{"id":1531,"date":"2018-06-26T15:03:50","date_gmt":"2018-06-26T15:03:50","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1531"},"modified":"2018-08-14T10:09:17","modified_gmt":"2018-08-14T10:09:17","slug":"ffyrdd-newydd-o-feddwl-am-iechyd-meddwl-a-lles-plant-oed-ysgol-gynradd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ffyrdd-newydd-o-feddwl-am-iechyd-meddwl-a-lles-plant-oed-ysgol-gynradd\/","title":{"rendered":"Ffyrdd newydd o feddwl am iechyd meddwl a lles plant oed ysgol gynradd"},"content":{"rendered":"<p><em>Cynnydd yn y diddordeb gwleidyddol-gymdeithasol mewn iechyd meddwl plant a&#8217;r glasoed<\/em><\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.mentalhealth.org.uk\/statistics\/mental-health-statistics-children-and-young-people\">consensws eang mewn ymchwil<\/a> yn awgrymu bod gan 10 y cant o blant a phobl ifanc yn y DU gyflwr iechyd meddwl y gellir cael diagnosis clinigol ohono fel gorbryder neu iselder.<\/p>\n<p>Ceir sail ymchwil sylweddol sy&#8217;n cysylltu iechyd meddwl gwael ymhlith plant ag amrywiaeth o lwybrau addysgol, cymdeithasol ac iechyd corfforol negyddol mewn oedolion. Mae diddordeb cymdeithasol a gwleidyddol yn yr ymyriadau hyn wedi tyfu&#8217;n gynyddol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.<\/p>\n<p>Mae pwysigrwydd cynyddol hefyd wedi&#8217;i briodoli i ymyrraeth gynnar ac atal, a sbardunwyd gan ymchwil i&#8217;r nifer o achosion o gyflyrau iechyd meddwl. Mae data tueddiadau amser yn dangos mai&#8217;r canolrif oedran ar gyfer dechrau anhwylderau gorbryder cyffredinol yw <a href=\"https:\/\/jamanetwork.com\/journals\/jamapsychiatry\/fullarticle\/208678\">11<\/a>, sy&#8217;n golygu bod ysgolion cynradd yn amgylchedd rhesymegol ar gyfer ymyriadau iechyd meddwl a lles.<\/p>\n<p><em>Yr agenda ar gyfer gwella<\/em><\/p>\n<p>Yn aml bydd ymyriadau yn yr ysgol yn cyfuno gwersi dysgu cymdeithasol ac emosiynol, gan gynnwys sgiliau fel cymhwysedd perthynas a hunanymwybyddiaeth, \u00e2 dulliau ataliol sy&#8217;n ceisio lliniaru ac yn ddelfrydol atal symptomau ystod o gyflyrau gwahanol fel gorbryder ac iselder rhag datblygu yn y blynyddoedd dilynol.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/ajph.aphapublications.org\/doi\/abs\/10.2105\/AJPH.2015.302630\">ymchwil<\/a> diweddar yn yr Unol Daleithiau, yn defnyddio carfan hydredol 13-19 oed, wedi awgrymu cyswllt sylweddol rhwng addysgu a monitro sgiliau cymdeithasol ac emosiynol a nifer o ganlyniadau cadarnhaol yn berthnasol i addysg, cyflogaeth ac iechyd meddwl.<\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Y farn ar ymyriadau a darpariaeth gyfredol<\/em><\/p>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2 chynnydd cyflym mewn ymyriadau, ceir corff cynyddol o ymchwil gwerthuso i effeithiolrwydd y rhaglenni hyn.<\/p>\n<p>Mae dulliau mesur canlyniadau nodweddiadol yn cynnwys gwell cymhwysedd cymdeithasol ac emosiynol, llai o broblemau iechyd meddwl gan gynnwys symptomau mewnoli, a gwelliannau o ran cyrhaeddiad academaidd.<\/p>\n<p>Mae adolygiadau systematig a meta-ddadansoddiadau, sy&#8217;n cyfuno amrywiaeth o ymyriadau mewn un dadansoddiad, yn aml yn casglu er bod rhaglenni iechyd meddwl a lles yn y DU ambell waith yn cyflawni&#8217;r effaith a fwriadwyd yn y tymor byr, bod yr effeithiau addawol hyn yn rhy aml yn cael eu <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0890856717311073?via%3Dihub\">cwtogi<\/a> neu eu <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0272735815301409?via%3Dihub\">lleihau&#8217;n<\/a> sylweddol ar \u00f4l chwe mis.<\/p>\n<p><em>Pam nad yw ymyriadau bob amser yn gweithio yn \u00f4l y bwriad?<\/em><\/p>\n<p>Yn aml caiff cyflwyno ymyriadau&#8217;n wael ei <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/abs\/10.1080\/03054985.2012.734800\">nodi fel rheswm am ganlyniadau aneffeithiol<\/a>. Dyma oedd un o&#8217;r problemau a ganfuwyd mewn rhaglen flaenllaw o wersi dysgu cymdeithasol ac emosiynol a noddwyd gan Lywodraeth y DU, yr ymyriad Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu.<\/p>\n<p>Gallwn ddamcaniaethu hefyd fod rhaglenni wedi dioddef diffyg <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pmc\/articles\/PMC5019026\/\">hyblygrwydd diwylliannol<\/a> yn yr amgylchedd y&#8217;i seiliwyd ynddo. Digwyddodd hyn gydag ymyriad poblogaidd o&#8217;r Unol Daleithiau (PATHS) a gyflwynwyd yn fynych mewn ysgolion cynradd yn y DU.<\/p>\n<p>Caiff ansawdd y sail tystiolaeth hon ei lesteirio gan <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pmc\/articles\/PMC4378066\/\">anghysondebau yn y methodolegau gwerthuso<\/a>. Yn aml nid oes gan astudiaethau gwerthuso <a href=\"http:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/abs\/10.1177\/1359104513489565\">elfennau hydredol neu reolydd<\/a>, sy&#8217;n ei gwneud yn anodd arfarnu effeithiau ymyriad dros gyfnod hirach, neu gymharu&#8217;r effeithiau gyda gr\u0175p poblogaeth na dderbyniodd yr un ymyriad.<\/p>\n<p><em>R\u00f4l damcaniaeth<\/em><\/p>\n<p>Yn aml caiff ymyriadau eu <a href=\"https:\/\/www.thelancet.com\/pdfs\/journals\/lancet\/PIIS0140-6736(17)31267-9.pdf\">datblygu o hyd<\/a> gan ddefnyddio damcaniaethau newid ymddygiad, gan ganolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na&#8217;r system gymdeithasol maent yn gweithredu ynddi.\u00a0 Gall agweddau unigolyddol pur at yr ymyriadau hyn ddad-gydestunoli amgylcheddau cymdeithasol ac yna esgeuluso dylanwad strwythurau cymdeithasol ar ganlyniadau iechyd.<\/p>\n<p>Gallai cyfuno damcaniaethau o ddisgyblaethau&#8217;n cynnwys addysg, seicoleg a chymdeithaseg felly fod yn ffordd fwy effeithiol o feddwl am ymyriadau cymdeithasol.<\/p>\n<p><em>R\u00f4l y cyd-destun cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol<\/em><\/p>\n<p>Mae canon o waith yn ymddangos ym maes iechyd cyhoeddus sy&#8217;n awgrymu bod canolbwyntio ar gyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S2352827316301719\">systemau cymdeithasol, yn hytrach nag ymyriadau arunig,<\/a> yn ffordd fwy effeithiol o ddatblygu lleoliadau cynaliadwy ar gyfer hybu iechyd.<\/p>\n<p>Mae fy ymchwil felly&#8217;n ceisio archwilio&#8217;r cyd-destunau hynny mewn perthynas ag ysgolion cynradd a&#8217;u systemau ehangach. Bydd yn gwneud hyn drwy archwilio amrywiaeth o safbwyntiau rhanddeiliaid ar benderfynyddion iechyd meddwl plant, gwaith ymyrraeth cyfredol mewn ysgolion cynradd a&#8217;r hyn sydd yn eu barn nhw&#8217;n gwneud eu system yn fwy cynaliadwy, a cheisio cyd-gynhyrchu gwybodaeth benodol i&#8217;r cyd-destun ar gyfer datblygu ymyrraeth yn y dyfodol.<\/p>\n<p><em>Gwaith methodolegol gyda disgyblion ysgolion cynradd<\/em><\/p>\n<p>Rwyf i hefyd wedi bod yn rhedeg gweithdai gyda disgyblion blwyddyn pump a chwech mewn ysgolion dinesig a gwledig, a gyda demograffeg gymdeithasol wahanol, ac wedi cynllunio dau ddull ymchwil gweledol i gynnwys disgyblion ac ysgolion mewn ymchwil iechyd meddwl yn ogystal ag ateb cwestiynau astudio&#8217;n ymwneud \u00e2 chynyddu gwybodaeth gyd-destunol ar gyfer rhaglenni iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Datblygwyd y dull cyntaf, &#8216;mapio&#8217;r ymennydd&#8217;, ar sail dulliau mapio corfforol mewn ymchwil iechyd corfforol. Defnyddiwyd hyn ar y cyd \u00e2 chardiau darganfod yn canolbwyntio ar ymchwil rhyngddisgyblaethol blaenorol, gan gynnwys astudiaethau epidemiolegol, seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol i iechyd meddwl plant, ac fe&#8217;i defnyddiwyd ar gyfer mapio canfyddiadau disgyblion o&#8217;u penderfynyddion bioseicogymdeithasol eu hunain.<\/p>\n<p>Defnyddiwyd yr ail ddull, graddio cylch, i raddio, cymharu a thrafod ystod o raglenni iechyd meddwl mewn ysgolion. Y tro hwn roedd cardiau darganfod yn seiliedig ar ymchwil blaenorol gydag amrywiaeth o staff yr ysgol oedd yn ymwneud \u00e2 chyflwyno a threfnu&#8217;r rhaglen, gydag ymyriadau a dulliau a ddefnyddiwyd gan y ddwy ysgol yn cael eu trafod mewn cyfweliadau bywgraffyddol lled-strwythuredig.<\/p>\n<p><em>Casgliadau cychwynnol<\/em><\/p>\n<p>O ganlyniad i&#8217;r gweithdai hyn rwyf i&#8217;n gweithio gydag ysgolion i lunio adroddiadau y gallant eu defnyddio maes o law ar gyfer eu gwaith iechyd meddwl a lles ac ar gyfer cynlluniau gweithredu a hunanwerthusiadau yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r dulliau hyn wedi&#8217;u gwerthuso am eu haddasrwydd ar gyfer cynnwys disgyblion ac ysgolion mewn ymchwil iechyd meddwl rhyngddisgyblaethol, ac er bod y prosiect yn parhau, mae casgliadau cychwynnol yn gadarnhaol yn seiliedig ar adborth llafar ac ysgrifenedig, yn bersonol ac mewn adroddiadau dienw gan ddisgyblion ac ysgolion.<\/p>\n<p>Byddai&#8217;r rhain yn awgrymu bod y gwaith gweledol hwn yn berthnasol ac yn ddiddorol i amrywiaeth o ddisgyblion mewn gwahanol leoliadau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol, ac yn ddefnyddiol ar gyfer datblygu gwybodaeth benodol i&#8217;r cyd-destun i ddatblygu ymyriadau iechyd meddwl a lles ar draws y lleoliadau gwahanol hyn.<\/p>\n<p>Rwyf i hefyd wedi defnyddio&#8217;r broses adborth hon i wella&#8217;r dulliau ar gyfer gweithdai a phrosiectau&#8217;r dyfodol sy&#8217;n berthnasol i benderfynyddion iechyd meddwl plant.<\/p>\n<p>Byddaf yn cyflwyno canfyddiadau llawn y gwaith methodolegol hwn yng <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/events\/annual-conference-2018\">nghynhadledd flynyddol WISERD <\/a>\u00a0ar 18-19 Gorffennaf ynghyd \u00e2&#8217;r <a href=\"http:\/\/thesocialsciences.com\/2018-conference\">gynhadledd Gwyddorau Cymdeithasol Rhyngddisgyblaethol <\/a>\u00a0yn Granada ar 25-27 Gorffennaf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cynnydd yn y diddordeb gwleidyddol-gymdeithasol mewn iechyd meddwl plant a'r glasoed Mae consensws eang mewn ymchwil yn awgrymu bod gan 10 y cant o blant a phobl ifanc yn y [&hellip;]","protected":false},"author":1553,"featured_media":1530,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[33,31],"tags":[],"class_list":["post-1531","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-oH","jetpack-related-posts":[{"id":1339,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gwella-iechyd-meddwl-a-lles-plant-a-phobl-ifanc\/","url_meta":{"origin":1531,"position":0},"title":"Gwella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc","author":"Dr Rhiannon Evans","date":"17 October 2017","format":false,"excerpt":"Dr Rhiannon Evans, Uwch-ddarlithydd, DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Michelle Hughes, Nyrs Arbenigol CAMHS, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Mae iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn parhau'n fater o bwysigrwydd mawr ym maes iechyd cyhoeddus. Mae llawer o broblemau'n ymddangos yn ystod glasoed, gyda 50%\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-540592232.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1810,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/a-yw-profiadau-o-arwahanrwydd-cymdeithasol-yn-effeithio-ar-iechyd-meddwl-pobl-ifanc\/","url_meta":{"origin":1531,"position":1},"title":"A yw profiadau o arwahanrwydd cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc?","author":"Alison Tobin","date":"9 February 2024","format":false,"excerpt":"Sut mae cael eich ynysu oddi wrth bobl ifanc eraill yn berthnasol i broblemau iechyd meddwl? Yn y blog hwn, mae Dr Katherine Thompson, cydymaith ymchwil \u00f4l-ddoethurol sy\u2019n ymchwilio i fodelau ystadegol i ragweld iselder ym Mhrifysgol Purdue yn yr Unol Daleithiau, yn trafod ei hymchwil PhD yn y maes\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl plant a'r glasoed&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl plant a'r glasoed","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed\/"},"img":{"alt_text":"Sad and contemplative young woman by a window.","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":321,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mental-health-united-we-stand-divided-we-fall-cymraeg\/","url_meta":{"origin":1531,"position":2},"title":"Iechyd meddwl:  Mewn undeb y mae nerth","author":"Professor Michael Owen","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Dyw iechyd meddwl byth ymhell o\u2019r penawdau y dyddiau hyn, a dyna sut dylai fod. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae salwch meddwl yn effeithio ar bobl ar draws yr ystod oedran, o blant i'r henoed, ac mae\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1325,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymchwil-iechyd-meddwl-maer-dyfodol-yn-galw\/","url_meta":{"origin":1531,"position":3},"title":"Ymchwil Iechyd meddwl &#8211; mae&#8217;r dyfodol yn galw","author":"Professor Jeremy Hall","date":"16 October 2017","format":false,"excerpt":"Afiechyd Meddwl - argyfwng cenedlaethol Mae afiechyd meddwl yn argyfwng cenedlaethol. Bob blwyddyn mae un ym mhob pedwar person yn y DU yn dioddef problem iechyd meddwl, sy'n cael effaith enfawr ar yr unigolyn, eu teulu a chymdeithas. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb salwch o'r gwaith,\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1701,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","url_meta":{"origin":1531,"position":4},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan","author":"Ben Hannigan","date":"6 August 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":556,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/iechyd-meddwl-anableddau-dysgu-a-gofal-cymdeithasol-gwarchod-hawliau-dynol-yn-y-cyfnod-argyfyngus-o-doriadau-llym-sydd-ohoni\/","url_meta":{"origin":1531,"position":5},"title":"Iechyd meddwl, anableddau dysgu a gofal cymdeithasol: gwarchod hawliau dynol yn y cyfnod argyfyngus o doriadau llym sydd ohoni","author":"Julie Doughty","date":"9 July 2016","format":false,"excerpt":"Trefnwyd y gynhadledd hon, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 24 Mehefin, ar y cyd rhwng y Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl \u00e2 salwch meddwl difrifol a'u gofalwyr. Y nod oedd dod \u00e2 defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, llunwyr polis\u00efau, ymarferwyr ym maes\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/07\/HiRes.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1531","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1553"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1531"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1531\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1532,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1531\/revisions\/1532"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1530"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1531"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1531"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1531"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}