{"id":1480,"date":"2018-02-26T14:27:56","date_gmt":"2018-02-26T14:27:56","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1480"},"modified":"2018-02-26T14:29:57","modified_gmt":"2018-02-26T14:29:57","slug":"hunangymorth-dan-arweiniad-triniaeth-newydd-ar-gyfer-ptsd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/hunangymorth-dan-arweiniad-triniaeth-newydd-ar-gyfer-ptsd\/","title":{"rendered":"Hunangymorth dan arweiniad: triniaeth newydd ar gyfer PTSD?"},"content":{"rendered":"<p>Rwyf i&#8217;n gynorthwyydd ymchwil a myfyriwr PhD yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf i&#8217;n rhan o d\u00eem sy&#8217;n astudio effeithlonrwydd triniaeth hunangymorth newydd i bobl sy&#8217;n byw gydag anhwylder pryder \u00f4l-drawmatig (PTSD).<\/p>\n<p><strong>Ar bwy mae PTSD yn effeithio?\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p>Mae datblygu symptomau o PTSD yn dilyn digwyddiad trawmatig yn beth cyffredin iawn.<\/p>\n<p>Ymhlith y symptomau nodweddiadol mae ail-fyw\u2019r trawma dro ar \u00f4l tro mewn atgofion ymwthiol neu \u00f4l-fflachiadau, breuddwydion neu hunllefau, ymdeimlad o fferdod emosiynol, diffyg diddordeb mewn gweithgareddau arferol, osgoi pethau sy&#8217;n atgoffa a gor-gyffroi, er enghraifft aflonyddwch.<\/p>\n<p>Mae astudiaethau&#8217;n amcangyfrif y bydd tua 7% o bobl yn dioddef PTSD ar ryw bwynt yn eu bywydau.<\/p>\n<p>Er gwaethaf yr angen iechyd meddwl hwn, mae rhestrau aros am driniaeth PTSD ar sail tystiolaeth yn gallu bod yn hir iawn, weithiau hyd at 18 mis, a dim ond nifer cyfyngedig o therapyddion wedi&#8217;u hyfforddi sydd ar gael i gyflenwi triniaethau seicolegol ar sail tystiolaeth ar gyfer PTSD.<\/p>\n<p>Rhwystr posibl arall at driniaeth yw&#8217;r ffaith fod angen ymrwymiad mawr gan unigolion i fynychu apwyntiadau rheolaidd yn bersonol dros nifer o fisoedd.<\/p>\n<p>Gall hyn fod yn anodd i bobl am nifer o resymau, fel anhawster cael amser o&#8217;r gwaith, teithio at yr apwyntiadau, ac efallai ganfyddiad o stigma am fynychu gwasanaethau iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Rydym ni&#8217;n credu y gallai hunangymorth dan arweiniad fel triniaeth ar gyfer PTSD fod yn ddatrysiad.<\/p>\n<p><strong>Triniaeth arloesol<\/strong><\/p>\n<p>Mae hunangymorth dan arweiniad yn cyfuno arweiniad rheolaidd gan therapydd a deunyddiau hunangymorth. O&#8217;i gymharu \u00e2 thriniaethau safonol cyfredol mae angen llai o amser gyda therapydd ar y dull hwn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n wybyddus fod Hunangymorth dan Arweiniad ar y we yn fath effeithiol a hygyrch o driniaeth seicolegol i unigolion sy&#8217;n profi gorbryder ac iselder, ac mae&#8217;r sail dystiolaeth ar gyfer ei ddefnydd i drin PTSD yn cynyddu.<\/p>\n<p>Datblygwyd Spring, rhaglen Hunangymorth dan Arweiniad, gan Brifysgol Caerdydd a Healthcare Learning Company, ac fe&#8217;i bwriedir ar gyfer unigolion sydd \u00e2 PTSD ysgafn i gymedrol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n rhaglen wyth cam ar-lein sy&#8217;n hebrwng defnyddwyr drwy wybodaeth am PTSD a symptomau nodweddiadol, gan ddatgloi dulliau a thechnegau defnyddiol ar gyfer rheoli symptomau.\u00a0 Mae therapyddion yn arwain ac yn cefnogi cyfranogwyr RAPID, gan eu hannog i ddefnyddio&#8217;r rhaglen a chwblhau&#8217;r gwaith cartref.<\/p>\n<p>Caiff Spring ei asesu yn y treial clinigol RAPID (hap-brawf gyda rheolydd pragmataidd ar raglen hunangymorth dan arweiniad yn canolbwyntio ar drawma yn erbyn TFCBT unigol ar gyfer PTSD) dan arweiniad yr Athro Jonathan Bisson. Nod RAPID yw pennu a yw Spring yn ddewis amgen addas yn lle therapi wyneb yn wyneb i bobl sydd \u00e2 PTSD ysgafn i gymedrol, sydd wedi profi un digwyddiad trawmatig.<\/p>\n<p>Cyllidir RAPID gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR), ac mae&#8217;n gweithio mewn sawl canolfan sy&#8217;n cynorthwyo pobl \u00e2 PTSD ar draws y DU, gan gynnwys NCMH ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n bwysig nodi bod Treial RAPID a&#8217;i ymyriad Spring wedi&#8217;u datblygu gyda, ac ar gyfer, pobl sydd wedi profi PTSD. Yn wir, mae Treial RAPID yn mynd ymhellach na hynny drwy gynnwys pobl sydd \u00e2 phrofiad o fyw gyda PTSD yn y gwaith cynllunio, rheoli a&#8217;r grwpiau cynghori.<\/p>\n<p><strong>Myfyrdodau<\/strong><\/p>\n<p>Pauline Taylor, aelod o Gr\u0175p Ymglymiad Cleifion a&#8217;r Cyhoedd RAPID, sy&#8217;n rhannu ei myfyrdodau am raglen &#8216;Spring&#8217; mewn perthynas \u00e2&#8217;i phrofiad trawmatig ei hun:<\/p>\n<p><em>Dros ugain mlynedd yn \u00f4l profais ddigwyddiad trawmatig, pan oeddwn i&#8217;n ofni y byddwn yn marw. <\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Pe bai&#8217;r rhaglen hon ar gael i mi bryd hynny, rwyf i&#8217;n si\u0175r na fyddai&#8217;r PTSD a ddioddefais ar \u00f4l y digwyddiad hwnnw wedi parhau i effeithio mor negyddol ar fy mywyd am flynyddoedd lawer, oherwydd ddeliais i ddim \u00e2&#8217;r sefyllfa yn y dyddiau cynnar.<\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Blinai fy PTSD fi yn gorfforol ac yn emosiynol, roeddwn yn dioddef gorludded emosiynol a chorfforol, oedd yn effeithio ar fy mywyd. Byddai&#8217;r rhaglen hon wedi fy arwain at ymwybyddiaeth o&#8217;r ffordd y gallai PTSD effeithio ar fy iechyd corfforol ac emosiynol gan fy ngalluogi i fod yn fwy gofalus o fy lles, a chymryd rheolaeth.<\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Byddai wedi bod yn rhwyd diogelwch ar unwaith i mi pe bawn i&#8217;n teimlo&#8217;n fregus ac yn ddryslyd, gyda theimladau a meddyliau &#8216;amrwd&#8217; iawn. Byddai wedi fy arwain yn dawel ac yn syml i ddeall fy nheimladau a fy ofnau, a fy ngrymuso i gymryd rheolaeth a daearu&#8217;r holl brofiad brawychus. <\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Drwy&#8217;r cyfan, roeddwn i&#8217;n teimlo y byddai&#8217;r rhaglen wedi dod yn ffrind, yn cadarnhau&#8217;n eiriol ac yn rheolaidd bod fy nheimladau&#8217;n &#8216;normal&#8217; ac y byddwn i&#8217;n iawn.<\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Mae hefyd yn ymdrin \u00e2&#8217;r problemau iechyd corfforol ac emosiynol cyffredinol a all godi gyda PTSD. Ceir awgrymiadau defnyddiol ar ffitrwydd corfforol a ffyrdd i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar. <\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Rwy&#8217;n credu y byddai&#8217;n fuddiol iawn pe bai&#8217;r rhaglen yn cael ei defnyddio ar draws gwasanaethau gyda pherson\u00e9l mewn gwaith trawmatig, a hefyd pe bai\u2019n hygyrch ar draws meysydd cymorth Iechyd Meddwl, ymarfer iechyd cyffredinol ac Adnoddau Dynol yn y gweithle.\u00a0 <\/em><\/p>\n<p><strong>Grymuso<\/strong><\/p>\n<p>Rhannodd aelod arall o Gr\u0175p Ymglymiad Cleifion a&#8217;r Cyhoedd RAPID ei phrofiadau yn dilyn defnydd o &#8216;Spring&#8217; fel cyfranogwr mewn ymchwil a ragflaenodd Treial RAPID ac oedd yn sail i&#8217;r gwaith presennol:<\/p>\n<p><em>Roedd yn grymuso. Drwy ddechrau ar raglen hunangymorth dan arweiniad cefais y rheolaeth oedd ei hangen arnaf i. Roeddwn i wedi cael digon ar fod yn ddioddefwr.\u00a0 <\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Caiff y rhaglen ei llefaru a chewch eich arwain drwyddi gam wrth gam. Rhan allweddol o&#8217;r rhaglen oedd ysgrifennu cofnod person cyntaf o fy nigwyddiad trawmatig a&#8217;i ddarllen eto ac eto. <\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Caniataodd y rhaglen fi i gael fy nad-sensiteiddio i&#8217;r hyn yr oeddwn wedi&#8217;i brofi. Dydych chi ddim yn ei guddio ond rydych chi&#8217;n gallu camu i ffwrdd o&#8217;r atgofion a delio gyda nhw. <\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Roedd yn wych oherwydd gallwch ei wneud ar unrhyw gyfrifiadur yn unrhyw le. Mae\u2019n hyblyg ac roedd yn gweddu i fi fel mam sengl sy&#8217;n gweithio llawn amser. <\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Rwyf i wedi sylweddoli yn yr amser y byddwn i wedi bod ar restr aros am therapydd, fy mod eisoes yn \u00f4l fel fi fy hun. Byddwn i&#8217;n argymell y rhaglen hon i unrhyw un mewn sefyllfa debyg. <\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>Mae technoleg yn dechrau ar gyfnod newydd, gydag apiau sy&#8217;n gallu gwneud gwahaniaeth i&#8217;ch iechyd meddwl. Mae rhaglen RAPID yn cyd-fynd yn berffaith ac yn ddilys \u00e2 hynny.<\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em>Mae RAPID ar waith, yn recriwtio cyfranogwyr ar draws de Cymru, Manceinion Fwyaf ac yn fuan bydd yn recriwtio yn Llundain a Chaeredin.<\/p>\n<p>Credwn o bosib mai ein treial ni yw&#8217;r treial cymharol cyntaf o hunangymorth dan arweiniad ar-lein a therapi wyneb yn wyneb ar gyfer PTSD.<\/p>\n<p>Rydym ni&#8217;n awyddus iawn i weld a yw hunangymorth dan arweiniad yn driniaeth addas, ddilys, gost effeithiol a derbyniol ar gyfer PTSD yn y GIG ac ar draws lleoliadau gwasanaeth eraill, a byddwn yn lledaenu ein canfyddiadau mor eang \u00e2 phosib.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.cardiff.ac.uk\/centre-for-trials-research\/research\/studies-and-trials\/view\/rapid\">Darllenwch fwy<\/a> am y treial neu cysylltwch \u00e2 Natalie Simon ar 02920 688331 neu ebost <a href=\"mailto:SimonN2@cardiff.ac.uk\">SimonN2@cardiff.ac.uk<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Rwyf i'n gynorthwyydd ymchwil a myfyriwr PhD yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf i'n rhan o d\u00eem sy'n astudio effeithlonrwydd triniaeth hunangymorth newydd i [&hellip;]","protected":false},"author":1515,"featured_media":1482,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30],"tags":[],"class_list":["post-1480","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-nS","jetpack-related-posts":[{"id":1629,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-dr-kathryn-peall-uwch-ddarlithydd-clinigol-sefydliad-ymchwil-y-niwrowyddorau-ac-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1480,"position":0},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2&#8217;r Ymchwilydd, Dr Kathryn Peall, Uwch-ddarlithydd Clinigol, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl","author":"Alison Tobin","date":"18 February 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Dechreuodd fy niddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl yn ystod fy PhD, pan oeddwn yn canolbwyntio ar symptomau iechyd meddwl mewn math penodol o anhwylder sy\u2019n amharu ar y gallu i symud. Heblaw am yr hyfforddiant seiciatreg yr oeddwn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1573,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-amy-lynham-cydymaith-ymchwil-seicosis-ac-anhwylderau-affeithiol-mawr\/","url_meta":{"origin":1480,"position":1},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Amy Lynham, Cydymaith Ymchwil, Seicosis ac Anhwylderau Affeithiol Mawr","author":"Amy Lynham","date":"20 September 2018","format":false,"excerpt":"\u00a0Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Astudiais seicoleg yn y Brifysgol am fy mod wedi fy nghyfareddu gan yr ymennydd ac ymddygiad dynol. Treuliais flwyddyn yn gweithio yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn rhan o leoliad proffesiynol, a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Amy-Lynham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":321,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mental-health-united-we-stand-divided-we-fall-cymraeg\/","url_meta":{"origin":1480,"position":2},"title":"Iechyd meddwl:  Mewn undeb y mae nerth","author":"Professor Michael Owen","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Dyw iechyd meddwl byth ymhell o\u2019r penawdau y dyddiau hyn, a dyna sut dylai fod. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae salwch meddwl yn effeithio ar bobl ar draws yr ystod oedran, o blant i'r henoed, ac mae\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1582,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-dr-adam-cunningham-tim-astudiaeth-echo-mrc-cngg\/","url_meta":{"origin":1480,"position":3},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Dr Adam Cunningham, T\u00eem Astudiaeth ECHO, MRC CNGG","author":"Adam Cunningham","date":"27 September 2018","format":false,"excerpt":"Bu'r ymennydd a'r meddwl o ddiddordeb i mi erioed, yn ogystal \u00e2'r modd yr ydym yn gweld ac yn deall y byd o'n cwmpas. Gallwn fod wedi dilyn llwybr ymchwil mwy sylfaenol am y modd y mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth, neu sut mae niwronau'n gweithio, ond roedd gweithio ar\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1701,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","url_meta":{"origin":1480,"position":4},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan","author":"Ben Hannigan","date":"6 August 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":1531,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ffyrdd-newydd-o-feddwl-am-iechyd-meddwl-a-lles-plant-oed-ysgol-gynradd\/","url_meta":{"origin":1480,"position":5},"title":"Ffyrdd newydd o feddwl am iechyd meddwl a lles plant oed ysgol gynradd","author":"Stephen Jennings","date":"26 June 2018","format":false,"excerpt":"Cynnydd yn y diddordeb gwleidyddol-gymdeithasol mewn iechyd meddwl plant a'r glasoed Mae consensws eang mewn ymchwil yn awgrymu bod gan 10 y cant o blant a phobl ifanc yn y DU gyflwr iechyd meddwl y gellir cael diagnosis clinigol ohono fel gorbryder neu iselder. Ceir sail ymchwil sylweddol sy'n cysylltu\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/06\/GettyImages-670712598.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/IMG_8911-This-one.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1480","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1515"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1480"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1480\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1481,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1480\/revisions\/1481"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1482"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1480"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1480"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1480"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}