Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Menywod yn debygol o gael anhwylderau iechyd meddwl cyffredin

10 Hydref 2016
Portrait of a young female with mental problems
Portrait of a young female with mental problems

Fel nyrs iechyd meddwl sy’n teimlo’n gryf ynghylch iechyd a lles pobl ifanc, trist iawn oedd darllen am y perygl cynyddol i fenywod ifanc yn ôl Arolwg Morbidrwydd Seiciatrig 2014 Iechyd Meddwl a Lles yn Lloegr.

Dyma’r pedwerydd Arolwg Morbidrwydd Seiciatrig Oedolion (APMS) sydd wedi’i gynnal i weld faint o bobl 16+ oed, ac sy’n byw mewn preswylfeydd preifat yn Lloegr, sy’n cael triniaeth ar gyfer salwch meddwl. Cynhaliwyd yr arolygon blaenorol yn 1993, 2000 a 2007. Roedd yr arolwg yn cynnwys cyfweliad wedi’i lywio gan asesiadau trefnus ac offerynnau sgrinio ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl (gyda 7,528 yn cymryd rhan).  Wedi hynny, gwahoddwyd is-grŵp o’r sampl gwreiddiol hwn i gael eu hasesu’n glinigol yn fanylach ar gyfer anhwylder seicotig, anhwylder diffyg sylw/gorfywiogrwydd ac awtistiaeth (gyda 630 yn cymryd rhan).

Menywod ifanc

Mae arolwg eleni wedi dangos bod menywod ifanc yn Lloegr wedi dod i’r amlwg fel grŵp sy’n wynebu risg arbennig o uchel. Gwelwyd bod cyfraddau uchel o anhwylderau meddwl cyffredin ymysg menywod ifanc megis iselder, anhwylder gorbryder cyffredinol, anhwylder panig, ffobiâu ac anhwylderau obsesiynol cymhellol. Roedd y grŵp hwn hefyd yn ymddwyn mewn modd hunan-niweidiol gan fod 1 o bob 4 menyw ifanc 16-24 oed wedi datgelu eu bod wedi hunan-niweidio ar ryw adeg. Mae hyn ddwywaith y gyfradd ar gyfer dynion ifanc o’r un oed. Daeth i’r amlwg hefyd fod menywod ifanc 16-24 oed yn dangos arwyddion o anhwylder straen wedi trawma.

Mynegwyd pryder gwirioneddol yn yr adroddiad ynghylch y duedd gynyddol yn ôl pob golwg o ymddygiad hunan-niweidiol ymysg menywod ifanc. Mae’r rhagdybiaethau posibl ar gyfer y broblem gynyddol hon yn cynnwys bwlio ar y cyfryngau cymdeithasol fel un o’r dylanwadau. Mae’r data a gasglwyd yn yr Arolwg Morbidrwydd Seiciatrig Oedolion yn awgrymu bod hyn yn strategaeth y mae pobl ifanc yn ei defnyddio i reoli teimladau anodd neu anghyfforddus o ddicter, tensiwn, pryder neu iselder. Felly, mae’n rhesymol yn ôl pob golwg bod angen i bobl ifanc ddatblygu strategaethau eraill ar gyfer ymdopi, o safbwynt eu hiechyd ac yn gymdeithasol. Gallai hyn fod drwy raglenni iechyd meddwl mewn ysgolion neu ddefnyddio gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion yn effeithiol.

Gwasanaethau iechyd meddwl

Fodd bynnag, mae llywodraethau Cymru a Lloegr wedi ymrwymo eu hunain i raglenni gwaith sy’n ceisio gwella’r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ym maes iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglen gwella gwasanaethau Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc a rhaglen Future in Mind.

Cynigir gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed ar draws dwy ran o’r system iechyd. Cynigir gwasanaethau iechyd meddwl i blant a’r rhai sydd yn eu harddegau (CAMHS) nes eu bod yn 18 oed. Mae gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn dechrau ar gyfer pobl 18+ oed wedi hynny, fel arfer. Mae’r cyfnod pontio hwn yn her gydnabyddedig: Mae gwasanaethau CAMHS yn gweithredu mewn ffordd wahanol i wasanaethau oedolion; mae ganddynt feini prawf gwahanol o ran mynediad, a dulliau gwahanol o roi gofal. Mae hyn yn digwydd ar adeg pan mae pobl ifanc yn wynebu risg cynyddol o ran iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith menywod. Bu problemau hefyd o ran cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl mewn da bryd gan fod y rhestrau aros mor hir. I ddweud y gwir, hon oedd y broblem glinigol a wnaeth fy ysgogi i weithio gyda CAMHS lleol. Gyda’n gilydd, fe wnaethom ddatblygu ‘clinig brysbennu’ er mwyn cynnal asesiad cychwynnol byr o bob plentyn oedd wedi’i gyfeirio. O ganlyniad, roedd modd i ni weld a oedd ganddynt gyflwr iechyd meddwl, a oeddent wedi’u cyfeirio at y gwasanaeth cywir, a pha mor gyflym yr oedd angen cynnig triniaeth iddynt. Wrth wneud hynny, roedd modd cael gwared ar y rhestr aros. Gallai rhai elfennau o’r fenter honno fod o ddefnydd i CAMHS eraill, p’un ai drwy eu mabwysiadu’n uniongyrchol neu eu haddasu i fodloni anghenion penodol eu gwasanaeth.

Beth am i ni ddefnyddio’r canfyddiadau o Arolwg Morbidrwydd Seiciatrig Oedolion 2014 fel sbardun i ddatblygu arferion arloesol ar draws asiantaethau ar gyfer menywod ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae Dr Nicola Evans wedi cael arian gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a’r Sefydliad Iechyd yn y gorffennol.