Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Stori’r Gynhadledd am Adrodd Straeon – Jodie Gornall

19 Medi 2019


Y Gynhadledd Ryngwladol am Adrodd Straeon er Iechyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Un waith, fe fu cynhadledd, un wahanol i unrhyw gynhadledd arall oedd wedi bod ynghynt. Cafodd y siwtiau busnes a’r teiau eu trawsnewid yn batrymau blodeuog a gwisgoedd hamddenol a llachar. Fin nos, cerddais i mewn i glywed straeon symbolig o dywysogesau, milwyr ac angenfilod cythreulig. Gyda chyfeiliant ffidl a sielo, mae’r perfformiad hwn yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa sydd â dychymyg athletig.

Dyma Norwyes yn cael ei chyflwyno. Mae gwisg shiffon felen lachar yn ymddangos, gyda siôl binc sy’n gweddu i’r dim o gwbl. Mae hi’n cyfuno perfformiad ffisegol â chwedloniaeth Lychlynnaidd, ac mae’r hanes torcalonnus o’i mab, adroddwr arall a ddatblygodd ganser y geg, wedi’i blethu i mewn i’r perfformiad.

Celfyddydau er Iechyd gynhaliodd yr ail Gynhadledd Adrodd Straeon hon. Mae’r gynhadledd yn dechrau â sesiwn gyflwyno foreol, gydag egwyl baned a sawl sesiwn gyfochrog wedyn, ar draws gwahanol safleoedd gerllaw, a phob un o’r rhain â’i thema ei hun. Anogir y rhai sy’n dod i fynd lle byddant yn cael yr ysbrydoliaeth fwyaf, a lle byddant eisiau rhannu eu stori. Mae naws o greadigrwydd am y digwyddiad, sy’n croesawu beirniadaeth a chymeradwyaeth. Cael eich gofyn i rannu eich stori a mynd ymhellach i mewn iddi yw’r ganmoliaeth uchaf, sy’n chwalu’r rhwystrau Prydeinig ynghylch gofod personol.

Efallai eich bod yn dychmygu ystafell lawn hipis o’r radd flaenaf, Athrawon Trelawney a beirdd mewn hen ddillad ail law a bwffê figanaidd amser cinio. Fe fu bwffê figanaidd – roedd yn hyfryd.

Go brin y cydnabyddir PowerPoints yn straeon, gan fod straeon yn deillio o’r meddwl a’r tafod. Mae myrdd o feddyliau, geiriau a seiniau. Mae’r straeon yn cerflunio meddyliau’r gweithwyr gofal iechyd, y defnyddwyr gwasanaethau, y cyn-gleifion, y perthnasau a’r gweithwyr diwydiannol sy’n bresennol. Dyma fyd ar wahân i’r cyfrifiaduron a’r nodiadau achos yr ydym yn gyfarwydd â nhw. Mae’r perfformiadau’n mynd rhagddo wrth eu pwysau, ac ymhyfrydu yw’r bwriad. Mae’r dosbarth cymdeithasol yn ymddangos yn gyson, gydag ambell i siaradwr o gymuned ddigynrychiolaeth yn britho’r grŵp. Gobeithiaf beidio â chlywed gormod o straeon gan grŵp sydd eisoes â llais cryf. Rwy’n dysgu am straeon digidol, profiadau cleifion ac yn clywed adroddiadau pwerus, sy’n ennyn dymuniad y tu hwnt i feithrin gwaith tîm a sgiliau arweinyddiaeth.

Drwy gydol amser y gynhadledd, disgrifir adrodd straeon yn allu cynhenid. Yn sgîl yr hanesion a’r straeon am ysbrydion, naws gynnes, gyfeillgar y digwyddiad sy’n fy nharo fwyaf. Ydych chi erioed wedi adrodd stori i grŵp o ffrindiau a chael ymateb gwerthfawrogol? Dyma gynhadledd sy’n mynd â hynny i’r eithaf.

Bydd rhai’n meddwl, efallai, beth yw’r pwynt? Beth am fynd i’r dafarn i drafod hynt a helynt yr wythnos? Ond mewn gofal iechyd, gall adrodd hanesion cyn-gleifion er mwyn cysuro rhywun sydd newydd gael diagnosis, fod y gwahaniaeth rhwng anesmwythder a thangnefedd. Dyma ddylanwad profiadau bywyd go iawn, heb gyfeirio at ystadegaeth. Mae diwylliant y gynhadledd yn galluogi rhywun, a’r cleifion yn enwedig, i gymryd awenau’r naratif. Mae adrodd straeon yn cael ei gydnabod fel mecanwaith lesol.

Mae fy sesiwn gyntaf yn trafod “Ysgrifennu er Lles”. Mae siaradwyr yn trafod sut mae ysgrifennu’n gallu meithrin ymwybyddiaeth ofalgar a sut maent yn teimlo’n ynysedig hebddo; ysgrifennu, gorffwys ac adnewyddu yw eu harwyddair. Rwy’n gallu cydymdeimlo â hynny, gan fy mod yn gyfarwydd â rhyddhad dymunol teipio’n fyrbwyll pan fo ysfa i ysgrifennu arnaf. Nid oes fawr o ofn gwarth neu gywilydd ar neb, gyda’r holl siaradwyr yn disgrifio dro ar ôl tro mai man diogel yw’r gynhadledd. Roedd y cadeiryddion yn trafod y dewrder sydd ei angen i ysgrifennu, gan ein bod yn hawlio ein bod yn ddilys drwy adrodd y stori. Mae ‘na barodrwydd i dderbyn hunangyfrifoldeb.

Gwnaeth un siaradwr grynhoi adrodd straeon mewn ffordd graff. Dull cydraddoli yw e, yn ei golwg hi. P’un a oes cysylltiad uniongyrchol, cydymdeimlad neu ddiddordeb pur, mae pawb wrth eu boddau’n gwrando ar stori.

Anne-Marie et al. yn cyflwyno BORDERLINE

Mae tair menyw’n sefyll mewn llinell. Mae’r un gyntaf yn camu ymlaen ac yn dweud wrthym ni, “I Kirsty mae’r perfformiad hwn.”

Dyma Anne-Marie, sy’n nyrs iechyd meddwl ers oddeutu 30 mlynedd, ac yn ddarlithydd bellach, yn eich pledu’n emosiynol â’i pherfformiad, gan adrodd am ei phlentyndod hyd heddiw.

Dyrnod yn y stumog y mae hi’n dechrau ag e, gan amlygu trallodion y GIG yn yr argyfwng Brexit sydd ohoni, ac yn erfyn arnoch, nid yn annhebyg i gardotyn. A’r diwydiant ar gynnydd, mae Anne-Marie yn rhag-weld y gorbryder torfol fydd yn gorchuddio’r byd pan fydd y galw am staff iechyd meddwl yn goresgyn y cyflenwad. Mae fflachiau sydyn o wenu a chwerthin o’i phlentyndod yn eich hudo, wrthi i hithau sugno ar y lolipop y mae hi’n cynnig i chi, cyn ei gipio’n ôl, gan ddweud nad ydym wedi gwneud digon i haeddu’r melyster hwn eto. Drwy ddadlennu ei chysylltiadau teuluol a’r dylanwadau sydd arni, mae hi’n agor ei hun a’i hangerdd, gan ddarlunio’r datblygiadau ym maes iechyd meddwl ar hyd cenedlaethau. Mae ei hymroddiad i’w gwaith yn amlwg.

Mae hi’n cwestiynu’r diogelwch a’r gefnogaeth sydd i’r gweithwyr gofal iechyd eu hunain, a’r chwythu plwc sydd mor gyfarwydd ar y newyddion. Nyrsys yw’r rhai sy’n eich esmwytho, heb gamu o’r adwy ac yn meithrin ymddiriedaeth. O dan eiriau Anne-Marie, mae ymdeimlad o anobaith a rhwystredigaeth. Mae hi’n rhywun sydd wedi’i distewi gan enw da ei swydd, ac yn ymddangos fel ei bod wedi’i chythruddo. Tyst anarferol yw hi, ac mae ei barn yn adfywiol gwrando arni.

Nicky: menyw anhygoel heb ddim ond bwriadau gwych, ac yn amlwg yn hen gyfarwydd â’r llwyfan. Mae hi’n adrodd stori Kirsty, defnyddiwr gwasanaeth.

Mae anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) yn ddryswch anochel. Gan ddifa a rheoli, mae’n effeithio fwy ar fenywod na dynion, ac i gael diagnosis, rhaid i chi dicio pum blwch allan o naw. Ond beth yw hwn?

Mae diagnosau o BPD yn dod yn fwyfwy cyffredin, ac mae’n glir o stori Kirsty bod yr anhwylder yn cael ei warthnodi ar gyfradd yr un mor gyflym. Mae ei straeon yn dangos y graddau y mae BPD wedi dod yn label. Mae meddygon wedi gwrthod ei thrin, ac mae’r un feddyginiaeth y mae hithau wedi gorddosio arni wedi’i rhagnodi iddi eto. Yn ddealladwy, mae Kirsty ar fin colli ymddiriedaeth yn y system. Mae hi eisiau i’w realiti fod yn hysbys, a chael ei thrin fel claf unigol. Mae hi eisiau i ystyriaethau ynghylch iechyd meddwl fod yr un mor gyffredin a mesur pwysedd gwaed a chyfradd y galon, ac ni alla i weld pam lai. Nicky, naill ai oherwydd ei gallu i actio neu ei phrofiad personol o broblemau iechyd meddwl, yn cyflwyno’r diymadferthedd y mae llawer o ddefnyddwyr gwasanaeth yn ei brofi, a’u hawydd i gael eu deall, heb eu barnu.

Sylwia: nyrs newydd gymwysedig fydd yn gwneud y proffesiwn yn falch ohoni.

Yn enedigol o Wlad Pwyl, mae Sylwia’n cynnig gobaith. Lawn brwdfrydedd, mae hi’n adrodd am y bobl “liwgar” oedd yn agos iddi yn ei thref gartref, ac mae hi’n chwerthin am ddylanwadau crefydd a chael ei galw’n “wallgof” ganddyn nhw. Adfywiol yw clywed hyn.

Fwyaf sydyn, mae hi’n ein hatgoffa pam rydym ni yno. Bu farw ei ffrind, a wthiwyd gan wawd dros y dibyn, drwy hunanladdiad heb unrhyw rybudd yn ôl pob golwg.

Mae hi’n cysylltu trafferth gydag iechyd meddwl â’r rhwystr iaith pan symudodd i Gymru. Mae Sylwia am uno ein hanawsterau cyffredin a’n heriau beunyddiol, lle gallai fod angen mwy o gymorth i ymdopi ar rai pobl nag eraill. Nid yw hi’n gwahaniaethu rhwng ei rhieni a’r cyhoedd, gan ddeall pa mor hawdd gellir llithro i mewn i argyfwng iechyd meddwl.

Yn ystod hyfforddiant nyrsio Sylwia, daeth Kirsty i ddarlith i adrodd ei stori. I Sylwia, bu hon yn foment wnaeth droi’r fantol. Gwnaeth hi gynhyrfu’n emosiynol, a theimlo newid dynamig ymysg ei charfan. Dechreuodd eraill i rannu eu straeon, a phwysleisiwyd pwysigrwydd gofal cyfannol ac ystyriaeth anfeirniadol. Mae Sylwia wedi dechrau ar ei gyrfa nyrsio â newid ar ei meddwl ac awch i chwalu ffiniau. Hyderaf y bydd hi’n llwyddiannus.

Gyda’i gilydd, maent yn dangos agwedd gydweithredol tuag at wasanaethau iechyd meddwl; dyma grŵp o ffrindiau sy’n rhannu angerdd dros godi ymwybyddiaeth o’r mater pwysig hwn drwy adrodd eu straeon am y tro cyntaf. Dyma alwad ddiflewyn-ar-dafod sy’n ysgogi, gan wybod bod pob safbwynt yr un mor bwysig â’r un flaenorol.

Roedd Kirsty’n bwriadu perfformio ei stori ei hun yn y gynhadledd, ond yn anffodus, mae ei hiechyd meddwl wedi gwaethygu. Mae hwn yn bwynt ingol sy’n crochlefain yn uwch nag unrhyw stori arall o’r llwyfan. Rydym yn dymuno’r gorau iddi ac yn gobeithio y bydd yn gwella’n ddiogel.