{"id":1251,"date":"2017-08-11T11:57:50","date_gmt":"2017-08-11T11:57:50","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1251"},"modified":"2017-08-11T12:03:46","modified_gmt":"2017-08-11T12:03:46","slug":"cynyddur-ddealltwriaeth-o-awtistiaeth-a-rhoir-gorau-i-feio-rhieni-ar-gam","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/cynyddur-ddealltwriaeth-o-awtistiaeth-a-rhoir-gorau-i-feio-rhieni-ar-gam\/","title":{"rendered":"Cynyddu\u2019r ddealltwriaeth o awtistiaeth, a rhoi\u2019r gorau i feio rhieni ar gam"},"content":{"rendered":"<p>Sue Leekam a Catherine R.G. Jones<\/p>\n<p>Mae gan gynifer \u00e2 1.1% o boblogaeth y Deyrnas Unedig anhwylder sbectrwm awtistig (ASD), sy\u2019n golygu ei fod yn gyflwr cymharol gyffredin. Ac eto mae modd o hyd i anhwylderau sbectrwm awtistig (ASD) gael eu camddeall, neu hyd yn oed osgoi sylw. Mae arwyddion ASD yn amlwg mewn rhai plant, ond yn achos eraill mae\u2019r arwyddion i\u2019w gweld mewn ffyrdd mwy cynnil a llai traddodiadol. Gall diffyg dealltwriaeth ynghylch sut mae ASD yn dod i\u2019r amlwg olygu na sylwir ar yr arwyddion, neu eu bod yn cael eu priodoli ar gam i achos gwahanol. Gall cambriodoli a chamddeall fel hyn gael effeithiau negyddol sylweddol ar bobl awtistig a\u2019u teuluoedd.<\/p>\n<p>Yn erthygl BBC Wales ar 26 Gorffennaf 2017, amlygwyd canlyniad methiant i ddeall ASD. Disgrifiodd mam ei hofnau y gallai ymddygiad ei phlentyn awtistig gael ei ddehongli fel esgeulustod rhieni ac y byddai rhywun yn dweud amdanynt wrth y gwasanaethau cymdeithasol, tra dywedodd cyfreithiwr fod rhieni\u2019n aml yn cael eu beio am rianta annigonol pan fyddai eu plant awtistig yn cael pyliau o dymer ac yn dioddef gorlwytho synhwyraidd.\u00a0\u00a0 Rhaid mynd i&#8217;r afael \u00e2 syniadau camarweiniol o&#8217;r fath. Cyflwynwyd y myth mai rhieni oedd ar fai am ASD yng nghanol y ganrif ddiwethaf ac fe\u2019i chwalwyd gan dystiolaeth ymchwil yn y Deyrnas Unedig o fewn ychydig ddegawdau.<\/p>\n<p>Felly gofynnwn i&#8217;r BBC a chyfryngau eraill ymuno \u00e2\u2019r ymgyrch i symud dealltwriaeth gyhoeddus ymlaen drwy ganolbwyntio ar dystiolaeth ymchwil. Mae <a href=\"https:\/\/www.researchgate.net\/publication\/249341980_Maternal_Parenting_Behavior_and_Child_Behavior_Problems_in_Families_of_Children_and_Adolescents_with_Autism_Spectrum_Disorder\">tystiolaeth ymchwil<\/a> yn dangos yn eglur nad yw rhieni plant ag ASD fel gr\u0175p mewn unrhyw fodd yn dewis lleihau lefel eu rhianta, ond y <a href=\"https:\/\/www.researchgate.net\/publication\/317799078_Parenting_a_Child_with_ASD_Comparison_of_Parenting_Style_Between_ASD_Anxiety_and_Typical_Development\">byddant o bosibl yn addasu eu rhianta i ymateb i anghenion penodol eu plentyn<\/a>.<\/p>\n<p>Er i\u2019r erthygl newyddion hon gan y BBC roi\u2019r ffocws ar fai, fe ddaeth hefyd \u00e2\u2019r newyddion da pwysig fod\u00a0 <a href=\"http:\/\/www.asdinfowales.co.uk\/strategy.\">Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig <\/a>\u00a0newydd wedi cael ei lansio ledled Cymru gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.\u00a0 Mae\u2019r gwasanaeth yn ymroddedig i sicrhau y bydd gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, addysg a gofal cymdeithasol yn derbyn adnoddau newydd a hyfforddiant i gynyddu ymwybyddiaeth a lleihau\u2019r syniadau camarweiniol ynghylch ASD.\u00a0 Y nod yw bod gweithwyr proffesiynol yn dod yn fedrus ac yn wyliadwrus i ganfod amrywiaeth o ymddygiadau sydd &#8216;ar y sbectrwm awtistiaeth&#8217; ac yn ymateb gyda chymorth priodol ar gyfer unigolion a&#8217;u teuluoedd. <a href=\"http:\/\/www.asdinfowales.co.uk\">Mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau eisoes ar gael<\/a>.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"http:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S1750946714002347?via%3Dihub\">tystiolaeth ymchwil<\/a> o Ganolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru Prifysgol Caerdydd ar ddangos y ffordd yn achos ASD yn cyfrannu at yr adnoddau hyn.\u00a0 Er enghraifft, mae <a href=\"http:\/\/www.asdinfowales.co.uk\/autismchildsigns\/\">ffilm y gellir ei lawrlwytho am ddim bellach ar gael<\/a>, sy\u2019n darparu hyfforddiant ar arwyddion ASD ar gyfer gweithwyr proffesiynol a theuluoedd.\u00a0 <a href=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/warc\/signs-and-diagnosis\/signs\/learning-project\/\">Mae prosiect hefyd wedi cael ei lansio mewn ysgolion<\/a>.<\/p>\n<p>ASD cyflwr niwroddatblygiadol gydol oes y ceir diagnosis ohono pan fydd anawsterau o ran rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu, sy&#8217;n cyd-ddigwydd ag anhyblygrwydd o ran meddwl ac ymddygiad. Mae sbectrwm o ymddygiad ar draws y dimensiynau gwahanol hyn. Mae\u2019r symptomau\u2019n datblygu yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd ac mae ASD yn rhedeg mewn teuluoedd fel un o&#8217;r mwyaf etifeddadwy o&#8217;r cyflyrau niwroddatblygiadol.\u00a0 Mae&#8217;n effeithio ar unigolion o bob gallu; er bod gan rai unigolion hefyd anableddau deallusol, nid yw hynny\u2019n wir am eraill.\u00a0 Mae ASD hefyd i\u2019w weld yn gyffredin ochr yn ochr \u00e2 chyflyrau eraill niwroddatblygiadol megis namau ADHD, dyspracsia a iaith.<\/p>\n<p>Mae symptomau ASD yn aml i\u2019w gweld ochr yn ochr ag anawsterau cysylltiedig. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys anawsterau emosiynol (e.e. gorbryder, dicter), problemau ymddygiad (e.e. pyliau o dymer) a phroblemau &#8216;gweithredol&#8217; (e.e. anawsterau cysgu, bwyta a mynd i&#8217;r toiled). Yn wir, mae cynifer \u00e2 <a href=\"https:\/\/kclpure.kcl.ac.uk\/portal\/en\/publications\/emotional-and-behavioural-problems-in-young-children-with-autism-spectrum-disorder(6cf95e5e-3e9c-4e6d-b836-2816a2c0247b).html\">thri chwarter o\u2019r holl blant sydd ag ASD hefyd yn dioddef o\u2019r mathau hyn o anawsterau cysylltiedig<\/a>.<sup>\u00a0 <\/sup>Gall dehongli&#8217;r ymddygiadau hyn heb adnabod neu ddeall awtistiaeth plentyn arwain at gamddealltwriaeth a chyngor amhriodol.\u00a0 Mae\u2019n hanfodol, felly, deall eu cysylltiadau cymhleth \u00e2 symptomau awtistiaeth i sicrhau cefnogaeth effeithiol ar gyfer yr anawsterau ychwanegol hyn.\u00a0\u00a0 Er enghraifft, mae <a href=\"https:\/\/www.nice.org.uk\/guidance\/cg170\">Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Glinigol yn pwysleisio\u2019r angen am gefnogaeth ac ymyriadau priodol i ASD er mwyn lleihau ymddygiad heriol<\/a>.<\/p>\n<p>O ran anawsterau emosiynol, mae&#8217;n bwysig cofio nad yw ASD yn salwch meddwl. Fodd bynnag, <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pmc\/articles\/PMC4407021\/pdf\/nihms665167.pdf\">mae gan y rhai sydd ag ASD risg sylweddol uwch o ddatblygu pryder neu iselder clinigol<\/a> ac mae\u2019n hanfodol deall y cysylltiad rhwng materion iechyd meddwl a phroffil symptomau ASD yr unigolyn.\u00a0 Er enghraifft, mae tystiolaeth bod cysylltiad rhwng <a href=\"http:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S1750946713001979?via%3Dihub\">symptomau ymddygiad ailadroddus ASD a phryder <\/a>\u00a0a <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/article\/10.1007\/s10803-017-3105-5\">chanlyniadau ansawdd bywyd<\/a>, sy\u2019n dangos bod angen cefnogaeth benodol iawn ar unigolion i hybu eu llesiant.<\/p>\n<p>Mae gwasanaethau awtistiaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer gwella. Gadewch inni ddefnyddio&#8217;r cyfleoedd hyn i atal teuluoedd rhag bod o dan anfantais yn sg\u00eel camddealltwriaeth a ffocws ar feio.\u00a0 Trwy gefnogi gweithwyr proffesiynol i gynyddu eu dealltwriaeth, byddant mewn lle gwell i helpu unigolion sydd ag ASD a&#8217;u teuluoedd. Mae hyfforddiant, gwybodaeth ac adnoddau, a dull gweithredu sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth i gyd yn ffyrdd o wella\u2019r ddealltwriaeth gyffredinol o ASD, gan sicrhau manteision i bawb y mae ASD yn effeithio arnynt.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Sue Leekam a Catherine R.G. Jones Mae gan gynifer \u00e2 1.1% o boblogaeth y Deyrnas Unedig anhwylder sbectrwm awtistig (ASD), sy\u2019n golygu ei fod yn gyflwr cymharol gyffredin. Ac eto [&hellip;]","protected":false},"author":1390,"featured_media":1254,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30],"tags":[],"class_list":["post-1251","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-kb","jetpack-related-posts":[{"id":1050,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/diwrnod-iechyd-meddwl-prifysgolion-a-safetalk\/","url_meta":{"origin":1251,"position":0},"title":"Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion a SafeTALK","author":"Jo Pinder","date":"2 March 2017","format":false,"excerpt":"Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion, ac mae llawer o them\u00e2u hanfodol yngl\u0177n \u00e2 lles myfyrwyr y dylwn eu trafod ar y diwrnod hwn. Gall myfyrwyr wynebu amrywiaeth enfawr o wahanol ffactorau cymdeithasol, academaidd a diwylliannol sy'n achosi straen yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol. Yn aml, gall hyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/mental-health-2019924_1920.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1268,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/taflu-golwg-ar-epilepsi-yn-syndrom-dileu-22q11-2\/","url_meta":{"origin":1251,"position":1},"title":"Taflu golwg ar epilepsi yn Syndrom Dileu 22q11.2","author":"Christopher Eaton","date":"30 August 2017","format":false,"excerpt":"Dychmygwch fod yn rhiant i blentyn sydd ag anhwylder geneteg brin sy'n effeithio ar y galon, y meddwl a'r ymennydd. Yna, dychmygwch fod yr anhwylder 'prin' hwn yn effeithio ar hyd at bymtheg mil o bobl yn y DU ac Iwerddon, gyda thua 200 o fabanod yn cael eu geni\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1099,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dementia\/","url_meta":{"origin":1251,"position":2},"title":"Dementia","author":"Professor Kim Graham","date":"6 April 2017","format":false,"excerpt":"Mae Kim Graham yn Athro Niwrowyddoniaeth Wybyddol ac yn Ddeon Ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n aelod o Gr\u0175p Llywio Dementias Platform UK ac yn awdur llyfr gan Wasg Prifysgol Rhydychen o'r enw 'The Evolution of Memory Systems'. Mae ei gr\u0175p ymchwil yn\u2026","rel":"","context":"In &quot;Dementia&quot;","block_context":{"text":"Dementia","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/dementia-cy\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Dementia-in-letter-blocks.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Dementia-in-letter-blocks.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Dementia-in-letter-blocks.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Dementia-in-letter-blocks.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Dementia-in-letter-blocks.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Dementia-in-letter-blocks.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1141,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/straen-ym-mlynyddoedd-cynnar-eich-bywyd-yr-effaith-ar-salwch-meddwl\/","url_meta":{"origin":1251,"position":3},"title":"Straen ym mlynyddoedd cynnar eich bywyd &#8211; yr effaith ar salwch meddwl","author":"Anna Moon","date":"25 April 2017","format":false,"excerpt":"Rydych chi o dan fygythiad. Mae eich ymennydd yn ymateb ar unwaith. Fel rhedwr ar ddechrau ras, mae'n deffro fel pe bai'r bygythiad gan saethiad gwn. Yr hypothalamws sy'n dechrau'r gwaith, gan anfon cemegau at y chwarren bit\u1e85idol. Mae'r hormonau o'r chwarren bit\u1e85idol yn llifo i ail chwarren, sef y\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Hippocampus-e1493122411538.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]},{"id":1675,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/o-famau-instagram-i-seicosis-ol-enedigol\/","url_meta":{"origin":1251,"position":4},"title":"O &#8216;famau Instagram&#8217; i Seicosis \u00d4l-enedigol","author":"Marisa Casanova Dias","date":"23 May 2019","format":false,"excerpt":"Mae mamolaeth i fod yn rhywbeth sy'n ymddangos yn \"berffaith\" ar Instagram. Yn llawn gwenu, cwtsio a babis ciwt. Ond mae mwy iddo na hynny, sydd ddim yn amlwg ar yr olwg gyntaf. Rydyn ni gyd yn clywed am oblygiadau corfforol rhoi genedigaeth, ond nid am salwch meddwl ar \u00f4l\u2026","rel":"","context":"In &quot;Adult mental health&quot;","block_context":{"text":"Adult mental health","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/category\/adult-mental-health\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/05\/GettyImages-481394474.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/05\/GettyImages-481394474.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/05\/GettyImages-481394474.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/05\/GettyImages-481394474.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/05\/GettyImages-481394474.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/05\/GettyImages-481394474.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1507,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/gwell-ymwybyddiaeth-o-iechyd-meddwl-plant\/","url_meta":{"origin":1251,"position":5},"title":"Gwell ymwybyddiaeth o iechyd meddwl plant","author":"Dr Frances Rice","date":"10 May 2018","format":false,"excerpt":"Mae llawer o blant a phobl ifanc yn profi teimladau o ofid a thristwch neu yn cael trafferth canolbwyntio ar waith ysgol. Yn achlysurol, gall yr anawsterau hynny ddatblygu i fod yn rhai parhaus ac ymyrryd \u00e2 bywyd gartref, gwaith ysgol a\u2019r gallu i wneud ffrindiau. Deallir yn gynyddol y\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/05\/GettyImages-859413400.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/GettyImages-525485942.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1251","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1390"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1251"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1251\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1252,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1251\/revisions\/1252"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1254"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1251"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1251"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1251"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}