{"id":1377,"date":"2017-11-11T11:00:58","date_gmt":"2017-11-11T11:00:58","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1377"},"modified":"2017-11-10T16:12:34","modified_gmt":"2017-11-10T16:12:34","slug":"rhan-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/rhan-2\/","title":{"rendered":"Rhan 2"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r cyn-filwr John Skipper wedi dod yn llefarydd cyhoeddus ac yn hyrwyddwr ymchwil PTSD brwd ar \u00f4l cwblhau\u2019r prawf 3MDR \u00e2\u2019m t\u00eem ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Yn rhan gyntaf y gyfres hon, rhannodd John ei brofiadau yn y fyddin. Yn yr ail ran, mae\u2019n trafod ei ddiagnosis PTSD a\u2019i brofiadau \u00e2 therap\u00efau a chymorth confensiynol.<\/p>\n<p><strong>Sut effeithiodd eich cyfnod yn y fyddin arnoch ar \u00f4l ei gadael? <\/strong><\/p>\n<p>Tharodd Bosnia mohonof i tan un noson yn 2005 &#8211; <em>ddegawd<\/em> yn ddiweddarach.<\/p>\n<p>Roeddwn yn uwch swyddog a\u2019r flwyddyn honno roeddwn eisoes wedi trefnu angladd un o\u2019m swyddogion a laddwyd yn Irac, ac roeddwn \u00e2\u2019i rieni wrth ddychwelyd ei eiddo i\u2019r DU. Roeddwn yn mynd drwy ysgariad &#8211; mae bywyd milwrol yn drydydd person mewn priodas fyddin!<\/p>\n<p>Un noson cefais freuddwyd am Fosnia a grisialodd hanfod erchylltra 1995. Roedd mor wir y gallwn ei harogli a\u2019i chlywed. Cefais y freuddwyd eto ac eto, heb rybudd, yn ystod nosweithiau di-gwsg, arswydus dros y blynyddoedd nesaf.<\/p>\n<p>Roeddwn yno, yn edrych, \u00e2\u2019r wybodaeth a allai fod wedi atal yr hil-laddiad, ond roedd fy nhraed wedi\u2019u gludo i\u2019r llawr, ni ddaethai geiriau o\u2019m ceg &#8211; wrandawodd neb.<\/p>\n<p>Pan gefais fy apwyntiad meddygol terfynol wrth adael yn 2006, ni soniwyd o gwbl am iechyd meddwl &#8211; \u2018doeddwn i erioed wedi clywed am PTSD. \u2018Doedd fy swyddog meddygol heb, chwaith, mae\u2019n debyg. Wedi\u2019r cwbl, roedd stigma enfawr yn gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y fyddin bryd hynny.<\/p>\n<p>Teimlaf gywilydd personol imi ond ag asesu iechyd corfforol fy milwyr yn hytrach na\u2019u cyflwr meddyliol.\u00a0 Mae pethau\u2019n newid yn awr.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n eithaf sicr na wnes i dderbyn na chydnabod fy symptomau mewn difrif. Ni wyddai fy mhartner, yr wyf i\u2019n ddyledus iddi am fy ngoddef, pam fy mod yn digio mor hawdd, ddim yn cysgu llawer ac weithiau\u2019n gweiddi yn fy nghwsg.<\/p>\n<p>Roeddwn yn aml yn deffro\u2019n chwys i gyd, ar \u00f4l breuddwydio\u2019r un freuddwyd honno. Ceisiais gadw rheolaeth ar y sefyllfa. Wedi\u2019r cyfan, yr hyn a wnes i\u2019n naturiol oedd meddwl bod problemau iechyd meddwl yn stigma.<\/p>\n<p>Cofiaf ym mis Rhagfyr 2010 yr oeddwn prin yn cysgu &#8211; roeddwn i\u2019n ofni mynd i\u2019r gwely ac roeddwn yn flinedig ac yn gwylltio\u2019n hawdd gydol yr amser. Roedd fy mhartner ar phen ei thennyn ond ni wnes i gydnabod y peth. Y cyfan a allwn ei wneud oedd canolbwyntio arnaf fy hun &#8211; mae\u2019n si\u0175r fy mod i\u2019n bod yn hunanol.<\/p>\n<p>Ymwelais \u00e2\u2019m Meddyg Teulu, a roddodd ddiagnosis straen yn gysylltiedig \u00e2\u2019r gwaith, a chefais bythefnos i ffwrdd a digon o Diazepam. Yr un peth ag a gefais gan fy swyddog meddygol bum mlynedd ynghynt!\u00a0 Mae gwers yma, wrth gwrs.<\/p>\n<p>Rhoddodd y cyffuriau ddwy i dair awr o gwsg cemegol imi &#8211; dim mwy.\u00a0 Rwyf yn dal i synnu bod ystyried hunanladdiad yn beth mor hawdd i\u2019w wneud. Mae\u2019n lle unig iawn, iawn.<\/p>\n<p>Mae nifer o gyn-filwyr, fel fi, yn cael y nesaf peth i ddim o gymorth gan feddygon teulu heb fawr o wybodaeth am salwch trawma &#8211; hyd yn oed salwch meddwl yn gyffredinol. Ychydig iawn sydd wedi\u2019u hatgyfeirio at therapi diogel. Mae nifer sydd wedi cael diagnosis wedi bron rhoi\u2019r gorau i\u2019r driniaeth oherwydd y rhestri aros hir.<\/p>\n<p>Roeddwn yn gweithio i Arolygiaeth y GIG ac wedi cael y fraint o lunio adroddiad ar \u2018Gofal Iechyd yng Nghymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru\u2019. Treuliais oriau ar y ff\u00f4n yn casglu straeon cyn-filwyr &#8211; y mwyafrif am salwch meddwl.<\/p>\n<p>Yn ystod yr amser hwn cefais ddiagnosis canser. Cofiaf yn awr fod y diagnosis yn gwbl ymylol i\u2019r hyn a oedd yn digwydd yn fy mhen &#8211; rhywbeth na allwn ei ddeall o gwbl.\u00a0 Ai cyd-forbidrwydd yw hyn?\u00a0 Roedd y cyffuriau canser yn plethu\u2019n llwyr \u00e2\u2019r peth. Dirywiodd fy hyder &#8211; roedd fy adroddiad gofal iechyd yn fynydd rhy serth i\u2019w ddringo.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Pryd gawsoch chi ddiagnosis PTSD? A pha fath o driniaeth a therapi gawsoch chi? <\/strong><\/p>\n<p>Gweithiais yn agos ar fy adroddiad Lluoedd Arfog gyda chydweithiwr a oedd, yn ffodus imi, yn seicolegydd clinigol. Gofynnodd imi a oedd y gwaith ar yr Adolygiad yn teimlo\u2019n ormod o faich, a dywedodd y gallwn roi\u2019r gorau iddo os oedd. Allwn i ddim, wrth gwrs &#8211; byddai hynny wedi bod yn fethiant.<\/p>\n<p>Roeddwn eisoes wedi cael lwc dda wrth gwrdd \u00e2\u2019r Athro Jon Bisson fel rhan o\u2019r broses Adolygu\u2019r Lluoedd Arfog, a\u2019m hatgyfeiriodd at seicolegydd yn fy mwrdd iechyd lleol ar gyfer diagnosis.<\/p>\n<p>Anghofiaf i fyth y diagnosis ym Mawrth 2012 a ddisgrifiodd, ymhlith pethau eraill, \u2018symptomau PTSD sylweddol, symptomau iselder lefel isel, hunan-amheuaeth\u2019 ac ati.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Beth weithiodd, beth na weithiodd, a pham? <\/strong><\/p>\n<p>Fe\u2019m hatgyfeiriwyd at therapydd ymhen ychydig wythnosau &#8211; roeddwn i\u2019n gwybod pa mor ffodus oeddwn i. Achubodd fy therapydd fy mywyd &#8211; mor syml \u00e2 hynny. Wyddwn i ddim ym mis Ebrill 2012 y cawn i 38 sesiwn dros gyfnod o bron dwy flynedd &#8211; ynghyd \u00e2 llawdriniaeth am y canser, nad oedd ond yn fwy na pheth ymylol.<\/p>\n<p>Rwyf bob amser wedi credu os ydych chi am wella coes wedi\u2019i thorri fod angen llawer mwy arnoch na phlastr ac Ibuprofen. Bydd yna boen, bydd rhaid i chi fod yn ddygn, ond bydd y goes yn gwella a byddwch yn cerdded eto.<\/p>\n<p>Ym mis Ebrill 2012 gwyddwn fod gennyf salwch meddwl &#8211; roedd fy ngallu i wneud pethau o ddydd i ddydd wedi\u2019i effeithio i\u2019r graddau bod fy hyder wedi diflannu ac, i\u2019m partner, mae\u2019n rhaid ei bod yn boen hunanol.<\/p>\n<p>Gallech chi gyfrif ar fysedd un llaw y bobl y gwyddwn amdanynt oedd \u00e2 PTSD. Wedi\u2019r cwbl, roedd gennyf o hyd stigma a gwendid yn fy meddwl ac roedd yn anodd ei ddisgrifio &#8211; roeddwn yn ffodus y gallwn guddio fy CBT (Therapi Ymddygiadol Gwybyddol) ymhlith fy nhriniaethau canser.<\/p>\n<p>Cefais lawer o gydymdeimlad am y canser. O ran y salwch meddwl, mae\u2019n si\u0175r y byddwn wedi wynebu tawelwch a drwgdybiaeth.<\/p>\n<p>I mi, yr \u2018elfen leddfol\u2019 yn y broses CBT oedd y <em>gwellhad &#8211; <\/em>os gallwch ei alw\u2019n hynny. Roeddwn wedi agor y ffeilau tab\u0175, wedi dod \u00e2 golau i lefydd tywyll iawn ac wedi trechu fy nghythreuliaid i raddau helaeth.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n teimlo\u2019n gwbl wag &#8211; a chysgais yn ddwfn. Roedd CBT yn fy hebrwng yn ofalus i\u2019r pwynt hwnnw, ac yn fy arwain yn \u00f4l i fywyd arferol ar ei \u00f4l.\u00a0 Ond ni ddiflannodd beth bynnag a rwygodd oddi mewn i mi ym 1995, gan adael rhyw waddol tywyll yn llawn atgofion drwg. Ond rydych chi\u2019n byw \u00e2 hynny, ac yn ei ddeall.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong><br \/>\n<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae\u2019r cyn-filwr John Skipper wedi dod yn llefarydd cyhoeddus ac yn hyrwyddwr ymchwil PTSD brwd ar \u00f4l cwblhau\u2019r prawf 3MDR \u00e2\u2019m t\u00eem ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn rhan gyntaf y gyfres [&hellip;]","protected":false},"author":1462,"featured_media":1393,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[33,30],"tags":[],"class_list":["post-1377","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-md","jetpack-related-posts":[{"id":1370,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cyfweld-a-chyn-filwr\/","url_meta":{"origin":1377,"position":0},"title":"Cyfweld \u00e2 Chyn-Filwr","author":"Kali Barawi","date":"10 November 2017","format":false,"excerpt":"Mae tua 4% o gyn-filwyr Prydain yn byw ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Therapi seicolegol sy\u2019n canolbwyntio ar y digwyddiad trawmatig yw\u2019r driniaeth a ffefrir ar gyfer PTSD, a gall fod yn fuddiol iawn, ond yn anffodus ceir cryn ymwrthedd i\u2019r driniaeth. Mae angen brys i ddod o hyd\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8888-copy.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1701,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-ben-hannigan\/","url_meta":{"origin":1377,"position":1},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Ben Hannigan","author":"Ben Hannigan","date":"6 August 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar \u00f4l cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":1480,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/hunangymorth-dan-arweiniad-triniaeth-newydd-ar-gyfer-ptsd\/","url_meta":{"origin":1377,"position":2},"title":"Hunangymorth dan arweiniad: triniaeth newydd ar gyfer PTSD?","author":"Natalie Simon","date":"26 February 2018","format":false,"excerpt":"Rwyf i'n gynorthwyydd ymchwil a myfyriwr PhD yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf i'n rhan o d\u00eem sy'n astudio effeithlonrwydd triniaeth hunangymorth newydd i bobl sy'n byw gydag anhwylder pryder \u00f4l-drawmatig (PTSD). Ar bwy mae PTSD yn effeithio?\u00a0 Mae datblygu symptomau o PTSD yn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/IMG_8911-This-one.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/IMG_8911-This-one.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/IMG_8911-This-one.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/IMG_8911-This-one.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/IMG_8911-This-one.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/IMG_8911-This-one.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1382,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/rhan-3\/","url_meta":{"origin":1377,"position":3},"title":"Rhan 3","author":"Kali Barawi","date":"12 November 2017","format":false,"excerpt":"Yn rhan olaf y gyfres hon mae John Skipper, cyn-filwr a wasanaethodd yn y Falklands, Gogledd Iwerddon a Bosnia, yn trafod yr amser a dreuliodd fel rhan o ymchwil PTSD sy\u2019n mynd rhagddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Gweithiodd fy nh\u00eem gyda John fel rhan o\u2019r prawf 3MDR (Dadsensiteiddio ac Ailgydnerthu\u2019r Cof\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8893-copy.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8893-copy.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8893-copy.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8893-copy.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8893-copy.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8893-copy.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":962,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/sut-ydych-chi\/","url_meta":{"origin":1377,"position":4},"title":"Sut ydych chi?","author":"Natalie Ellis","date":"2 February 2017","format":false,"excerpt":"Yn 2015, fe es i Ysgol Gaeaf Prifysgol Caerdydd mewn Seiciatreg. Fel myfyrwyr meddygol ail flwyddyn, roedden ni i gyd newydd orffen bloc o bythefnos mewn seiciatreg ac roedd pawb yn llawn cyffro am seiciatreg. Ynghyd \u00e2'r rhwydweithio a'r sesiynau gr\u0175p, cawsom sgyrsiau gan unigolion oedd \u00e2 phrofiad o salwch\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-183340764.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1539,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/siarad-yng-ngwyl-y-gelli\/","url_meta":{"origin":1377,"position":5},"title":"Siarad yng Ng\u0175yl y Gelli","author":"Dr Emma Yhnell","date":"6 July 2018","format":false,"excerpt":"Rwyf wrth fy modd yn dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gyfathrebu gwyddoniaeth i\u2019r cyhoedd yn gyffredinol, ac rydw i wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau ymgysylltu yn y gorffennol. Fodd bynnag, roedd cael y cyfle i siarad yng Ng\u0175yl y Gelli\u2019n wahanol i unrhyw weithgaredd\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/07\/hay.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/07\/hay.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/07\/hay.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/07\/hay.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/07\/hay.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/11\/IMG_8892-copy.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1377","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1462"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1377"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1377\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1378,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1377\/revisions\/1378"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1393"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1377"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1377"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1377"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}