{"id":1325,"date":"2017-10-16T09:01:54","date_gmt":"2017-10-16T09:01:54","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1325"},"modified":"2017-10-16T09:04:01","modified_gmt":"2017-10-16T09:04:01","slug":"ymchwil-iechyd-meddwl-maer-dyfodol-yn-galw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymchwil-iechyd-meddwl-maer-dyfodol-yn-galw\/","title":{"rendered":"Ymchwil Iechyd meddwl &#8211; mae&#8217;r dyfodol yn galw"},"content":{"rendered":"<p><strong>Afiechyd Meddwl &#8211; argyfwng cenedlaethol<\/strong><\/p>\n<p>Mae afiechyd meddwl yn argyfwng cenedlaethol. Bob blwyddyn mae un ym mhob pedwar person yn y DU yn dioddef problem iechyd meddwl, sy&#8217;n cael effaith enfawr ar yr unigolyn, eu teulu a chymdeithas. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb salwch o&#8217;r gwaith, gyda thros 15 miliwn o ddyddiau&#8217;n cael eu colli bob blwyddyn. Amcangyfrifir fod cyfanswm cost problemau iechyd meddwl i&#8217;r economi o ddeutu \u00a370-\u00a3100 biliwn bob blwyddyn. Hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 20-34 oed yn y DU. Nid yw triniaethau wedi datblygu&#8217;n sylweddol ers degawdau ac mae&#8217;r gwasanaethau dan bwysau enfawr sy&#8217;n golygu bod llawer o bobl yn methu \u00e2 chael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae angen i ni wneud yn well ar frys.<\/p>\n<p><strong>Pam fod ymchwil yn hanfodol<\/strong><\/p>\n<p>Y broblem sylfaenol sy&#8217;n cyfyngu ein gallu i drin salwch meddwl yw diffyg dealltwriaeth ddigonol o&#8217;r mecanweithiau biolegol a seicolegol sy&#8217;n sylfaen i&#8217;r cyflyrau hyn. Tan y byddwn\u00a0 ni\u2019n deall achosion clefyd neu anhwylder mae&#8217;n hynod o anodd gwella triniaeth. Roedd hyn yn wir am weddill meddygaeth &#8211; ni chafwyd cynnydd wrth drin clefydau fel niwmonia a chanser tan i ni ddeall eu hachosion. Mae ein dealltwriaeth o achosion sylfaenol problemau iechyd meddwl fel iselder, awtistiaeth a sgitsoffrenia wedi llusgo ar \u00f4l ein dealltwriaeth o gyflyrau fel canser. Fodd bynnag ceir gobaith gwirioneddol bellach wrth i ymchwil ddechrau datgelu rhai o&#8217;r ffactorau risg allweddol ar gyfer salwch meddwl.<\/p>\n<p><strong>Cynnydd wrth ddeall risg<\/strong><\/p>\n<p>Mae wedi&#8217;i gydnabod ers tro bod ffactorau risg genetig ac amgylcheddol (&#8220;natur a magwraeth&#8221;) yn gallu dylanwadu ar iechyd meddwl. Mae deall y ffactorau risg hyn yn cynnig ffordd allweddol i ni allu deall achosion problemau iechyd meddwl.\u00a0 Mae llawer o broblemau iechyd meddwl yn rhedeg mewn teuluoedd ac fe wyddom o amrywiaeth o astudiaethau gwahanol fod geneteg yn bwysig yn y cyflyrau hyn. Tan yn ddiweddar fodd bynnag roedd yn anodd iawn nodi&#8217;n union pa enynnau oedd yn rhan o hyn. Yn ystod y ddegawd ddiwethaf serch hynny cafwyd cynnydd cyflymach wrth geisio canfod y genynnau ar gyfer cyflyrau fel awtistiaeth, sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn, gyda&#8217;r DU yn chwarae rhan allweddol yn yr ymchwil hwn. Mae hyn wedi bod yn bosibl drwy ddatblygiadau mewn technoleg (er enghraifft dilyniannu DNA) a chydweithio rhyngwladol ar raddfa fawr. Mae astudiaethau genetig wedi dangos bod genynnau\u2019r synapsau (y cysylltiadau rhwng celloedd nerfol) yn ogystal \u00e2 genynnau sy&#8217;n effeithio ar system imiwnedd yr ymennydd a rheolaeth enetig yn bwysig yn yr amgylchiadau hyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn dechrau deall achosion anhwylderau meddyliol, a chanfod targedau newydd ar gyfer triniaethau.<\/p>\n<p>Fe wyddom hefyd y gall ffactorau amgylcheddol &#8211; gan gynnwys digwyddiadau bywyd cynnar a dylanwadau fel straen hefyd ddylanwadu ar risg afiechyd meddwl. Unwaith eto mae cynnydd sylweddol wedi&#8217;i wneud i ddeall y berthynas rhwng ffactorau fel problemau genedigaeth, cam-drin yn ystod plentyndod a straen a phroblemau iechyd meddwl. Mae&#8217;r meysydd hyn hefyd i&#8217;w gweld yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymyriadau newydd i atal anhwylderau meddyliol, boed drwy driniaethau seicolegol, newidiadau cymdeithasol neu feddyginiaethau newydd.<\/p>\n<p><strong>Yr offerynnau i ddatblygu triniaethau newydd<\/strong><\/p>\n<p>Er mwyn symud ymlaen gyda&#8217;r addewid o ddealltwriaeth newydd o risg afiechyd meddwl a chreu triniaethau gwell mae angen i ni ddeall sut mae ffactorau genetig ac amgylcheddol yn effeithio ar yr ymennydd. Ond mae astudio&#8217;r ymennydd yn anodd oherwydd ei gymhlethdod a&#8217;r ffaith ei fod yn anhygyrch. Yn ffodus mae datblygiadau sylweddol diweddar mewn niwrowyddoniaeth yn golygu bod ymchwil o&#8217;r fath yn bosibl. Yn benodol mae&#8217;r gallu i gymryd celloedd ymylol (fel sampl croen) gan gleifion a&#8217;u troi&#8217;n gelloedd ymennydd mewn dysgl (technoleg iPSC) yn golygu y gallwn astudio swyddogaethau celloedd ymennydd cleifion yn uniongyrchol. Mae celloedd o&#8217;r fath hefyd yn cynnig ffordd newydd i brofi triniaethau newydd. Mae datblygiadau o ran sganio&#8217;r ymennydd hefyd yn golygu bod gennym\u00a0 ni ddull na welwyd o&#8217;r blaen i ymchwilio i&#8217;r newidiadau strwythurol, ymarferol a chemegol yn yr ymennydd yn gysylltiedig \u00e2 phroblemau iechyd meddwl. Mae cyd-ddigwyddiad y datblygiadau hyn mewn niwrowyddoniaeth gyda gwell dealltwriaeth o risg yn golygu bod hwn yn gyfnod o gyfle enfawr ar gyfer datblygu triniaethau newydd ar gyfer anhwylderau meddwl.<\/p>\n<p><strong>Yr hyn sydd angen i ni ei wneud nesaf<\/strong><\/p>\n<p>Mae gan y DU gryfderau mawr mewn ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth, ond ar hyn o bryd mae hyn wedi&#8217;i daenu ar draws gwahanol ganolfannau. Dim ond 6% o&#8217;n gwariant cenedlaethol ar ymchwil iechyd sy&#8217;n mynd at ymchwil iechyd meddwl, er gwaethaf baich enfawr yr anhwylderau hyn. Yr hyn sydd ei angen nawr yw strategaeth genedlaethol i ddod \u00e2&#8217;n hymchwilwyr rhagorol yn y meysydd hyn at ei gilydd a chreu rhaglen genedlaethol ar gyfer ymchwil iechyd meddwl gan gyfuno&#8217;r gwahanol arbenigeddau sydd eu hangen i wneud cynnydd. Gallai strategaeth o&#8217;r fath weithio ochr yn ochr \u00e2&#8217;r un a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer ymchwil dementia, ac yn ddelfrydol byddai&#8217;n elwa o synergeddau agos yn yr astudiaeth o&#8217;r anhwylderau pwysig hyn ar yr ymennydd. Byddai strategaeth genedlaethol ar gyfer ymchwil iechyd meddwl, yn gysylltiedig \u00e2 buddsoddiad priodol, hefyd yn anfon neges gref i helpu i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r stigma sy&#8217;n dal i fodoli ynghylch anhwylderau meddwl, a byddai&#8217;n cynnig llwyfan i gefnogi a gwella ein gwasanaethau iechyd meddwl. Yn olaf, o ystyried yr angen enfawr nad yw&#8217;n cael ei ddiwallu mewn iechyd meddwl a&#8217;r cyfle gwych ar gyfer datblygiadau i drin amrywiaeth o anhwylderau&#8217;r ymennydd, bydd rhaglen genedlaethol glir o ymchwil yn y maes yn y DU yn sicrhau sylfaen bwysig ar gyfer buddsoddiad diwydiannol parhaus yn y sector iechyd yn y DU.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Afiechyd Meddwl - argyfwng cenedlaethol Mae afiechyd meddwl yn argyfwng cenedlaethol. Bob blwyddyn mae un ym mhob pedwar person yn y DU yn dioddef problem iechyd meddwl, sy'n cael effaith [&hellip;]","protected":false},"author":1061,"featured_media":1328,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[32,33,30,31],"tags":[],"class_list":["post-1325","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diagnosis-triniaethau-a-lles","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion","category-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-ln","jetpack-related-posts":[{"id":1050,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-prifysgolion-a-safetalk\/","url_meta":{"origin":1325,"position":0},"title":"Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion a SafeTALK","author":"Jo Pinder","date":"2 March 2017","format":false,"excerpt":"Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion, ac mae llawer o them\u00e2u hanfodol yngl\u0177n \u00e2 lles myfyrwyr y dylwn eu trafod ar y diwrnod hwn. Gall myfyrwyr wynebu amrywiaeth enfawr o wahanol ffactorau cymdeithasol, academaidd a diwylliannol sy'n achosi straen yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol. Yn aml, gall hyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1240,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/allai-gwyddor-data-chwyldroi-gofal-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1325,"position":1},"title":"Allai gwyddor data chwyldroi gofal iechyd meddwl?","author":"Jemma Cole","date":"2 August 2017","format":false,"excerpt":"Mae salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar person bob blwyddyn, ac yn aml mae hynny\u2019n cael effaith ddinistriol ar eu bywydau.\u00a0 Ac er bod salwch meddwl yn cael sylw cynyddol yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol, mae ein dealltwriaeth o\u2019r hyn sy\u2019n achosi cyflyrau sy\u2019n amrywio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/data-science-cover-photo.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":1582,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-dr-adam-cunningham-tim-astudiaeth-echo-mrc-cngg\/","url_meta":{"origin":1325,"position":2},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Dr Adam Cunningham, T\u00eem Astudiaeth ECHO, MRC CNGG","author":"Adam Cunningham","date":"27 September 2018","format":false,"excerpt":"Bu'r ymennydd a'r meddwl o ddiddordeb i mi erioed, yn ogystal \u00e2'r modd yr ydym yn gweld ac yn deall y byd o'n cwmpas. Gallwn fod wedi dilyn llwybr ymchwil mwy sylfaenol am y modd y mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth, neu sut mae niwronau'n gweithio, ond roedd gweithio ar\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1499,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/letsshare\/","url_meta":{"origin":1325,"position":3},"title":"#LetsShare","author":"Jo Pinder","date":"28 February 2018","format":false,"excerpt":"Jo, Ymarferydd Lles a Hyrwyddwr Amser Newid, sy'n s\u00f4n am Ymgyrch Iechyd Meddwl newydd Prifysgol Caerdydd: Beth sydd ar eich meddwl? \u00a0Mae #LetsShare yn ein hannog i gyd i rannu mwy pan ddaw hi'n fater o iechyd meddwl... Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin; bydd yn cael effaith ar un\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":946,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymrwymiad-or-newydd-ond-parhau-maer-anghydraddoldeb-ym-maes-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1325,"position":4},"title":"Ymrwymiad o&#8217;r newydd, ond parhau mae&#8217;r anghydraddoldeb ym maes iechyd meddwl","author":"Jemma Cole","date":"13 January 2017","format":false,"excerpt":"Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi ailddatgan un o ymrwymiadau ei rhagflaenydd David Cameron ei bod am wella gofal iechyd meddwl. Cafodd ei datganiad sylw rhwng penawdau'r BBC am nifer y cleifion seiciatrig sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys a'r nifer anghymesur o achosion lle ceir oedi cyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/01\/iStock-161818331.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1629,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-dr-kathryn-peall-uwch-ddarlithydd-clinigol-sefydliad-ymchwil-y-niwrowyddorau-ac-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1325,"position":5},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2&#8217;r Ymchwilydd, Dr Kathryn Peall, Uwch-ddarlithydd Clinigol, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl","author":"Alison Tobin","date":"18 February 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Dechreuodd fy niddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl yn ystod fy PhD, pan oeddwn yn canolbwyntio ar symptomau iechyd meddwl mewn math penodol o anhwylder sy\u2019n amharu ar y gallu i symud. Heblaw am yr hyfforddiant seiciatreg yr oeddwn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/02\/IMG_1753-KP-resized.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1325","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1061"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1325"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1325\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1326,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1325\/revisions\/1326"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1328"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1325"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1325"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1325"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}