{"id":1305,"date":"2017-10-10T07:38:44","date_gmt":"2017-10-10T07:38:44","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1305"},"modified":"2017-10-10T07:39:48","modified_gmt":"2017-10-10T07:39:48","slug":"rhyddhau-ein-hunain-rhag-gormes-emosiynol-yn-y-gwaith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/rhyddhau-ein-hunain-rhag-gormes-emosiynol-yn-y-gwaith\/","title":{"rendered":"Rhyddhau ein hunain rhag gormes emosiynol yn y gwaith"},"content":{"rendered":"<p>Sut i ddefnyddio ailwerthusiadau, a mynegi dicter (yn adeiladol) yn lle ei &#8216;reoli&#8217; &#8211; gan <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/610470-lindebaum-dirk\">Dirk Lindebaum<\/a>.\u00a0Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf yn LSE Business Review.<\/p>\n<p>Ydy eich emosiynau bob amser yn eiddo i chi? Os ydych chi&#8217;n meddwl hynny, meddyliwch eto. Mewn llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar rwyf i&#8217;n dadlau bod emosiynau&#8217;n aml yn cael eu defnyddio gan sefydliadau i ddylanwadu ar weithwyr a\u2019u gormesu.<\/p>\n<p>Gallech feddwl &#8220;Beth yw&#8217;r ots?&#8221;&#8230; Onid yw sefydliadau i fod i chwilio am ffyrdd o reoli ymddygiad eu staff er mwyn helpu llewyrch y cwmni? I ryw raddau, wrth gwrs. Ond beth os oes costau emosiynol sylweddol i weithwyr oherwydd y goblygiadau seicolegol, ffisiolegol a chymdeithasol a ddaw yn sgil y gormesu hwn?<\/p>\n<p>Fy nod gwylaidd yn y gyfrol hon yw helpu darllenwyr i &#8216;weld drwy&#8217; y gormes emosiynol yn y gwaith (fel y\u2019i gwelir gyda&#8217;r gadwyn ar <a href=\"http:\/\/www.e-elgar.com\/shop\/emancipation-through-emotion-regulation-at-work\">glawr y llyfr<\/a>), a chynnig rheoleiddio emosiwn fel modd i weithwyr eu rhyddhau eu hunain rhag y gormes hwnnw. Mae <a href=\"http:\/\/www.elaborer.org\/psy1045d\/cours\/Gross%281998%29.pdf\">rheoleiddio emosiwn<\/a> yn cyfeirio at y prosesau y gall unigolion eu defnyddio i ddylanwadu ar ba emosiynau sydd ganddyn nhw, pryd maen nhw&#8217;n eu cael, yn ogystal \u00e2 sut maen nhw&#8217;n profi ac yn mynegi&#8217;r emosiynau hyn.<\/p>\n<p>Gadewch imi egluro hyn yn fanylach. Yn y llyfr, rwy&#8217;n haeru bod gormes yn gweithio drwy ddau lwybr at reolaeth gymdeithasol nad ydynt hyd yma wedi&#8217;u harchwilio mewn astudiaethau seicolegol a rheoli (gweler Ffigur 1).<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" data-attachment-id=\"1295\" data-permalink=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/emancipating-ourselves-from-emotional-repression-at-work\/figure-1\/\" data-orig-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Figure-1.png\" data-orig-size=\"1008,575\" data-comments-opened=\"1\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"Figure 1\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Figure-1.png\" class=\"alignleft wp-image-1295 size-full\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Figure-1.png\" alt=\"\" width=\"1008\" height=\"575\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Figure-1.png 1008w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Figure-1-300x171.png 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Figure-1-768x438.png 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Figure-1-70x40.png 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Figure-1-170x96.png 170w\" sizes=\"auto, (max-width: 1008px) 100vw, 1008px\" \/><\/p>\n<p><strong>Ffigur 1: Swyddogaethau cymdeithasol fel modd o reoli emosiynol yn y gwaith: y ddau lwybr<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r llwybr cyntaf yn adlewyrchu cyflwr sy&#8217;n manteisio ar swyddogaethau cymdeithasol emosiwn. Er enghraifft, mae <a href=\"http:\/\/digitalcommons.uri.edu\/cgi\/viewcontent.cgi?article=1030&amp;context=cba_facpubs\">teimladau o gywilydd<\/a> yn gysylltiedig \u00e2&#8217;n hunanwerthusiadau negyddol ar \u00f4l i ni dorri safonau, oherwydd rydym ni&#8217;n colli gwerth yng ngolwg\u00a0 eraill rydym ni&#8217;n eu hystyried yn bwysig (neu rydym yn rhagweld y byddwn). Swyddogaeth gymdeithasol cywilydd yw cymell ymddygiad sy&#8217;n canolbwyntio ar ddelio gyda hunan-farn &#8216;gadarnhaol&#8217; a beryglir &#8211; yn aml ar ffurf camau atgyweiriol yn dilyn torri ein safonau moesol ein hunain.<\/p>\n<p>Fodd bynnag gall rheolwyr hefyd ddefnyddio cywilydd yn ddichellgar i beryglu hunan-farn &#8216;gadarnhaol&#8217; yr unigolyn am y rheswm syml nad yw wedi cyrraedd targedau perfformiad yn y gwaith. Dychmygwch gael eich cywilyddio i berfformio&#8217;n well gan gydweithwyr neu reolwyr yn gosod bresychen ar eich desg bob dydd Gwener os ydych chi&#8217;n methu \u00e2 chyrraedd eich targedau ariannol. Fel yr adroddwyd yn y <a href=\"http:\/\/news.bbc.co.uk\/1\/hi\/scotland\/4155334.stm\">newyddion<\/a>, defnyddiwyd yr ymarfer hwn gan reolwyr mewn dwy gangen o HBOS yn yr Alban. Yr hyn a welwn yma yw bod rhai sefydliadau&#8217;n anelu at wella perfformiad eu gweithwyr drwy ddefnyddio cywilydd fel arf gormes cymdeithasol, tra bo&#8217;r gweithiwr sy&#8217;n methu yn dioddef effeithiau seicolegol, fel iselder.<\/p>\n<p>Ar y llaw arall,\u00a0 syniad allweddol yr ail lwybr yw bod y modd rydym ni&#8217;n siarad am emosiwn, yn enwedig dicter, yn mynd y tu hwnt i&#8217;w swyddogaeth gymdeithasol. Swyddogaeth gymdeithasol dicter yw unioni anghyfiawnder. Yn fwy penodol, mae unioni anghyfiawnder yn swyddogaeth ac yn ganlyniad i brofi a mynegi dicter. Ac eto i gyd, mae <a href=\"http:\/\/download.springer.com\/static\/pdf\/611\/art%3A10.1023%2FA%3A1018763902991.pdf?originUrl=http%3A%2F%2Flink.springer.com%2Farticle%2F10.1023%2FA%3A1018763902991&amp;token2=exp=1488196854%7Eacl=%2Fstatic%2Fpdf%2F611%2Fart%3A10.1023%2FA%3A1018763902991.pdf%3ForiginUrl%3Dhttp%3A%2F%2Flink.springer.com%2Farticle%2F10.1023%2FA%3A1018763902991*%7Ehmac=9c3c60e06c45d50989df33fc184eb6c8c862d0790efc704816fa758aba29c96f\">ymchwil<\/a> yn y gorffennol yn nodweddu dicter fel &#8216;problem gymdeithasol sylweddol sy&#8217;n haeddu sylw clinigol ac ymchwil systematig&#8217;.<\/p>\n<p>Gan fod seicolegwyr i&#8217;w gweld yn treulio mwy o amser yn helpu cleientiaid i reoli eu dicter o&#8217;i gymharu ag unrhyw emosiwn arall, mae&#8217;n rhyfeddol o hawdd labelu cydweithwyr gyda phroblemau &#8216;rheoli dicter&#8217;. Mae ganddyn <em>nhw<\/em> yw broblem sydd angen ei datrys. Yn yr un modd, mae&#8217;r trosiadau a ddefnyddiwn bob dydd (e.e. Dicter fel &#8220;colli limpyn&#8221;, &#8220;mynd o&#8217;i go'&#8221;) mor dreiddiol ac yn dominyddu ein &#8216;meddwl&#8217; am &#8216;deimlo&#8217; yr emosiwn hwn. Gall trosiadau greu realiti i ni, yn enwedig realiti cymdeithasol, ac felly gall fod yn arweiniad ar gyfer gweithredu yn y dyfodol. Felly, heb wadu bod rhai mathau o ddicter yn gallu bod yn ddinistriol (fel rydym ni&#8217;n dadlau <a href=\"http:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/full\/10.1177\/0170840616640848\">yma<\/a>), mae arwyddoc\u00e2d moesol dicter yn golygu y byddai &#8216;byd heb ddicter o bosibl yn fyd cydymffurfiol a digyffro ond nid yn fyd cyfiawn&#8217;.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ddau lwybr yn golygu gormesu gweithwyr yn emosiynol drwy naill ai fanteisio ar swyddogaethau cymdeithasol emosiwn er budd y sefydliad (fel yn Llwybr I a&#8217;r enghraifft o gywilyddio) neu yn y ffordd rydym ni&#8217;n siarad am emosiwn (fel yn Llwybr II ynghylch dicter), sy\u2019n golygu bod ei swyddogaeth gymdeithasol yn cael ei gwadu (h.y. caiff dicter ei ffrwyno) rhag ofn cosbedigaeth.<\/p>\n<p>Gyda chymorth portreadau bach sy&#8217;n berthnasol i&#8217;r gwaith, rwyf i&#8217;n dangos yn y llyfr sut y gall gweithwyr ddechrau rheoleiddio eu hemosiynau yn wahanol er mwyn eu rhyddhau eu hunain rhag gormes emosiynol yn y gwaith. Dangosir y cynnydd hwn ar glawr y llyfr, ble mae dolenni&#8217;r gadwyn yn gyflawn ar y dechrau, ond yn gynyddol yn torri hyd nes y cwympa&#8217;r ddolen olaf allan, neu caiff ei rhyddhau o ormes.<\/p>\n<p>Er enghraifft, yn achos cywilydd, rwyf i&#8217;n bleidiol i ddefnyddio ail-werthuso (e.e., &#8220;nid yw hyn yn effeithio arna i&#8221;) i ddiogelu gweithwyr rhag canlyniadau ymdrechion anghyfiawn i godi cywilydd (e.e. iselder). O ran dicter, os caiff\u00a0 ei ysgogi gan bryderon moesol, rwyf i&#8217;n bleidiol i&#8217;w fynegi yn onest ac yn adeiladol. Mae hyn yn bwysig oherwydd rydym ni&#8217;n tueddu i brofi mwy o <a href=\"https:\/\/books.google.co.uk\/books?id=U2doiTNg134C&amp;printsec=frontcover&amp;dq=Opening+up:+The+healing+power+of+confiding+in+others&amp;hl=en&amp;sa=X&amp;redir_esc=y#v=onepage&amp;q=Opening%20up%3A%20The%20healing%20power%20of%20confiding%20in%20others&amp;f=false\">ganlyniadau iechyd andwyol<\/a> os ydym ni&#8217;n ffrwyno emosiwn ar faterion sy&#8217;n bwysig i ni.<\/p>\n<p>Gallai&#8217;r strategaethau hyn weithio yn y tymor byr neu&#8217;r tymor canolig. Fodd bynnag, gallai gweithwyr newid swyddi yn y tymor hir oherwydd effaith gronnol y ddau lwybr. Yn y ddau achos, os bydd trosiant y staff yn cyrraedd lefel anghynaladwy, efallai bydd angen i&#8217;r sefydliad geisio newid y strwythurau cymdeithasol sy&#8217;n ffrwyno&#8217;r gweithwyr yn y lle cyntaf.<\/p>\n<p>\u2663\u2663\u2663<\/p>\n<p><em>Nodiadau:<\/em><\/p>\n<ul>\n<li><em>Mae&#8217;r blog hwn yn seiliedig ar lyfr yr awdur <\/em><a href=\"http:\/\/www.e-elgar.com\/shop\/emancipation-through-emotion-regulation-at-work\">Emancipation Through Emotion Regulation at Work<\/a><em>, Mai 2017, Edward Elgar Publishing.\u00a0<\/em><\/li>\n<li><em>Ceir animeiddiad fideo byr yn cyflwyno&#8217;r gyfrol <\/em><a href=\"https:\/\/dirklindebaum.eu\/books\/\">yma<\/a><em>.\u00a0<\/em><\/li>\n<li><em>Mae&#8217;n bosib y byddech chi hefyd yn hoffi erthygl\u00a0 Dirk Lindebaum\u00a0<\/em><a href=\"http:\/\/blogs.lse.ac.uk\/businessreview\/2016\/04\/04\/what-neuroscience-cannot-bring-to-the-world-of-business\/\">What neuroscience can(not) bring to the world of business<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Sut i ddefnyddio ailwerthusiadau, a mynegi dicter (yn adeiladol) yn lle ei 'reoli' - gan Dirk Lindebaum.\u00a0Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf yn LSE Business Review. Ydy eich emosiynau bob [&hellip;]","protected":false},"author":1428,"featured_media":1304,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[33,30],"tags":[],"class_list":["post-1305","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-l3","jetpack-related-posts":[{"id":1284,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/chwalu-rhwystrau-yn-y-gweithle\/","url_meta":{"origin":1305,"position":0},"title":"Chwalu rhwystrau yn y gweithle","author":"Alison Tobin","date":"10 October 2017","format":false,"excerpt":"Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw iechyd meddwl yn y gweithle. Canfu adroddiad diweddar gan MIND fod 32% o ddynion yn nodi mai gwaith. Roedd gan y cyn-fyfyriwr o Gaerdydd Miles Kean (BSc 1989), sy'n Gyfarwyddwr Gweithredol yn Coutts, broblemau iechyd meddwl yn gysylltiedig \u00e2 gwaith am nifer\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Coutts-06.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Coutts-06.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Coutts-06.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Coutts-06.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Coutts-06.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Coutts-06.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1050,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-prifysgolion-a-safetalk\/","url_meta":{"origin":1305,"position":1},"title":"Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion a SafeTALK","author":"Jo Pinder","date":"2 March 2017","format":false,"excerpt":"Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion, ac mae llawer o them\u00e2u hanfodol yngl\u0177n \u00e2 lles myfyrwyr y dylwn eu trafod ar y diwrnod hwn. Gall myfyrwyr wynebu amrywiaeth enfawr o wahanol ffactorau cymdeithasol, academaidd a diwylliannol sy'n achosi straen yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol. Yn aml, gall hyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1587,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/pam-maen-bosibl-nad-yw-cael-sgwrs-am-iechyd-meddwl-yn-y-man-gwaith-mor-syml\/","url_meta":{"origin":1305,"position":2},"title":"Pam mae&#8217;n bosibl nad yw cael sgwrs am iechyd meddwl yn y man gwaith mor syml","author":"James Wallace","date":"24 October 2018","format":false,"excerpt":"\u00a0James Wallace , Ymchwilydd PhD Ymddangosodd yr erthygl hon am y tro cyntaf yn The Conversation ar 10 Hydref 2018 I lawer o bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl, gall ofn y stigma sy'n gysylltiedig \u00e2 chyflyrau effeithio ar eu perthynas ag eraill. Nid yw'r ofn hwn yn gyfyngedig i\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1794,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/defnyddio-dull-ysgol-gyfan-ar-gyfer-iechyd-meddwl-yng-nghymru\/","url_meta":{"origin":1305,"position":3},"title":"Defnyddio dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru &#8211; Zoe Haslam,Dr Rachel Brown","author":"Zoe Haslam","date":"21 September 2023","format":false,"excerpt":"Mae nifer cynyddol o genhedloedd yn eirioli dros ddull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith yn amlinellu eu model ar gyfer ymgorffori\u2019r dull hwn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Mae ein hymchwil yn ceisio archwilio sut mae polisi o'r fath\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/09\/GettyImages-1312417650.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1882,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/anniddigrwydd-mewn-pobl-ifanc-a-chyflyrau-genetig-prin\/","url_meta":{"origin":1305,"position":4},"title":"Anniddigrwydd mewn pobl ifanc \u00e2 chyflyrau genetig prin","author":"Jessica Hall","date":"4 September 2024","format":false,"excerpt":"Cafodd y blog hwn ei gyhoeddi\u2019n wreiddiol ar Gymuned Ymchwil Springer Nature: mae modd ei ddarllen yma \u201cRwy\u2019n poeni y byddan nhw\u2019n cael eu labelu fel plentyn drwg, anodd, neu hyd yn oed annymunol\u201d. Dyma farn roeddwn i wedi\u2019i chlywed o\u2019r blaen wrth gynnal cyfweliadau ymchwil gyda rhieni plant \u00e2\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2024\/08\/Jessica-Hall-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1591,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-y-byd\/","url_meta":{"origin":1305,"position":5},"title":"Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd!","author":"Sam Hibbitts","date":"14 November 2018","format":false,"excerpt":"Roedd yn bleser mawr cadeirio sesiwn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ym Mhrifysgol Caerdydd ar 10 Hydref 2018. Cawson ni gyfraniad anhygoel gan y staff a myfyrwyr gyda gr\u0175p amrywiol o dros 60 o gyfranogwyr. Llofnododd Caerdydd adduned 'Amser i Newid' sy'n ceisio herio sut rydym yn meddwl ac yn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/11\/GettyImages-518523147.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-699894726.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1305","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1428"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1305"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1305\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1314,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1305\/revisions\/1314"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1304"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1305"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1305"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1305"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}