{"id":1080,"date":"2017-03-28T13:52:20","date_gmt":"2017-03-28T13:52:20","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/?p=1080"},"modified":"2017-03-28T13:55:02","modified_gmt":"2017-03-28T13:55:02","slug":"canfyddiadau-o-salwch-meddwl-a-yw-esboniadau-biolegol-yn-lleihau-stigma","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/canfyddiadau-o-salwch-meddwl-a-yw-esboniadau-biolegol-yn-lleihau-stigma\/","title":{"rendered":"Canfyddiadau o salwch meddwl: A yw esboniadau biolegol yn lleihau stigma?"},"content":{"rendered":"<p><em>Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf ar <a href=\"http:\/\/braindomain.org\">braindomain.org<\/a><\/em><\/p>\n<p>Dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy o ymchwil am iechyd meddwl wedi\u2019i chynnal. Y nod yw dod o hyd i esboniadau biolegol am salwch meddwl, er mwyn deall yr anhwylderau yn well ac atal y stigma cysylltiedig. Gyda lwc, os gallwn ddangos mai bioleg ddiffygiol sy\u2019n gyfrifol am y cyflyrau hyn, bydd rhagor o ddealltwriaeth a chydymdeimlad, ac y bydd hyn yn lleihau&#8217;r stigma cysylltiedig. Yn rhesymegol, pam y byddech yn beio rhywun am rywbeth na allant ei reoli?<\/p>\n<p>Ar yr olwg gyntaf, mae&#8217;r dull hwn o fynd ati, yn edrych yn addawol. Yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pmc\/articles\/PMC3049418\/\">dadansoddiadau-meta<\/a> o astudiaethau am gredoau ac agweddau&#8217;r cyhoedd dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o esboniadau biolegol yn arwain at fwy o bobl yn derbyn y rhai sy&#8217;n cael <a href=\"http:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/10.1111\/j.1600-0447.2012.01826.x\/abstract\">triniaeth broffesiynol<\/a>.<sup>\u00a0<\/sup>Pan mae clefydau iechyd meddwl yn cael eu hystyried yn &#8216;salwch yr ymennydd&#8217;, o ganlyniad i ddiffygion geneteg neu fioleg, mae pobl yn tueddu i roi <a href=\"http:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0277953613004164\">llai o fai ar y dioddefwr<\/a>.<\/p>\n<p>Yn anffodus, mae&#8217;r canfyddiadau cadarnhaol hyn i&#8217;w gweld yn y lleiafrif. Yn annisgwyl, nid yw esboniadau biolegol yn lleihau&#8217;r stigma yn ol pob tebyg, a gallen nhw hyd yn oed eu cynyddu. Roedd stigma o hyd, er bod y cyhoedd yn fwy parod i dderbyn bod angen mwy o driniaeth broffesiynol yn ol pob tebyg. Roedd tueddiad parhaus gan gymdeithas i wrthod dioddefwyr, ac roedd yr agweddau tuag atynt yn parhau&#8217;n negyddol, gan gynnwys eu stereoteipio fel pobl <a href=\"http:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/10.1111\/j.1600-0447.2012.01826.x\/abstract\">beryglus.<\/a><sup>\u00a0<\/sup>\u00a0Er hyn, ni ellir cymhwyso&#8217;r casgliadau i bob gwlad gan mai mewn diwylliannau gorllewinol y cynhaliwyd yr astudiaeth ac mae normau gwahanol pob gwlad yn gallu amrywio. <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/global-development-professionals-network\/2015\/jun\/03\/guyana-mental-illness-witchcraft-and-the-highest-suicide-rate-in-the-world\">Er enghraifft<\/a> mewn rhai llwythau Affricanaidd, caiff symptomau salwch meddwl eu camddehongli fel math o ddewiniaeth. Ar ben hynny, roedd yr astudiaethau yn y dadansoddiad yn ystyried effeithiau tymor hir ar lefel genedlaethol yn hytrach nag effeithiau tymor byr ymgyrchoedd gwrth-stigma.<\/p>\n<p>Yn 2014, cynhaliwyd astudiaeth am ddamcaniaeth effeithiau anghydbwysedd cemegol ar hunan-stigma&#8217;r dioddefwr. Mae&#8217;r ddamcaniaeth hon yn un gref ond dadleuol, sy&#8217;n nodi bod pobl yn dioddef o iselder o ganlyniad i anghydbwysedd niwrodrosglwyddyddion. Cafodd y bobl sy&#8217;n dioddef o iselder ar hyn o bryd neu sydd wedi dioddef pyliau o iselder yn y gorffennol eu diagnosis drwy ddefnyddio prawf ffug. Dywedwyd wrth rai bod eu salwch o ganlyniad i anghydbwysedd cemegol. Nid oedd y rhai a gafodd yr esboniad biolegol hwn yn rhoi llai o fai ar eu hunain (hunan-stigma). Roeddent hefyd yn teimlo&#8217;n fwy pesimistaidd ac roedd ganddynt lai o <a href=\"http:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0005796714000308\">hunan-hyder<\/a>. Mae&#8217;r astudiaeth hon yn enghraifft annisgwyl lle gwelwyd bod rhoi esboniad biolegol yn gallu cynyddu stigma, er bod y stigma hwnnw yn deillio o&#8217;r dioddefwr eu hunain ac nid o eraill. O&#8217;r astudiaeth hefyd, gwelwyd bod y bobl a gafodd wybod bod ganddynt anghydbwysedd cemegol, yn ystyried ymyrraeth fferyllol yn fwy addas na therapi.<\/p>\n<p>Mae esboniadau biolegol o salwch meddwl yn gwaethygu\u2019r feddylfryd o &#8216;ni yn erbyn nhw&#8217;. Mae hyn yn cynyddu&#8217;r gwahaniaethu rhwng pobl &#8216;normal&#8217; a dioddefwyr <a href=\"http:\/\/www.pnas.org\/content\/111\/50\/17786.full\">&#8216;annormal.&#8217;<\/a>. Yn ychwanegol, mae&#8217;n cynyddu sut mae pobl yn osgoi dioddefwyr, sy&#8217;n cael eu gweld fel pobl beryglus ac wedi colli rheolaeth. Gallai achos geneteg wneud i ddioddefwyr deimlo nad ydynt yn bobl go iawn, gan awgrymu eu bod yn ddiffygiol ac yn wahanol i eraill. Gallai hefyd arwain at <a href=\"http:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0166223602022099\">deulu cyfan<\/a> yn goddef stigma gan fod aelodau o&#8217;r teulu hefyd yn gallu cael eu labelu fel rhai sydd dan risg neu&#8217;n cario&#8217;r salwch. Mae&#8217;n bosibl na fydd darpar bartneriaid eisiau pasio&#8217;r tuedd geneteg ymlaen at eu plant.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l <a href=\"http:\/\/www.cfhi-fcass.ca\/SearchResultsNews\/12-06-04\/a078ceca-4a41-4d14-82b5-b60f5a8bb991.aspx\">arolwg a wnaed yng Nghanada yn 2008<\/a>, ni fyddai 55% o bobl yn priodi rhywun sy&#8217;n dioddef salwch meddwl. Mae hyd yn oed y bobl sy&#8217;n ceisio helpu dioddefwyr, y clinigwyr, yn dangos diffyg empathi at y rhai sy&#8217;n dioddef o glefyd iechyd meddwl pan mae anhwylder y claf yn cael ei ddisgrifio yn nhermau <a href=\"http:\/\/www.pnas.org\/content\/111\/50\/17786.full\">biolegol<\/a>.<\/p>\n<p>Yn gyffredinol, roedd dealltwriaeth well o achosion biolegol clefydau iechyd meddwl wedi arwain at lai o bobl yn rhoi&#8217;r bai ar y dioddefwr am eu cyflwr nhw. Er hyn, roedd agweddau tuag at ddioddefwyr yn parhau&#8217;n negyddol. Yn ychwanegol, roedd y dioddefwyr eu hunain yn fwy pesimistaidd am eu cyfnod o wella. Roedd yn peri iddynt feddwl nad oedd dim y gallen nhw ei wneud i newid eu sefyllfa, sy&#8217;n agwedd dda i ddim ac yn anghywir. Er bod hyn yn anarferol, mae rhai mwtaniadau yn golygu y byddwch yn datblygu clefyd, fel clefyd Hutington. Nid yw mwtaniadau eraill yn arwain at glefyd, ond maen nhw&#8217;n cynyddu&#8217;r risg yn sylweddol: mae&#8217;r rhai sy&#8217;n etifeddu dau gopi o&#8217;r APOe4 allele, deg gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd Alzheimer, tra bod y rhai sy&#8217;n etifeddu un copi, deirgwaith yn fwy tebygol.<\/p>\n<p>Nid yw genynnau yn gweithio ar wah\u00e2n i&#8217;w gilydd. Nid oes y fath beth \u00e2 \u2018gennyn sgitsoffrenia\u2019. Yn hytrach, y berthynas rhwng gwahanol risgiau biolegol ac amgylcheddol a fydd o bosibl yn arwain at ddatblygu\u2019r clefyd. Mae&#8217;r berthynas rhwng gwahanol enynnau, a&#8217;r amgylchedd o&#8217;ch cwmpas, yn dylanwadu ar sut rydych yn ymateb i ddigwyddiadau mewn bywyd.<\/p>\n<p>Ceir damcaniaeth blaenllaw ym maes ymchwil iselder sy&#8217;n canolbwyntio ar gyfranogiad serotonin, neu\u2019r hyn a elwir y &#8216;cemegyn hapus&#8217;. Cemegyn yw seretonin y tybir ei fod ar lefelau annormal yn aml yn \u00f4l y theori am anghydbwysedd cemegol a drafodwyd eisoes. Mae&#8217;r genyn SERT yn rheoli faint o serotonin sy&#8217;n cael ei greu yn eich ymennydd. Er hyn, mae r\u00f4l fwy cymhleth iddo na diffyg cynhyrchiant yn unig. <a href=\"http:\/\/www.sciencedaily.com\/releases\/2015\/09\/150922104002.htm?utm_source=dlvr.it&amp;utm_medium=facebook\">Yn \u00f4l astudiaeth o 2015<\/a>, gwelwyd bod amrywiad yn y genyn SERT yn cymedroli datblygiad iselder mewn pobl a gafodd eu cam-drin yn ystod eu <a href=\"http:\/\/bjpo.rcpsych.org\/content\/1\/1\/104\">plentyndod<\/a>. Dim ond y rhai a oedd \u00e2 math penodol o SERT <strong>ac <\/strong>a oedd wedi cael eu cam-drin a gafodd iselder tra bod y rhai a oedd \u00e2&#8217;r un math o SERT ond na gafodd eu cam-drin, i&#8217;w gweld fel y bobl hapusaf a gymerodd rhan.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhyngweithio hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod cyfuniad o ffactorau yn dod ynghyd i achosi clefydau seiciatrig. Felly, y driniaeth orau ar gyfer y bobl hyn yw cyfuno meddyginiaeth a therapi. \u00a0Mae meddyginiaeth yn lleddfu symptomau ac yn rhoi&#8217;r cyfle i gleifion elwa o seicotherapi, sy&#8217;n hwyluso dulliau iachach o ymdopi \u00e2&#8217;r clefydau. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn opsiwn hyfyw i bobl, oherwydd costau&#8217;r gwasanaethau ac anawsterau o ran cael mynediad atynt. Mae cleifion sy&#8217;n cael esboniad biolegol o&#8217;u salwch yn fwy tebygol o weld meddyginiaeth fel y driniaeth orau, ac mae&#8217;n bosibl na fyddant yn ceisio cael help therapiwtig. Mae hyn er gwaethaf y ffaith mai effeithiau cyfyngedig y gall triniaeth ffarmacolegol gael ar eu cyflwr. Nid oes yr un cyffur seiciatrig yn gweithio ar gyfer pawb sy&#8217;n dioddef. Gall hyn fod oherwydd amrywiadau unigol diagnosis y clefyd a&#8217;r symptomau, ac felly ymateb y bobl i driniaeth. Ystyrir bod tua 40% o&#8217;r cyflwr iselder yn gallu gwrthsefyll cyffuriau ac nid yw symptomau negyddol sgitsoffrenia (e.e. cilio o gymdeithas, difaterwch) yn gallu cael eu trin \u00e2 chyffuriau ar hyn o bryd. Yn wir, nid yw dilyn cwrs o feddyginiaeth yn iach\u00e1u yn llwyr. Yn hytrach, mae triniaeth symptomaidd wrth i gleifion fynd yn \u00f4l yn s\u00e2l unwaith eto os ydynt yn peidio \u00e2 chymryd y feddyginiaeth rhagor a&#8217;r sgil-effeithiau yn wanychol weithiau.<\/p>\n<p>Ystyriaeth arall, sydd yn aml yn cael ei hanwybyddu gan wyddonwyr a chlinigwyr, yw\u2019r ffaith nad yw pawb sy&#8217;n dioddef o glefyd yn ystyried eu hun yn s\u00e2l, ac efallai nad ydynt eisiau gwella. Bydd y credoau hyn yn amrywio o berson i berson felly mae&#8217;n bwysig ystyried credoau unigol person am eu clefyd nhw eu hunain. Mae eu diffinio oherwydd eu clefyd yn debyg i ddiffinio person anabl oherwydd eu hanabledd. Hynny yw, eu diffinio yn \u00f4l y pethau na allant eu gwneud. Wrth drafod salwch iechyd meddwl, mae&#8217;n rhaid i glinigwyr ac ymchwilwyr osgoi meddwl yn nhermau patholegol yn unig, ac yn hytrach meddwl am yr unigolyn yn llawn. Os na wnawn hyn, rydym mewn perygl o waethygu&#8217;r sefyllfa, a chreu stigma anymwybodol o &#8216;ni yn erbyn nhw&#8217; rhwng y bobl sy&#8217;n astudio&#8217;r cyflwr \u00e2&#8217;r rhai sy&#8217;n dioddef. Mae <a href=\"http:\/\/www.touretteshero.com\/\">Touretteshero<\/a> yn enghraifft o rywun sydd wedi manteisio ar gyfle i newid ffordd pobl o feddwl am y cyflwr. Mae hi&#8217;n llawn gwybodaeth, yn ddoniol tu hwnt a dylai pawb fynd ar ei gwefan hi.<\/p>\n<p>Yn amlwg, nid yw pwysleisio&#8217;r achosion biolegol yn fwy nag achosion eraill yn ffordd o leihau stigma. Mae canolbwyntio ar yr achosion biolegol yn unig ac anwybyddu&#8217;r ffaith bod yr amgylchedd hefyd yn hanfodol ym maes iechyd meddwl yn gallu cynyddu stigma mewn gwirionedd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs bod bioleg yn berthnasol! Ni fyddai&#8217;r amodau hyn yn cael eu hetifeddu os byddai hynny&#8217;n wir. Er hyn, mae&#8217;r amgylchedd yr ydych chi&#8217;n byw ynddo a lle rydyn yn gweithio hefyd yn ddylanwadol iawn.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1081\" aria-describedby=\"caption-attachment-1081\" style=\"width: 532px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" data-attachment-id=\"1081\" data-permalink=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/canfyddiadau-o-salwch-meddwl-a-yw-esboniadau-biolegol-yn-lleihau-stigma\/graph\/\" data-orig-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/graph-1.jpg\" data-orig-size=\"532,410\" data-comments-opened=\"1\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"graph\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"&lt;p&gt;Graff clasurol yn dangos % y risg o ddatblygu sgitsoffrenia a gyhoeddwyd yn gyntaf yn Gottesman, 1991&lt;\/p&gt;\n\" data-large-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/graph-1.jpg\" class=\"size-full wp-image-1081\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/graph-1.jpg\" alt=\"Graff clasurol yn dangos % y risg o ddatblygu sgitsoffrenia a gyhoeddwyd yn gyntaf yn Gottesman, 1991\" width=\"532\" height=\"410\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/graph-1.jpg 532w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/graph-1-300x231.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 532px) 100vw, 532px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1081\" class=\"wp-caption-text\">Graff clasurol yn dangos % y risg o ddatblygu sgitsoffrenia a gyhoeddwyd yn gyntaf yn Gottesman, 1991.<\/figcaption><\/figure>\n<p>Mae&#8217;n sgitsoffrenia yn enghraifft dda cyn i ni orffen. Yn aml, ystyrir sgitsoffrenia fel clefyd iechyd meddwl sy&#8217;n seiliedig ar eneteg yn bennaf. Mae&#8217;r darlun clasurol uchod yn dangos y tebygolrwydd cynyddol o ddatblygu sgitsoffrenia, fel y gwelir o&#8217;n risg gynyddol \u00e2 thebygolrwydd geneteg. Os oes gan eich gefell unwy sgitsoffrenia, bydd hynny&#8217;n cynyddu eich risg o&#8217;i ddatblygu 50%. \u00a0Fodd bynnag, mae&#8217;n amlwg nad yw&#8217;r risg hon yn 100%. Bydd ffactorau amgylcheddol hefyd yn effeithio&#8217;n fawr ar eich risg, fel cael haint feirysol yn ystod ail ran eich beichiogrwydd neu gael eich cam-drin yn ystod eich plentyndod. Er mwyn deall clefydau seiciatrig yn well, mae&#8217;n rhaid i ni ystyried y berthynas rhwng yr amgylchedd a&#8217;n bioleg. Drwy gael gwell dealltwriaeth o bob agwedd sy&#8217;n cael effaith ac yn achosi&#8217;r clefydau hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar bethau penodol sy&#8217;n eu hachosi, y bydd gennym sail gadarn i fynd i&#8217;r afael \u00e2 stigma iechyd meddwl.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf ar braindomain.org Dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy o ymchwil am iechyd meddwl wedi\u2019i chynnal. Y nod yw dod o hyd i esboniadau biolegol [&hellip;]","protected":false},"author":1223,"featured_media":1084,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[33,30],"tags":[],"class_list":["post-1080","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-ac-iechyd-meddwl","category-iechyd-meddwl-oedolion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p7swiU-hq","jetpack-related-posts":[{"id":321,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/mental-health-united-we-stand-divided-we-fall-cymraeg\/","url_meta":{"origin":1080,"position":0},"title":"Iechyd meddwl:  Mewn undeb y mae nerth","author":"Professor Michael Owen","date":"6 June 2016","format":false,"excerpt":"Dyw iechyd meddwl byth ymhell o\u2019r penawdau y dyddiau hyn, a dyna sut dylai fod. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae salwch meddwl yn effeithio ar bobl ar draws yr ystod oedran, o blant i'r henoed, ac mae\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2016\/05\/iStock_000031019390_Medium.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1033,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/canfyddiadau-o-salwch-meddwl-y-cyfryngau-ac-iechyd-meddwl\/","url_meta":{"origin":1080,"position":1},"title":"Canfyddiadau o salwch meddwl: Y cyfryngau ac iechyd meddwl","author":"Rachel Pass","date":"21 February 2017","format":false,"excerpt":"Ymddangosodd hwn gyntaf ar thebraindomain.org Fyddech chi ddim yn beio rhywun sydd \u00e2 chanser y fron neu ffibrosis systig am eu clefyd, fyddech chi? Fe wyddom eu bod yn cael eu hachosi gan namau ar y mecanwaith biolegol. Gall dewisiadau bywyd gynyddu'r risg ond mae llai o stigma'n gysylltiedig \u00e2\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd ac Iechyd Meddwl&quot;","block_context":{"text":"Iechyd ac Iechyd Meddwl","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-ac-iechyd-meddwl\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/02\/iStock-492964174.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1325,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/ymchwil-iechyd-meddwl-maer-dyfodol-yn-galw\/","url_meta":{"origin":1080,"position":2},"title":"Ymchwil Iechyd meddwl &#8211; mae&#8217;r dyfodol yn galw","author":"Professor Jeremy Hall","date":"16 October 2017","format":false,"excerpt":"Afiechyd Meddwl - argyfwng cenedlaethol Mae afiechyd meddwl yn argyfwng cenedlaethol. Bob blwyddyn mae un ym mhob pedwar person yn y DU yn dioddef problem iechyd meddwl, sy'n cael effaith enfawr ar yr unigolyn, eu teulu a chymdeithas. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb salwch o'r gwaith,\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/10\/mental-1831391_1280.png?resize=1050%2C600&ssl=1 3x"},"classes":[]},{"id":1582,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-dr-adam-cunningham-tim-astudiaeth-echo-mrc-cngg\/","url_meta":{"origin":1080,"position":3},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Dr Adam Cunningham, T\u00eem Astudiaeth ECHO, MRC CNGG","author":"Adam Cunningham","date":"27 September 2018","format":false,"excerpt":"Bu'r ymennydd a'r meddwl o ddiddordeb i mi erioed, yn ogystal \u00e2'r modd yr ydym yn gweld ac yn deall y byd o'n cwmpas. Gallwn fod wedi dilyn llwybr ymchwil mwy sylfaenol am y modd y mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth, neu sut mae niwronau'n gweithio, ond roedd gweithio ar\u2026","rel":"","context":"In &quot;Diagnosis, triniaethau a lles&quot;","block_context":{"text":"Diagnosis, triniaethau a lles","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/diagnosis-triniaethau-a-lles\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2018\/09\/Adam-Cunningham.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1761,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/darlith-a-gwobr-cyflawniad-oes-skellern\/","url_meta":{"origin":1080,"position":4},"title":"Darlith a Gwobr Cyflawniad Oes Skellern","author":"Ben Hannigan","date":"16 August 2023","format":"gallery","excerpt":"Gwnaeth Eileen Skellern gyfraniad o bwys at ddatblygiad nyrsio iechyd meddwl modern a rhyngbersonol, ac yn sgil ei marwolaeth yn 1980 sefydlwyd cyfres o ddarlithoedd er cof iddi. Ers 2006 mae Darlith Skellern wedi cael ei thraddodi yn flynyddol, ar y cyd \u00e2 Gwobr Cyflawniad Oes. Bellach, y digwyddiad deublyg\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2023\/07\/Photo-3-Dr-Anne-Aiyegbusi-and-Prof-Daniel-Kellyskellern-award-2023-scaled-e1692175602417.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":1688,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-syr-michael-owen\/","url_meta":{"origin":1080,"position":5},"title":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd &#8211; Yr Athro Syr Michael Owen","author":"Professor Michael Owen","date":"5 July 2019","format":false,"excerpt":"Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl? Digwyddodd dri pheth i mi pan oeddwn yn fyfyriwr Meddygaeth a ddylanwadodd ar fy newis gyrfa.\u00a0 Yn gyntaf, sylwais yn ystod fy nghwrs BSc Ymsang fy mod i'n hoffi gwneud gwaith ymchwil; roeddwn yn mwynhau gwneud arbrofion a\u2026","rel":"","context":"In &quot;Iechyd meddwl oedolion&quot;","block_context":{"text":"Iechyd meddwl oedolion","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/cy\/category\/iechyd-meddwl-oedolion\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2019\/07\/Prof-Mike-Owen-7-1024x683.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-content\/uploads\/sites\/502\/2017\/03\/iStock-517157438-e1490709066876.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1080","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1223"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1080"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1080\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1086,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1080\/revisions\/1086"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1084"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1080"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1080"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/mental-health\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1080"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}