{"id":1284,"date":"2017-10-10T08:04:04","date_gmt":"2017-10-10T08:04:04","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1284"},"modified":"2017-10-10T08:04:04","modified_gmt":"2017-10-10T08:04:04","slug":"chwalu-rhwystrau-yn-y-gweithle","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/chwalu-rhwystrau-yn-y-gweithle\/","title":{"rendered":"Chwalu rhwystrau yn y gweithle"},"content":{"rendered":"<p>Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw iechyd meddwl yn y gweithle. Canfu adroddiad diweddar gan MIND fod 32% o ddynion yn nodi mai gwaith.<\/p>\n<p>Roedd gan y cyn-fyfyriwr o Gaerdydd Miles Kean (BSc 1989), sy&#8217;n Gyfarwyddwr Gweithredol yn Coutts, broblemau iechyd meddwl yn gysylltiedig \u00e2 gwaith am nifer o flynyddoedd cyn iddo gael cymorth proffesiynol am anhwylder gorbryder. Wrth iddo wella a dychwelyd i&#8217;r gwaith sylwodd fod pobl yn gynyddol yn ei daro ar ei ysgwydd a gofyn iddo gyfarfod am goffi. Roedden nhw am wybod sut roedd wedi ymdopi a hefyd siarad am eu problemau eu hunain yn hytrach mynd yn syth i siarad gyda&#8217;u rheolwyr llinell.<\/p>\n<p>Cymerodd fentor oedd yn gynrychiolydd LGBT ar fwrdd amrywiaeth a chynhwysiant y banc. Pan gyhoeddwyd canlyniadau arolwg y banc mewn perthynas \u00e2 straen a lles roedd yn amlwg fod angen ffocws gwirioneddol ar y maes hwn. O ganlyniad cydiodd Miles yn yr her a pherchnogi hyn. Datblygodd strategaeth a chreodd d\u00eem a wahoddwyd i siarad gyda phrif fwrdd Coutts.<\/p>\n<p>Roedd pryder nad oedd pobl yn cysylltu \u00e2&#8217;u rheolwyr llinell am broblemau oedd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mae gan RBS, rhiant-gwmni Coutts, adnoddau rhagorol o ran cymorth i weithwyr ond ychydig o ddefnydd oedd yn cael ei wneud ohonynt a doedd neb yn gyrru&#8217;r agenda iechyd meddwl yn y busnes ar y lefel waelodol.<\/p>\n<p>Roedd rhywfaint o welededd ynghylch gwella lles corfforol fel yr her 10,000 o gamau corfforaethol byd-eang ond dim llawer yn ymwneud ag iechyd meddwl. Roedd Miles yn awyddus i newid hyn er mwyn i&#8217;r ddau gael yr un amlygrwydd a blaenoriaeth.<\/p>\n<p>Mewn ymgynghoriad \u00e2&#8217;r bwrdd, sefydlodd Miles a&#8217;i d\u00eem strategaeth lles meddwl i&#8217;r banc. I lywio&#8217;r strategaeth aethon nhw i siarad \u00e2 nifer o sefydliadau fel MIND, y Sefydliad Siartredig Person\u00e9l a Datblygu (CIPD), Elusen Gweithwyr y Bancwyr (BWC) ac ymgyrch yr Arglwydd Faer yn ogystal \u00e2 llawer o sefydliadau ariannol eraill.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cael cymeradwyaeth i&#8217;r strategaeth, cyflwynodd Miles a&#8217;i gydweithwyr nifer o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, lleihau stigma, a gwneud yn si\u0175r fod rheolwyr llinell a gweithwyr yn ymwybodol o&#8217;r hyfforddiant a&#8217;r adnoddau oedd ar gael iddynt. Roedd hyn yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Creu rhwydwaith o lysgenhadon Lles. Hyd yma mae 90 o aelodau o staff wedi ymrwymo i gyflawni&#8217;r rolau hyn<\/li>\n<li>Cyfarfod \u00e2&#8217;r 380 rheolwr llinell yn y banc &#8211; trefnodd Miles a Mike Heyworth (ei gyd-arweinydd ar Les) 30 o sesiynau awr o hyd yn esbonio&#8217;r strategaeth, yn arwyddo&#8217;r adnoddau oedd ar gael a thrafod ymarfer da a phwysigrwydd adeiladu gwydnwch yn bersonol ac i&#8217;w timau<\/li>\n<li>Creu fideos oedd yn cynnwys straeon personol am y rheini oedd wedi wynebu eu problemau iechyd meddwl eu hunain, yn ogystal ag aelodau o&#8217;r uwch d\u00eem yn trafod sut maent yn ymdopi ac yn rheoli eu cydbwysedd gwaith\/bywyd<\/li>\n<li>Manteisio ar yr hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl a gwydnwch ehangach ar gyfer rheolwyr llinell<\/li>\n<li>Creu canolbwynt lles ar y fewnrwyd gan ddod \u00e2&#8217;r holl adnoddau mewnol ac allanol sydd ar gael at ei gilydd. Mae hwn wedi&#8217;i gyrchu 10,000 o weithiau gan 1,950 aelod o staff Coutts ers iddo gael ei lansio ym mis Mawrth 2017.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ym mis Ebrill eleni dechreuodd yr ymgyrchwyr iechyd Neil Laybourn a Jonny Benjamin ymwneud \u00e2 Coutts &amp; Co drwy gleient blaenorol i Neil sy&#8217;n gweithio i&#8217;r banc, ac oedd yn mynychu sesiynau hyfforddi Neil pan oedd yn hyfforddwr personol.<\/p>\n<p>Cadwodd y ddau gysylltiad drwy&#8217;r cyfryngau cymdeithasol a chysylltodd yr aelod staff \u00e2 Neil ar \u00f4l darllen am ei hyfforddiant ar gyfer Marathon Llundain, yn awyddus i helpu gyda nawdd a chysylltu ar y pwnc hwn. Trefnwyd cyfarfod i drafod sut y gallent helpu. Yna gwahoddwyd Neil a Jonny i ddod i <a href=\"https:\/\/vimeo.com\/216064212\/d000b1fb35\">roi sgwrs i&#8217;r staff<\/a> yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.<\/p>\n<p>Daeth nifer dda i&#8217;r sgwrs gyda thros 150 o staff yn bresennol ac mae dros 30% o staff wedi gwylio fideo o&#8217;r sgwrs dros y fewnrwyd.<\/p>\n<p>Ymwelodd Neil a Jonny hefyd \u00e2 phrif swyddfa RBS yn yr Alban gan gyfarfod \u00e2&#8217;r Pennaeth Mentrau Lles. Yr hydref hwn maent yn gwneud gwaith pellach gyda Coutts ar gyfer eu rhaglen cyfeillgarwch sydd wedi&#8217;i chynllunio i helpu plant rhai o gleientiaid mwyaf cyfoethog y banc.<\/p>\n<p>Mae gwaith Miles a&#8217;i gydweithwyr yn helpu i arwain at newid diwylliant yn y maes pwysig hwn ac mae llawer o hyn wedi&#8217;i helpu gan adnoddau a chymorth rhagorol gan RBS.\u00a0 Yn ystod yr ymchwil cychwynnol cynghorwyd y t\u00eem gan amrywiol sefydliadau ei bod yn aml yn cymryd peth amser cyn gallu cyflawni unrhyw newid ystyrlon o ran ymwybyddiaeth ac agweddau, eto mae canlyniadau gwaith Miles wedi rhagori ar ddisgwyliadau pawb. Yn yr arolwg chwe-misol diweddaraf o staff roedd un o&#8217;r mesurau lles allweddol wedi gwella 24%.<\/p>\n<p>Mae llawer o hyn wedi&#8217;i sbarduno gan Miles a Mike a&#8217;r ffocws ar ddilysrwydd a gyflwynwyd ganddynt i&#8217;r ymgyrch. Cyflwynon nhw&#8217;r holl hyfforddiant yn hytrach na dod a th\u00eem allanol i mewn, sy&#8217;n anarferol yn enwedig i gyrff mwy o faint.\u00a0 Mae hefyd yn dyst i angerdd ac ymrwymiad Miles i wella&#8217;r agenda iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd maent yn symud i ail gam yr ymgyrch sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chynnwys ystyrlon a chefnogaeth barhaus. Dywed Miles ei fod yn fater sensitif, ond mae&#8217;n ystyried hyn yn beth cadarnhaol.\u00a0 Mae pobl naill ai&#8217;n cysylltu \u00e2 chi am eu bod am helpu, neu am eu bod yn ceisio help.<\/p>\n<p>Dywed Neil fod gwaith Miles wedi gwneud gwahaniaeth yn Coutts a&#8217;i fod mor bwysig fod gwaith ynghylch iechyd meddwl yn cael ei yrru o&#8217;r brig. Mae llawer o sefydliadau o hyd ble mae cryn dipyn i&#8217;w wneud o ran ymwybyddiaeth iechyd meddwl a stigma, yn enwedig mewn BBaChau ble nad oes ganddynt o reidrwydd yr adnoddau angenrheidiol.<\/p>\n<p>Mae Jonny ac yntau&#8217;n parhau i wneud gwaith allgymorth gyda sefydliadau yn y DU ac yn cael eu gwahodd i swyddfeydd rhyngwladol cwmn\u00efau o&#8217;r DU. Mae hyn yn dangos, ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, bod iechyd meddwl yn y gweithle&#8217;n fater gwirioneddol fyd-eang.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw iechyd meddwl yn y gweithle. Canfu adroddiad diweddar gan MIND fod 32% o ddynion yn nodi mai gwaith. Roedd gan y cyn-fyfyriwr [&hellip;]","protected":false},"author":43,"featured_media":1287,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[33,30],"tags":[],"class_list":["post-1284","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-kI","jetpack-related-posts":[{"id":1587,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/pam-maen-bosibl-nad-yw-cael-sgwrs-am-iechyd-meddwl-yn-y-man-gwaith-mor-syml\/","url_meta":{"origin":1284,"position":0},"title":"Pam mae&#8217;n bosibl nad yw cael sgwrs am iechyd meddwl yn y man gwaith mor syml","author":"James Wallace","date":"24 October 2018","format":false,"excerpt":"\u00a0James Wallace , Ymchwilydd PhD Ymddangosodd yr erthygl hon am y tro cyntaf yn The Conversation ar 10 Hydref 2018 I lawer o bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl, gall ofn y stigma sy'n gysylltiedig \u00e2 chyflyrau effeithio ar eu perthynas ag eraill. Nid yw'r ofn hwn yn gyfyngedig i\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1320,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-y-byd-iechyd-meddwl-yn-y-gweithle\/","url_meta":{"origin":1284,"position":1},"title":"Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Iechyd meddwl yn y gweithle","author":"Amy Sykes","date":"10 October 2017","format":false,"excerpt":"10 Hydref yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2017, ac iechyd meddwl yn y gweithle yw\u2019r ffocws eleni a bennwyd gan Ffederasiwn Byd-eang Iechyd Meddwl. Ym Mhrifysgol Caerdydd rydym yn mabwysiadu dull o fynd i\u2019r afael \u00e2 iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr a staff sy\u2019n cofleidio\u2019r sefydliad cyfan. Fel\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/world-mental-health.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/world-mental-health.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/world-mental-health.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/world-mental-health.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/world-mental-health.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1356,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/nyrsio-iechyd-meddwl-ym-mhalestina\/","url_meta":{"origin":1284,"position":2},"title":"Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhalestina","author":"Dr Mohammad Marie","date":"30 October 2017","format":false,"excerpt":"Mohammad Marie \u00a0-\u00a0 nyrs iechyd meddwl academaidd ym Mhrifysgol An-Najah Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn amrywio o un wlad i'r llall. Mae hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys rhai'n gysylltiedig \u00e2 diwylliant, gwleidyddiaeth ac adnoddau. Yn achos Palestina, gyda'i hanes o wrthdaro, nid yw gwasanaethau iechyd meddwl\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/GettyImages-506122072.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1280,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mhnr2017\/","url_meta":{"origin":1284,"position":3},"title":"#MHNR2017","author":"Ben Hannigan","date":"27 September 2017","format":false,"excerpt":"Fe groesawyd cynrychiolwyr i Gynhadledd Ymchwil Ryngwladol Nyrsio Iechyd Meddwl (#MHNR2017) yn Neuadd Dinas Caerdydd ar 14 ac 15 Medi 2017. Dyma\u2019r 23ain tro i\u2019r gynhadledd gael ei chynnal. Hwn oedd y tro cyntaf i\u2019r gynhadledd ymweld \u00e2 Chymru, a Dychmygu, Creu ac Ymchwilio oedd y thema eleni. Croesawyd papurau\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/09\/GettyImages-614138202-1.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1599,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-myfyriwr-phd\/","url_meta":{"origin":1284,"position":4},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Myfyriwr PhD","author":"Alison Tobin","date":"18 January 2019","format":false,"excerpt":"Mae Sin\u00e9ad Morrison yn fyfyriwr PhD sy\u2019n gweithio\u2019n rhan o astudiaeth ECHO, Profiadau Plant gydag Amrywiolion Rhifau Copi (Copy Number Variants) Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Mae iechyd meddwl wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ers oeddwn yn ifanc, a gallaf gofio\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/01\/IMG_1989-Sinead-M.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1499,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/letsshare\/","url_meta":{"origin":1284,"position":5},"title":"#LetsShare","author":"Jo Pinder","date":"28 February 2018","format":false,"excerpt":"Jo, Ymarferydd Lles a Hyrwyddwr Amser Newid, sy'n s\u00f4n am Ymgyrch Iechyd Meddwl newydd Prifysgol Caerdydd: Beth sydd ar eich meddwl? \u00a0Mae #LetsShare yn ein hannog i gyd i rannu mwy pan ddaw hi'n fater o iechyd meddwl... Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin; bydd yn cael effaith ar un\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/02\/LetsShare2.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/Coutts-06.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1284","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/43"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1284"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1284\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1315,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1284\/revisions\/1315"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1287"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1284"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1284"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1284"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}