{"id":1410,"date":"2017-12-01T10:01:38","date_gmt":"2017-12-01T10:01:38","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1410"},"modified":"2017-12-01T10:56:07","modified_gmt":"2017-12-01T10:56:07","slug":"cwsg-y-gadwyn-aur-ar-gyfer-iechyd-meddwl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cwsg-y-gadwyn-aur-ar-gyfer-iechyd-meddwl\/","title":{"rendered":"Cwsg: Y gadwyn aur ar gyfer iechyd meddwl"},"content":{"rendered":"<p>Mae&#8217;n gaeaf, a ph\u2019un a ydych chi&#8217;n mwynhau&#8217;r nosweithiau tywyllach, y tywydd oerach ac addurniadau Nadolig cynamserol yn y siopau ai peidio, bydd y mwyafrif ohonom yn llawenhau o gael yr awr ychwanegol yn y gwely sy&#8217;n nodi&#8217;r newid o Amser yr Haf i Amser Safonol Greenwich.<\/p>\n<h2>&#8216;Canmol cwsg&#8217;<\/h2>\n<p>Nid ffenomen fodern yw canmol rhinweddau cwsg. Dros 400 o flynyddoedd yn \u00f4l, neilltuodd Thomas Dekker bennod o&#8217;i gyfrol yn 1609, <em><a href=\"https:\/\/quod.lib.umich.edu\/e\/eebo\/A20060.0001.001\/1:5.3?rgn=div2;view=fulltext\">The Guls Horne-booke<\/a><\/em>, i &#8216;Ganmol cwsg a noethni&#8217;. Mater arall yw myfyrdodau Dekker ar noethni fodd bynnag, ond disgrifiodd cwsg fel <em>&#8216;y gadwyn aur sy&#8217;n clymu iechyd a&#8217;n cyrff at ei gilydd&#8217;<\/em> gan nodi bod <em>&#8216;rhy ychydig yn golygu y cwympwn i&#8217;r fynwent, ac o&#8217;i ddefnyddio&#8217;n ddi-hid, cawn ein taflu i Bedlam&#8217;<\/em>.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.nature.com\/nrn\/journal\/v11\/n8\/full\/nrn2868.html\">Mae llawer o ymchwil gwyddonol<\/a> ers hynny wedi dangos bod cwsg yn hanfodol ar gyfer lles corfforol a meddyliol, gan effeithio ar brosesau niferus yn ein cyrff o gof i fetabolaeth. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar sut mae cwsg yn effeithio ar iechyd meddwl.<\/p>\n<h2>Aflonyddwch cwsg fel symptom o afiechyd meddwl<\/h2>\n<p>Yn y 19eg ganrif, nododd <a href=\"https:\/\/archive.org\/stream\/kompendiumderps00dorngoog\/kompendiumderps00dorngoog_djvu.txt\">Emil Kraepelin<\/a>, a ystyrir yn daid seiciatreg fodern, fod aflonyddwch cwsg yn gyffredin mewn cleifion ag anhwylderau seiciatrig ac <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/article\/10.1007%2Fs00115-015-4296-7\">argymhellai driniaethau oedd yn hybu cwsg.<\/a><\/p>\n<p>Heddiw, mae&#8217;r systemau diagnostig a ddefnyddir mewn ymchwil ac ymarfer clinigol yn ategu arsylwadau Kraepelin. Er enghraifft, mae pumed fersiwn <a href=\"https:\/\/www.psychiatry.org\/psychiatrists\/practice\/dsm\">Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders<\/a> yn cynnwys aflonyddwch cwsg fel symptom o anhwylder deubegwn, anhwylder iselder difrifol ac anhwylderau gorbryder.<\/p>\n<p>Fodd bynnag ychydig o sylw a roddwyd i\u2019r cwestiwn a yw cwsg gwael yn ein &#8216;taflu ni i Bedlam&#8217; (h.y. yn achosi afiechyd meddwl) tan yn ddiweddar.<\/p>\n<h2>Ydy diffyg cwsg yn ein &#8216;taflu ni i Bedlam&#8217;?<\/h2>\n<p>Cafwyd diddordeb cynyddol i wybod a all problemau cwsg fod yn achos yn ogystal ag yn symptom o salwch meddwl. Er enghraifft mae astudiaethau epidemiolegol yn awgrymu bod pobl sydd ag insomnia <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pubmed\/2769898\">mewn perygl uwch o iselder<\/a>, ac mae cyfnodau o ddiffyg cwsg wedi&#8217;u cysylltu \u00e2 chyfnodau manig mewn pobl gydag anhwylder deubegwn (<a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pubmed\/2689437\">Wehr, 1989<\/a>; <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pubmed\/18483132\">Plante and Winkelman, 2008<\/a>). Mae tystiolaeth o astudiaethau arbrofol yn cefnogi&#8217;r cysylltiadau hyn. Er enghraifft, adroddodd <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pubmed\/8775765\">Gessa a&#8217;i gydweithwyr<\/a> fod llygod mawr yn dangos ymddygiad manig yn dilyn diffyg cwsg ac mae astudiaethau eraill wedi canfod bod diffyg cwsg mewn pobl yn arwain at <a href=\"http:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S1087079214001579?via%3Dihub\">ddiffygion prosesu emosiynol<\/a> a<a href=\"http:\/\/www.jneurosci.org\/content\/34\/27\/9134.short\"> symptomau&#8217;n debyg i seicosis<\/a>.<\/p>\n<h2>Y goblygiadau ar gyfer ymarfer clinigol<\/h2>\n<p>Gallai deall mwy am y ffordd mae problemau cwsg yn dylanwadu ar gwrs anhwylderau seiciatrig hwyluso ymdrechion i drin afiechyd meddwl. Er enghraifft mae ymyriadau sydd \u00e2&#8217;r nod o wella cwsg wedi&#8217;u cysylltu \u00e2 <a href=\"http:\/\/www.annualreviews.org\/doi\/pdf\/10.1146\/annurev-clinpsy-032210-104550\">gwella symptomau iselder<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pubmed\/16143731\">gostwng y risg o atgwymp mewn anhwylder deubegwn<\/a>, a lleihau <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pubmed\/28888927\">paranoia a phrofiadau o weld rhithiau<\/a>.<\/p>\n<h2>Cymhlethdodau<\/h2>\n<p>Er gwaethaf cynnydd sylweddol yn y maes ymchwil hwn, mae llawer mwy o hyd sydd angen i ni ymchwilio iddo am y berthynas rhwng cwsg ac iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Yn gyntaf mae salwch seiciatrig yn gymhleth ac yn cael ei achosi gan amrywiaeth o ffactorau genetig ac amgylcheddol, felly mae&#8217;n bosibl nad yw cwsg gwael yn ffactor risg i bawb. Er enghraifft, mewn astudiaeth o dros 3000 o bobl gydag anhwylder deubegwn, canfuwyd fod 20% o gyfranogwyr yn adrodd bod <a href=\"http:\/\/bjp.rcpsych.org\/content\/bjprcpsych\/early\/2017\/06\/28\/bjp.bp.117.202259.full.pdf\">colli cwsg wedi sbarduno cyfnodau o hwyliau uchel<\/a>, gyda menywod yn fwy tebygol o adrodd am hyn na dynion.<\/p>\n<p>Yn ail, mae ein patrymau cwsg yn cael eu dylanwadu gan ffactorau niferus sy&#8217;n cymhlethu ymhellach ymdrechion i ddeall y berthynas rhwng cwsg gwael ac iechyd meddwl. Un dylanwad, a amlygwyd yn ddiweddar yn y gwobrau <a href=\"https:\/\/www.nobelprize.org\/nobel_prizes\/medicine\/laureates\/2017\/press.html\">Nobel<\/a>, yw ein rhythmau circadaidd (rhythmau 24-awr yn ein ffisioleg a&#8217;n hymddygiad). Mae&#8217;r rhythmau hyn yn dylanwadu ar y cylch cwsg-effro a ch\u00e2nt eu heffeithio gan ffactorau fel <a href=\"https:\/\/www.nature.com\/nrn\/journal\/v11\/n8\/full\/nrn2868.html\">golau, ymddygiad ac amrywiaeth genetig<\/a>.<\/p>\n<h2>Ymchwil cyfredol a chyfeiriadau&#8217;r dyfodol<\/h2>\n<p>Yn y <a href=\"http:\/\/www.ncmh.info\/\">Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol<\/a> a <a href=\"http:\/\/www.cardiff.ac.uk\/mrc-centre-neuropsychiatric-genetics-genomics\">Chanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg<\/a>, rydym ni&#8217;n archwilio&#8217;r berthynas rhwng cwsg ac iechyd meddwl gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau. Er enghraifft, rydym ni&#8217;n defnyddio data genetig o <a href=\"http:\/\/bdrn.org\/\">astudiaeth o dros 6,000 o bobl sydd ag anhwylder deubegwn<\/a> i ymchwilio a yw risg genetig ar gyfer problemau cwsg yn gysylltiedig \u00e2 nodweddion gwahanol mewn anhwylder deubegwn. Rydym ni hefyd yn edrych ar y <a href=\"http:\/\/www.ncmh.info\/sleep-bipolar-disorder\/\">berthynas tymor hir rhwng cwsg a hwyliau<\/a> gan ddefnyddio monitorau gweithgaredd a dyddiaduron dyddiol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r berthynas rhwng cwsg ac iechyd meddwl yn gymhleth, felly i sicrhau cynnydd yn y maes hwn mae angen i ymchwilwyr ystyried dylanwad ymddygiad, bioleg a&#8217;r amgylchedd. Mae cymhlethdodau o&#8217;r fath yn golygu bod datod dolenni&#8217;r &#8216;gadwyn aur&#8217; yn faes ymchwil heriol ond cyffrous a allai yn y pen draw helpu i ddeall a thrin anhwylderau seiciatrig. Pe bai Dekker yn dal yn fyw, efallai y byddai&#8217;n falch i glywed bod ei ysgrifau ar gwsg (os nad noethni) yn dal i fod yn berthnasol heddiw.<\/p>\n<p><em>Dysgwch fwy am sut y gallwch chi gymryd rhan yn ein hymchwil cwsg<\/em><\/p>\n<p><em>Rydym ni hefyd yn rhedeg <\/em><a href=\"https:\/\/www.chapter.org\/ncmh-sleep-workshop\"><em>gweithdai<\/em><\/a><em> ar wyddor cwsg a hysbysebir drwy ein <\/em><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/walesmentalhealth\"><em>tudalen Facebook<\/em><\/a><em>. <\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'n gaeaf, a ph\u2019un a ydych chi'n mwynhau'r nosweithiau tywyllach, y tywydd oerach ac addurniadau Nadolig cynamserol yn y siopau ai peidio, bydd y mwyafrif ohonom yn llawenhau o gael [&hellip;]","protected":false},"author":1467,"featured_media":1415,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30,31],"tags":[],"class_list":["post-1410","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion","category-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-mK","jetpack-related-posts":[{"id":646,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ysgol-haf-niwrowyddoniaeth-beunyddiol-a-chwsg-rhydychen\/","url_meta":{"origin":1410,"position":0},"title":"Ysgol Haf Niwrowyddoniaeth Beunyddiol a Chwsg Rhydychen","author":"Hayley Moulding","date":"15 August 2016","format":false,"excerpt":"Mae'r cysylltiad cynhenid rhwng cwsg a iechyd meddwl wedi cael ei anwybyddu a'i wrthod yn y gorffennol. Mae sylwadau a hanesion unigolion, ynghyd \u00e2 gwaith ymchwil, wedi profi y gall cwsg fod yn ffactor o ran iechyd meddwl ac, i'r gwrthwyneb, y gall iechyd meddwl gael effaith ar gwsg. Rwy'n\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/08\/All-Souls-College.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1424,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cyfryngau-cymdeithasol-ac-iechyd-meddwl-2\/","url_meta":{"origin":1410,"position":1},"title":"Cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl","author":"Emma Williams","date":"13 December 2017","format":false,"excerpt":"Yn ddi-os, mae\u2019r cyfryngau cymdeithasol wedi newid y ffordd y mae\u2019r gymdeithas ac unigolion yn cyfathrebu a rhannu gwybodaeth. Bellach, mae\u2019n rhan annatod o fywydau llawer o bobl, yn enwedig y rheiny rhwng 16-30 oed. Bu i Daisy Ridley, a ddaeth yn enwog yn sydyn fel Rey yn y ffilmiau\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/rawpixel-com-378011-copy-2.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":946,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymrwymiad-or-newydd-ond-parhau-maer-anghydraddoldeb-ym-maes-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1410,"position":2},"title":"Ymrwymiad o&#8217;r newydd, ond parhau mae&#8217;r anghydraddoldeb ym maes iechyd meddwl","author":"Jemma Cole","date":"13 January 2017","format":false,"excerpt":"Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi ailddatgan un o ymrwymiadau ei rhagflaenydd David Cameron ei bod am wella gofal iechyd meddwl. Cafodd ei datganiad sylw rhwng penawdau'r BBC am nifer y cleifion seiciatrig sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys a'r nifer anghymesur o achosion lle ceir oedi cyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1050,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-prifysgolion-a-safetalk\/","url_meta":{"origin":1410,"position":3},"title":"Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion a SafeTALK","author":"Jo Pinder","date":"2 March 2017","format":false,"excerpt":"Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion, ac mae llawer o them\u00e2u hanfodol yngl\u0177n \u00e2 lles myfyrwyr y dylwn eu trafod ar y diwrnod hwn. Gall myfyrwyr wynebu amrywiaeth enfawr o wahanol ffactorau cymdeithasol, academaidd a diwylliannol sy'n achosi straen yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol. Yn aml, gall hyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1810,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/a-yw-profiadau-o-arwahanrwydd-cymdeithasol-yn-effeithio-ar-iechyd-meddwl-pobl-ifanc\/","url_meta":{"origin":1410,"position":4},"title":"A yw profiadau o arwahanrwydd cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc?","author":"Alison Tobin","date":"9 February 2024","format":false,"excerpt":"Sut mae cael eich ynysu oddi wrth bobl ifanc eraill yn berthnasol i broblemau iechyd meddwl? Yn y blog hwn, mae Dr Katherine Thompson, cydymaith ymchwil \u00f4l-ddoethurol sy\u2019n ymchwilio i fodelau ystadegol i ragweld iselder ym Mhrifysgol Purdue yn yr Unol Daleithiau, yn trafod ei hymchwil PhD yn y maes\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl plant a'r glasoed&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl plant a'r glasoed","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed\/"},"img":{"alt_text":"Sad and contemplative young woman by a window.","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/02\/GettyImages-888960804.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1499,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/letsshare\/","url_meta":{"origin":1410,"position":5},"title":"#LetsShare","author":"Jo Pinder","date":"28 February 2018","format":false,"excerpt":"Jo, Ymarferydd Lles a Hyrwyddwr Amser Newid, sy'n s\u00f4n am Ymgyrch Iechyd Meddwl newydd Prifysgol Caerdydd: Beth sydd ar eich meddwl? \u00a0Mae #LetsShare yn ein hannog i gyd i rannu mwy pan ddaw hi'n fater o iechyd meddwl... Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin; bydd yn cael effaith ar un\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/12\/krista-mangulsone-53114.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1410","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1467"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1410"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1410\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1416,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1410\/revisions\/1416"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1415"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1410"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1410"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1410"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}