oddi wrth bobl ifanc eraill yn berthnasol i broblemau iechyd meddwl? Yn y blog hwn, mae Dr Katherine Thompson, cydymaith ymchwil \u00f4l-ddoethurol sy\u2019n ymchwilio i fodelau ystadegol i ragweld iselder ym Mhrifysgol Purdue yn yr Unol Daleithiau, yn trafod ei hymchwil PhD yn y maes\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl plant a'r glasoed&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl plant a'r glasoed","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed\/"},"img":{"alt_text":"Sad and contemplative young woman by a window.","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1587","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1610"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1587"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1587\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1588,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1587\/revisions\/1588"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1359"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1587"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1587"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1587"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}