Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Pam mae’n bosibl nad yw cael sgwrs am iechyd meddwl yn y man gwaith mor syml

24 Hydref 2018
Mental health. Torn pieces of paper with the words Mental health. Concept Image. Black and White. Closeup.
Mental health. Torn pieces of paper with the words Mental health. Concept Image. Black and White. Closeup.

 James Wallace , Ymchwilydd PhD

Ymddangosodd yr erthygl hon am y tro cyntaf yn The Conversation ar 10 Hydref 2018

I lawer o bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl, gall ofn y stigma sy’n gysylltiedig â chyflyrau effeithio ar eu perthynas ag eraill. Nid yw’r ofn hwn yn gyfyngedig i ryngweithiadau cymdeithasol yn unig, gall effeithio ar bob agwedd ar fywyd, gan gynnwys y man gwaith.

Yn y gwaith, gall ymatebion posibl cydweithwyr a chyflogwyr wneud i’r rheini sy’n cael trafferthion gyda chyflwr iechyd meddwl deimlo na allan nhw fod yn agored am eu profiadau. Nid problem fach yw hon, honnir bod 95% o staff sy’n ffonio i mewn yn sâl oherwydd straen yn rhoi rheswm gwahanol dros angen amser i ffwrdd.

Fodd bynnag, cafwyd rhai camau i fynd i’r afael â’r broblem yn y DU. Mae’r menter gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl Amser i Newid wedi llunio adduned cyflogwr, y gall cwmnïau ddefnyddio i ddangos eu “hymrwymiad i newid sut rydym yn meddwl ac yn gweithredu ynghylch iechyd meddwl yn y man gwaith, a gwneud yn siŵr bod gweithwyr sy’n sy’n wynebu’r problemau hyn yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi”.

Ar adeg ysgrifennu, mae 865 o gyrff wedi gwneud yr adduned. Mae’n galonogol gweld cymaint o gwmnïau’n cymryd y mater o ddifrif – ond nid yw’r adduned hwn yn mynd yn ddigon pell. Wrth geisio herio’r stigma yn y man gwaith mae’n hawdd meddwl y bydd creu awyrgylch sy’n annog siarad yn agored am iechyd meddwl yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem. Mae’n golygu y byddai gweithwyr yn rhydd i siarad am eu profiadau heb ofni cael eu beirniadu. I’r rhai a oedd wedi teimlo bod yn rhaid iddyn nhw gadw eu profiadau’n gyfrinachol, gallai hyn ymddangos fel rhyddid newydd a gwerthfawr. Ond efallai nad yw pethau mor syml.

Bod yn chi eich hun

Yn y 1970au, ysgrifennodd yr athronydd o Ffrancwr Michel Foucault, “rhaid cael delwedd wrthdro o bŵer i gredu bod yr holl leisiau hynny … yn ailadrodd y waharddeb aruthrol i ddweud beth yw un a beth mae rhywun yn ei wneud … yn siarad â ni am ryddid”. Roedd Foucault yn ysgrifennu am y gyffesgell Gristnogol yn hytrach nag am sgwrsio â’i gydweithwyr yn y swyddfa ar y peiriant coffi, ac eto mae ei bwynt yn berthnasol o hyd.

Mae Foucault yn tynnu sylw at y ffaith y gallwn yn aml feddwl bod y gallu i fynegi pwy ydym ni yn ffordd o fynegi ein rhyddid oddi wrth bŵer. Fodd bynnag, iddo ef, mae’n bwysig cydnabod bod disgrifio’ch hun fel unigolyn sy’n credu neu’n teimlo pethau penodol yn golygu eich bod yn cael eich adnabod fel math penodol ar berson. Mae hyn mewn gwirionedd yn golygu bod yn ddarostyngedig i fath penodol o bŵer. Mewn geiriau eraill, pan fydd unigolyn yn siarad am ei iechyd meddwl yn y man gwaith mae perygl y gall gael ei glymu – a’i leihau o bosibl – iddo.

Nid amgylchedd cadarnhaol yw’r ateb o gwbl.

Os yw gweithiwr yn cysylltu â rheolwr llinell neu aelod o’r tîm adnoddau dynol ac yn egluro ei fod wedi profi hwyliau isel yn ddiweddar, mae dwy ffordd o edrych ar hyn. Un yw bod y person yn cael amser anodd, ond mae hyn yn ddealladwy o ystyried digwyddiadau diweddar – efallai ei ymwahanu â’i bartner neu mae rhywun annwyl wedi marw.

Ffordd arall yw meddwl bod gan y person duedd naturiol i deimlo fel hyn. Gallai hyn gynnwys credoau am ei hanes genetig, neu’r syniad bod ganddo bersonoliaeth iselhaol. Y gwahaniaeth rhwng y ddau fersiwn hyn o ddigwyddiadau yw’r gwahaniaeth rhwng deall y stori fel profiad a gaiff y person, a rhywbeth yw’r person.

Nid chi yw eich iechyd meddwl

Efallai nad yw’n amlwg pam mae’r gwahaniaeth hwn yn bwysig, neu pam y gallai fod yn broblem. Wedi’r cyfan, yn y ddau achos mae’r unigolyn yn chwilio am gymorth a gall ddisgwyl cefnogaeth gan ei sefydliad. Y broblem gyda deall iechyd meddwl fel rhan o bwy ydym ni yw ei fod yn ein rhoi mewn perygl o anwybyddu’r ffordd y mae ein hamgylchedd yn cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl.

A bwrw bod gweithiwr yn dweud wrth ei reolwr llinell ei fod yn teimlo dan straen yn y gwaith a’i fod yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Mae un ffordd o ymateb yn seiliedig ar y gred bod y person hwn yn rhywun y mae straen yn effeithio arno’n naturiol. Yn yr achos hwn, efallai y byddwn yn cynnig cymorth iddo, o bosibl mynediad at raglen cymorth i weithwyr. Y ffordd arall fyddai edrych ar ffactorau eraill, er enghraifft llwyth gwaith yr unigolyn. Efallai y gwneir galwadau afresymol ac mae gofyn iddo wneud gormod. Efallai y byddai’r hyn y disgwylir iddo ei wneud yn gwneud i unrhyw un deimlo dan straen.

Er bod y nod o ddadstigmateiddio iechyd meddwl yn y man gwaith yn rhywbeth glodwiw, mae’n rhaid i ni ystyried beth mae hyn yn ei olygu. Mae angen i ni ddeall y rôl bwysig sydd gan ein profiadau o ddydd i ddydd – gan gynnwys profiadau o waith – yn eu cael wrth lunio ein hiechyd meddwl. Oni bai ein bod yn gwerthfawrogi effaith y profiadau hyn, y peth y byddwn ni’n ei wneud yn y bôn yw dod o hyd i ffyrdd i bobl ymdopi yn hytrach na’u helpu mewn ffordd ystyrlon.

Mae James Wallace yn derbyn cyllid oddi wrth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.