{"id":1120,"date":"2017-04-12T10:01:15","date_gmt":"2017-04-12T10:01:15","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1120"},"modified":"2017-04-12T10:02:22","modified_gmt":"2017-04-12T10:02:22","slug":"y-system-imiwnedd-ar-ymennydd-cyflenwi-neu-ddamwain","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/y-system-imiwnedd-ar-ymennydd-cyflenwi-neu-ddamwain\/","title":{"rendered":"Y system imiwnedd a&#8217;r ymennydd: cyflenwi neu ddamwain?"},"content":{"rendered":"<p>Rhagdybiwyd ers amser hir mai unig bwrpas y system imiwnedd yw amddiffyn y corff rhag heintiau. Fodd bynnag, mae ymchwil bellach yn dangos bod y system imiwnedd yn gwneud llawer mwy na hynny.\u00a0 Yn wir, mae&#8217;n eithriadol o alluog wrth wneud llawer o bethau ar yr un pryd.\u00a0 Mae&#8217;r dyletswyddau hyn, nad ydynt yn ymwneud ag imiwnedd, yn bwysig ar gyfer datblygiad eich ymennydd a&#8217;ch iechyd meddwl yn sgil hynny. Os nad yw&#8217;r rhain yn gweithio&#8217;n iawn, gallant achosi anhwylder meddwl.<\/p>\n<p><strong>Tocio er mwyn cael ymennydd sydd wedi&#8217;i gysylltu yn y ffordd orau bosibl<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.immunology.org\/public-information\/bitesized-immunology\/systems-and-processes\/complement-system\">system cyflenwi<\/a> yn gangen hynafol o imiwnedd, ac mae&#8217;n gwasanaethu fel yr &#8216;amddiffyniad cyntaf&#8217;. Wrth wynebu celloedd sydd wedi&#8217;u heintio \u00e2 firws neu facteria, tra bod catrodau eraill o&#8217;r system imiwnedd yn dewis eu harfau&#8217;n ofalus, mae&#8217;r cyflenwi yn ymosod gan ddefnyddio <a href=\"https:\/\/www.immunology.org\/public-information\/bitesized-immunology\/systems-and-processes\/phagocytosis\">ffagosytau<\/a> \u2013 celloedd sydd yn llythrennol yn traflyncu&#8217;r pathogenau \u2013 gyda chanlyniadau angheuol.<\/p>\n<p>Er mor syfrdanol y gall ymddangos, mae tystiolaeth o fodelau anifeiliaid yn dangos bod y cyflenwi yn defnyddio&#8217;r un mecanwaith yng nghelloedd eich ymennydd yn ystod eich plentyndod a&#8217;r cyfnod cynnar o fod yn oedolyn. Pan fyddwch yn cael eich geni, mae gan bob cell \u2013 neu niwron \u2013 yn eich ymennydd, llawer mwy o gysylltiadau nag sydd angen arno. Er mwyn cyfathrebu&#8217;n fwy effeithiol, mae&#8217;r cysylltiadau hyn yn cael eu lleihau&#8217;n raddol, neu eu &#8216;tocio,&#8217; nes mai dim ond y cysylltiadau cryf ac angenrheidiol sy&#8217;n aros wrth i chi dyfu&#8217;n oedolyn. Yr enw ar y broses hon yw <a href=\"http:\/\/www.dailymail.co.uk\/health\/article-3419627\/Scientists-crack-causes-schizophrenia-Process-tidies-brain-teenage-years-goes-haywire-landmark-study-reveals.html\">tocio synaptig<\/a>.<\/p>\n<p>Rydym yn gwybod bellach bod cyflenwi yn rhan o&#8217;r broses hon. Mae&#8217;n &#8216;tagio&#8217; cysylltiadau na ddefnyddir yn aml, ac yn denu ffagosytau o&#8217;r ymennydd, a elwir yn &#8216;<a href=\"https:\/\/neurophilosophy.files.wordpress.com\/2013\/04\/the-mind-minders.pdf\">microglia<\/a>&#8216; (math o gell sydd yn yr ymennydd ac ym madruddyn y cefn), er mwyn yn llythrennol, bwyta&#8217;r cysylltiadau diangen. Er bod hyn yn ymddangos braidd yn ganibalistaidd, credir bod y broses hon yn arwain at ymennydd sydd wedi&#8217;i gysylltu yn y ffordd orau bosibl.<\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><strong>Y garddwr gorfrwdfrydig <\/strong><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em>Fodd bynnag, rydym i gyd yn pledio&#8217;n euog i&#8217;r hen ddywediad Saesneg &#8216;<em>eyes bigger than our bellies<\/em>&#8216; (yn enwedig mewn bwffe) ac nid yw&#8217;r system cyflenwi yn wahanol i hyn. Mewn rhai achosion, gall fwyta llond eu bol o gysylltiadau niwronau ac mae canlyniadau angheuol i hyn.<\/p>\n<p>Mae gwyddonwyr bellach yn meddwl bod cyflenwi wedi gweithredu&#8217;n debyg i&#8217;r garddwr gorfrwdrydig yn ymennydd y cleifion sydd \u00e2 <a href=\"http:\/\/www.cardiff.ac.uk\/mrc-centre-neuropsychiatric-genetics-genomics\/research\/themes\/psychosis-and-major-affective-disorders\/schizophrenia-research\">sgitsoffrenia<\/a>, sef anhwylder meddwl difrifol lle mae&#8217;r claf yn dioddef o rithdybiau, rhithweledigaethau a nam ar y cof.<\/p>\n<p>Yn wir, mae cleifion a modelau llygod o sgitsoffrenia yn dangos llai o gysylltiadau rhwng eu niwronau, ymysg abnormaleddau eraill. Nid drwy gyd-ddigwyddiad, ond mae <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/science\/2016\/jan\/27\/schizophrenia-breakthrough-as-genetic-study-reveals-link-to-brain-changes\">mwtaniadau yn DNA<\/a> y cyflenwi wedi cael eu canfod mewn cleifion sydd \u00e2 sgitsoffrenia o&#8217;i gymharu \u00e2&#8217;r boblogaeth iach. Credir bod y mwtaniadau hyn yn achosi i gyflenwi ddod yn orfywiog.<\/p>\n<p>Yn ogystal, <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/science\/neurophilosophy\/2015\/oct\/16\/brains-immune-cells-hyperactive-in-schizophrenia\">mae wedi dod i&#8217;r amlwg bod celloedd microglia yn orfywiog yn ymennydd pobl sydd \u00e2 sgitsoffrenia<\/a>. Gyda&#8217;i gilydd, gall y cyfuniad hwn arwain at docio gormodol yn ystod datblygiad yr ymennydd. Mae gwyddonwyr wedi damcaniaethu bod cysylltedd annormal yr ymennydd yn gallu arwain at symptomau gwanychol yr anhwylder yn ystod y cyfnod o fod yn oedolyn.<\/p>\n<p>Credir bod y broses hon o docio synaptig yn lleihau wrth i&#8217;ch <a href=\"https:\/\/www.newscientist.com\/article\/dn20803-brains-synaptic-pruning-continues-into-your-20s\/\">ymennydd aeddfedu yn ystod eich ugeiniau<\/a>. Fodd bynnag, bydd gan gyflenwi ei r\u00f4l bwysig y tu hwnt i&#8217;r cyfnod hwn o&#8217;ch bywyd.<\/p>\n<p>Tra bod y rhan fwyaf o&#8217;ch ymennydd wedi datblygu&#8217;n gyflawn, mae ardal benodol ynddo sy&#8217;n adnewyddu&#8217;n barhaus yn ystod eich bywyd. Dyma&#8217;r <a href=\"http:\/\/www.news-medical.net\/health\/Hippocampus-What-is-the-Hippocampus.aspx\">hipocampws<\/a>, sef ardal bwysig lle mae cronfa o gelloedd yn byw ynddi. Celloedd cyntefig yw&#8217;r rhain sy&#8217;n geni niwronau newydd yn ystod eich cyfnod fel oedolyn. Gelwir y broses hon yn <a href=\"http:\/\/www.news-medical.net\/health\/What-is-Neurogenesis.aspx\">niwrogenesis<\/a>. Mae&#8217;r niwronau newydd hyn yn hanfodol ar gyfer eich gallu i greu atgofion newydd a rheoleiddio eich hwyliau a&#8217;ch emosiynau.<\/p>\n<p><strong>Ymchwil i anhwylderau yn yr ymennydd <\/strong><\/p>\n<p>Yn ystod fy PhD, rwyf wedi darganfod bod cyflenwi yn rheoleiddio nifer o&#8217;r niwronau newydd sy&#8217;n cael eu geni yn yr hipocampws, a&#8217;u bod yn gallu newid eu strwythur, gan effeithio ar eu cysylltedd. Mewn anhwylderau fel sgitsoffrenia, <a href=\"https:\/\/www.epilepsy.org.uk\/info\/what-is-epilepsy\">epilepsi<\/a> ac <a href=\"http:\/\/www.ncmh.info\/conditions-we-study\/depression\/\">iselder<\/a>, sef anhwylderau lle mae llawer o weithgareddau cyflenwi yn digwydd, gall niwrogenesis annormal chwarae r\u00f4l ym mhroblemau creu atgofion cleifion a&#8217;u hwyliau. O ganlyniad, mae&#8217;n darged gwerthfawr ar gyfer ymyriad therapiwtig.<\/p>\n<p>Yng <a href=\"https:\/\/www.bna.org.uk\/mediacentre\/events\/\">Nghynhadledd Cymdeithas Niwrowyddoniaeth Prydain (BNA)<\/a> yn Birmingham, mae fy nghyflwyniad ymchwil ar boster yn dangos sut y gallai cyflenwi benderfynu sut y byddwch yn teimlo pe baech yn gwegian ar ymyl dibyn clogwyn uchel iawn. Mae llygod sydd heb ddigon o dderbynnydd protein cyflenwi pwysig yn ymddwyn yn bryderus iawn wrth iddynt gael eu rhoi mewn sefyllfa ddiniwed ond sydd hefyd yn codi ofn, er bod hyn ar wah\u00e2n i effaith cyflenwi ar niwrogenesis yn \u00f4l pob golwg.<\/p>\n<p>Mae cyflenwi yn cael rhagor o effaith hefyd.\u00a0 Yn ogystal \u00e2 hyn, mae gwyddonwyr bellach yn meddwl y gallai cyflenwi ailddechrau bwyta cysylltiadau niwronal wrth heneiddio, ac y gall tocio gormodol gyfrannu at golli celloedd yn yr ymennydd. Gwelir hyn mewn <a href=\"http:\/\/www.cardiff.ac.uk\/neuroscience-mental-health\/research\/themes\">cyflyrau niwro-ddirywiol<\/a> fel <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/mrc-centre-neuropsychiatric-genetics-genomics\/research\/themes\/neurodegenerative-disorders\/alzheimers-disease-research\">clefyd Alzheimer&#8217;s<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Rheoli tocio synaptig <\/strong><\/p>\n<p>Mae angen enbyd am therapiwteg newydd mewn seiciatreg. Fel <a href=\"http:\/\/www.cardiff.ac.uk\/neuroscience-mental-health\/study\/postgraduate\">ymchwilydd PhD Niwrowyddorau Integreiddiol<\/a> gyda&#8217;r Wellcome Trust, a Chymrawd Ymchwil ar ddechrau fy ngyrfa i Ymddiriedolaeth Waterloo, fy nod yw cael gwell dealltwriaeth o sut y mae&#8217;r system imiwnedd yn rhyngweithio \u00e2 datblygiad yr ymennydd mewn oedolion er mwyn creu&#8217;r afiechydon dinistriol hyn, a sut y gallwn eu hatal.<\/p>\n<p>Mae llawer o&#8217;r cyffuriau sy&#8217;n trin yr afiechydon hyn yn targedu symptomau anhwylderau seiciatrig, heb fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r achosion sylfaenol. Yn wahanol i salwch corfforol, mae hyn yn bennaf oherwydd ein hanwybodaeth o&#8217;r mecanweithiau sy&#8217;n arwain at glefydau iechyd meddwl. Gyda lwc, bydd y maes ymchwil hwn yn gwella ein dealltwriaeth o achosion sgitsoffrenia ac afiechydon cysylltiedig, mewn ymgais i greu therapiwteg newydd a fydd yn gwella&#8217;r ffordd y caiff anhwylderau seiciatrig ddiagnosis, eu trin ac yn y pendraw, eu hatal.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Rhagdybiwyd ers amser hir mai unig bwrpas y system imiwnedd yw amddiffyn y corff rhag heintiau. Fodd bynnag, mae ymchwil bellach yn dangos bod y system imiwnedd yn gwneud llawer [&hellip;]","protected":false},"author":1312,"featured_media":1118,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[30],"tags":[],"class_list":["post-1120","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-i4","jetpack-related-posts":[{"id":1166,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/sgitsoffrenia-o-gelloedd-newydd-yn-yr-ymennydd-ir-system-imiwnedd\/","url_meta":{"origin":1120,"position":0},"title":"Sgitsoffrenia: o gelloedd newydd yn yr ymennydd i&#8217;r system imiwnedd","author":"Niels Haan","date":"8 June 2017","format":false,"excerpt":"Nid ydym yn gwybod rhyw lawer p hyd am un o'r clefydau seiciatrig mwyaf cyffredin \u2013 sgitsoffrenia. Fodd bynnag, mae fy ymchwil i, ac ymchwil llawer o bobl eraill, yn dangos bod niwrogenesis (ffurfiant niwronau eraill) a'r system imiwnedd yn rhan o'r cyflwr heriol hwn. Risg genetig ar gyfer sgitsoffrenia\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/06\/Hippocampal-stem-cells-which-generate-new-neurons-growing-in-a-dish-in-the-lab.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/06\/Hippocampal-stem-cells-which-generate-new-neurons-growing-in-a-dish-in-the-lab.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/06\/Hippocampal-stem-cells-which-generate-new-neurons-growing-in-a-dish-in-the-lab.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/06\/Hippocampal-stem-cells-which-generate-new-neurons-growing-in-a-dish-in-the-lab.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/06\/Hippocampal-stem-cells-which-generate-new-neurons-growing-in-a-dish-in-the-lab.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1325,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymchwil-iechyd-meddwl-maer-dyfodol-yn-galw\/","url_meta":{"origin":1120,"position":1},"title":"Ymchwil Iechyd meddwl &#8211; mae&#8217;r dyfodol yn galw","author":"Professor Jeremy Hall","date":"16 October 2017","format":false,"excerpt":"Afiechyd Meddwl - argyfwng cenedlaethol Mae afiechyd meddwl yn argyfwng cenedlaethol. Bob blwyddyn mae un ym mhob pedwar person yn y DU yn dioddef problem iechyd meddwl, sy'n cael effaith enfawr ar yr unigolyn, eu teulu a chymdeithas. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb salwch o'r gwaith,\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1582,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-dr-adam-cunningham-tim-astudiaeth-echo-mrc-cngg\/","url_meta":{"origin":1120,"position":2},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Dr Adam Cunningham, T\u00eem Astudiaeth ECHO, MRC CNGG","author":"Adam Cunningham","date":"27 September 2018","format":false,"excerpt":"Bu'r ymennydd a'r meddwl o ddiddordeb i mi erioed, yn ogystal \u00e2'r modd yr ydym yn gweld ac yn deall y byd o'n cwmpas. Gallwn fod wedi dilyn llwybr ymchwil mwy sylfaenol am y modd y mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth, neu sut mae niwronau'n gweithio, ond roedd gweithio ar\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":321,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mental-health-united-we-stand-divided-we-fall-cymraeg\/","url_meta":{"origin":1120,"position":3},"title":"Iechyd meddwl:  Mewn undeb y mae nerth","author":"Professor Michael Owen","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Dyw iechyd meddwl byth ymhell o\u2019r penawdau y dyddiau hyn, a dyna sut dylai fod. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae salwch meddwl yn effeithio ar bobl ar draws yr ystod oedran, o blant i'r henoed, ac mae\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1268,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/taflu-golwg-ar-epilepsi-yn-syndrom-dileu-22q11-2\/","url_meta":{"origin":1120,"position":4},"title":"Taflu golwg ar epilepsi yn Syndrom Dileu 22q11.2","author":"Christopher Eaton","date":"30 August 2017","format":false,"excerpt":"Dychmygwch fod yn rhiant i blentyn sydd ag anhwylder geneteg brin sy'n effeithio ar y galon, y meddwl a'r ymennydd. Yna, dychmygwch fod yr anhwylder 'prin' hwn yn effeithio ar hyd at bymtheg mil o bobl yn y DU ac Iwerddon, gyda thua 200 o fabanod yn cael eu geni\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/08\/dna-1903319_1920.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":914,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/air-stumog-yw-man-cychwyn-clefyd-parkinson\/","url_meta":{"origin":1120,"position":5},"title":"Ai&#8217;r stumog yw man cychwyn clefyd Parkinson?","author":"Dr Emma Yhnell","date":"16 December 2016","format":false,"excerpt":"Mae clefyd Parkinson yn gyflwr sy'n gwaethygu ac yn effeithio ar yr ymennydd. Mae'n effeithio ar 1 o bob 500 o bobl yn y DU. Mewn achos o'r clefyd hwn, mae rhai celloedd yn yr ymennydd yn marw ac mae hyn yn creu llai o gemegyn o'r enw dopamin. Mae'r\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/12\/Chalk-illustration-of-abdomen.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/12\/Chalk-illustration-of-abdomen.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/12\/Chalk-illustration-of-abdomen.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/12\/Chalk-illustration-of-abdomen.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/12\/Chalk-illustration-of-abdomen.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/12\/Chalk-illustration-of-abdomen.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/04\/Type-1-and-2a-cells.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1120","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1312"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1120"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1120\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1121,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1120\/revisions\/1121"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1118"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1120"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1120"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1120"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}