{"id":1487,"date":"2018-02-27T09:15:33","date_gmt":"2018-02-27T09:15:33","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1487"},"modified":"2018-02-27T12:01:42","modified_gmt":"2018-02-27T12:01:42","slug":"ailystyried-ac-ehangur-astudiaeth-enetig-fwyaf-o-sgitsoffrenia","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ailystyried-ac-ehangur-astudiaeth-enetig-fwyaf-o-sgitsoffrenia\/","title":{"rendered":"Ailystyried ac ehangu\u2019r astudiaeth enetig fwyaf o sgitsoffrenia"},"content":{"rendered":"<p>Yn ei stori fer <a href=\"https:\/\/www.independent.co.uk\/arts-entertainment\/short-story-blue-tigers-1194505.html\">\u2018Teigrod Gleision\u2019<\/a>, mae\u2019r ysgrifennwr Archentaidd Jorge Luis Borges yn trafod ceisio deall yr annisgwyl. Wrth olrhain y teigr chwedlonol mewn man anghysbell yn Nelta\u2019r Ganges, daw athro o hyd i gerrig gleision tywynnol ynghudd mewn agen. Er nad hwynt-hwy oedd nod ei daith, mae\u2019n cymryd dyrnaid gydag ef, gan ddarganfod yn ddiweddarach eu bod yn amlhau bod tro y mae\u2019n ceisio eu cyfrif. Caiff meddwl rhesymegol yr athro ei herio gan y digwyddiad ymddangosiadol amhosib hwn, ac er ei holl ymdrechion, ni all ddod o hyd i unrhyw esboniad gwyddonol am y modd y mae\u2019r cerrig yn amlhau. Mewn ymson angerddol, dengys ei anobaith, ac mae\u2019n datgan nad oes dim anifyrrach na darganfod \u201cbod y bydysawd yn gallu goddef anrhefn\u201d.<\/p>\n<p>Mae ymchwilwyr i eneteg sgitsoffrenia fwy na thebyg yn gyfarwydd \u00e2 rhai o\u2019r teimladau hynny. Yn 2014, cyhoeddodd cynghrair rhyngwladol o ymchwilwyr, Consortiwm Genomeg Seiciatrig (PGC) dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, fod mwy na chan lleoliad yn y genom dynol yn gysylltiedig \u00e2\u2019r <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/hundreds-of-genes-and-link-to-immune-system-found-in-largest-genetic-schizophrenia-study-29531\">anhwylder hwn<\/a>, cynnydd sylweddol ar y pum a ganfuwyd yn flaenorol. Darganfuwyd bod y ffactorau risg genetig hyn i\u2019w cael y tu mewn i ddarnau mawr o DNA a elwir yn \u201cloci\u201d (ffurf luosog y gair Lladin \u201clocus\u201d, sy\u2019n golygu \u201clle(cyn\u201d) sy\u2019n gallu rhychwantu sawl genyn neu ddim un, gydag ychydig o batrymau amlwg neu ganfyddadwy. O\u2019r golwg cyntaf, roedd rhai o\u2019r loci yn ddarganfyddiadau cyffrous a oedd yn profi bod rhagdueddiad i sgitsoffrenia yn gallu cael ei fodiwleiddio, er enghraifft, gan amrywiadau genetig mewn systemau niwrodrosglwyddyddion a thargedau meddyginiaeth wrthseicotig. Wrth fentro\u2019n ddyfnach, cafwyd bod y canlyniadau\u2019n fwy o gwestiynau nag atebion, fel sy\u2019n digwydd yn aml mewn ymchwil, ac roedd y data\u2019n awgrymu bod llawer o loci ychwanegol i\u2019w darganfod. <a href=\"https:\/\/www.genomeweb.com\/informatics\/new-approach-researchers-estimate-schizophrenia-highly-polygenic\">Miloedd ohonynt<\/a> o bosib! O\u2019m safbwynt i, fel ymchwilydd gyrfa gynnar a oedd yn cyrraedd disgyblaeth geneteg seiciatrig ar y pryd, roedd heb os lawer i\u2019w ddysgu o\u2019r canlyniadau hyn, ond roedd y niferoedd yn ymddangos yn llethol. Allen ni wneud synnwyr o gynifer o loci? Neu a fyddent fel cerrig gleision Borges &#8211; adlais bydysawd anhrefnus?<\/p>\n<p>Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, mae\u2019n gr\u0175p ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynhyrchu <a href=\"https:\/\/www.nature.com\/articles\/s41588-018-0059-2\">astudiaeth<\/a> sy\u2019n datguddio rhai o\u2019r patrymau y tu \u00f4l i\u2019r canlyniadau PGC. Yn gyntaf, fel y rhagwelwyd, mae eu niferoedd wedi ehangu: Trwy ychwanegu samplau 11,000 o gleifion a recriwtiwyd o amgylch y DU, rydym wedi canfod 50 o loci ychwanegol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 sgitsoffrenia. Mae\u2019r loci hyn yn ddarganfyddiadau diddorol ynddynt eu hunain, megis genyn RBFOX1, sy\u2019n adnabyddus am ei gysylltiadau ag <a href=\"https:\/\/www.utoronto.ca\/news\/team-cracks-rna-code-finds-possible-new-cause-autism\">Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth<\/a> neu glefyd <a href=\"http:\/\/www.mcgill.ca\/newsroom\/channels\/news\/new-mechanism-detected-alzheimers-disease-276135\">Alzheimer<\/a>. Yn ychwanegol at ganfod genynnau newydd posib, rydym hefyd wedi gallu canfod bod 64% o\u2019r amrywiadau genetig a gysylltir \u00e2 sgitsoffrenia o fewn ffiniau genynnau, tra bod y mwyafrif llethol o\u2019n genom yn gorwedd y tu mas i enynnau. Mae\u2019r canlyniad hwn yn berthnasol am fod amrywiadau y tu mewn i yn fwy tebygol i effeithio ar swyddogaeth proteinau yn y corff, ac mae canfod newidiadau i broteinau wedi bod yn ffordd sylfaenol o arwain at ddatblygu therap\u00efau meddygol newyddion. Nid yw hyn yn gyfystyr \u00e2 dweud nad yw amrywiadau y tu mas i enynnau yn haeddu sylw. Gallai canfod y ffordd y maent yn effeithio ar ein hiechyd fod yn anos, ond gydag amser ac ymdrech rydym yn dod yn <a href=\"https:\/\/www.sciencemag.org\/features\/2016\/10\/chromatin-untangled-new-methods-map-genomic-structure\">gwella<\/a> <a href=\"https:\/\/www.nature.com\/articles\/538275a\">fwyfwy<\/a> wrth gyrchu\u2019r nod hwn.<\/p>\n<p>Gan ganolbwyntio ar y genynnau y mae amrywiadau risg i\u2019w cael ynddynt, fe wnaeth ein gr\u0175p ganfod eu bod yn rhannu nodwedd ddiddorol arall: Roeddent yn fwy tebygol o fod yn enynnau sy\u2019n cynnwys ychydig fwtadiadau sy\u2019n arwain at brotein diffygiol (gelwir y rhain yn <a href=\"https:\/\/www.nature.com\/news\/exac-project-pins-down-rare-gene-variants-1.20425\">enynnau na allant oddef colled gweithrediad<\/a>). Os dywedir bod genyn yn \u2018methu goddef\u2019 mwtadiadau sy\u2019n rhwystro ei brotein rhag gweithredu, golyga fod y rhan fwyaf helaeth o bobl heb y cyfryw fwtadiadau yn y genynnau hyn, si\u0175r o fod oherwydd bod eu presenoldeb yn achosi problemau iechyd difrifol. Am fod y genynnau hyn yn gysylltiedig \u00e2 phrosesau biolegol pwysig, mae\u2019r ffaith eu bod yn cynnwys ffactorau risg sgitsoffrenia yn nodedig, ac yn culhau ein \u2018rhestr flaenoriaethau\u2019 o ffactorau risg hyd yn oed ymhellach (dim ond ~3,200 o oddeutu ~19,000 o enynnau yn y genom dynol sy\u2019n methu goddef mwtadiadau colli gweithrediad).\u00a0 Ymhellach, fe ymddengys fod llawer o\u2019r genynnau hyn yn arbennig o bwysig i weithrediad y system nerfol ganolog, gan gadarnhau <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/news\/view\/107569-scientists-produce-strongest-evidence-yet-of-schizophrenias-causes\">canlyniad<\/a> blaenorol ein gr\u0175p a oedd yn cysylltu sgitsoffrenia \u00e2 datblygiad niwronau a gweithrediad niwrodrosglwyddyddion megis GAMA a glwtamad.<\/p>\n<p>Yn olaf, fe wnaethom hefyd fynd i\u2019r afael \u00e2 chwestiwn sydd wedi drysu seiciatryddion a genetegwyr fel ei gilydd: Os yw pobl \u00e2 sgitsoffrenia yn cael llai o blant ar gyfartaledd na phobl heb yr anhwylder, pam mae sgitsoffrenia yn dal i effeithio ar gynifer o bobl? Mae cyflyrau sy\u2019n effeithio ar ffrwythlonder o dan <a href=\"https:\/\/www.khanacademy.org\/science\/biology\/her\/evolution-and-natural-selection\/a\/darwin-evolution-natural-selection\">ddethol naturiol<\/a> drwy ddiffiniad, a ddylai hynny ddileu yn raddol mwtadiadau cysylltiedig yn y genom.\u00a0 Fodd bynnag, datgelodd ein dadansoddiadau gannoedd o loci risg, a sut y bu iddynt osgoi dethol naturiol? Er mwyn ateb hyn, chwiliasom yn uniongyrchol yn ein data am arwyddion o ddethol naturiol, gan ganfod bod rhannau o\u2019r genom a gysylltir \u00e2 sgitsoffrenia yn ymddangos fel eu bod wedi eu heffeithio gan broses esblygol o\u2019r enw \u2018dethol cefndirol\u2019. Mae hyn yn nodweddiadol o rannau o\u2019r genom sydd \u00e2 phwysigrwydd biolegol, ac yn sicrhau y gwaredir mwtadiadau niweidiol. Gwyddys nad effeithir ar fwtadiadau gydag effeithiau ysgafn gan ddethol cefndirol, ac mae\u2019n canlyniadau\u2019n awgrymu bod y rhain yn aros yn ein genom, a\u2019u bod ymhlith y nifer o ffactorau risg ar gyfer sgitsoffrenia yr ydym wedi eu canfod yn ein dadansoddiadau hyd yma. Mae hyn yn ein hatgoffa, yn groes i\u2019r hyn a ddysgwyd inni\u2019n aml iawn, nad yw dethol naturiol (neu unrhyw beth yng nghyswllt esblygiad, mewn gwirionedd) yn broses ddi-fefl, ac ni allwn anwybyddu faint yr effeithir ar ei ganlyniadau gan siawns.<\/p>\n<p>Yn gryno, mae canlyniadau\u2019n hastudiaeth yn ein helpu i ddehongli arwyddoc\u00e2d biolegol y nifer fawr o loci yr ydym hyd yma wedi darganfod eu bod yn gysylltiedig \u00e2 sgitsoffrenia. O\u2019r herwydd, mae\u2019n ddyledus i raddau helaeth i\u2019r rhai sydd wedi ein rhagflaenu. Ni fyddai wedi bod yn bosib oni bai am ymdrech gawraidd y PGC neu\u2019r holl ymchwil a gyflawnwyd yn ddiweddar ar eneteg ystadegol, bioleg yr ymennydd, gweithrediad protein, neu esblygiad moleciwlaidd. Mae\u2019n debyg mai oherwydd yr holl gynseiliau hyn yr ydym wedi bod yn fwy ffodus na phrif gymeriad stori fer \u2018Teigrod Gleision\u2019 Borges, a oedd, trwy weithio mewn unigrwydd, heb obaith datgelu natur y cerrig dirgel sy\u2019n amlhau. Gallai\u2019r genynnau a\u2019r loci rydym yn eu canfod yn ein hymchwil fod yn amlhau bob tro rydym yn eu dadansoddi, ond nid oes dim \u2018anhrefn\u2019 ynddynt i\u2019n digalonni.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ei stori fer \u2018Teigrod Gleision\u2019, mae\u2019r ysgrifennwr Archentaidd Jorge Luis Borges yn trafod ceisio deall yr annisgwyl. Wrth olrhain y teigr chwedlonol mewn man anghysbell yn Nelta\u2019r Ganges, daw [&hellip;]","protected":false},"author":1509,"featured_media":1492,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[168],"tags":[],"class_list":["post-1487","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-schizophrenia-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-nZ","jetpack-related-posts":[{"id":1166,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/sgitsoffrenia-o-gelloedd-newydd-yn-yr-ymennydd-ir-system-imiwnedd\/","url_meta":{"origin":1487,"position":0},"title":"Sgitsoffrenia: o gelloedd newydd yn yr ymennydd i&#8217;r system imiwnedd","author":"Niels Haan","date":"8 June 2017","format":false,"excerpt":"Nid ydym yn gwybod rhyw lawer p hyd am un o'r clefydau seiciatrig mwyaf cyffredin \u2013 sgitsoffrenia. Fodd bynnag, mae fy ymchwil i, ac ymchwil llawer o bobl eraill, yn dangos bod niwrogenesis (ffurfiant niwronau eraill) a'r system imiwnedd yn rhan o'r cyflwr heriol hwn. Risg genetig ar gyfer sgitsoffrenia\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/06\/Hippocampal-stem-cells-which-generate-new-neurons-growing-in-a-dish-in-the-lab.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/06\/Hippocampal-stem-cells-which-generate-new-neurons-growing-in-a-dish-in-the-lab.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/06\/Hippocampal-stem-cells-which-generate-new-neurons-growing-in-a-dish-in-the-lab.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/06\/Hippocampal-stem-cells-which-generate-new-neurons-growing-in-a-dish-in-the-lab.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/06\/Hippocampal-stem-cells-which-generate-new-neurons-growing-in-a-dish-in-the-lab.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1080,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/canfyddiadau-o-salwch-meddwl-a-yw-esboniadau-biolegol-yn-lleihau-stigma\/","url_meta":{"origin":1487,"position":1},"title":"Canfyddiadau o salwch meddwl: A yw esboniadau biolegol yn lleihau stigma?","author":"Rachel Pass","date":"28 March 2017","format":false,"excerpt":"Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf ar braindomain.org Dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy o ymchwil am iechyd meddwl wedi\u2019i chynnal. Y nod yw dod o hyd i esboniadau biolegol am salwch meddwl, er mwyn deall yr anhwylderau yn well ac atal y stigma cysylltiedig. Gyda lwc, os gallwn ddangos\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/iStock-517157438-e1490709066876.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/iStock-517157438-e1490709066876.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/iStock-517157438-e1490709066876.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/iStock-517157438-e1490709066876.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/iStock-517157438-e1490709066876.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/iStock-517157438-e1490709066876.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":806,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/sgitsoffrenia-a-pharadocsau-mewnwelediad\/","url_meta":{"origin":1487,"position":2},"title":"Sgitsoffrenia a pharadocsau mewnwelediad","author":"Clara Humpston","date":"27 October 2016","format":false,"excerpt":"Pan feddyliwn am symptomau sgitsoffrenia, mae'n bosibl mai'r enghreifftiau cyntaf sy'n dod i'r meddwl yw meddyliau anhrefnus, amheuon annymunol a lleisiau anweledig sy'n poenydio'r dioddefwr. Dyma, yn wir, yw arwyddion mwyaf trawiadol seicosis ac\u00edwt - rhithdybiau, rhithweledigaethau ac anhwylder meddwl - ond fel yr ysgrifennais i rai misoedd yn \u00f4l,\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Blurred-image-of-two-faces.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Blurred-image-of-two-faces.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Blurred-image-of-two-faces.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Blurred-image-of-two-faces.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Blurred-image-of-two-faces.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/10\/Blurred-image-of-two-faces.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1688,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-syr-michael-owen\/","url_meta":{"origin":1487,"position":3},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Yr Athro Syr Michael Owen","author":"Professor Michael Owen","date":"5 July 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Digwyddodd dri pheth i mi pan oeddwn yn fyfyriwr Meddygaeth a ddylanwadodd ar fy newis gyrfa.\u00a0 Yn gyntaf, sylwais yn ystod fy nghwrs BSc Ymsang fy mod i'n hoffi gwneud gwaith ymchwil; roeddwn yn mwynhau gwneud arbrofion a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":1008,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/sgitsoffrenia-o-ganlyniad-i-enynnau-cof-annormal\/","url_meta":{"origin":1487,"position":4},"title":"Sgitsoffrenia o ganlyniad i enynnau cof annormal","author":"Nicholas Clifton","date":"17 February 2017","format":false,"excerpt":"O ystyried bod sgitsoffrenia'n anhwylder a nodweddir gan gamargraffiadau, rhithwelediadau, a chredoau anwir, mae'n bosibl y byddai'n eich synnu i glywed ei fod yn deillio o brosesu atgofion mewn modd annormal yn \u00f4l pob golwg. Er mwyn deall ac ymateb yn briodol i'r hyn sydd o'n cwmpas, rydym bob amser\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-490433128-1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-490433128-1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-490433128-1.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x"},"classes":[]},{"id":1141,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/straen-ym-mlynyddoedd-cynnar-eich-bywyd-yr-effaith-ar-salwch-meddwl\/","url_meta":{"origin":1487,"position":5},"title":"Straen ym mlynyddoedd cynnar eich bywyd &#8211; yr effaith ar salwch meddwl","author":"Anna Moon","date":"25 April 2017","format":false,"excerpt":"Rydych chi o dan fygythiad. Mae eich ymennydd yn ymateb ar unwaith. Fel rhedwr ar ddechrau ras, mae'n deffro fel pe bai'r bygythiad gan saethiad gwn. Yr hypothalamws sy'n dechrau'r gwaith, gan anfon cemegau at y chwarren bit\u1e85idol. Mae'r hormonau o'r chwarren bit\u1e85idol yn llifo i ail chwarren, sef y\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/puzzle-2500333_1920.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1487","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1509"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1487"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1487\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1490,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1487\/revisions\/1490"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1492"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1487"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1487"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1487"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}