Skip to main content

Adult mental healthIechyd meddwl oedolion

O ‘famau Instagram’ i Seicosis Ôl-enedigol

23 Mai 2019
Young concerned woman sitting on psychologist's couch
Young concerned woman sitting on psychologist's couch

Mae mamolaeth i fod yn rhywbeth sy’n ymddangos yn “berffaith” ar Instagram. Yn llawn gwenu, cwtsio a babis ciwt. Ond mae mwy iddo na hynny, sydd ddim yn amlwg ar yr olwg gyntaf. Rydyn ni gyd yn clywed am oblygiadau corfforol rhoi genedigaeth, ond nid am salwch meddwl ar ôl cael babi.

Mamolaeth mewn Bywyd Go Iawn

Rhaglen ddogfen Louis Theroux, Mothers on the Edge, oedd y ffordd berffaith o ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.Roedd y ffilm yn dangos sawl menyw a’u teuluoedd sydd â sbectrwm eang a chymhleth o salwch meddwl ôl-enedigol, gyda seicosis ôl-enedigol yn un o’r rhai mwyaf difrifol.

Hoffwn estyn clod mawr i’r menywod yn ‘Mothers on the Edge’, yn ogystal â’r rhai hynny a aeth ati i rannu eu straeon i godi ymwybyddiaeth a chael gwared ar y stigma.

Roedd Barbara, mam am y tro cyntaf a ddaeth i’r ysbyty ddau ddiwrnod ynghynt, wedi drysu. Dywedodd wrth Theroux ei bod hi’n meddwl mai ei gŵr oedd ei mab, a fyddai’n golygu ei fod yn frawd i’r babi yn ogystal ag yn dad.

Roedd ei meddwl ar garlam, ni allai gysgu ac yn y diwedd, fe aeth i orsaf drenau lle roedd hi’n bwriadu dod â’i bywyd i ben. Nid oedd ganddi unrhyw hanes o salwch meddwl cyn y profiad hwn. Ar ôl pedair wythnos yn yr uned mamau a babanod, daeth yn ôl at ei hun a chafodd ei hanfon adref. ‘Gwyrth Nadolig arall’ yn ôl disgrifiad y seiciatrydd.

Datblygodd Lisa, mam i dri, a oedd wedi cael pyliau o iselder ôl-enedigol yn y gorffennol, bwl seicotig ar ôl ei beichiogrwydd mwyaf diweddar. Disgrifiodd ei gŵr y dirywiad ‘hynod frawychus’ dros gyfnod o bythefnos.

Esboniodd Lisa ymhellach ei bod hi’n teimlo’n isel, ddim yn siarad, heb olchi am ddyddiau ac yn credu bod y tŷ yn mynd i gael ei feddiannu gan glowniaid sy’n lladd a fyddai’n eu rhwygo ar wahân ac yn dinistrio eu tŷ. ‘Roedd yr hyn y gallwn ei weld mor fyw’, dywedodd Lisa.

Chwe mis yn ddiweddarach mae’n dal i deimlo’r ofn hwnnw, er nad yw hi bellach yn credu y bydd yn digwydd. Er ei bod hi’n parhau i gael symptomau o orbryder, mae hi’n ddigon da erbyn hyn i fynd nôl adref ar ôl cyfnod hir yn yr uned mamau a babanod.

Seicosis Ôl-enedigol: y ffeithiau

Mae seicosis ôl-enedigol yn bwl difrifol o salwch meddwl sy’n effeithio ar rhwng un neu ddwy enedigaeth ym mhob 1,000. Mae’n cynnwys rhai o’r ffurfiau mwyaf difrifol o salwch seiciatrig sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd ac mae’n amlwg pryd mae’n dechrau, ddyddiau neu wythnosau ar ôl i’r babi gael ei eni.

Gall hyn ddigwydd i fenywod heb unrhyw hanes seiciatrig yn y gorffennol, fel Barbara, neu gyda thua hanner yr achosion, i’r rhai hynny sydd â hanes o salwch meddwl difrifol.

Mae gan fenywod sydd ag anhwylder deubegynol risg arbennig o uchel, gyda tua 1 ym mhob 5 o fenywod yn profi pwl o seicosis ar ôl genedigaeth. Mewn achosion eraill, gall rhoi genedigaeth achosi mwy o byliau deubegynol.

Mae symptomau yn ystod pwl yn ddifrifol a gallant newid yn sydyn, o fewn oriau neu ddiwrnodau. Gallant gynnwys hwyliau uchel neu isel, dryswch, credoau anarferol, a chlywed neu weld pethau sydd ddim yno, fel y dangoswyd mewn modd mor bwerus yn y rhaglen ddogfen.

Gallai fynd yn sâl ar yr adeg hon gael effaith fawr ar fywydau menywod a’u teuluoedd, gan amharu ar y berthynas gyda’r babi newydd. Yn drasig, ond yn anaml, gall pyliau o salwch arwain at hunanladdiad neu niwed i’r babi.

Gall pyliau o seicosis ôl-enedigol bara wythnosau neu fisoedd. Er gwaethaf pa mor ddifrifol y gall ymddangos, mae’r rhan fwyaf o fenywod yn gwella gyda’r driniaeth iawn ac yn mynd yn eu blaen i ddatblygu perthynas ardderchog â’u plant.

Er bod yr ymateb i driniaeth ar gyfer cyfnod seicotig acíwt y salwch yn gallu bod yn wych, fel y gwelsom gyda Barbara, mae’n fwy cyffredin i fenywod brofi cyfnod estynedig o iselder yn rhan o’r salwch, a gwellhad dros gyfnod hirach, wrth ddod i delerau gyda’r profiad o gael salwch meddwl difrifol ar yr adeg hon.

Unedau mamau a babanod

Mae pyliau o seicosis ôl-enedigol yn aml yn ddifrifol iawn ac fel arfer mae angen triniaeth bellach. Dangosodd y rhaglen ddogfen ddwy uned seiciatrig arbenigol: uned mamau a babanod yn ne Llundain ac un arall yng Nghaer-wynt lle mae mamau yn byw ochr yn ochr â’u babanod.

Er bod cadarnhad y bydd cyllid ar gael i gynyddu nifer yr unedau i famau a babanod yn Lloegr o 17 i 21, nid oes unedau o’r fath yng Nghymru na Gogledd Iwerddon o hyd, a dim ond nifer cyfyngedig o welyau sydd ar gael.

Mae hyn yn golygu bod menywod yn y DU yn parhau i wynebu’r penderfyniad anodd o orfod teithio oriau o’u cartrefi i gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt, neu gael eu hanfon i ward seiciatreg gyffredinol a chael eu gwahanu o’u babanod.

Mae’r Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau yn ceisio sicrhau bod y mater hwn yn cael sylw trwy’r ymgyrch Perthnasol i Bawb. Y nod yw bod pob menyw yw cael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt a’u teuluoedd, ble bynnag a phryd bynnag y mae ei angen. 

Yr angen am ymchwil

Yn y rhaglen ddogfen, soniwyd am y “storm berffaith” o ddigwyddiadau ac amgylchiadau a all arwain at seicosis ôl-enedigol: roedd hormonau, bwydo ar y fron, newidiadau o ran cwsg, cymhlethdodau obstetreg, hanes blaenorol, geneteg ac addasu i amgylchiadau newydd yn eu plith.

Ychydig iawn rydyn ni’n ei wybod o hyd am yr hyn sy’n achosi seicosis ôl-enedigol, sut y gallwn ragweld pwy sy’n mynd i gael pwl, ac yn bwysicaf oll, sut y gallwn ei atal.

Rydw i’n rhan o un o nifer o brosiectau sy’n digwydd yn y Brifysgol sydd â’r nod o wella ein dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n achosi seicosis ôl-enedigol ac anhwylder hwyliau mewn beichiogrwydd. Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith yn arwain at wella rhagfynegiadau a thriniaethau gwell ar gyfer menywod sy’n cael eu heffeithio gan y mathau hyn o salwch.

Er mwyn ein helpu i gyflawni’r nod, rydym yn chwilio am fenywod sydd wedi dioddef o seicosis ôl-enedigol a/neu sydd ag anhwylder deubegynol i gymryd rhan yn ein hastudiaethau. I gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan, ewch i www.ncmh.info/postpartum.