Skip to main content

Iechyd ac Iechyd Meddwl

Nid yw analluedd meddyliol yn anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio

3 Mai 2017

Ymddangosodd hwn gyntaf ar flog The Small Places

Mae’r amser wedi dod unwaith eto …

…Oes, mae ‘na etholiad ar y ffordd!  Ddim yn gwybod sut i bleidleisio? Ddim yn deall yr opsiynau? Methu dirnad canlyniadau rhagweladwy eich pleidlais yn y cyfnod gwleidyddol cythryblus hwn? Poeni eich bod yn methu dal yr holl wybodaeth am ba blaid sy’n dymuno pa liw Brexit a pha bolisïau eraill maen nhw’n sefyll drostyn nhw?  Teimlo eich bod yn methu mesur yr opsiynau (achos mewn gwirionedd maen nhw i gyd yn erchyll)? Peidiwch ag ofni, oherwydd (gyda’n gilydd) dyw analluedd meddyliol ddim yn anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio (diolch i a73 Deddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006).

Ydi, mae’n bryd i ni gael ein nodyn rheolaidd yma yn Small Places i’ch atgoffa nad oes angen i chi brofi i neb bod gennych chi alluedd meddyliol pan ddaw’n amser i bleidleisio (ar bapur neu yn yr orsaf bleidleisio).  Mae unrhyw un sy’n ceisio eich atal rhag pleidleisio ar y sail nad oes gennych chi alluedd meddyliol digonol yn amharu’n anghyfreithlon gyda’ch hawl ddemocrataidd i bleidleisio.  Os ydych chi’n ddarparwr gofal, neu’n feddyg, neu’n weithiwr cymdeithasol neu beth bynnag, a’ch bod wedi arfer defnyddio Deddf Galluedd Meddyliol 2005 i wneud penderfyniadau ar ran pobl eraill, a’ch bod ar fin asesu galluedd meddyliol pobl i bleidleisio, rhowch y gorau iddi ar unwaith, oherwydd dyw hyn ddim yn berthnasol i bleidleisio.  Dyw hyn yn ddim i’w wneud â ‘rhagdybio galluedd’, mae’n ymwneud â’r ffaith nad oes gan alluedd meddyliol ddim oll i’w wneud â phleidleisio.  Os yw unigolyn yn mynegi awydd i bleidleisio, yna gadewch iddyn nhw bleidleisio, neu’n well fyth, cynorthwywch nhw i wneud.  Os ydych chi’n gofalu am bobl a allai gael trafferth i bleidleisio, does dim angen i chi asesu eu galluedd meddyliol i bleidleisio, dim ond gofyn iddyn nhw ydyn nhw’n awyddus i wneud ac (yn ddelfrydol) rhowch yr help sydd ei angen arnyn nhw.  Mae’n syml iawn.

Rai blynyddoedd yn ôl roeddwn i’n rhygnu ‘mlaen am hyn ar Twitter a holodd rhywun ‘ond beth sy’n digwydd os ydyn nhw’n bwyta’r papur pleidleisio?’  Nododd rhywun arall fod angen galluedd meddyliol i bleidleisio, oherwydd: coma. Wel, ar wahân i’r ffaith fod y cwestiwn cyntaf yn sarhaus ac yn bwydo ystrydebau am bobl anabl, does gan y naill sylw na’r llall ddim oll i wneud ag uniondeb ein system wleidyddol os meddyliwch am y peth.  Dyw papur pleidleisio sy’n cael ei fwyta ddim yn bleidlais (er ei fod yn risg iechyd y dylech chi ddelio ag e) a dyw pobl mewn coma ddim fel arfer yn cerdded i mewn i orsaf bleidleisio i geisio ymarfer eu hawl i bleidleisio.  Does dim angen cyfraith yn dweud bod angen galluedd meddyliol i bleidleisio i ‘ddiogelu”r bleidlais yn erbyn y risgiau hyn, oherwydd dydyn nhw ddim yn risgiau.  

Y risg mawr y dylech fod yn poeni amdano yw’r nifer enfawr o bobl anabl sy’n cael eu hatal rhag pleidleisio oherwydd y cam-ganfyddiad fod angen galluedd meddwl ar bobl i gael pleidleisio.  Canfu ymchwil gan Mencap fod hyn yn wir am 17% o bobl ag anableddau dysgu yn eu harolwg, a chanfu adroddiad Scope ei fod hyd yn oed yn wir am bobl ag anableddau corfforol yr oedd pobl eraill yn eu hystyried yn ‘analluog’.  Dyma’n union pam y cynigiodd yr Arglwydd Rix y gwelliant i’r Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol i ddileu rhwystrau galluoedd meddyliol ar gyfer pleidleisio, oherwydd y darlun mawr yw mai’r bygythiad mwy i’n system etholiadol yw dadfreinio pobl ag anableddau meddyliol (ac anableddau eraill) yn systematig rhag pleidleisio.

Ac o ran y risg tybiedig fod pobl yn pleidleisio heb ddeall yn llawn ganlyniadau eu pleidlais … rwy’n ofni y byddwn ni i gyd yn yr un cwch eleni.

O.N. Mae problem yn bodoli gyda chofrestru i bleidleisio, oherwydd amryfusedd gan Swyddfa’r Cabinet wrth ddatblygu’r system cofrestru etholwyr unigol newydd.  Yn y bôn, mae unrhyw un sy’n cofrestru i bleidleisio bellach yn gorfod gwneud ‘datganiad o wirionedd’ am yr wybodaeth a ddarparwyd er mwyn gallu cofrestru i bleidleisio (h.y. eu henw, cyfeiriad, rhif yswiriant gwladol ac ati).  Mae modd helpu pobl i gyflenwi’r wybodaeth hon er mwyn cofrestru i bleidleisio, ond yn ôl y Comisiwn Etholiadol rhaid iddyn nhw gael y galluedd meddyliol i allu gwneud y datganiad o wirionedd (neu gael dirprwy neu Atwrneiaeth Arhosol a all eu cofrestru ar eu rhan).  Feddyliodd neb am y peth ar y pryd, ond mae’n ganlyniad anfwriadol i’r ffaith i lywodraeth y Glymblaid beidio â meddwl am y grŵp hwn o bobl wrth ymgynghori ar y cynigion.  Mae hyn yn dipyn o flerwch ac yn fy marn i mae’n dramgwydd clir ar hawliau dynol yr unigolion hynny ac mae rhai ohonon ni’n ceisio adfer hyn (ond nid mewn pryd i’r etholiad hwn).  Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio nad yw’r galluedd meddyliol i wneud datganiad o wirionedd (h.y. gwybod eich enw, y cyfeiriad rydych chi’n ei anfon ac ati) yr un fath â’r galluedd meddyliol i bleidleisio.  Os cewch eich dal yn y cylch hwn, neu os gwyddoch am rywun sydd wedi’u dal, yn enwedig os ydyn nhw’n awyddus i bleidleisio neu os yw wedi arwain at broblemau eraill (fel mynd i drafferth am y drosedd o beidio â chofrestru i bleidleisio, neu fethu cael gwasanaethau ariannol am nad ydych chi ar y gofrestr etholwyr) byddai gennyf ddiddordeb clywed gennych chi.